Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid1760 – 1860 Rhan 7 Trin y Tir a Chnydau 1750 – 1830

Fel y nodwyd, ffermydd cymysg oedd ffermydd llawr gwlad Cymru yn y ddeunawfed ganrif, a pharhaodd felly yn gyffredinol am ganrif a hanner ar ôl hyny. Byddai hanner y daliad yn dir âr ar gyfer cnydau, a’r hanner arall ar gyfer anifeiliaid. O’r herwydd mae rhai o gaeau Llanllechid yn 1768 yn cario enwau cnydau, megis Cae Gwenith, Buarth Rhyg, Gweirglodd, ac ati.  Y cnydau a dyfid oedd oedd yd, yn cynnwys ceirch, a gwenith; o safbwynt y cnydau yd, y gyfradd ar nodir gan haneswyr anaeth ar gyfer Llanllechid yw

Ceirch  20 rhan   Haidd 14 rhan   Gwenith 1 rhan

sy’n dweud wrthym y tyfid ugain acer o geirch am bob acer o wenith, gyda haidd, ar 14 acer, bron yn dri chwarter cyfanswm y ceirch, ac yn llawer mwy na gwenith.

Mae’n sicr mai rhesymau economaidd a chymdeithasol, ynghyd â rhesymau traddodiadol, oedd yn gyfrifol am yr anghydbwysedd hwn.

Mae ail ran yr ysgrif hwn yn delio gyda chnydau unigol

Fodd bynnag, dydy enwau’r caeau ddim yn ategu hyn, os mai tystiolaeth enwau’n unig sydd gennym. Dim ond tri chae yn y plwy sy’n cario enw Gwenith, sef Fuches Wenith 5 acer yn y Cefnfaes, Buarth Gwenith 2 acer yn Nhai’r Meibion, a Buarth Gwenith 1 acer ar Dyddyn Ceiliog. Roedd na Cae Ceirch 2 acer ar Dyddyn Caseg, ac ym Mhen y Bryn, un 5 acer yn Fedw, a Ffridd Geirch ddwy acer ym Mryn Hafod y Wern. Dim ond un Cae Haidd sydd yn y plwyf, a hwnnw ar dir mynyddig Pen y Bryn uchaf [ Bethesda bellach].

A byddai Rhyg yn cael ei dyfu mewn sawl lle, gan ei fod yn tyfu ar dir gwael. Manylir ar hyn yn nes ymlaen yn y drafodaeth

Ac, fel y gellid disgwyl,  roedd na sawl darn bychan o dir yn tyfu tatws. Gerddi tatws, o dan acer o faint, oedd y mwyafrif o’r rhain, er fod na Gae Pytatws o 4 acer ar dir un o’r ddwy Gochwillan. Manylir ar hyn yn nes ymlaen yn y drafodaeth

I orffen y cyflwyniad hwn, o ran diddordeb, enwau dau o gaeau bychain Sychnant oedd Hopyard Bach, sy’n dangos olion tyfu hopys ar gyfer bragu cwrw lleol.

Rwan mae cael enwau cnydau ar gaeau yn achosi problem fach i mi. A ydy enwau’r caeau hynny sy’n cario enwau cnydau yn enw sydd arno ar y pryd, am mai dyna sy’n digwydd tyfu ynddo pan ddigwyddodd Leigh holi wrth wneud ei arolwg yn 1765, neu ai dyna’r enw arferol am mai dyna a dyfir ynddo flwyddyn ar ol blwyddyn. Os y cyntaf, mae’n dangos nad oes nifer o gaeau yn y plwy efo enw penodol – tra bod nifer o gaeau eraill efo enwau amlwg benodol, sydd yn enwau arnynt ers blynyddoedd, os nad, yn achos rhai, ers cenedlaethau. Os yr ail, mae’n dangos arferion ffermio gwael, gan fod cylchdroi tri chnwd wedi bod yn arfer amaethyddol cyfarwydd ym Mhrydain gyfan ers y canol oesoedd, a bod cylchdroi pedwar tymor wedi dod i Brydain o wledydd megis yr Almaen a’r Iseldiroedd ers yr 17g ganrif.

Yn y dull traddodiadol, rhennid y tir oedd ar gael yn dri rhan, gan blannu un rhan yn yr hydref efo rhyg neu, ambell dro, a hynny ar y tir mwyaf ffrwythlon, wenith gaeaf, a dilyn hynny yn y gwanwyn efo ceirch neu haidd. Byddai’r ail ran yn tyfu pys neu ffa, tra gadewid y trydydd yn dyndir. Byddid yn cylchdroi hyn, fel bod un rhan yn cael gorffwys fel tyndir bob tair blynedd. Byddid yn newid y cnydau, hefyd, gan roi gwenith, ambell dro, yn lle rhyg, a thyfu clofer neu rwdins yn lle pys. Pan gyflwynwyd y cylch pedwar cnwd, sef gwenith, rwdins, haidd, meillion, fe gyflymodd hynny’r ail Chwyldro Amaethyddol ym Mhrydain, o 1750 ymlaen.

Fodd bynnag, nid oes arwyddion, na thystiolaeth, naill ai’n uniongyrchol, nac o sylwadau sylwebwyr cyfoes, fod y Chwyldro Amaethyddol wedi cyrraedd Llanllechid yn gyffredinol yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Petai hynny’n digwydd yn Llanllechid, byddai’n anodd rhoi enw cnwd yn enw parhaol ar gae.

Mae cymryd y dewis arall yn dangos natur wael amaeth yn Llanllechid, sef mai tynnu’r un cnwd o’r un tir wnaed yn aml. Yn anffodus, mae tystiolaeth anuniongyrchol i hynny.

 Yn 1768 roedd na 47 o gaeau’n cario’r enw Gweirglodd, sef Cae Gwair, yn y plwyf, a’r rheiny’n gyfrifol am dros 180 o aceri’r plwyf. Er bod nifer yn cario enw  megis Gweirglodd, neu Gweirglodd Bach, a allai fod yn enw un flwyddyn yn unig, mae enwau megis Gweirglodd Bellaf ( Aberogwen, Cochwillan, ac ati ), neu Gweirglodd Bach ( 11 enghraifft, gan gynnwys Ciltwllan, ac Aberogwen ) yn awgrymu defnydd mwy parhaol, tra bod enwau penodol fel Gweirglodd Dorti ( Talybont Dologwen ), a Gweirglodd Ellen, gweirglodd Barbara ( Tai’r Meibion ), gweirglodd Sabel, ( Tyddyn Sabel]  a Gweirglodd Simwnt ( Gwern Saeson Fychan ) yn awgrymu defnydd parhaol, neu brif ddefnydd,  ar gyfer yr un cnwd. Er na wyddom pwy yw’r personau yn yr enwau, mae Gweirglodd Needham – daliad o 12 acer yn Hendre – yn cario enw teulu, neu ddisgynyddion agos, dyn o’r enw Ralph Needham, a ddaeth I’r ardal o swydd Gaerhirfryn, fel cyfaill I deulu’r Penrhyn yn y 15ed ganrif.

Mae’n debyg fod yr ateb am enwau cnydau ar gaeau rywle yn y canol. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos fod gwahanol gnydau yn cael eu tyfu yn weddol helaeth ar ffermydd cymysg Llanllechid, lawer mwy nag sydd yn y rhestr enwau. Mae’n debyg fod enwau cnydau ar gaeau penodol yn dangos mai dyma’r prif gnydau yn y cae, ond nid heb gylchdroi. Allaf I ddim credu mai ond glofer a dyfid yn Cae Glofar, na dim ond Pys yn Cae Pys. Fedra I chwaith ddim credu mai ond lloiau oedd bob amser yn y caeau o’r un enw yn Mryn Hafod y Wern neu Faes y Penbwl, neu’r 5 cae o’r un enw yng Nghochwillan, na dim ond meheryn ym Muarth y Meheryn Gwaun Gwiail.

Ond ar y llaw  rhaid cofio beth mae tystiolaeth gyfoes yn ei ddweud am amethyddiaeth ac amaethwyr lleol.

Dyma i chi Hyde Hall yn 1809-11 yn nodi am y ffermwyr lleol

The drill husbandry is quite unknown, and an invigorating course of crops, with some very few exceptions, is everywhere neglected. The due collection of manure, a matter of such pure necessity, is almost completely disregarded, and the economy of a yard upon a farm is scarcely understood. Green crops also are mere exception

Ategir y frawddeg olaf gan y ffaith mai pedwar cae yn unig yn yr holl blwyf yn 1768 oedd yn cario enw cnwd glas, sef Cae Glofar 4 acer yn Glanrafon, Cae Glofer 2 acer yn Wern, Buarth Glofer llai nag acer yn y Groeslon, a Chae Pys 4 acer yn Nhalybont Dologwen. A phan oedd Gwallter Mechain yn gwneud ei ymchwil manwl tua’r un pryd ar gyfer i ei adroddiad gynhwysfawr General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales, fe aeth yn unswydd i blwyfi Aber a Llallechid oherwydd iddo glywed pethau od am y ffermio yno

They ( ffermwyr y plwyf )  raised a continued succession of white crops ( hen enw am gnydau yd ) for many years without manure. The writer of this report went to examine such a curious phenomenon in tillage, and found the soil to be a light, pebbly loam, the crops scanty, and over-run with weeds.

Hynny yw, doedden nhw ddim yn cylchdroi cnydau yn ddeddfol, doedden nhw chwaith ddim yn rhoi gwrtaith i’r tir, ac roedd yr had yn llawn chwyn. Roedd y sylw olaf hwn yn denu cwynion o sawl tu. Roedd y ffermwyr yn cadw eu had eu hunain, neu’n ei brynu gan ffermwyr cyfagos, ac roedd yr had, ac o’r herwydd yr yd yn llawn chwyn. Erf od cyfnewidfa yd yng Nghaernarfo, a marchnad yd ym Mangor, cyndyn iawn oedd ffermwyr yr ardal I wario ar had glan a ffres.

Yr gwyn am ddiffyg y ffermwyr lleol a welir yn  sylwadau Hyde Hall  ( uchod ) am ffermwyr yr ardal yn 1809-11

A dyma sylw llawn emosiwn Gwallter Mechain

Lime must be had, or landlord is ruined – lime, lime, lime 

Roedd peth gwrtaith yn cael ei ddefnyddio, beth bynnag, os yw enwau caeau yn dystiolaeth.  Roedd na ddau Gae’r Odyn yn y plwy ( Cefnfaes a Thalysarn ) sy’n dystiolaeth i‘r arfer o ddod a chalch i mewn ar longau bychain i Draeth Lafan, a’I losgi yn yr odyn cyn ei roi ar y tir i’w felysu. Eto dydy dwy odyn mewn plwyf mor fawr ddim yn dystiolaeth o sefyllfa galonogol. Mae Cae Batin ar fferm Aberogwen yn dystiolaeth o hen ddull o wrteithio tir. Y batin oedd y tywyrch – fe’u torrid ym Mehefin, eu rhoi mewn tomennydd, a’u mudlosgi. Defnyddid y  lludw ym Medi, pan oedd y rhyg yn cael ei hau. Llawer o awdurdod yn nodi nad oedd yn wrtaith effeithiol, ond yn dal i gael ei wneud a’i ddefnyddio, fel y dengys enw’r cae.

Fel y nodwyd, roedd cylchdroi cyndau yn bedwar cnwd wedi ei ddatblygu’n ddull effeithiol yn yr Almaen a’r Iseldiroedd ers yr ail ganrif ar bymtheg, ac wedi cyrraedd Lloegr yn weddol duan wedi hynny. Ond doedd o ddim wedi cyrraedd y Gogledd Orllewin. Roedd rwdins yn rhan bwysig o gylchdroi cnydau, gan eu bod yn glanhau’r pridd. Er iddynt gael eu cyflwyno I Sir Fon yn 1765 gan Thomas Williams, Llanidan – Twm Chwarae Teg Mynydd Parys – doedden nhw ddim wedi dod yn boblogaidd – dim ond 50 acer o rwdins oedd ar yr holl ynys 30 mlynedd wedi hynny. Yn 1815 mae Benjamin Wyatt, Lime Grove, asiant y Penrhyn yn tystio

The soil of Caernarfonshire between the sea and the hills is in general well adapted to turnips. No course of husbandry would answer better than the introduction of this root into the rotation of crops. A deficiency of winter food is a great loss to the county, as the vast tracts of mountains and pasture are capable of summering nearly twice the number of livestock that can be wintered thereon. Too much encouragement cannot be given to the introduction of this kind of tillage

Ond dal yn gyndyn I newid oedd ffermwyr Llanllechid, yn y cyfnod cynnar, beth bynnag. Er I ffermwyr y plwyf a wnaeth ewyllys hyd at 1860 adael cnydau o bob math, ni adawodd yr un ohonynt yr un rwdan I neb!

Mae’r ewyllysiau yn ddiddorol oherwydd eu bod yn dangos cynnyrch y ffermydd yn gyffredinol Nodaf ambell un

Yn 1807 gadawodd Ann William, Ty Gwyn ( fferm sydd bellach yn rhan o Dyn Hendre ) werth £12 o wair, £3 o geirch, a £2.50 o datws.

%d bloggers like this: