Cyflwyniad

Yn y safwe hon byddaf yn trafod rhai agweddau ar hanes amaeth ym mhlwyf Llanllechid yn Arfon.
Er mai’r hyn sy’n neidio i feddwl pobl pan sonnir am Lanllechid, a Dyffryn Ogwen yw chwarel, chwarelwyr, a’r diwydiant llechi, amaethyddol oedd y plwyf yn gyfan hyd at ddatblygiad y chwarel, a, thrwy canrif a hanner o chwarelydda yr oedd amaeth yn parhau yn ddiwydiant bywiog a hyfyw yn y dyffryn. Yr oedd y brif chwarel, a’r ddwy arall, llawer llai, ond digon sylweddol i fod yn gyflogwyr, ynghyd â’r diwydiannau cysylltiedig, a’r canolfannau poblog, yn ganran fechan iawn o’r plwy, sydd gyda’r mwyaf yn yr hen Sir Gaernarfon, ac roedd yr holl dir hwnnw, o Aber Ogwen i Gapel Curig, yn cael ei ffermio, gan amlaf gan yr un teuluoedd ag oedd wedi bod yn gwneud hynny yma am ganrifoedd. Parhaodd y teuluoedd hyn i ymarfer crefft gyntaf dynolryw trwy’r holl brysurdeb diwydiannol mewn un rhan o’r dyffryn. I’r rhan fwyaf ohonynt roedd y diwydiant yn fendith gan mwyaf ac yn felltith i raddau llai. O ran bendith, yr un fawr roedd marchnad fawr wedi agor ar garreg y drws, ac roedd hon yn farchnad oedd yn llynu holl gynnyrch y ffermydd, a hynny am brisiau da. Bendith arall oedd fod ffon fara i ffermwr bychan, a allai, bellach, weithio ei fferm a gweithio yn y chwarel, gan gael cyflog o ddaugyfeiriad. Roedd y chwarel, hefyd, yn fodd i gadw meibion ifanc adref, a gwelir, mewn sawl Cyfrifiad, feibion ffermydd yn chwarelwyr; roedd hyn yn golygu fod cymorth y rhain yn dal ar gael ar y fferm gartref ar adegau prysur ‘r flwyddyn. Mewn ardaloedd eraill, a chyfnodau eraill. byddai’r meibion hyn yn gorfod mynd i ardaloedd eraill, neu wledydd eraill, hyd yn oed, i sicrhau bywoliaeth. Ar y llaw arall, un anfantais fawr i gael chwarel anferth ar garreg eich drws, os oeddech yn ffermwr, oedd fod gweithwyr amaethyddol yn brin; onid oedd cyflog yn y chwarel, hyd yn oed, cyflog rybelwr, neu labrwr, yn sylweddol uwch na chyflog gwas ffarm. Roedd y ffermwyr, felly, yn gorfod cystadlu am lafur gydar chwarel, a hynny’n gystadlu ar y cyflogau roeddynt yn barod i’w dalu. Yn wir, mae astudiaeth benodol wedi dangos, yn ystod ail hanner y 19 ganrif, fod cyflogau gweision ffermydd, yn gyffredinol, yn uwch pa mor agos bynnag i ganolfan ddiwydiannol yr oedd rhywun. Byddai cylog gwas fferm yn Llanllechid, felly, o reidrwydd, yn uwch na chyflog gwas ffarm ym Mhorthaethwy, ac yn sylweddol uwch na chyflog gwas yn Amlwch. Eto, roedd y farchnad i’r cynnyrch yn gwrthbwyso hynny, ac fe barhaodd yr amaethwyr gyda’u crefft yn y plwyf trwy oes aur y diwydiant llechi, gan oroesi pan ddirywiodd y diwydiant hwnnw. Heddiw, pan fo’r chwarel wedi crebachu’n sylweddol, ond yn dal yn gyflogwr arwyddocaol yn yr ardal, mae ffermydd a ffermwyr yn dal yn brysur yn trin y tir ac yn hwsmona eu hanifeiliaid. Mae Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol, ac yn rhan bwysig o galendrau sioeau Cymru, yn ffenestr siop i amaethyddiaeth Dyffryn Ogwen, ac yn dystiolaeth cadarn fod crefft gyntaf dynolryw yn parhau i gael ei hymarfer yma, ac yn rhan bwysig o fywyd y dyffryn a’i drigolion. Pwrpas y wefan hon yw dathlu hynny, trwy drafod gwahanol agweddau o hanes y diwydiant mewn ardal lle bu llechi’n frenin, gan arwain pawb i gredu mai’r unig beth oedd yn digwydd yn Nyffryn Ogwen oedd cynhyrchu’r llechen las.

Bydd yr ysgrifau yn amrywiol, ac yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ac arferion amaethyddol, ynghyd â ffermydd a ffermwyr, yn y plwyf rhwng oddeutu 1760 a 1900

Safle fyw yw hon, sy’n golygu ei bod yn datblygu ac yn tyfu dros amser, ac nid yn orffenedig o’i chychwyn. Oherwydd ei bod yn safle fyw, croesewir unrhyw sylw, unrhyw ychwanegiad, ac unrhyw gywiriad i unrhyw ffaith, neu ffeithiau, sy’n anghywir, neu rywle ble’r wyf wedi cael cam gwag.


Dafydd Fôn 2020

%d bloggers like this: