Ambell Fferm: Gwaen y Gwiail

Dafydd Fôn Chwefror 2021

Mae mwy o wybodaeth am Waen y Gwiail yn y safwe Enwau Dyffryn Ogwen.

Cyhoeddwyd yr ysgrif, y mae’r ddalen hon yn rhan ohono, yn wreiddiol yn Y Drych, papur wythnosol Cymraeg Gogledd America, rhifyn 21 Mai 2014. Yr wyf yn ddiolchgar i Dewi Owen Jones, Rhosmeirch, am dynnu fy sylw ati; mae Dewi yn hanu o deulu a fu’n byw yng Ngwaun y Gwiail.

Awdur yr ysgrif

Ganed David John Evans yng Ngwaun y Gwiail ym Mai 1848, yn drydydd mab, a phedwerydd plentyn, i John ( 57 oed ) a Catherine ( 40 ). Er fod yr awdur yn disgrifio bywyd ar fferm, mae’r tad yn cael ei ddisgrifio, yng Nghyfrifiad 1861, fel ‘Quarryman‘, ac mae ei fab, David, yn dweud mai fel dyn gwael yr oedd yn cofio ei dad, oherwydd ei fod wedi cael damwain fawr yn y chwarel. Wrth gwrs, roedd y tad yn eithaf hen pan oedd yr awdur yn blentyn, hefyd, a byddai hyn wedi ychwanegu at argraff y mab o’i dad. O Gapel Garmon yn Nyffryn Conwy yr oedd y tad wedi dod, i’r chwarel, mae’n sicr, ond un o blwyf Llanllechid oedd ei fam, Catherine. Yn 1861, yr oedd David yn gweithio yn y chwarel. Erbyn 1880, yr oedd David John wedi gadael Dyffryn Ogwen a Chymru, am Ogledd America, ac yn byw gyda’i deulu yn 215 Washington Avenue, Bangor, Pennsylvania, ac yn gweithio fel ‘slater‘; er fod hyn, yn arferol, yn golygu ‘towr’ mae’n debyg, o gofio ei genfdir yn Nyffryn Ogwen, ei fod yma yn golygu ‘chwarelwr profiadol’, neu’n fwy tebygol fyth, ‘holltwr a naddwr llechi’. Mae’n amlwg ei fod wedi ymfudo ers rhai blynyddoedd, gan fod ei ferch hynaf, Meriam, oedd yn 6 oed, wedi ei geni ym Mhensylvania. Doedd pethau ddim yn dda yn Chwarel Braich y Cafn yn nechrau’r 1870au – gostyngwyd cyflogau yn 1871, gyda’r esgus fod dirwasgiad yn y diwydiant llechi. Nododd y Liverpool Mercury yn 1874 ‘ Wages in the Penrhyn Quarry are perhaps the lowest in North Wales, while the profits are the highest‘. Arweiniodd yr holl sefyllfa at streic yno yn 1874. Roedd y sefyllfa yn debyg ym mhob ardal chwarelyddol yn y Gogledd, ar wahân i Flaenau Ffestiniog, ac roedd tynfa amlwg, dan amodau fel hyn, i Ogledd America, yn enwedig i’r ardaloedd chwarelyddol newydd oedd yn datblygu yno. Roedd yno waith parod, a chyflogau da ( llawer gwell na chyflogau Cymru – hyd at ddwbl y cyflog dyddiol) i chwarelwyr profiadol fel David John, ac fe welir pam y bu iddo fentro. Roedd y wasg Gymraeg, ac, yn enwedig, llythyrau adref gan berthnasau a ffrindiau, yn clodfori’r sefyllfa yn y diwydiant, ac yn denu dynion ifanc anturus. Roedd y diwydiant, at ei gilydd, wedi ei sefydlu gan Gymry, ac yr oedd croeso i chwarewyr profiadol efo sgiliau yn y chwareli newydd, hyd yn oed yn yr 1870au, pan nad oedd pethau cystal yn y diydiant llech ag yr oeddynt wedi bod ynyr 1850au a’r 1860au. Beth bynnag y rheswm, mynd wnaeth David John. Efallai iddo ymfudo yn fuan ar ôl priodi, gan fod ei wraig, Catherine, hefyd yn enedigol o Gymru. Ar y llaw arall, gan na lwyddais i ddarganfod cofnod o’r briodas, gallai fod wedi priodi merch yr oedd ei theulu, hefyd, wedi ymfudo o Gymru. Mae enw’r dref yn dangos yn glir mai ymfudwyr o Gymru a’i sefydlodd, ac mae Cyfrifiad 1880 yn dangos fod nifer o Gymru yn byw yn yr un stryd â David John a’i deulu – yr oedd y cymdogion ar y ddwy ochr wedi eu geni yng Nghymru, ac yr oedd mwyafrif helaeth dynion y stryd yn gweithio yn y chwareli lleol. Bu farw David John Evans ym Mangor, Penn, Mai 15ed, 1932, yn 85 neu 86 oed ( Ni ellir bod yn sicr am union ddyddiad ei eni ym Mai 1847), a chladdwyd ef ym mynwent Sant John yn y dref. Mae’n amlwg, o’i atgofion yn Y Drych, nad oedd wedi anghofio ardal ei blentyndod, ac yn cofio’r cyfnod hwnnw yng Ngwaen y Gwiail yn hollol glir, er iddo adael ddeugain mlynedd ynghynt.

GWAENYGWIAIL YN YR HEN AMSER. Gan D. J. Evans, Bangor, Pennsylvania  

Cadwyd at orgraff y gwreiddiol, ond y fi biau’r penawdau

Gwaenygwiail

Enw ydyw Gwaenygwiail ar dair o ffermydd mynyddig yn mlwyf Llanllechid ryw filldir tu uchaf i Bethesda, ac yn agos i droed Carnedd Llewelyn. Gorwedda rhwng dwy afon; afon Gaseg ar y chwith, ac afon Lafar ar y dde; y mae yn debyg i’r llythyren V. Y mae y terfyn isaf ychydig islaw pont Gwaen-y- gwiail, lle y mae y ddwy afon yn rhedeg i’w gilydd, a’r terfyn uchaf yn clawdd y mynydd, yr hwn sydd yn rhedeg ar draws o’r naill afon i’r llall, yn ngwaelod Cwmpenllafar. Yr oedd y tai yn lled agos i’r gwaelod. Heblaw y tai ffermydd, yr oedd yno yn yr hen amser bedwar neu bump o dai eraill, fel rhwng y tai, yr ysguboriau a’r beudai. Yr oedd yn rhyw fath o bentref bychan, a’r cwbl fel y twr ser yn ymyl eu gilydd heb reol na threfn. Yr un modd hefyd y caeau a’r ffriddoedd, yr oeddynt blith drafflith; cae yma yn perthyn i un fferm, a’r cae nesaf ato i un arall. Y mae yn anhawdd gwybod paham yr oeddynt wedi eu rhannu felly, os nad er mwyn rhyw fath o amrywiaeth, a’r amrywiaeth hwnnw er mwyn unoliaeth. Gan belled ag yr wyf fi yn cofio, yr oedd hen drigolion y Waen yn hynod unol a llawer o bethau yn gyffredin rhyngddynt. Yn ôl hen draddodiad yr oedd Gwaenygwiail yn un o’r aelwydydd uchaf, os nad yr uchaf yn Nghymru.

Y rhai oeddynt yn dal y ffermydd yn yr hen amser oeddynt fy nhad, Sion Rolant a William Griffith.

Y teuluoedd eraill oeddynt William Robert (Will Gwaun), Sion Owen a Griffith Dafydd.

Y Ty

Yr oedd ein ty ni a thy Sion Rolant yn hen dai, yn ôl traddodiad yr oeddynt tua thri chant oed; y tan ar lawr a simdda fawr a chadwyn yn hongian yn ei chanol a bachau wrth honno i ddal pethau uwch ben y tan, ac y mae yn ddiameu mai oddiwrth hyn y daeth yr hen ddywediad “huddugl i botes;” ac aml y gwelais hyny yn cymryd lle yn llythrennol. Yr oedd agos i haner y mur ar un ochr yn un garreg a gwyneb llefn ganddi, y mae sut y cawsent hi yno bron gymaint o ddirgelwch a’r modd y cawsant y meini mawrion i byramidiau yr Aifft gynt. Un rhimyn oedd yr hen dy, ond fod yno ddau gwpwrdd—un bob ochr, a’r rhai hynny er mwyn ei wneud yn rhyw fath o ddwy ystafell. Pridd oedd y llawr, ac ar wlaw byddai y defni yn disgyn mewn amryw fannau. Beth bynnag am anfanteision yr hen lawr pridd, yr oedd un fantais ynddo i ni y plant, pan y byddai yn glawio gormod i ni fynd allan i chware, gallem chware marblis tri twll ar yr hen lawr. Byddai y goleuni yn gorfod gwneud ei ffordd i mewn trwy ddwy o ffenestri bychain, un yn y siambr a’r llall yn y tŷ; a’r ddwy yn gwynebu tua’r gogledd, fel na byddai pelydrau yr haul bron byth yn eu taro. Tua diwedd y flwyddyn byddai raid casglu mwsogl i’w roddi yn y tyllau yn y muriau a’r to. Byddai raid i ni hefyd gau cefn y tŷ â drain rhag i’r defaid fynd i’w ben yn y gaeaf; byddai glaswellt da yn tyfu ar ben yr hen dy, ac yn aml byddai y defaid yn neidio i fyny i’w bori, a phan y byddent yn cael eu hel oddi yno, byddai eu twrw yn rhedeg ar y to fel twrf taranau lawer. Wrth fod yr hen dy mewn pant a cham neu ddau i fynd i lawr iddo, ar wlawogydd byddai y dwr fel llifeiriant yn dyfod i mewn, a chan mai y siambr oedd y lle isaf, yno y byddai y dwfr ddyfnaf, ond ni byddai byth yn codi yn uwch na rhyw ddwy droedfedd, oherwydd yr oedd yno ddigon o dyllau iddo fynd allan. Wrth fod fy nhad wedi adeiladu rhyw ddarn croes wrth yr hen dy, yno y byddai ef a mam a’m chwiorydd yn cysgu a ninnau y bechgyn a’r gwas yn yr hen siambr, a phan ddeuai y llifddyfroedd, byddai raid i un ohonom godi a myned allan i atgyweirio ffos gorddi William Griffiths, a bron bob amser i ran William, fy mrawd hynaf, y byddai hynny yn disgyn, ac wedi iddo ef agor y drws, y pryd hynny y byddai y diluw yn dyfod i fewn yn ei lawn rym, a byddem ninnau ar ein hyd yn y gwely a’n pennau drosodd, yn gwylio y naill beth ar ol y llall yn myned yn ôl a blaen o dan y gwely, a byddwn bob amser yn eu cymryd yn llongau. Os bydd rhai yn barod i ofyn i ba ddiben yr wyf yn ysgrifennu cymaint am yr hen dy, efallai na wna niwed yn y byd i’r oes sydd yn codi i wybod yn mha fath leoedd a than ba amgylchiadau y mae rhieni llawer ohonynt wedi eu dwyn i fyny yn Nghymru.

Griffith Jones

Yr hynaf o drigolion y Waen, yr ydwyf fi yn eu cofio ydoedd Griffith Jones, tad William Griffith. Yr oedd fy nhaid, William Williams, wedi marw cyn i mi ei gofio. Byddent yn ei alw ef yn twrna y Waen. Y mae dau hanes am dano yn awgrymu ychydig am ei gymeriad yn y cyfeiriad hwnnw. Un bore aeth Griffith Jones at fy nhaid i ddweud wrtho fod y gaseg winau wedi bod yn y cae a’r cae y noswaith gynt, a bod ei hol yno ddeuddeg o weithiau. “O,” ebai William, “gyfrist ti nhw, do, Griffith ?” Y llall ydyw iddo yn ei hen ddyddiau fynd i’r seiat i’r Carneddi, ac i’r hen flaenor, William Jones, Abercaseg, feddwl ei fod dan effaith diod ac anfon Robin Cae Asaph ato i fynd ag ef allan. Wrth fynd allan dywedai William Williams wrth William Jones, “Dyna dy eitha’ di, Will; os medri di gau y drws yma rhagof fedri di ddim cau drws y nefoedd,” ond fe agorodd drws y Carneddi i’r hen ŵr wedi hynny.

Fe arhosodd Griffith Jones, fy nhaid, fel y mae gennyf gof da am dano ef. Yr wyf yn ei gofio yn hen ŵr cryf am lawer o flynyddau. Yr oedd yn grefyddol, a byddai bob amser yn arfer gofyn bendith ar y Swydd a chadw dyletswydd. Buom yno lawer gwaith pan y byddai yn gofyn bendith ar yr uwd neu’r llymru gyda’r nos, a byddai bron bob amser yn gwneud hynny a’i lygaid yn agored, ac yn codi yr uwd neu’r llymru i’r bowlen ar yr un pryd. Y mae hanes iddo rai troeon dorri y weddi ar y ddyletswydd deuluaidd yn fyr. Un bore gyda ei fod wedi dechrau ar y weddi daeth Wm. Thomas, Llwynhandi (Will Gogerddan) i fewn a dywedodd yn ddistaw wrth y mab, William Griffith, “Wil, lle y mae y cŵn, y mae yna ddyfrgi yn llyn Nan’cae- bach;” ond er mor ddistaw, fe glywodd yr hen ŵr, ac fe roes i ben ar y weddi gyda dweyd trwy “lesu Grist, Amen.”, ac ar yr un anadl gwaeddi “Wil, lle mae Ment? Ment, Ment, Ment.” Amgylchiad arall barodd iddo dorri y weddi yn fyr oedd pan yr oedd y gwas yn pasio y tŷ gyda llwyth o fawn. Wedi iddo fynd yn hen yr oeddynt wedi cael ganddo adael i’r gwas nol y mawn o’r mynydd ar yr amod iddo yntau gael myned a hwy i lawr i’r lleoedd y byddent wedi eu gwerthu; ond fel yr oedd yn heneiddio ac yn gwaelu yr oeddynt yn anfoddlon i ymddiried hynny iddo, a byddent yn trefnu i’r gwas fod yn barod gyda’r llwyth mawn ac i basio y tŷ tra y byddai’r hen ŵr ar ei liniau; ond un bore gyda’i fod wedi dechrau ar ei weddi, fe welai y gwas yn pasio gyda’r mawn a chan dorri pen ar y weddi gwaeddai “Bestat i’r boy acw yn mynd a’r mawn i lawr!” Yr oedd gennym fel bechgyn feddwl mawr o’r hen Griffith Jones fel dyn duwiol, ac yr wyf yn cofio yn dda y diwrnodau cyntaf wedi iddo farw, fod pedwar neu bump ohonom ar noswaith dywyll yn myned adref o Bethesda, ac wedi pasio y Gwernydd, nid oedd yno dai wedi hynny nes cyrraedd y Waen, pellder o tua chwarter milltir. Yr oedd hefyd yn lle hynod o dywyll a llawer iawn o fwganod a phob math o ysbrydion yno, yn enwedig tua phont Gwaenygwiail. Ar noswaith a grybwyllwyd, fel yr oedd yn ddigon naturiol, siarad yr oeddem am yr hen Griffith Jones, pob un ohonom yn ei dro yn adrodd rhyw atgofion am dano, fel y byddai yn cario gwair ar ei gefn o’r gadlas uchaf a llawer o bethau eraill; ond wedi cwrs o ymddiddan amdano, fe aethom yn hollol ddistaw, neb yn dweud gair, a cherddasom felly o leiaf am tua dau gant neu dri o lathenni pryd y darfu i un ohonom dorri ar y distawrwydd trwy ddweud “Yr hen greadur!” Ar hynny dyna’r hen ŵr a hynny yn ei lais digamsyniol ei hun yn gwaeddi “Peidiwch a theimlo dim drosta i,” ac os bu criw o fechgyn yn rhedeg erioed yr oeddem ni yn rhedeg y noswaith honno. Yr wyf yn cofio yn dda fel yr oedd arnaf ofn bod yn flaenaf nag yn olaf. Wrth gwrs, ni ddarfu i un ohonom yr adeg honno feddwl am yr un esboniad amgenach ar y llais ond mai llais Griffith Jones ydoedd.

%d bloggers like this: