Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid 1760 – 1860 Rhan 6 Natur y tir amaethyddol 1760

Nid oes angen dweud fod amaethwr yn ffermio’r tir sydd dan ei draed, a bod ei gynnyrch, a natur ei ffermio,  yn ddibynnol ar ansawdd y tir hwnnw. Er y gellir gwella tir, er mwyn uchafu’r cynnyrch traddodiadol, neu er mwyn tyfu cnydau gwahanol, ychydig iawn o hynny oedd wedi digwydd yn Llanllechid ar ddechrau’r cyfnod dan sylw, oherwydd amgylchiadau, gallu, na symbyliad. Cyn dyfodiad Pennant i’r Penrhyn yn 1767, yr oedd y stâd wedi bod yn nwylo landlordiaid absennol am dri chwarter canrif, landlordiaid â’u hunig ddiddordeb yn eu tiroedd yn Llanllechid oedd y rhenti. Doedd gwella’r tiroedd a’r daliadau ddim yn gonsyrn o gwbl iddynt. Canlyniad hynny, yn amlwg, oedd diffyg symbyliad, hefyd, ar ran y tenant. Yn ôl trefn y cyfnod byddai unrhyw welliant a wneid i fferm gan y tenant yn golygu codiad yn ei rent, ar sail y ffaith fod y fferm, oherwydd y gwelliannau, yn fwy o werth. Dim ond ffwl, felly, a fyddai’n rhoi croes ariannol ychwanegol iddo ef ei hun trwy wella ei dir. Ac, wrth reswm, doedd gan y mwyafrif llethol o’r tenantiaid mo’r modd i wneud unrhyw welliannau o sylwedd. Yn olaf, fe nodwyd mai diwydiant traddodiadol iawn oedd y diwydiant amaethyddol, ac, o’r herwydd, doedd y wybodaeth na’r gallu i wella eu tiroedd ddim yn rhan o gynhysgaeth y ffermwyr. Ychydig iawn o newid oedd wedi digwydd yn y dulliau amaethu a ddefnyddiai ffermwyr Llanllechid yn 1760, nac yn y tiroedd a amaethid ganddynt, ers canrifoedd. Diwylliant eu tadau a’u teidiau oedd diwylliant ffermwr 1760 yn gyffredinol. Roeddynt yn gwrteithio, wrth reswm, ond dim ond y gwrtaith traddodiadol a ddefnyddid, sef tail yr anifeiliaid, ynghyd ag ychydig o roi nitrogen i dir, trwy gyfrwng clofer a phlanhigion pys, y sonnir mwy amdano yn nes ymlaen.

Arhoswn ychydig gyda’r tiroedd yr oedd ffermwyr Llanllechid yn ei drin yn 1760.

Fe ddywedais eisoes mai ychydig o newid oedd wedi bod yn y tir ers y Canol Oesoedd. Roedd y tir cynhyrchiol eisoes wedi ei amgau, ond roedd y gweddill yn agored, am nad oedd yn dir âr. Yn ôl enwau caeau Llanllechid 1768, roedd rhan fawr o’r plwyf yn dir gwlyb, neu’n dir gwael. Gwelwyd rhai enghreifftiau eisoes. Mi fanylwn ychydig rwan. Mae’n amlwg fod enwau megis Cors a Tir Gwlyb yn dangos natur gwael y tir – ac mae nifer o’r rheiny yma. Roedd Cors y Cefnfaes yn yr hendre yn 29 acer, tra’r oedd 19 acer o ddaliad 36 acer Pwll Budr gerllaw yn dir gwlyb. Mi fedrwch weld y pwll o hyd ar dir Glan y Mor Isaf, ger Traeth Lafan.

Yr Hendre ar dywdd gwlyb

Edrych i lawr ar safle hwn dyddyn Pwll Budr yn yr hendre; mae’r pwll yn dal yno heddiw, ac i’w weld yn gliriach ar dywydd gwlyb. I ochr Aberogwen o’r coed ar lan Traeth Lafan mae cwlfert yn rhedeg i’r môr; ar fap dangosir ef fel Cwlfert Pwll Budr

Roedd na Gors Bach o 22 acer ar dir Corbri, a Chors Bach 12 acer ar dir gwaelodol Maes y Penbwl ger Aberogwen, ac roedd na sawl cors arall yn y plwy. Arwydd amlwg arall o dir gwlyb yw’r enwau Gwern a Gwaun a Rhos, ac roedd nifer fawr o’r rheiny ar diroedd ffermydd Llanllechid, a hynny ym mhob rhan o’r plwy. Roedd Wern Fawr Bryn Eithin yn 30 acer, a Gwern Talybont yn 10. Roedd dros 300 acer o dir y telid rhent amdano gan denantiaid Llanllechid yn dir gwlyb, na ellid dim ohono ond ychydig borfa.

Ond, eto, yn ol Gwallter Mechain

Streams of water are never disturbed by being turned out of their ancient courses

A dyma ichi Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid yn nodi, hanner canrif yn ddiweddarach

Ac nid oedd ymdrech i sychu’r tir; yn wir, nid oedd ymdrech i ail-gyfeirio frydiau er mwyn gwella darn o dir, neu wneud un cae yn fwy.

Mae amlder enwau pellach, megis Morfa Mawr, Allt Eithin, Gwinllan Fawr, Ysgithre, Cae Eithin, Ffridd, ac ati yn dangos fod rhannau helaeth o’r plwy yn anaddas i dyfu cnydau ynddo.

Ond roedd na dir âr pur ffrwythlon. Dyna pam y sefydlwyd Cochwillan ar yr hendre yn y Canol Oesoedd. Ac mae enwau’r caeau yn nodi ffrwythlondeb y tir.

Parhâu yn yr adran nesaf

%d bloggers like this: