Ambell fferm: Tyn Hendre

Wrth fwrw golwg ar restr Arolwg Degwm 1840 o ddaliadau waelod plwyf Llanllechid, ( yr hendref), mae Tyn Hendre yn sefyll allan fel ploryn unig, oherwydd mai dyma’r unig ddaliad o faint yn yr ardal honno nad yw’n eiddo i George Hay Dawkins Pennant. Perchennog Tyn Hendre yw uchelwr arall, sef Iarll Egmont. Roedd hwn yn aelod o deulu pwerus Percival, gyda chanolbwynt eu tiroedd yn Iwerddon a Gwlad yr Haf. Fodd bynnag, roedd yr Iarll yn berchen ar un ar bymtheg o ddaliadau o wahanol faint yn Llanllechid, i gyd, ar wahân i Dyn yr Hendre, o gwmpas pentref Llanllechid, a rhwng Lôn Coed ag afon Ogwen. Tiroedd oedd y rhain a fu, unwaith, yn perthyn i hen stâd Coetmor, cyn i honno fynd ar chwâl trwy orchymyn Llys y Siansri yn1801-2. Mae’n debyg i’r daliadau hyn yn Llanllechid ddod i ddwylo Iarll Egmont trwy briodasau gyda Wyniaid Coetmor, a phriodas yr Iarll ei hun gyda Jane Wynne o’r Wern.

Bid a fo am hynny, daliad gweddol fychan o 63 acer  ar y llethrau oedd Tyn Hendre yn 1840, pan oedd yn cael ei ffermio gan Richard Thomas a’i bartner. Oherwydd na fu yn rhan o diroedd Stâd y Penrhyn,  gyda’i chofnodion manwl o weithredoedd, mae’n anodd cael cyfeiriadau cynnar ati, ar wahan i fap amlinellol o’r daliad yn 1786,’ belonging to James Coytmore Pugh’. ( sef perchennog Stad Coetmor).

Yn ôl map Arolwg Degwm 1838-40, dangosir Tyn Hendre yr ochr ddeheuol i Nant y Garth, yr ochr arall i leoliad ty ac adeiladau Tyn Hendre heddiw, gyda fferm sylweddol Ty Gwyn yr ochr honno – yr ochr ogleddol. Roedd adeiladau a thy Tyn Hendre yng nghanol y caeau o dan ble mae Ty Gwyn heddiw. Yn ôl Cyfrifiad 1851 roedd Tyn Hendre yn dri daliad, un yn 20 acer, un arall yn 26 acer, a’r olaf yn 10 acer, yn cael eu ffermio gan dri theulu gwahanol. Beth bynnag, roedd tro ar fyd ar ddod i’r fferm. Erbyn 1848, fel holl ddaliadau Iarll Egmont yn y plwy, roedd wedi mynd i ddwylo’r Penrhyn, ac, fel rhan o ad-drefnu tiroedd y stâd, gwnaed newidiadau mawr i’r fferm. Penderfynwyd gwneud un fferm fawr o nifer o ddaliadau canolig ,a bychain o’i chwmpas, a’u huno o dan enw Tyn Hendre. Roedd hen fferm Winllan ar y llethrau, yn ddaliad o 52 o aceri. Yn Nhachwedd 1855 nodir yn Llyfr Rhent y Penrhyn land added to Tyn Hendre, a diflannodd Winllan am byth ( Erys ei henw yn y goedlan garegog, Marian y Winllan, sef y cyfair coed sy’n cario’r un enw heddiw, ac a roes ei enw i Tan y Marian, a adeiladwyd ar y llethrau odditani ). Mae teulu Hugh Hughes yn ei ffermio yn ôl Cyfrifiad 1851, ond nid oes son am Winllan ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Y fferm fwyaf ar derfyn Nant y Garth, yr ochr arall ‘r ffordd i Dyn Hendre,  oedd Tŷ Gwyn,( neu Cae Gwyn ) fferm 143 acer, yn ymestyn o’r llethrau i lawr gwlad. Yn 1855 nodir yn y llyfr rhent land added to Tyn Hendre. Bum mlynedd cyn uno Tŷ Gwyn a Thyn Hendre, yn 1850, roedd rhan o hen dyddyn Tyddyn Fertos ( oherwydd dieithrwch y gair, mae sawl fersiwn o’r enw, pob un yn ddieithr ), wedi ei ychwanegu i diroedd Tŷ Gwyn. Aeth gweddill tir y tyddyn bychan i ddaliad arall, felly roedd Tyddyn Fertos, hefyd, bellach wedi diflannu.

Ble mae tai Tan y Lôn yn awr, roedd hen dyddyn bychan 10 acer Tyddyn y Lôn; yn 1855 nodir land added to Tyn Hendre and cottage let separately\

O Galan Gaeaf 1855 gostyngwyd rhent Talybont Public House oherwydd

Land added to Ty’n Hendre

Ychydig o’r tir oedd hyn, gan fod tir Talybont Isaf ( sef y Talybont Public House Y yn wasgarog, ond roedd y rhan fwyaf rhwng Groeslon ac afon Ogwen, a chryn dipyn o ffordd o DynHendre. Roedd Talybont Public House yn nhenantiaeth Henry Ellis, aelod arall o’r teulu lluosog, a brawd i Ellisiaid Cefnfaes, Roedd, hefyd, yn rhentu Cae’r Ffos a Thyddyn Cwta, dau dyddyn arall sydd wedi diflannu, ond nid i Dyn Hendre.

Yn 1855 fe brynodd y Penrhyn diroedd yr Iarll Egmont, sef hen diroedd Coetmor, a daeth tiroedd Tyn Hendre i ddwylo’r Penrhyn. Manteisiwyd yn sydyn ar hynny, gan ad-drefnu tiroedd i greu un fferm.Erbyn 1861 gwelir fod Tyn Hendre wedi tyfu’n sylweddol, yn fferm o 242 acer, ac yn cael ei rhedeg, ers ei ffurfio’n derfynol yn 1856, gan Sais 31 oed  ( yn 1861 ) o’r enw Charles Newcomb Bicknell, oedd yn enedigol o ardal Coventry. Er mai mab i was fferm oedd Bicknell, mae’n amlwg ei fod yn ffermwr galluog, oherwydd yn 1851, ac yntau ond yn 21 oed, ef oedd tenant fferm 260 acer Cae Mawr yn Llaniestyn, Ynys Môn, ar stâd Bulkeleys, Baron Hill . Pan groesodd y Fenai, roedd yn talu rhent, o dan yr enw C Bicknell and Son, o £320 y flwyddyn am Dyn Hendre. Ymhen ychydig, yr oedd Bicknell, hefyd, yn arwerthwr, gyda swyddfa ym Mangor.  

Yn ôl cynlluniau rheolwyr Stâd y Penrhyn, er y byddai Tyn Hendre yn fferm arferol yn ei hanfod, fe’i bwriadwyd, yn benodol,  i arbenigo mewn magu ceffylau, yn gobiau, ceffylau gwedd, a cheffylau tynnu coetsys a marchogaeth, gyda’r ceffylau at ddefnydd ffermydd cyfagos, y stâd yn gyffredinol, a theulu’r Penrhyn eu hunain. Hi fyddai bridfa a magwrfa ceffylau Stâd y Penrhyn. Yn unol â’r bwriad, erbyn 1862, fe welir fod £20 o rent y fferm yn cael ei dalu gan The Penrhyn Home Farm; hynny, mae’n sicr, i adlewyrchu’r magu ceffylau ar gyfer y stâd a ddigwyddai yno. Ai Bicknell, ai arbenigwr o’r `Home Farm’ oedd yn gyfrifol am fagu’r ceffylau, ni wyddom.

Yn ogystal ag uno’r tiroedd, oddeutu 1860, fe gododd y stãd adeiladau newydd ar gyfer y fferm, yn ogystal â thŷ newydd, gyda’r cyfan i fod yn fodel o fferm.

Mae’r ty wedi ei adeiladu gryn bellter ( 70 medr ) oddi wrth yr adeiladau amaethyddol, sy’n eithriad, hyd yn oed, i fferm fodel. Noda safwe Adeiladau Cofrestredig Llanllechid mai’r rheswm am hynny oedd fod y fferm a’r ty yn cael ei bwriadu ar gyfer un o swyddogion Stad y Penrhyn, ac na fyddai am gael y ty ger yr adeiladau amaethyddol. Fodd bynnag, ni welais gofnod o Bicknell yn un o swyddogion y stad. Tybed a oedd rheswm arall am y pellter rhwng y ty a’r adeiladau fferm? Yn ôl map y stad 1822 dangosir ( ond nid enwir ) dau dy fferm ar ochr ogleddol y ffordd, yn fras ble mae ty ac adeiladau Tyn Hendre heddiw. Mae’n debyg mai adeiladau Ty Gwyn yw’r rhain, gan y dangosir adeiladau Tyn Hendre yn y caeau ar draws y ffordd. Ni ddangosir unrhyw adeilad ble mae’r Ty Gwyn presennol, yr ochr arall i’r ffordd i fyny Nant y Garth. Tybed nad adeiladwyd ty Tyn Hendre ar safle un o’r ddau dy yma, a’r adeiladau ar y llall, sy’n cyfrif am y pellter rhyngddynt. Yna adeiladwyd ty newydd Ty Gwyn yr ochr arall i’r ffordd, tra chwalwyd hen adeiladau Tyn Hendre. Ty ar gyfer un o giperiaid y Stad oedd Ty Gwyn i fod. Yn 1861, Richard Butler, Gamekeeper, a aned yn Swydd Rhydychen, oedd yn byw yno. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, cipar arall o Sais oedd yno, dyn o’r enw Gumbelton. 

Mae tŷ newydd Tyn Hendre ar batrwm lled-Gothig, patrwm a ddefnyddiwyd yn gyson gan  y Penrhyn ar gyfer ei hadeiladau yn ail hanner y 19 ganrif, ar ffurf H, deulawr, gydag adeiladau allan ar ffurf L ynghlwm yng nghefn y ty.

Mae’r adeiladau amaethyddol wedi eu cynllunio a’u hadeiladu yn ôl cynlluniau modern yr oes, gyda’r pwrpas o fod yn ymarferol, hawdd gweithio ynddynt, a’u cynnal, yn gadarn a chymesur, ac yn hawdd gweithio yn eu gofod. Er y cafodd beudai, ysgubor, a thylciau moch eu codi, y prif adeiladau oedd y stablau ar gyfer ceffylau.

Adeiladau cymesur ydynt, wedi eu trefnu’n 4 ochr o gwmpas cowt sgwar, gyda thoeau o lechi, wedi eu hawyru. Mae beudai’r gwartheg ar yr ochr orllewinol, gyda stablau’r ceffylau ar hyd yr ochr ogleddol, a hanner yr ochr ddwyreiniol.

Mae gweddill yr ochr ddwyreinol wedi ei neilltuo ar gyfer gofod i gadw troliau ac ati, tra uwchben y stablau mae’r llofftydd granar. Mae’r cyfan yn dangos obsesiwn oes Fictoria efo trefn a chynllun., ac yn sicrhau, yn yr achos hwn, ofod trefnus, hawdd gweithio ynddo, a chysur i’r anifeiliaid, yn enwedig y ceffylau gwerthfawr.  O 1840 ymlaen bu Stad y Penrhyn yn fwriadol wella’r stad, ac, ym mhapurau’r Penrhyn, erys cynlluniau ar gyfer adeiladau amaethyddol i ffermydd o wahanol faint.  Mae’r adeiladau hyn yn dangos y fformiwla oedd gan reolwyr stâd y Penrhyn ar gyfer eu ffermydd mwyaf, a gwnaed adeiladau newydd i sawl fferm ar y patrwm. Rhyw ddeng mlynedd ar hugain wedi codi adeiladau TynHendre, yn nechrau’r 1890au, fe adeiladodd y stâd eu hadeiladau amaethyddol olaf yn eu cynllun gwelliant, sef adeiladau fferm Tai’r Meibion, ac y mae’r rhain, ar wahân i’r diffyg pwyslais ar y stablau, ar yr un cynllun ag adeiladau Tyn Hendre. Oherwydd fod yr adeiladau hyn wedi profi’n hynod o ymarferol a defnyddiol , ynghyd â chadarn eu hadeiladwaith, dros y blynyddoedd, ni fu fawr ddim newid arnynt, ac, oherwydd eu bod mor agos i’r gwreiddiol, y mae adeiladau amaethyddol y ddwy fferm, yn ogystal ã’r tai,  wedi eu rhestru.

Er mai Sais oedd  preswylydd cyntaf  Tyn Hendre, yn õl i ddwylo Cymry y daeth yn weddol fuan. Bu Bicknell farw yn ŵr gweddol ifanc 46 oed yn 1876, a daeth Owen Ellis i  Dyn Hendre. ( Gweler Teulu Ellis Llanllechid). Mab oedd ef i un o feibion Cefnfaes, Henry Elis, Talybont Inn, un a oedd wedi ei eni yn Nhalybont,wedi cael addysg yn Lloegr, ac yn ariannwr, ond wedi dychwelyd i’r plwy, ac wedi priodi merch Aberogwen a ffermio. Bu ef farw’n weddol ifanc, ond ei deulu ef fu’n ffermio Tyn  Hendre am ddegawdau wedi hynny.

Fel ôl-nodyn, rhag ofn i rywun gael darlun o luchio tenantiaid druan ar y clwt wrth uno daliadau i greu Tyn yr Hendre yn 1855, rhaid dweud nad felly y bu. Yn wahanol i nifer o stadau, roedd gan y Penrhyn yr enw o fod yn dda gyda’u tenantiaid amaethyddol, os oedd y rheiny’n ffermwyr effeithiol ( ac yn ufudd, mae’n sicr!). Dyna fu yn yr achos hwn. Rhoddwyd tenantiaeth ffermydd mwy i’r ddau ffermwr a gollodd eu ffermydd wrth greu Tyn yr Hendre. Aeth Huw Hughes a’i deulu o Winllan i  Grymlyn, lle disgrifir ef yng Nghyfrifiad 1861 fel farmer of 100 acres, a rhoddwyd tenantiaeth Pant y Cyff, plwyf Llandygai, i Thomas Jones wedi iddo ef a’i deulu adael Tÿ Gwyn.

Erbyn heddiw, erys Tyn Hendre yn un o brif ffermydd yr ardal, ac erys yr adeiladau a adeiladwyd mor gadarn. Fodd bynnag, nid ceffylau, ond pobl, sy’n cael swcr yno heddiw, a hwy sy’n troedio’r stablau a fu unwaith yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Stâd y Penrhyn yng nghanol Oes Fictoria.

Ffynonellau

Dogfennaeth y Penrhyn yn Archifdy Prifysgol Bangor, yn enwedig Llyfrau Rhent

Ystadegau Cyfrifiad 1841 – 1911

Cofnodion Geni, Priodi, a Marwolaethau Dosbarth Bangor

Gwefan  ‘British Listed Buildings’

Cynlluniau Cyngor Gwynedd i restru pentref Llanllechid

%d bloggers like this: