Awdur: Dafydd Fôn Mai 2020 ymlaen
Perchnogaeth y tir
Mae hi’n arferol meddwl am Ddyffryn Ogwen i gyd yn eiddo i’r Penrhyn, ond, yn 1760, nid oedd y sefyllfa cweit mor syml â hynny, yn Llanllechid, o leiaf. Roedd Llandygai i gyd, fwy neu lai, yn eu dwylo, a hynny am fod y stad wedi ei sefydlu ar y gafaelion oedd yn ffurfio’r drefgordd yn y Canol Oesoedd, ( ‘gafael’ = yr enw canoloesol ar dir etifeddol oedd yn eiddo i deulu penodol o genhedlaeth i genhedlaeth, ac yn rhan o diroedd mwy y teulu), ond roedd pethau ychydig yn wahanol ym mhlwyf Llanllechid. Roedd y tiroedd yno oedd yn perthyn i’r Penrhyn – y rhan fwyaf, mae’n wir dweud – yn wreiddiol yn eiddo i hen stâd Cochwillan, oedd wedi bod yn gysylltiedig i’r Penrhyn, (sefydlwyd y ddwy stâd gan ddau frawd yn y 14 ganrif), yn annibynnol arni, wedyn, ac yn rhan ohoni eto. Roedd y rhan fwyaf o hynny yn yr hendre, sef yr ‘hen fferm’, neu’r ‘fferm ble mae’r cartref’; yn yr achos hwn y tir sydd rhwng y bronnydd a’r môr ( Dyna pam y cafodd Tyn Hendre ei enw.) Fodd bynnag, yn 1770, roedd stad Coetmor yn uwch i fyny’r plwyf yn y dyffryn yn berchen ar nifer o ddaliadau, gyda J Coytmore Pugh – oedd yn Uchel Siryf y Sir yn 1776 – yn dirfeddiannwr. Y fo oedd piau Coetmor, ffermydd Coed a Tai’n Coed, Pant Hwfa, Tyn Fffridd, Pandy, Llwyn Bleddyn, Parc y Moch, Tyn Hendre, Cae’r Ffos, ac Ysgubor Newydd. Wedyn yr oedd stad fechan teulu Williams Tan Bwlch, oedd yn berchen ar eu cartref, yn ogystal â Chiltrefnus, Cae Gronwy, Dôl Ddafydd, Glanrafon, Cae Bod a Chae Gwigyn. Roedd tyddyn 30 acer Caellwyngrydd yn perthyn i un o’r ddwy stad olaf, cyn iddo gael ei adeiladu arno yn gynnar. Ac yna roedd na rai daliadau oedd yn nwylo unigolion – Cilfodan (Uchaf ac Isaf) Llwyn Penddu, Dôl Helyg, Gilfach, Llain, Bryn Eira. Ac roedd Plas Hwfa wedi ei waddoli gan yr Esgob Griffith Williams, Esgob Ossary yn Iwerddon, i dlodion Llanllechid ers canrif a mwy.
Erbyn 1860 roedd y sefyllfa wedi newid cryn dipyn, gan fod Penrhyn wedi prynu Cae’r Ffos yn 1802, Ysgubor Newydd yn 1803, a gweddill Stad Coetmor yn 1855.
Gan fod pob llathen o dir ym mhlwyf Llandygai yn nwylo’r Penrhyn, yr unig ddaliadau yn Nyffryn Ogwen nad oeddynt yn eu dwylo ar ddiwedd y cyfnod dan sylw oedd ychydig ym mhlwyf Llanllechid, sef Plas Hwfa, tiroedd stâd Tanybwlch, Llwyn Penddu, Gilfach, Dolhelyg, Cae Gwigyn, Cilfodan, a (rhwng Caseg a Phen Braich, Gwern Saeson Fawr, Ty Slates a’r Tyddyn Du. Gyda llaw, erbyn canol y 19eg ganrif, byddent yn dod i edifarahau’n ddirfawr nad oedd Cilfodan yn eu meddiant, ond stori arall ydy honno