Dafydd Fôn 2020
Rhagarweiniad
Diffinio’r hendref
‘ Hendref’ oedd yr enw ar yr ardal honno ym mhen gogleddol plwyf Llanllechid sy’n dir gwastad rhwng y mynydd a’r môr. I bwrpas yr ysgrif hwn estynnwyd ychydig ar y ffiniau, a byddir yn sôn am y tir hwnnw sy’n cael ei derfynu gan Afon Ogwen i’r de a phlwyf Abergwyngregyn i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r bronnydd yn y dwyrain i Draeth Lafan yn y gorllewin. Y ffin ddwyreiniol yw’r un mwyaf anodd ei diffinio, gan nad yw’n dilyn unrhyw linell ddiriaethol amlwg; yn fras gellir dweud y bydd yn rhedeg ar hyd y ffordd uchaf ( nad oedd yno yn 1822), o Grymlyn i Nant y Garth, ac mewn llinell hytraws ddychmygol ar draws y caeau i Gochwillan, gan gadw tiroedd Plas Uchaf, Mignant, Wern, a Phen y Bryn yr ochr allan iddi. Y tu mewn i’r ffiniau hyn fydd maes trafodaeth yr ymdriniaeth hon, felly.
Yn y pridd mae’r pres
Cyn manylu ar y testun dan sylw, rhaid inni ddeall meddylfryd uchelwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ( a’r canrifoedd cynt, o ran hynny). ‘Cyfoeth’ i uchelwyr traddodiadol y cyfnod oedd ‘tir’, maint eu tiroedd oedd yn gyfystyr a’u gwir eiddo.Er fod arian yn fanteisiol, rhywbeth eilradd, i edrych i lawr arno, yn sarhaus, braidd, oedd hwnnw, yn union fel yr oedd masnachwyr ariannog y dosbarth canol, ac uwch, newydd yn bobl i edrych i lawr eu trwynau arnynt i’r tirfeddiannwyr mawr, traddodiadol. Yn wir, yr oedd yr agwedd drahaus, snobyddlyd, hon gan yr ‘hen gyfoeth’ tuag at y ‘cyfoeth newydd’, y bobl ddi-dras, wedi cychwyn ers yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda chychwyn marsiandïaeth ar raddfa fawr, ond wedi cynyddu’n sylweddol yn y 17 eg a’r 18eg ganrif gyda’r twf syfrdanol yn y dosbarth canol, ariannog, oedd yn elwa o’r byd masnach newydd oedd wedi ymagor mewn gwahanol rannau o’r byd, marchnadoedd megis India, Asia, a’r Amerig. Er mai agwedd drahaus y bonheddwyr traddodiadol, tiriog, oedd y gred fod gwaed yn bwysicach nag arian, nid oeddynt hwythau uwchlaw baeddu eu dwylo yn yr un pyllau amheus o arian ag y gwnai’r marsiandïwyr nad oeddynt ‘o waed’. Eto, gan mai tir, felly, yn y bôn, oedd hanfod cyfoeth, bendith mawr arian, yn y cyd-destun hwn, ei brif, yn wir, efallai ei unig, fendith, i’r uchelwr tiriog, oedd fel modd i wella tiroedd ei stâd, boed hynny’n wella llythrennol,megis sychu tiroedd, clirio cerrig, codi waliau, ac ad-drefnu daliadau, neu’n wella syniadol, trwy brynu mwy o dir ac ehangu’r stâd. Ar ei anterth, yn nes ymlaen yn y 19ganrif, roedd Chwarel Braich y Cafn, yn dod â £100,000 y flwyddyn o elw i goffrau teulu Penrhyn ( dros £12 miliwn ym mhres heddiw). Roedd y Penrhyn wedi manteisio ar hyn o gychwyn y gwaith, fel chwarel strwythuredig, yng nghanol yr 1780au, er mwyn gyrru llawer o welliannau ar diroedd y stâd. Er enghraifft, cyn ei farw yn 1808, dywedir fod yr Arglwydd Penrhyn cyntaf wedi plannu 60,000 o goed ar ei diroedd ar lethrau’r Carneddau, er mwyn creu cysgod ar dir agored ac anial. Ymhellach ymlaen, yn enwedig rhwng 1840 ac 1857, sychwyd llawer o diroedd gwlyb yn y ddau blwyf yn Nyffryn Ogwen, gan gynnwys rhan o Gors y Cefnfaes, ynghyd â rhannau o Barc Penrhyn, Wig, Groeslon, Tyddyn Newydd, Ty Gwyn, Aberogwen, Glan y Môr, ac, ym mhlwyf Llandygai, y Wern Fawr, Lôn Isa, Ty Newydd Rhos, Coed Hywel, a Phant y Cyff, ac enillwyd degau o aceri i amaeth ( yn ogystal â sicrhau rhenti uwch a mwy o arian i goffrau’r Penrhyn). Yn ogystal, yn y blynyddoedd hyn, codwyd adeiladau newydd ar 7 ffarm, fel rhan o gynllun adnewyddu tai ac adeiladau fferm a barhaodd hyd 1895. Fodd bynnag, moderneiddo gwahanol sydd o ddiddordeb i ni yma.
Moderneiddio trwy ad-drefnu
Cynllun James Wyatt
Yn 1843, yn ei swyddfa yn Abercegin, cymrodd James Wyatt, prif asiant stâd y Penrhyn, ddarn o bapur, ac arno, yn weddol fras, aeth ati i ailgynllunio daliadau’r stâd yn Llanllechid a Llandygai. Ei brif gonsyrn oedd fod llawer gormod o ddaliadau unigol bychain yn y rhan hon o’r stâd, gyda’r canlyniadau
- fod llawer o’r daliadau yn rhy fychan i fod yn hyfyw
- nad oedd gwelliannau yn bosibl, nac yn gwneud synnwyr, mewn daliadau bychain
- fod gormod o denantiaid i ddelio gyda hwy
- fod nifer o denantiaid ddim yn ffermwyr digon da i yrru unrhyw welliannau a fwriedid
- fod ambell denant yn dal mwy nag un daliad, oedd yn golygu y gallai un o’i ddaliadau fod ymhell o’i ddaliad cartref, ac yng nghanol daliadau tenantiaid eraill
- fod ambell ddaliad wedi ei rannu rhwng mwy nag un tenant
- fod y caeau eu hunain yn fychain
- fod daliadau yn cynnwys tiroedd/ caeau nad oeddynt yn terfynu ar ei gilydd
Roedd hyn oll, yn ffactorau unigol, ac yn sefyllfa gyffredinol, yn rhwystr i unrhyw welliannau a fwriedid ar gyfer y rhan hon o dir y Penrhyn. Felly, yr hyn a wnaeth Wyatt yn ei swyddfa, oedd bras-gynllunio ar ei bapur plaen sut y gellid gwella’r sefyllfa; ei ateb oedd uno daliadau i greu daliadau mwy. Yn y bras-gynllun hwn (bras iawn!), fe unwyd sawl daliad i greu unedau mwy, gan ddod â 49 daliad yn 21, a chael 21 tenant lle gynt bu 68.
Dyma ran o gynllun Wyatt
The present holdings in the lowlands vary from 5 to 100 acres each, few exceed 50 acres, and many are much under this quantity. It is proposed to remodel them into farms varying from 50 to 150 acres, but chiefly into farms from 60 to 100 acres
In Llandegai parish it will take about 31 holdings to make 12 new farms, from which
13 petty farmers not fit to be put into decent farms again
20 accustomed to labour
5 suitable for new farms
In Llanllechid parish it will take 22 holdings to make 10 new farms – from which
11 petty farmers
6 accustomed to labour
9 suitable for new farms
From the two parishes it will take 53 holdings to make 22 farms
Smaller holdings first
Give the tenants 3 years notice thus tying them down from doing injury to the land.
It would be the means of removing much difficulty in carrying such a change into effect, and avoid much hardship to the families who are removed if cottages were built in convenient portions of the estate within a scattered village or otherwise, with good garden grounds attached, for such of the petty farmers and laboourers who have no other means of bettering themselves, and if 3 or 4 acres of land could be added to some of the more deserving, it would make the removal still less painful
(Diddorol yw sylwi mai, ym marn Wyatt, Prif Asiant y Penrhyn, dim ond 14, o’r 53 tenant oedd ar ffermydd y stâd ym mhlwyfi Llanllechid a Llandygai oedd yn ddigon da i gael tenantiaeth newydd ar fferm fwy).
Ymarfer ar bapur oedd hwn, ond mae’n dangos fel roedd y gwynt yn chwythu, ac, er na chyflwynwyd cynllun Wyatt fel ag yr ymddangosodd gyntaf, fe ddilynwyd yr egwyddor yn yr ugain mlynedd wedi 1843, gyda’r canlyniad fod daliadau’r Penrhyn yn hendref Llanllechid yn wahanol iawn yn 1860 i’r hyn oeddynt yn 1840, gyda llawer o’r hen ddaliadau wedi diflannu am byth. Fodd bynnag, cyn inni fanylu ar yr hyn a ddigwyddodd go iawn, dylem edrych ar hendref Llanllechid cyn i Wyatt feddwl am chwyldroi pethau yn yr ardal.
Natur yr Hendref cyn 1840
Ffynonellau ymchwil
Mae sawl ffynhonell gennym wrth geisio creu patrwm o hendref Llanllechid cyn i Wyatt fynd ati ym mhumed a chweched degawd y 19 ganrif. Y cyntaf o’r rheiny ydy’r arolwg a drefnodd yr Arglwydd Penrhyn cyntaf yn 1768 wedi iddo ddod yn berchennog y stâd yn dilyn ei briodas yn 1765 gydag aeres Penrhyn, Anna Susannah Warburton; mae’r arolwg hwnnw yn rhestru pob daliad o eiddo’r Penrhyn ym mhlwyfi Llanllechid a Llandygai, yn rhestru pob cae, gan gynnwys eu maint, gyda map mawr o’r ardal, a mapiau unigol o bob daliad unigol, a’r cyfan i raddfa gan dirfesurydd profiadol o’r enw R A Leagh. Y broblem efo’r arolwg ydy nad oedd holl dir plwyf Llanllechid, yn enwedig i lawr glannau Ogwen o Bont y Twr i’w haber, nag ambell le yn yr hendref, yn eiddo i’r Penrhyn, ac, felly, nid ydym yn cael unrhyw wybodaeth am y llefydd hyn. Yr ail ffynhonell ydy map bras a wnaed ar gyfer y Penrhyn yn 1822, sy’n dangos lleoliad y daliadau a’r ffermydd yn yr hendref; yr anfantais gyda hwnnw yw nad yw’n nodi enw pob lle, dim ond yn nodi ble mae ty – ac nid oedd ty ar bob daliad! Yn olaf, mae’r Arolwg Degwm, a luniwyd, fesul plwy, trwy Gymru, a Phrydain, yn 1838-1834, yn dilyn Deddf Cymudo’r Degwm yn 1836. Roedd honno yn cymudo taliadau’r degwm, oedd gynt mewn cynnyrch, yn arian, ac, er mwyn pennu maint y taliadau unigol, fe nodid manylion am bob daliad unigol ym mhob plwyf. Mae’r ddogfen hon, ar un wedd, yn fwy defnyddiol nag arolwg 1768, gan ei bod yn nodi pob daliad yn y plwyf, ond mae’n creu llawer mwy o rwystredigaeth i’r ymchwilydd, gan nad yw’r sawl a’i cynhyrchodd wedi nodi ond enw’r daliad, y maint, ac enw’r perchennog. Mae’r rhan fwyaf o gofnodion plwyfi eraill Cymru yn nodi’r caeau unigol, ond, yn achos Llanllechid a Llandygai, nid enwir yr un. Mae lle i gredu mai dogfen a grewyd yn gyflym ffwrdd-a-hi gan Swyddfa Stâd Penrhyn oedd hon, a’u bod yn fwriadol yn gwneud yr isafswm yr oedd yn rhaid ei wneud. Ei bendith mwyaf yw fod map bras wedi ei lunio i gydfynd â’r rhestr, map sy’n dangos lleoliad a hyd-a-lled pob daliad unigol. Yn ogystal â’r tair prif ffynhonell yma, mae gwybodaeth berthnasol a defnyddiol i’w gael yn Llyfrau Rhent y Penrhyn, Cyfrifiadau 1841 ymlaen, ac ambell gofnod a chytundeb. O roi popeth efo’i gilydd yn y briwas, fe geir darlun eithaf clir o Lanllechid rhwng 1768 ac 1840, ond, fel gyda phob darlun hanesyddol, mae cilfachau y byddem yn hynod o falch petaem yn gallu taflu llewych o oleuni i’w tywyllwch, ac, fel y gwyr pob hanesydd, yn y cilfachau tywyll y mae’r pethau mwyaf diddorol, a’r pwysicaf yn aml!

Patrwm yr hendref cyn 1840
Yn y pen draw, patrwm yr Oesoedd Canol Diweddar oedd i dir hendref Llanllechid yn niwedd y 18 ganrif, a dechrau’r 19 ganrif, gyda’r patrwm hwnnw wedi cael ei lunio gan dri ffactor yn benodol, sef perchnogaeth y tir, datblygiad y daliadau unigol, a natur y ffermio.
O ran perchnogaeth, yr oedd tair stâd yn berchnogion gwreiddiol ar dir yr hendref, sef Coetmor, Cochwillan, a’r Penrhyn. Er fod y rhan fwyaf o dir Coetmor ar y llethrau, ble mae Bethesda a Rachub heddiw, yr oedd y stâd honno, cyn ei diflaniad, yn berchen ar diroedd ar hyd llethrau glannau Ogwen i lawr at derfyn Cochwillan, ynghyd â daliadau unigol yn yr hendref, daliadau megis Tyn Hendre, Cae’r Ffos, a Thyn Cae. Erbyn y cyfnod dan sylw, yr oedd llawer o diroedd Coetmor wedi mynd i ddwylo Iarll Egmont, uchelwr Seisnig-Gwyddelig, gyda thiroedd yng Ngwlad yr Haf, a Swydd Cork ( tiroedd oedd wedi eu cymryd oddi ar Wyddelod a’u rhoi i’r teulu gan Siarl 1 yn negawdau cyntaf yr 16ed ganrif). Yr ail stâd oedd y Penrhyn. Yr oedd y rhan fwyaf o diroedd y stâd honno ym mhlwyf Llandygai, gan mai’r tri gafael canoloesol oedd yn cyfateb i’r plwyf hwnnw oedd sail gwreiddiol eu heiddo yn yr ardal; yn wir, oherwydd hynny, yr oedd plwyf Llandygai yn gyfan yn ei dwylo. Fodd bynnag, yr oedd gan y Penrhyn nifer o diroedd unigol ym mhlwyf Llanllechid. Yr oedd tiroedd y drydedd stâd, Cochwillan, wedyn, yn yr hendref ei hun, ond ni ellir, heddiw, nodi’n union pa ddaliadau unigol oedd, yn wreiddiol, yn eiddo i Gochwillan, a pha rai i’r Penrhyn, gan fod teuluoedd y ddwy yn perthyn yn agos i’w gilydd, a bod tiroedd Cochwillan i gyd wedi mynd i gorlan y Penrhyn erbyn 1663, pan oedd y ddwy stâd yn nwylo Syr Robert Williams, nai, ac etifedd, yr Esgob John Williams ( Sion Iorc). Mae daearyddiaeth yr ardal yn awgrymu mai Cochwillan oedd perchen gwreiddiol y rhan fwyaf o diroedd ochr Llanllechid i’r afon,ond, yn anffodus, un o’r cilfachau tywyll i’w goleuo yw’r ddamcaniaeth honno ar hyn o bryd.

Felly, erbyn y cyfnod dan sylw, dwy stâd sy’n berchnogion ar y rhan fwyaf o diroedd yr hendref. Yn ogystal â’r ddwy hynny, yn yr hendref, yr oedd ambell ddaliad oedd ym meddiant unigolion, megis Plas Hwfa, oedd wedi ei waddoli i gynnal tlodion plwyf Llanllechid ers canol y 17eg ganrif, gan y perchennog, yr Esgob Griffith Williams, ( 1587 – 1672), Esgob Ossory, Iwerddon, a Rheithor Llanllechid am 12 mlynedd cyn hynny, ac, erbyn 1838, yr oedd Cae Gwigyn a Dolhelyg yn nwylo unigolion. Canlyniad y math hwn o berchnogaeth oedd fod patrwm tenantiaeth yn cael ei gyfyngu i ffiniau’r gwahanol stadau, ac nid yn ymestyn ar draws yr hendref gyfan.

Yn ail, roedd y patrwm yn ddibynnol ar ddatblygiadau y daliadau unigol. Mae hanes hyn yn gymhleth, ac yn ymestyn yn ôl i ddylanwad y Pla Du (yn fras roedd ei uchafbwynt 1348 – 1353, er bod ymweliadu’r pla â’r wlad yn parhau’n ysbeidiol wedi hynny). Fe laddodd y pla draean o boblogaeth Ewrop, a hynny ym mhob rhan o’r Cyfandir fel ei gilydd. Er fod y pla, yn amlwg, yn fwy heintus mewn ardaloedd poblog, nid oedd hyn yn arbed trigolion ardaloedd gwledig yn unman, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, gwledig ac amaethyddol oedd natur 95% o Ewrop, Prydain, a Chymru, ac eithriadau oedd canolfannau trefol o faintioli sylweddol, ac, yn ail, roedd y pla biwbonig mor ofnadwy o heintus fel nad oedd arbediad i neb a ddeuai o fewn cyrraedd iddo. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu fod y Pla yn ymestyn rhyw filltir y dydd ar draws Ewrob, ac, o gofio natur y gymdeithas statig a geid ar y pryd, pan nad oedd mwyafrif y gymdeithas fyth yn teithio lawer mwy na rhyw filltir o’u cartrefi, fe welir pa mor heintus ydoedd. Nid oedd o unrhyw gymorth, ychwaith, nad oedd trigolion y cyfnod yn deall sut y trosglwyddid unrhyw haint, ac nad oedd unrhyw neilltuo cymdeithasol. Yn wir, y ddamcaniaeth gyffredinol amdano oedd mai barn Duw ar ei bobl bechadurus ydoedd, ac, wrth reswm, doedd dim dianc rhag barn yr Hollalluog! Efallai fod ambell i gornel hynod o neilltuedig lle na welwyd y pla, ond, yn gyffredinol, petai un person mewn ardal yn ei ddal, roedd hi’n ddrwg iawn ar bawb arall oedd o fewn cyrraedd iddo. Er enghraifft, fe welir effaith y pla difaol ar ardaloedd diarffordd ar Ynys Môn, gyda llawer o dir heb ddigon o ddynion i’w drin yn y blynyddoedd yn dilyn ymweliad y Pla Du. Roedd colli cymaint o’r boblogaeth gydag oblygiadau mawr i’r drefn gymdeithasol. Fel y gwelwyd uchod ym Môn, y prif ganlyniad fu lleihau’n sylweddol y llafur i drin y tir, gan olygu fod tiroedd oedd gynt yn âr, yn awr heb lafur na pherchennog.

Dyna pryd y gwelodd rhai uchelwyr bachog eu cyfle; yn y degawdau yn dilyn y Pla Du y sefydlwyd mwyafrif y stadau mawrion, gyda thirfeddiannwyr yn meddiannu, ac yn crynhoi’r, tiroedd nad oeddynt bellach yn cael eu trin. Yn ogystal, nid oedd rhwymau cymdeithasol, yn benodol, taeogaeth, bellach yn rhwymo unigolion yn gaeth i diroedd eu meistri, a, ble gynt y bu dosbarth o daeogion ynghlwm wrth dir a meistr a dyletswydd, datblygodd corff o lafur annibynnol, cyflogedig, oedd yn gallu symud o dir i dir, ac o ardal i ardal, i werthu eu gwasanaeth. Y canlyniad, yn y pen draw, fu chwyldroi’r holl drefn gymdeithasol oedd wedi parhau am ganrifoedd, y drefn ffiwdal ble’r oedd haenau cymdeithas yn sefydlog. Erbyn y 15ed ganrif, yr hyn a gawn yw teuluoedd uchelwrol wedi crynhoi tir i greu stâd, ond yn methu ei thrin eu hunain, oherwydd yr angen am arian parod i brynu llafur. Yr ateb i hynny oedd rhannu tiroedd y stâd yn ddaliadau unigol, o wahanol faint, a’u rhentu allan i unigolion, neu deuluoedd, i’w trin. Roedd hyn yn rhoi dwy fantais i’r tirfeddiannwr, sef rhoi iddo lif o arian mewn rhenti, ynghyd â sicrhau fod ei dir yn cael ei drin, ac roedd yn dal i fod yn berchennog ar ei diroedd. Mewn gwirionedd, doedd hwn ddim yn ddull newydd o weithredu, gan fod ‘ffermio’ swyddi ( sylwer ar yr enw ) wedi bod yn arfer cyffredin yn Lloegr a Chymru ers y Canol Oesoedd cynnar. Yn ôl y drefn honno, byddai ‘swydd’, ble’r oedd arian yn cael ei gasglu, yn cael ei gwerthu yn flynyddol gan y brenin ( gan amlaf ) i unigolyn; byddai’r unigolyn, wedyn, yn casglu’r arian, gydag unrhyw elw, oedd yn fwy na’r pris a dalodd, yn dod iddo ef. Enghreifftiau amlwg fyddai ffermio fferïau, neu farchnad, neu ffair, neu unrhyw dollau. Yr hyn oedd yn newydd oedd fod yr hyn oedd wedi bod yn digwydd i swyddi bellach yn digwydd i’r tir. Canlyniad y ‘ffermio’ yn y stadau hyn oedd creu daliadau, o wahanol feintiau, ar y stâd, a’r rheiny’n cael eu gosod ar les i denantiaid. Byddai ambell denant yn cael mwy o dir nac arall, yn aml yn ddibynnol ar ei statws, neu’n hytrach, statws ei deulu, tra byddai ambell denant yn cael tenantiaeth dau ddaliad (neu fwy), gan olygu y gallai’r rheiny droi’n un. Tros amser, fe sefydlodd y daliadau hyn, nes bod nifer o rai o amrywiol faint ar bob stâd.
Roedd natur y tiroedd, wedyn, hefyd, yn gyfrifol am faint y daliadau. Os mai tir ar y bronnydd, neu’r llethrau uwch, fyddai canolbwynt y daliad, yna byddai’r daliad o reidrwydd yn fwy, gan fod yr hyn y gellid ei ffermio yn ddibynnol ar natur y tir. Wrth ddod i lawr gwlad, roedd ffermydd y tir âr yn fwy cyffredin, a byddai maint y daliad yn ddibynnol ar faint o dir y gellid disgwyl i unigolyn, neu deulu, fedru ei drin yn effeithiol. Hynny sy’n gyfrifol fod rhai ffermydd ym mhlwyf Llanllechid gyda’r un enwau, megis tair fferm Corbri, dwy fferm Cochwillan, tair fferm Gwaun Gwiail, ac ati. Yn wreiddiol, mewn oesoedd cynt, roedd y rhain yn endidau mwy, yn perthyn i dylwyth cyfan, yn aml, megis yr oedd Cochwillan yn dir ( demesne ) i gynnal y neuadd, ac mae lle i amau hynafiaeth Corbri fel un daliad mawr, cynharach na Chochwillan a’r Penrhyn. Pan aed ati i rannu stâd yn ddaliadau, fe rannwyd unedau mawr yn ffermydd llai, er mwyn cael endidau hylaw i’w ffermio gan un dyn a’i deulu. Yn achos rhannu unedau mwy yn Llanllechid, mae’r ffermydd unigol gyda’r un enw yn cynnwys tua’r un faint o dir o werth, ac mae hynny’n awgrymu fod rhyw fath o fesur penodol ym meddyliau’r perchennog wrth osod tir. ( Gweler Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid:Daliadau ). Mae gwahanol feintiau’r daliadau, wedyn, o bosibl, yn dangos dull (bwriadol, neu anfwriadol) i gynnal cymdeithas gyfan, trwy roi maint sylweddol o dir i rai, a digon i ambell un ond i gynnal teulu, yn ogystal â gwneud gwaith arall. Eto, efallai, yn y pen draw, mai mympwyol hollol, digynllun, a damweiniol, yw maint y rhan fwyaf o ddaliadau, a’u bod, ar ryw bwynt, wedi sefydlogi y tu mewn i’w terfynau ar y pryd. Rywle yn y potas hwn, mae elfennau megis gwobrwyo unigolion, a rhoddion i gyfeillion, hefyd, yn ffactorau. Beth bynnag am gymhelliad, a’r rheswm am sefydlu pob daliad unigol, y canlyniad oedd clytwaith o ddaliadau o wahanol faintioli, o wahanol natur, a gwahanol ansawdd. ( O safbwynt enwau’r gwahanol ddaliadau, mae’n sicr fod newid ynddynt yn y degawdau cynnar, yn enwedig daliad yn cymryd enw tenant presennol yn lle’r tenant cynt, ond, gydag amser, fe sefydlogasant ar enw un tenant, gan gadw ei enw ef wedyn waeth pwy oedd yn dal y tir, megis Tyddyn Iolyn, Cae Rhys William, Plas Hwfa, ac ati ( Gweler www.enwaudyffrynogwen.org).
Un peth arall y dylid ei nodi yw fod llawer iawn o gaeau ar yr hendref, llawer mwy nag oedd yn y ffermydd ar y llethrau, a bod maint cyfartalog y caeau hyn yn weddol fychan. ( Gweler Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid ). Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw mai ffermydd cymysg oedd ffermydd Llanllechid, fel ffermydd pob llan llawr-gwlad arall yng Nghymru, a bod hynny’n golygu fod angen rhannu tir cyfan y fferm ar gyfer gwahanol bwrpasau e.e. roedd rhaid cadw anifeiliaid ar wahân, a chadw’r anifeiliaid o’r gwahanol gnydau. Y patrwm fferm gymysg oedd yn gyffredin yn nhiroedd llawr gwlad Cymru hyd at ddegawdau olaf yr ugeinfed ganrif, a dim ond gyda ffermydd mawr, yn arbenigo ar un, neu ddau, fath o ffermio, y daeth cydio maes wrth faes y gyffredin, ac y cafwyd caeau mawrion ar ein ffermydd. Mae arbenigo yn ffafrio caeau eang; mae ffermio cymysg yn gofyn caeau llai. A chaeau llai, bychain, hyd yn oed, oedd yn hendref Llanllechid, ond doedd hyn ddim yn anghyffredin o gwbl. Manylir ar y caeau yn y paragraffau nesaf.
Edrych ar yr hendref
Ein cam nesaf yw mynd am dro i hendref Llanllechid yn y blynyddoedd rhwng 1768 a 1840, a manylu ar yr hyn a welem yno yn y blynyddoedd rheiny. Bydd y daith gyntaf yn un o’r awyr, fel petai, yn cymryd trosolwg o’r ardal, tra bydd yr ail ymweliad yn mynd â ni ar droed trwy’r hendref.
Yr hendref o’r awyr
Yn 1768 roedd y Penrhyn yn berchen ar 1754 acer yn yr hendref, ac roedd hynny wedi ei rannu yn 49 daliad, gyda’r rheiny yn amrywio o 6 acer i dros 200. Fodd bynnag, roedd y daliadau mwyaf ar y llethrau, y bronnydd, ac yn cynnwys ffermydd megis Tai’r Meibion, Winllan, a dwy Gochwillan. Ar lawr gwlad, y ffermydd mwyaf oedd Cefnfaes, Talybont, a Maes y Penbwl, ond roedd y rhan fwyaf o’r hendref yn cynnwys daliadau llawer llai. Roedd daliadau’r hendref oedd yn eiddo i’r Penrhyn yn cynnwys 421 o gaeau, ond ni ellir gweithio cyfartaledd caeau ar y rhifau hyn, gan fod gwahaniaethau mawr iawn; yn y ffermydd ar y llethrau mae rhai caeau anferth, er enghraifft, roedd 127 o 210 acer Tai’r Meibion yn 4 cae ar y llethrau, ac roedd 54 allan o 142 acer Cefnfaes yn dir anghynyrchiol, sef cors, coed, a thir gwlyb arall. At ei gilydd, rhyw ddwy neu dair acer oedd maint arferol caeau ar y rhan fwyaf o ddaliadau.
Cymrwn 5 daliad gwahanol yn yr hendref
Talybont a Dolgwen – sef y tir o’r pentref presennol i ran uchaf y parc; Dologwen yw’r darn gwastad o dir ar lan yr afon yn union wedi mynd trwy’r porth i’r parc
Maint y daliad 76 acer Nifer Caeau 36 Cyfartaledd maint 2.1 acer

Maes y Penbwl Y tu mewn i’r parc erbyn hyn
Maint y daliad 82 acer Nifer Caeau 21 Cyfartaledd maint 3.7 acer
Tyddyn Maes y Groes
Maint y daliad 18 acer Nifer Caeau 11 Cyfartaledd maint 1.6 acer
Cochwillan ( un o’r ddwy fferm )
Maint y daliad 79 acer Nifer Caeau 25 Cyfartaledd maint 3.1 acer
Tyddyn Ceiliog
Maint y daliad 29 acer Nifer Caeau 12 Cyfartaledd maint 2.4 acer
Ar wahan i ddaliadau’r Penrhyn, fel y nodwyd, yr oedd nifer o ddaliadau eraill, nad oeddynt yn perthyn i’r stâd honno, yn yr hendref, ond nid oes rheswm i feddwl fod pethau’n wahanol gyda’r rheiny. I gymryd un enghraifft, yn 1802 fe brynwyd tyddyn bychan Cae’r Ffos gan y Penrhyn trwy Lys y Sianseri, oedd wedi gorchymyn ei werthu oherwydd dyledion Stâd Coetmor; 20 acer oedd ei faint, gyda 10 cae arno, sy’n rhoi cyfartaledd o 2 acer y cae.
Erbyn Arolwg Degwm 1838 – 1840 yr oedd un newid sylweddol wedi digwydd yn hendref Llanllechid, a hwnnw oedd fod y Parc wedi cael ei ehangu o 1820 ymlaen. Roedd hyn yn rhan o’r newid sylweddol o adeiladu Castell Penrhyn newydd ysblennydd ar arddull Normanaidd oedd wedi cychwyn yn 1820, ac wedi parhau am dros 15 mlynedd, gan orffen yn 1835/6. Rhan o’r prosiect enfawr hwn oedd cael parc sylweddol, agored, gweddus i gastell mawreddog, i’w amgylchynu, ac adeiladu wal gadarn o gerrig o gwmpas y cyfan, yn bennaf i gadw’r byd, yn enwedig llygaid a chyrff y werin, y tu allan iddi. Ym mhlwyf Llandygai, nid yn unig y diflannodd yr holl gaeau oedd yn yr hen demesne, fe ddiflannodd sawl tyddyn a fferm hefyd, a lluniwyd parc eang, agored o gwmpas y galon, sef y castell. Yr oedd y lôn o Fangor i Gonwy – Lôn Domas – yn rhedeg trwy’r parc presennol, ac yn croesi’r Ogwen, dros bont bren ychydig yn uwch i fyny’r na’r bont bresennol. Roedd y rhan olaf o’r hen ffordd cyn yr afon yn mynd trwy bentref presennol Llandygai, heibio’r fynwent, i lawr Lôn Pistyll, ac yn ei blaen i Drefelin, ble’r oedd Melin Isaf, a chroesi’r afon yno. Oherwydd costau cyson i gadw’r bont bren mewn cyflwr derbyniol, yn 1791 fe godwyd pont newydd o gerrig ychydig dros ganllath i lawr yr afon, yn ei safle bresennol, gan ddargyfeirio’r ffordd o waelod Lôn Pistyll tuag ati. Yn 1820, wrth gychwyn ar y wal newydd i amgylchynu’r parc, fe wnaed newid pellach ilwybr y lôn, gan gau Lôn Pistyll, ac aeiladu ffordd newydd sef y darn presennol sy’n osgoi Llandygai. Fel rhan o’r newid symudwyd y tollborth o sgwâr Llandygai i Dan Lôn. Bu newid sylweddol ar ochr Llanllechid i afon Ogwen, hefyd. Cyn canol yr 1820au, terfyn gogledd-ddwyreinol y demesne oedd afon Ogwen, ond fe’i ehangwyd yn awr, gan symud y terfyn dros yr afon i gynnwys Ogwen a’i glan gogledd-ddwyreiniol, ynghyd ag un o’r ddwy lôn oedd yn mynd i lawr tua’r aber, gan adeiladu’r wal bresennol i gydredeg gyda’r brif lôn oedd yn mynd i lawr i Aberogwen. Gweler map 1822 uchod ). Canlyniad hyn oedd colli daliadau un o’r ddwy Aberogwen,( 35 acer ) Glanrafon, ( 37 acer), y rhan fwyaf o Faes y Penbwl ( oedd yn ddaliad 82 acer ), Dologwen, a rhan o Dalybont ( Isaf ) (36 acer ). Yn gyfangwbl, diflannodd 159 acer o dir ffrwythlon y plwyf ar hyd glan yr afon, i mewn i’r Parc newydd,a diflannodd enwau oedd wedi bod yn y plwyf ers dwy ganrif, o leiaf, ( pedair canrif yn achos Dologwen, gan fod cyfeiriad ati yn 1426/7) y tu ôl i’r wal newydd , er fod Aberogwen wedi goroesi oherwydd fod dau ddaliad o’r un enw, ac roedd un ohonynt y tu allan i’r wal newydd. Rhwng 1820 ac 1824 sythwyd afon gan un o brif ei chrwydriadau troellog trwy Ddologwen cyncyrraedd y môr, gyda’r cyfiawnhâd fod gwelliannau yn hwyluso llwybr yr eogiaid. Bu raid cael cyngor cyfreithiol yn Nhachwedd 1824 gan N C Tindall, un o gyfreithwyr amlycaf ei ddydd, am gyfreithlonrwydd y weithred hon, a bwriodd ef ei goelbren o blaid y Penrhyn.U canlyniad diddorol i’r sythu hwn ar yr afon, ar wahân i adael Llyn Celanedd heb afon yn llifo trwyddo, oedd trosglwyddo Capel Ogwen o blwyf Llandygai i blwyf Llanllechid.
Ar wahân i hynny, nid oedd cymaint o wahaniaeth rhwng yr hendref yn 1838 ac oedd yn 1768. Fel y nodwyd, mae gennym wybodaeth am bob daliad. Yn ôl Arolwg y Degwm 1838-40, yr oedd 4609 acer ym mhlwyf Llanllechid ( heb ystyried Nant Ffrancon, oedd yn cynnwys yr holl dir i’r dwyrain o afon Gaseg**), gyda 1849 o’r rheiny yn yr hendref, a’r mwyafrif o’r rheiny yn nwylo’r Penrhyn. Roedd y gweddill yn nwylo yr Iarll Egmont (hen diroedd Stâd Coetmor ), a dwylo preifat. Os tynnwn diroedd y Parc newydd o hyn, roedd 1690 acer yn dir yn cael ei ffermio yn yr hendref. Roedd hwn wedi ei rannu yn 56 daliad, sy’n rhoi cyfartaledd o 30 acer yr un. Fodd bynnag, mae hyn yn gamarweiniol, gan fod rhai daliadau mawr yn gorbwyso’r cyfartaledd. Os tynnwn y tri daliad ar ddeg mwyaf ( rhwng 40 acer a 150 acer ), o’r hafaliad, cawn ddarlun llawr mwy realistig o’r sefyllfa. Mae’r daliadau hynny yn 1209 acer o’r cyfanswm, sy’n gadael 481 acer gyda 43 daliad, sy’n rhoi cyfartaledd o 11.2 acer i bob daliad. Ymhellach, mae pob un o’r daliadau hyn yn cynnwys rhywfaint o dir ymghlwm gyda’r ty, nid yw tai moel, er bod rhai yn yr ardal, yn cael eu hystyried ar gyfer creu’r darlun hwn. Y canlyniad y down iddo, felly, yw ardal llawr gwlad, gyda ffermydd gweddol fawr ar ei chyrion, ond mânddaliadau bychain yn y canol, a’r cyfan yn batrwm o gaeau bychain, a’r rheiny i gyd wedi eu gwahanu gydag waliau o gerrig, (yr oedd digon o gerrig ar gael yn yr ardal ), neu gloddiau o bridd gyda ffosydd ar un ochr iddynt, ac, ambell dro, wrychoedd yn tyfu arnynt.
**Yr oedd y Penrhyn yn ystyried Dyffryn Ogwen yn 3 rhan 1. Llanllechid – sef y rhan honno o’r plwyf oedd yn ymestyn o Draeth Lafan i gymer Ogwen â Chaseg, ac ar hyd glan ogleddol Caseg i’r mynydd. Y ffermydd ym mhen pellaf Llanllechid, yn ôl y Penrhyn, oedd Gwaun Gwiail. 2. Llandygai – sef y rhan honno o’r plwyf oedd yn ymestyn o aberoedd Ogwen a Chegin hyd at Bont y Twr, ac yn cynnwys y Chwarel. 3. Nant Ffrancon – sef tiroedd i’r dwyrain o’r ffiniau uchod, y ddwy ochr i afon Ogwen hyd at Gapel Curig
Crwydro’r hendref ar droed
Yn awr, beth am ddod i lawr o’r awyr, a mynd am dro ar hyd yr ardal, gan ddilyn llwybrau, a ffyrdd y cyfnod. Yn fras iawn, fe awn am dro tua 1838, gan y byddem yn gweld rhai pethau gwahanol mewn gwahanol gyfnodau. Mae hynny’n rhoi’r un sefyllfa inni ag y byddai James Wyatt yn ei wynebu ychydig flynyddoedd wedi hynny.
O’r bont i Gochwillan
Fe gyrhaeddwn yr hendref ar hyd y ffordd newydd o Fangor, gan groesi i’r hendref dros y bont dros Ogwen. Ar y chwith mae’r ‘Lodge’, sef porthdy newydd y parc sydd wedi ei ymestyn yn ddiweddar. Os edrychwch trwy’r porth, a derbyn fod y dorau mawr bygythiol yn agored, fe welwch ffordd yn mynd trwy’r parc; mae hon yn hen ffordd oedd yn mynd i lawr i un o ddwy fferm Aberogwen. I’r chwith ohoni, rhyngddi ag Ogwen, y mae tir gwastad ar lan yr afon, a hon yw Dologwen, sy’n cael ei chrybwyll, fel Dologfaen, yn nechrau’r 15eg ganrif. Ar ei therfyn yr oedd hen fferm Maes y Penbwl, (82 acer), gyda’r rhan fwyaf o’i thir, bellach, yn rhan o’r parc, a chyfran ohono y tu allan i’r wal, ond wedi ei roi i ddaliadau eraill. Wrth ddod at yr aber dyma lle byddai un o ffermydd Aberogwen,( 35 acer), a fferm Glanyrafon, ( 37 acer ), tiroedd y ddwy, bellach, wedi mynd i’r parc, a’u caeau wedi eu huno. Heddiw, ni allwn fynd trwy’r porth newydd, gan fod y parc yn waharddedig i draed, a llygaid, meidrolion cyffredin fel ni, felly dilynwn ffordd Conwy at Dalybont, a enwyd oherwydd ei safle ger y bont. Oherwydd fod Talybont arall, fe elwir un yn Dalybont Uchaf, a hon yn Dalybont Isaf; erbyn 1841, bydd yr Isaf yn dafarn, a gelwir hi yn Talybont Inn. Yn hytrach na dilyn y llwybr am Gonwy, fe drown tua’r de-ddwyrain am dipyn, ac anelu am Felin Cochwillan, Phentre Felin. Mae nifer o dai bychain wedi eu codi yma yn ddiweddar, ond, gan nad oes tir ynghlwm wrthynt, nid ydynt ar yr Arolwg Degwm. Yn ôl Cyfrifiad 1841, dair blynedd yn ddiweddarach, yr oedd 18 ty o’r enw Talybont yma, gyda’r mwyafrif o’r trigolion yn weision fferm, ond gydag ambell grefftwr yn eu plith. Mae Tyddyn Cwta, (6 acer), yn ddaliad hirgul, mewn mwy nag un rhan, yn gyffredinol rhwng y ffordd a’r ffrwd fechan, cyn cyrraedd Tyddyn y Berth ( 16 acer ). Draw i’r de mae Cae Gwigyn, (11 acer mewn dwylo preifat), ble mae 8 ty moel, Tai Isa (8 acer), a dau dyddyn bychan Dolhelyg, ( 2 a 4 acer, y ddau mewn dwylo preifat, ac nid yn eiddo i’r Penrhyn). Mae 4 ty o’r enw Bethlehem yma, hefyd. Rhwng Cae Gwigyn a’r afon mae Tai Isa ( 6 acer ). Os awn ymlaen i’r groesffordd,fe allwn ddewis mynd i fyny allt Cochwillan i Goetmor, neu fe allwn droi i’r dde yn ôl amafon Ogwen, a dyna wnawn ni. Ymlaen am Bentre’r Felin, sydd yn dri daliad 4, 7, a 13 acer. Melin sydd yma rwan, ond hyd at ddechrau’r ganrif, pandy ydoedd; mae’r pandy bellach rhyw dri chanllath yn uwch i fyny’r afon, yn ymyl y bont sy’n cario lôn newydd Llundain-Caergybi Telford dros afon Ogwen.
O’r Dalybont Isaf i’r Groeslon i Aberogwen
Yn ôl â ni at Dalybont Isaf, a chymryd lôn ddiweddar am Gonwy. Yn 1822 yr adeiladwyd y ffordd hon gan Telford, a hynny er mwyn osgoi’r hyn a elwid yn Clip Talybont, sef codiad serth, sydyn o Dalybont i gyfeiriad Groeslon. ( Mae olion yr hen lôn yn y caeau os dilynwch y llwybr troed sy’n cychwyn yn Stryd Dwr, ger y Bont Rheilffordd, tuag at Groeslon).Ar y dde inni mae daliad 20 acer Cae’r Ffos, sy’n cael ei rentu gyda thir Talybont Isaf, sydd ar ei derfyn. Ar y terfyn arall iddo mae tir Groeslon, sy’n ddaliad eithaf sylweddol, ond wedi amrywio o ran maint dros y blynyddoedd. Rhyw 5 acer ydoedd, ond, bellach, mae’n debyg fod gweddillion tir Maes y Penbwl wedi ei ychwanegu at y tyddyn, ac mae’n fferm 64 acer. Yn ôl yr enw roedd dwy brif ffordd y plwyf yn croesi yma, sef y ffordd o eglwys Llanllechid i Aberogwen a’r ffordd o Fangor i Gonwy. Roedd y gyntaf o’r ddwy ffordd hyn yn dilyn llwybr oedd yn ganrifoedd oed, yn cysylltu rhannau uchaf Dyffryn Ogwen efo’r môr; ar hyd y llwybr hwn y bu yr ychydig lechi a gynhyrchwyd gan chwarelwyr unigol y dyffryn ers yr Oesoedd Canol yn cael eu cludo i Aberogwen er mwyn eu llwytho i’r llongau, a âi â hwy i drefi Lloegr. Mwy diweddar yw’r ail ffordd, gan mai ar hyd y bronnydd a thros Bwlch y Ddeufaen yr âi’r hen lwybr i Ddyffryn Conwy, a dyma lwybr y ffordd dyrpeg yma cyn i Telford ddod a gyrru ei ffordd ef yn unionsyth i Dan y Lôn, gan ymuno efo’r hen ffordd dyrpeg yno. O’r herwydd byddai raid i ni droi i fyny at yr hen ffordd cyn cyrraedd ty Groeslon, ond troi i lawr wnawn ni, i’r chwith i lawr am Aberogwen a Thraeth Lafan. Ar y dde inni, yn y gornel sy’n cael ei ffurfio gan y ddwy ffordd, ac yng nghanol tir y Groeslon, ar wahân i ran bach sy’n ffinio gyda’r lôn, mae daliad bychan Tyn Cae, (2.5 acer). Yr ochr arall i’r lôn mae’r wal sy’n amgau parc newydd y stâd, gan ddilyn yr hen ffordd tua Thraeth Lafan, felly mae pob daliad ar y dde. Y lle cyntaf yw Llain, ( llai nag acer hirgul ar hyd ochr y ffordd), yna Bryn Eira ( 1 acer), a’r Pentre Isa ( 2 acer). Y caeau bychain tu hwnt i’r rhain i’r dwyrain yw Tyddyn Fertos ( er nad oes sicrwydd o gwbl am ffurf yr enw – Feirios, Fertos, Defeitos, Feitos ), sydd ychydig dros 12 acer. Y tu draw iddo mae llain fechan sy’n perthyn i Gae’r Ffos; mae hynny’n dangos pa mor dameidiog yw tiroedd yr hendref. Ychydig yn nes at y traeth mae mae Ysgubor Newydd (bron yn 24 acer), ond, yn ôl i’r lôn, ac i lawr at Aberogwen ( 62 acer). Ar y chwith i’r ty fferm mae Llyn Celanedd; roedd y llyn wedi eu ffurfio gan yr afon yn gogordroi wrth lifo tua’i haber, yn Nhraeth Lafan. Fodd bynnag, wrth lunio’r parc newydd yn ddiweddar, ail-gyfeiriwyd y rhan hon o’r afon, gan ei sythu, codwyd pont i’w chroesi o’r Penrhyn, ac adeiladwyd y wal ar ystum er mwyn gadael y llyn y tu allan iddi. Mae’n ddiddorol sylwi fod rhan fechan o’r parc a hanner Llyn Celannedd yma yn perthyn i blwyf Llandygai, gan fod y ffin yn dilyn hen lwybr yr afon. Wedi mynd heibio Aberogwen, trown i’r dde gan fynd yn gyfochrog â’r traeth, nes y down i fferm Glan y Môr ( 69 acer ), gyda’i thy a’i hadeiladau ger y môr. Awn yn ein blaenau ar hyd yr arfordir ac, ymhen rhyw ddau gan llath, down at y tyddyn o’r enw Pencoed (1 acer, ond a fu yn 18 acer ar un adeg); cartref gwas fferm yw hwn yn awr. Yn ein blaenau ar draws y caeau sydd ger y traeth a down at dir gwlyb, ble mae llyn bas sylweddol, dyma Bwll Budr (42 acer, ond gyda 19 o’r aceri hynny yn dir gwlyb, ac yn bwll).


Draw acw fe welwn fferm fawr Wig, ond mae honno ym mhlwyf Abergwyngregyn, a’r tu allan i’n taith. Mae gennym ddewis yn awr; gallwn gyfeirio ein traed ar draws tir Pwll Budr, i’r Cefnfaes, sydd ger ffordd Conwy, neu gallwn ddilyn ein camre yn ôl i ffordd Telford, a chymryd llwybr arall o’r fan honno. Gan fod tir gwlyb rhyngom â’r Cefnfaes, cymrwn yr ail ddewis.
I ffin Aber ac yn ôl
Wedi cyrraedd, trown tua’r gogledd-ddwyrain a dilyn ffordd Telford at ffin y plwyf. Am y rhan gyntaf, rydym yn mynd trwy dir Groeslon, sydd ar y ddwy ochr inni, ac yna trwy dir Llwyn Celyn, (19 acer )yntau y ddwy ochor. Y daliad nesaf yw Tan y Marian Bach, er nad yw ar derfyn Tan y Marian Mawr(17 acer). Yn awr rydym yn mynd trwy dir Talybont Uchaf, sy’n ddaliad arall gyda thiroedd mean lleoliadau gwahanol. Yn awr mae’r ffordd yn torri trwy un o weirgloddiau’r ardal, Gweirglodd Needham ( 11 acer ), tir sy’n cario enw a allai fod yn mynd yn ôl i’r 15ed ganrif. Wedyn yn y gornel ble mae ffordd Telford a’r hen ffordd dyrpeg yn cyfarfod, mae’r ffordd yn mynd heibio Caeau Cyd ( 6 acer), a thrwy waelod Tyn Hendre, cyn i’r ddwy ffordd uno. Ychydig ymlaen yr ydym yn dod i geg lôn fferm sy’n mynd i lawr at Dyddyn y Ceiliog (29 acer), gyda’r ty ychydig go lew o’r ffordd. Ar derfyn Tyddyn y Ceiliog y mae 3 gweirglodd, sef tir da oedd, yn wreiddol, yn tyfu gwair, y rheiny yw Gweirglodd Newydd, (24 acer ), Gweirglodd Hir ,( 3 acer), a Gweirglodd y Wern, ( 9 acer). Yn ôl i’r ffordd fawr, a down at y ffermydd olaf cyn cyrraedd terfyn plwyf Aber; y ffermydd hynny yw Ty Gwyn ( 144 acer ),Cefnfaes Newydd, a’r Cefnfaes, (142 rhwng y ddwy ), a Thai’r Meibion( 129 acer). Wedi cyrraedd terfyn plwyf Aber, fe drown yn ein holau. I’r dwyrain, rhyngom â’r llethrau, a’r hen ffordd i Aber, y mae Tai’r Meibion – 129 acer, ond gyda rhan fawr o’i thir gwreiddiol, yn cael ei rentu gan eraill, a gwelir Wern Porchell- 39 acer -yn uwch i fyny’r llethrau na hi, tua Chrymlyn. I’r dwyrain mae’r ffermydd ar y llethrau, megis Rallt, Nant Heilyn, a’r Fedw. Yn nesaf daw’r ddwy Tanrallt ( 49 acer a 14 acer ), gyda Gilfach (19 acer) ar y terfyn. ac, ar y llethr wrth ei ochr, mae Ty Gwyn ( 63acer ). Dros y ffordd sy’m mynd i fyny Nant y garth mae Tyn Hendre ( 53 acer ). Yng ngwaelod yr allt, mae ty a daliad bychan, newydd Llain y Ffwlbart (1 acer), wedi ei sefydlu ar gae o’r un maint ac enw ar ddaliad Ty Gwyn, y soniwyd amdani, gyda’i thir ar y llethrau a llawr gwlad, a chyda’r lon yn mynd trwy ei chaeau. Yn awr dyma Tan Lôn (12 acer) a Chaeau Cyd eto. Ar ochr uchaf y lôn mae’r lôn fferm sy’n fforchi i’r dwyrain yn arwain i fyny at fferm Winllan (52 acer) ar y llethr. Ar derfyn y weirglodd mae fferm Cae Mawr (44 acer), tra bod y lôn nesaf sy’n fforchio tua’r llethrau yn arwain at Dalybont Uchaf (47 acer), Cae Rhys Wiliam (22 acer), a Phlas Hwfa ( gyda’i 10 acer yn waddol i’r tlodion yn y plwyf). Yma mae’r clwstwr bychan o dai sydd wedi tyfu yma ers tua hanner can mlynedd o gwmpas y giât sydd ar y ffordd dyrpeg (Mae Cyfrifiad 1841 yn cofnodi Tan y Lôn Gate;a oedd dwy giât dyrpeg o fewn chwarter milltir i’w gilydd?). Fe gymrodd y tai hyn enw’r safle ers chwarter olaf y 18fed ganrif, a gelwir hwy yn Gatehouse, gyda’r Cymry lleol wedi ei newid yn Gatws. Mae 13 o aelwydydd yma, yn ogystal â thafarn o’r enw King’s Arms, ac mae’r mwyafrif o’r penteuluoedd ynghlwm wrth y diwydiant amaethyddol, gan gynnwys dau of. Cyn inni gyrraedd y Groeslon mae’r ffordd yn torri trwy dir tyddyn bychan 8 acer, Tyddyn Sachre.
Groeslon i Gochwillan
Dyma ni yn awr yn ôl yn y Groeslon, a chymrwn y ffordd sy’n weddill, sef yr un sy’n mynd â ni i Lanllechid. Tir Groeslon sydd i’r de-orllewin o’r ffordd; ar ei derfyn mae Cae Coch, (4 acer), daliad heb dy, fel y gweirgloddiau a nodwyd. Nesaf, o boptu’r ffordd, mae dau gae sy’n rhan o Gae’r Ffos, y daliad 10 acer sydd gryn bellter oddi yma. Yn awr, mae Tanymarian Mawr, (33 acer), ar derfyn Cae Rhys Wiliam, yn ymestyn i fyny ochrau’r llethrau. Ar derfyn Cae Coch a Thanymarian, mae dau dyddyn Maes y Groes (24 ac 11 acer), gydag un bob ochr i’r ffordd; fodd bynnag, erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r uchaf o’r ddau wedi ei roi i godi Rheithordy newydd arno, ac y rhoddwyd y rhan fwyaf o’i dir i’r eglwys yn ddi-ddegwm. Yr unig ddau ddaliad sydd ar ôl yw’r ddwy Gochwillan (79 a 70 acer), gyda thiroedd y ddwy drwy’i gilydd bob ochr i’r lôn sy’n mynd o Faes y Groes i Goetmor; mae’r tir sy’n terfynu ar lannau Ogwen yn dod â ni at Bentrefelin, sy’n gwneud ein taith ar hyd yr hendref yn un cylch crwn.
Tenantiaeth
Yn ogystal â’r patrwm clytiog o ddaliadau a chaeau bychain, oedd yn waddol o’r Oesoedd Canol Diweddar, a’r Cyfnod Modern Cynnar, yr oedd cymhlethdod arall i’r sefyllfa yn yr hendref; os oedd y daliadau a’r caeau ar batrwm sefydlog, hanesyddol, doedd y cytundebau tenantiaeth ddim, o reidrwydd, yn adlewyrchu hynny. Mae’r cytundebau hynny yn dangos fod gan denantiaid uchelgeisiol ddull o oresgyn y patrwm clytiog, gan ddilyn un o ddau batrwm. Yn gyntaf, gwelir ambell ffermwr, yn enwedig un mwy sylweddol na’r gweddill, yn dal mwy nag un daliad, ac, yn ail, gwelir daliadau yn nwylo mwy nag un tenant. Dim ond i nodi ambell enghraifft; yr oedd Ann Hughes, Aberogwen, yn 1838, hefyd yn dal Gweirglodd Hir, ar ei phen ei hun, yn gystal â thir Pwll Budr, gyda phartneriaid ar y cyd. O leiaf, roedd y tiroedd hyn ar derfyn Aberogwen. Roedd Owen Ellis, ar y llaw arall, yn dal Cefnfaes ar y cyd efo’i gefnder, William Owen, (oedd, hefyd, yn dad-yng-nghyfraith i’w frawd, Humphrey). Ond roedd Owen hefyd yn dal un o fronnydd Tai’r Meibion, nad oedd ar derfyn tir ei gartref. Roedd Gweirglodd Needham, wedyn, oedd ond 21 acer, yn cael ei rhentu gan bedwar o wahanol bobl, tra’r oedd 33 acer y Weirglodd Newydd gyda deuddeg gwahanol yn talu cyfran o’i rent. Roedd William Thomas, wedyn, yn rhentu Talybont Uchaf, ynghyd â 22 acer Cae Rhys Wiliam, oedd ar y terfyn; roedd hyn yn drefn a olygodd, yn nes ymlaen, fod yr ail ddaliad yn dod yn rhan o’r cyntaf. Canlyniad hyn oll oedd fod patrwm cymhleth iawn wedi datblygu yn yr hendref, gyda daliadau wedi eu rhannu rhwng gwahanol unigolion, a thiroedd ambell denant mewn pecynnau o amrywiol faintioli mewn gwahanol rannau o’r ardal. Dyma ddywed Gwallter Mechain yn 1815 am blwyf Aber, sydd ar y terfyn â Llanllechid, ac yn barhâd rhesymegol o’r hendref
Fields belonging to different farms are here very much intermingled, and are moreover too small and irregular in their shape.
A General View of the Agriculture and Economy of North Wales 1815
Mae hyn yn nodwedd o’r hendref, hefyd, oedd nad oedd y daliadau hyn yn rhesymegol eu patrwm; yn hytrach, yn aml roedd rhai caeau unigol oedd yn perthyn i ddaliad ddim yn rhan ddaearyddol o’r daliad ei hun, ond, weithiau, gryn bellter o’r daliad. Er enghraifft, 20 acer oedd Cae’r Ffos, ond roedd mewn tri rhan, sef y prif ddaliad ger Talybont Isaf, dau gae ger groeslon Tyddyn Maes y Groes, a chae yng nghanol y tir ger Tyddyn Ceiliog. ac roedd gan Cochwillan dir yng nghanol Talybont Uchaf. Roedd Tyddyn y Berth wedyn, yn dri rhan, tra’r oedd tiroedd Talybont Uchaf yma ac acw. Yn ychwanegol i’r cymhlethdod hwn, yr oedd yr hen ffordd dyrpeg wedi torri trwy ddaliadau unigol, megis Ty Gwyn, Tai’r Meibion, Gweirglodd Needham, Tyn Hendre, ac eraill, ac, yn yr 1820au gwnaeth ffordd newydd Telford o Fangor i Gonwy y sefyllfa’n waeth, gan mai cwta ganllath oedd rhwng llwybr y ddwy ffordd, cyn uno ger Tan Lôn, ac roedd y tir, o’r herwydd, yn culhau wrth i’r ddwy ffordd ddod i gyfarfod ei gilydd. Yn yr 1840au gwnaed y sefyllfa yn fwy cymhleth fyth trwy i’r rheilffordd ddilyn llwybr trwy’r hendref oedd yn gyfochrog i’r ffyrdd oedd yno eisoes. Mewn gair, tipyn o boets oedd y sefyllfa yn hendref Llanllechid, poets oedd wedi datblygu dros y canrifoedd, a phoets yr oedd angen gwirioneddol i fynd i’r afael ag ef os am ddatblygu amaeth yn yr ardal.
Gwelliannau cenedlaethol
Dyma’r cefndir yr oedd Wyatt yn gweithio ynddo yn 1843, pan fu’n bras-gynllunio ar ei bapur gwag, ond ni ellir rhoi gormod o glod iddo am fod mor flaengar, oherwydd yr oedd cyd-destun ehangach i’w waith – yr oedd y newidiadau yn hendref Llanllechid yn rhan o welliannau oedd yn cael eu gwneud trwy stadau a thiroedd eraill ar draws Prydain
The accelerating trend towards larger farming units, both through purchase of smaller farms by more substantial tenants and freeholders, and through policy. This was especially pronounced on the poorer soils, which often required the highest levels of capital investment. The role of estates, through the development of the land agent profession, investment in infrastructure (especially buildings and drainage) and the encouragement through leases of improved husbandry techniques by their tenants. Estate polices were also a major factor in the rationalisation of holdings and the emergence of larger farms.
Historical England.org Agricultural History and Farm Buildings
Gwneud ei waith yr oedd Wyatt, ei wneud yn gydwybodol, ond ei wneud mewn cyd-destun o welliannau sylweddol a ffactorau amgylchynnol oedd yn prysur chwyldroi amaeth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y byd gorllewinol o 1800 ymlaen. Rhai o’r ffactorau hyn oedd
- yr angen am fwy o gynnyrch i ddiwallu anghenion marchnad oedd yn ehangu’n gyflym
- prisiau uwch am rawn >1815, a phrisiau uwch am gig a llysiau 1840>
- datblygiad rheilffyrdd a chamlesi i fynd â’r cynnyrch at y farchnad
- cynnydd mewn prisiau tir
- datblygiad sylweddol mewn bridio anifeiliaid fferm
- gwelliant mewn cnydau, gweiriau, a pheiriannau
- gwelliant mewn dulliau traeniad tir
- datblygiadau sylweddol mewn gwelliannau pridd
- cyhoeddi llyfrau niferus ar y gwahanol ddatblygiadau, fel bod y wybodaeth, a’r dulliau, ar gael ym mhob rhan o’r wlad.
Felly, yn y cyd-destun a’r hinsawdd hwn yr oedd Wyatt yn gweithio yn 1843, ac nid oedd ad-drefnu daliadau hendref Llanllechid ond un rhan o’r gwelliannau i diroedd Stâd y Penrhyn yr oedd ganddo yn ei feddwl.
Yr ad-drefnu
Y broblem fwyaf, o safbwynt ad-drefnu daliadau, oedd yn wynebu Wyatt yn 1843, oedd un o’r ffeithiau a nodwyd uchod, sef y ffaith nad y Penrhyn oedd piau yr holl dir yn yr hendref. Yn 1843, felly, yr oedd yn rhaid iddo weithio gyda’r hyn oedd ar gael iddo, sef tiroedd y Penrhyn. Er fod ganddo syniadau am uno daliadau yn Llandygai, a llethrau Llanllechid, fe nodaf yr hendref yn unig.
Roedd am uno Aberogwen, Ysgubor Newydd, a Phentre Isa i greu un fferm, y ddwy Gochwillan i wneud un, Glanymor, Pwll Budr, Pencoed, a Gweirglodd y Wern, i greu un, tri thyddyn Pentrefelin i greu un, y ddwy Tanrallt i wneud un, Talybont, Tai Isa, a Phentre Felin, efo’i gilydd, Tyddyn Cwta, Tyn y Cae, a Tan Lôn yn un, Tyddyn Sachre a Groeslon efo’i gilydd, y ddau Dyddyn yn un, Gweirglodd Newydd ( oedd wedi ei rhannu’n 2) a Tyddyn Fertos yn un, Dôl Coetmor, Weirglodd Hir, a Thy Gwyn yn un.
Fodd bynnag, cynllun ar bapur oedd cynllun Wyatt, ond fe fu iddo ddechrau gyda’r tiroedd oedd ar gael iddo. Yn y Llyfrau Rhent, gwelir y newidiadau canlynol
1848 Penycoed land added to Glan y Môr
1849 Aberogwen and part of Groeslon
Cyn 1850 Tyddyn Fertos added to Aberogwen
1850 Tyddyn Sachre added to Talybont Public House**
1850 Tan y Lôn to Talybont Public House
1854 Cae Rhys William added to Talybont Uchaf
** Talybont Uchaf, oedd yn dafarn erbyn hyn
Fodd bynnag, y flwyddyn bwysig, o safbwynt cylluniau Wyatt, oedd 1855, oherwydd, yn y flwyddyn hon, fe brynwyd hen diroedd Coetmor ym mhlwyf Llanllechid gan y Penrhyn oddi wrth yr Arglwydd Egmont,a, bellach, doedd dim i atal mynd ymlaen gydag uno daliadau, a moderneiddio. Yn y flwyddyn honno, gwelir ffurfio daliad newydd Tyn Hendre, oedd yn golygu uno’r tri daliad o’r enw hwnnw gyda daliadau eraill cyfagos, ac yn y Llyfr Rhent am 1855, nodir ‘ land added to Tyn Hendre’, am Tyn Lôn, Ty Gwyn, Cae Mawr, a Winllan, felly dyna golli 6 daliad yr un pryd ( a derbyn fod Tyn Hendre yn cae ei ddal gan dri thenant cyn hynny ). ( Tyn Hendre). Yn 1857, wedyn, fe unwyd y ddwy Gefnfaes efo Tai’r Meibion, a chollwyd y ddwy hynny. Mae’n debyg i dir Wern Porchell fynd i’r fferm newydd,hefyd, er nad oes cofnod o hynny. ( Efallai ei fod wedi mynd ynghynt, ond roedd ty Wern Porchell yn dal yno yn 1851. Mae Coed Wern Porchell heddiw ar dir Tai’r Meibion, i’r gogledd-ddwyrain o’r hen lôn rhwng y ty a Chrymlyn.)

Yn 1861, nodir fod tiroedd Bryn Eira ( neu Eurad ), rhan o’r Groeslon, a Tyddyn wedi mynd yn rhan o Dalybont Uchaf.
Mae rhai tiroedd a hen ddaliadau yr ydym yn gwybod eu bod wedi eu huno efo daliadau eraill, ond nad ydym ( ar hyn o bryd, y Clo Mawr yn atal ymchwil pellach) yn gwybod pryd yn union y digwyddodd hynny, nag i ble’n union yr aethant. Cymrwch y Gweirgloddiau – Needham, Newydd, Wern, a Hir; mae’n sicr fod y rheiny wedi mynd yn weddol gynnar – yn ystod yr 1840 – ond nid oes sicrwydd i ble. Fodd bynnag, gellir bwrw amcan. Roedd Gweirglodd Needham yn ymyl Gatws, ac mae’n fwyaf tebygol iddi fynd un ai i Dyn Hendre, Talybont Uchaf, neu Lwyn Celyn. Yr oedd Llwyn Celyn wedi ehangu o 12 acer yn 1768, i 19 acer yn 1838, i 53 acer yn 1871; roedd yr aceri ychwanegol hyn wedi dod o rywle, er, mae’n sicr fod llawer wedi dod trwy uno’r holl dir oedd yn y triongl rhwng ffordd Telford a’r hen ffordd dyrpeg – oedd yn cynnwys Tan y Marian bach, a rhannau bychain o ffermydd eraill oedd i’r dwyrain o’r ffordd dyrpeg, ac wedi eu neilltuo yr ochr hon pan agorwyd y ffordd dyrpeg ( Gweler Map B ). Roedd y tair gweirglodd arall yn nes i’r môr, ac, mae’n debyg iddynt fynd i dir Aberogwen, gan fod y fferm honno wedi chwyddo o 62 acer yn 1838 i 163 acer yn 1871 ( ac i lawr i 137 yn 1891!). Gallai, hefyd, fod wedi mynd i dir Glan y Môr Isaf, gan fod honno wedi chwyddo o 69 acer yn 1838 i 120 acer yn 1881, ond rhaid derbyn fod tiroedd Pencoed ( 18 acer ) a Phwll Budr (42 acer) yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cynnydd hwnnw. Mae ‘na un ffactor arall yn y rhan yma o‘r plwyf, hefyd, sef hen ddaliad Ysgubor Newydd. ( Gw Map 1 ). Erbyn 1881 mae’r daliad hwn yn cael ei alw’n Tyddyn Newydd, ac erbyn 1891, ei enw yw Llwyn Onn, gyda’r ty wrth ochr y ffordd, ac nid yn y caeau fel ty Ysgubor Newydd. 23 acer oedd Ysgubor Newydd, ond roedd Llwyn Onn yn 48 acer. ( Clywais eglurhâd gan henwr lleol am y newid enw hwn o Ysgubor Newydd i Lwyn Onn, ond nid wyf wedi gallu ei brofi, hyd yn hyn, a rhaid iddo aros yn llên gwerin ar hyn o bryd). Diflannu fu hanes Tyddyn y Fertos, hefyd, ac, ar ei ôl, Dyddyn y Ceiliog, hefyd; roedd John Jones, Cariwr, a’i deulu yno yn 1841 ac 1851, ond, erbyn 1861, nid yw ei 28 acer yn bodoli mwyach. Mae ei leoliad daearyddol yn awgrymu’n gryf ei fod ar dir yr Aberogwen presennol. Erbyn 1861, hefyd, roedd tiroedd y ddau hen dyddyn, Maes y Groes, wedi diflannu fel endidau, un yn sicr i dir Cochwillan. Efallai i’r llall fynd un ai i dir Tanymarian, neu, fwy na thebyg, i Dalybont Uchaf.
Felly rhwng 1845 ac 1865 fe unwyd llawer o diroedd hendref Llanllechid, gan greu unedau mwy, a chaeau mwy. Eto doedd y broses ddim yn un derfynol; tros y blynyddoedd roedd ambell gae yn cael ei roi i ddaliad, ac ambell gae yn cael ei dynnu o un arall, ac fe barhaodd hyn ymhell i’r ugeinfed ganrif. Yn wir, erbyn 1891, yr oedd daliad newydd sbon Ty Mawr, rhyw 50 acer, wedi dod i fod ym mhentref Talybont, gyda llawer o’i dir yn dir yr hen Dalybont Isaf ( Talybont Public House).
Bu i James Wyatt ymddeol o’i swydd fel Prif Asiant Stâd y Penrhyn yn 1860, wedi treulio 35 mlynedd yn y Gwaith, a symudodd i fyw i Nant Gwynant. Erbyn ei ymddeoliad, yr oedd wedi llwyddo i gwblhau, neu osod ar waith, raglen gynhwysfawr o foderneiddio, ac ad-drefnu, daliadau amaethyddol y stâd, a hynny yn Llanllechid a Llandygai. Erbyn ei farw yn 1882, byddai ein taith trwy hendref Llanllechid yn rhoi darlun gwahanol iawn inni o’r ardal i’r un a wnaethom ddeugain mlynedd ynghynt. Tyn Cae a’i ddwy, neu dair, acer, fyddai’r unig ddaliad bychan fyddai’r aros. Yn ogystal â’r tiroedd a aeth i’r parc newydd, ( Dologwen, Maes y Penbwl, Glanrafon, Aberogwen ), byddai Tyddyn y Fertos wedi mynd, a Chae’r Ffos, Tyddyn y Ceiliog, Gweirglodd Needham, Gweirglodd Hir, Gweirglodd Newydd, Gweirglodd y Wern, Pencoed, Ysgubor Newydd, Pencoed, ( fel tyddyn ). Pwll Budr, Cefnfaes, Cefnfaes Newydd, Wern Porchell, Winllan, Ty Gwyn, ( fel fferm ), Cae Mawr ( fel fferm ), Tyddyn y Lôn, Tan y Lôn ( fel tyddyn), Tyddyn y Fertos, Cae Coch, Tyddyn, Tyddyn Maes y Groes, Tyddyn Cwta, yn ogystal a’r rheiny lle codwyd tai arnynt, sef Cae Gwigyn a Dolhelyg. Parhaodd Ty Gwyn, fel ty moel, yn dy i un o giperiaid niferus y stâd, er, mae’n sicr, nad ty yr hen ddaliad oedd hwn, ond un ai yr hen Dyn Hendre, neu dy newydd, gan fod y Ty Gwyn presennol ar ochr wahanol i Nant y Garth i’r hen ddaliad. Diflannu, hefyd, wnaeth Pencoed, hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif, a pharhaodd Cae Mawr yn dy moel. Cadwyd enwau Maes y Groes, Dolhelyg, a Chae Gwigyn yn y tai moel a godwyd ar y tir, a pharhaodd enw Cefnfaes trwy lwc y tenantiaid, ond ym Methesda y bu hynny. Fe gadwyd ambell enw mewn nodwedd ddaearyddol ar fap, megis Coed Wern Porchell, Coed Cefnfaes, Cwlfert Pwll Budr, a Marian y Winllan.

Am y gweddill, collwyd hwy i gyd, a diflannodd hanes ardal, diflannodd enwau fu yno, mewn ambell achos, ers canrifoedd, i gyd yn enw cynnydd, ac, yn lle’r clytwaith a fu, dim ond rhyw haner dwsin o ffermydd sylweddol, gyda chaeau mwy o lawer, sydd bellach lle bu hendref Llanllechid, ac nid erys yr hendref ar gof na llafar, ar wahân yn enw’r hen ddaliad y cedwir ei enw yn fferm newydd James Wyatt, Tyn Hendre, ond does fawr neb bellach yn deall pam fod ‘hendref’ yn enw’r fferm honno.
Mapiau o’r hendref tua 1838 (Dylid edrych ar y 3 map fel un ardal gyfan)
Sylwer!
Brasluniau yw’r rhain, nid mapiau manwl Nid ydynt wedi eu llunio i raddfa, ond mae pob daliad yn berthnasol i’w gilydd, o ran lleoliad Ni ddangosir maint y daliadau gwahanol, dim ond nodi ble mae tir pob daliad; wrth reswm, mae rhai yn fwy o lawer na’r lleill. Nodir maint pob daliad yng nghorff y sylwadau Ni nodir tiroedd pob daliad; yn hytrach nodir yr enw ble mae’r rhan fwyaf o dir y fferm/ tyddyn



Ffynonellau
Papurau’r Penrhyn
Arolwg RA Leagh o diroedd y Penrhyn 1768
Map Ffermydd Llanllechid 1822
Cynllun Ad-drefnu Daliadau Llanllechid a Llandygai James Wyatt 1843
Arolwg Degwm 1838 – 1840
Cyfrifiad 1841/51/61/71/81/91
The State of Economy and Agriculture in North Wales Parch Walter Davies 1815
Medieval Anglesey Tony Carr
Historical England.org
G. E. Mingay (ed.) (1977), The Agricultural Revolution: Changes in Agriculture 1650–1880
British History Online