Teulu Ellis, Llanllechid

Dafydd Fôn Tachwedd 2020

Fel pob ysgrif ar hanes, mae’r ysgrif hwn yn anorffenedig, ac yn dibynnu ar fwy o ymchwil, mwy o gwestiynau ( ac atebion ), a mwy o lwc. Mae’r ysgrif,fel ag y mae, yn orffenedig ar y cyfnod y darllennir ef yn unig.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth pellach, a chyd-destun dylid edrych ar erthyglau eraill, cysylltiedig, ar y safwe hon

Rhaid diolch o waelod calon am gael manteisio ar ymchwil Peter Ellis Roberts, a’i deulu, Hendref, Gwalchmai, er mwyn llenwi sawl darn o’r jig-so; mae Peter yn ddisgynydd uniongyrchol i Owen Ellis, Cefnfaes,  trwy Henry, a’i fab, Owen Ellis, Tynhendre

Does dim rhaid dweud mai teulu mwyaf dylanwadol ac enwocaf plwyf Llanllechid am ganrif a hanner oedd Pennantiaid y Penrhyn, a hynny oherwydd eu safle fel tirfeddiannwyr mawr yr ardal – yn berchnogion plwyf Llandygai i gyd, a’r mwyafrif llethol o blwyf Llanllechid. Ar un adeg, roedd tiroedd y plwy hwnnw wedi eu rhannu rhwng tair stâd, sef y Penrhyn, Cochwillan ( oedd yn nwylo eu perthnasau tan ganol yr ail ganrif ar bymtheg), a Choetmor, oedd wedi ei chanoli yn uwch i fyny’r dyffryn, ac yn nwylo Pughiaid Coetmor, hyd nes i‘r stâd honno fynd i grafangau Llys y Sianseri, oherwydd ymgyfreithio, ddechrau’r 19eg ganrif. Daeth ambell ddaliad o’r stâd hon, megis Cae Ffos yn 1802, i ddwylo’r Penrhyn pan fu raid eu gwerthu i ateb gwanc y cyfreithwyr yn Llys y Sianseri; fodd bynnag, yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif, yr oedd tiroedd Coetmor ym mhlwyf Llanllechid ym meddiant Iarll Egmont, tiroedd a ddaeth i’w feddiant ef, oedd yn dirfeddiannwr mawr yn Ne Lloegr ac Iwerddon, mae’n fwy na thebyg, yn dilyn ei briodas gyda Jane Wyn o’r Wern, oedd yn perthyn gwaed i deulu Pugh, Coetmor. Yn 1855 fe brynwyd tiroedd Egmont yn Llanllechid gan y Penrhyn, a daeth mwyafrif llethol daliadau’r plwyf i’w corlan. Ie, teulu’r Penrhyn oedd Y teulu pwysig yn Nyffryn Ogwen.

Ond roedd ‘na deulu arall pwysig yn Llanllechid, neu’n hytrach, deulu a ddaeth yn gynyddol bwysig yn ystod y 19 ganrif. Yn wahanol i fyddigion y Penrhyn, roedden nhw’n deulu o Gymry cynhenid, ac wedi bod yma ganrifoedd cyn y Pennantiaid, oedd yn bobol ddwad, hynod o lwcus; roedd y teulu cynhenid yn  llawer mwy niferus na theulu’r Penrhyn, oedd yn deulu niwcleaidd yn cysgodi yn eu castell ffug rhwng aberoedd Ogwen a Chegin, ac er mai tenantiaid i’r Penrhyn oedd y teulu cynhenid yn sylfaenol, oherwydd un strôc o lwc, daeth llawer o gyfoeth i lifo atynt o’r tai newydd oedd yn tyfu fel madarch ar lethrau’r Carneddau, oherwydd twf syfrdanol Chwarel Braich y Cafn. Y teulu hwn oedd yr Ellisiaid.

Mae’r cyfeiriad cyntaf sydd gennym at y teulu yn 1628, pan fu i wr o Fodfeio, Owen ap William ap Richard, gymryd morgais am 500 mlynedd ar  of a close of arable land, meadow, and pasture called y Kae Garrow abutting the river called afon Ogwen in the township of Bofaio’. ( Gw Cilfodan am leoliad y tir ). Ymhen deng mlynedd ar hugain, yn 1660, mae cofnod o’r un Owen, gyda’i wraig Elisabeth, yn rhoi i’w mab, Ellice Owen,

Gift of a messuage, tenement, and land called tythyn kil y fodan’

Mae’n debyg fod Cilfodan a Chae Garw yn ddau le gwahanol, gan fod cyfeiriadau at Gilfodan Uchaf a Chilfodan Isaf, gyda’r Isaf yn ymestyn i lawr at yr afon. Os felly, byddai Cae Garw yn rhan o’r Isaf. Mae’r caeau sy’n cael eu rhoi i Ellice, yn gyffredinol, yn rhai a enwir yn rhan uchaf Cilfodan wedi hynny. Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol am y weithred o roi’r tir i’r mab gan ei rieni yn 1660 yw fod y tir, am dros ddwy ganrif wedi hynny, yn aros  ym meddiant yr un teulu, sef teulu yr Ellice (Ellis)  Owen, teulu y sefydlogodd eu cyfenw yn Ellis, ar ol yr Ellice Owen hwn, mae’n debyg. Yn sicr, Ellis fu cyfenw’r teulu o ganol y 18fed ganrif ymlaen, pryd y mae cofnodion amdanynt yn dod yn fwy amlwg.

Mae hanes a datblygiad enwau a chyfenwau Cymraeg yn un hynod o ddiddorol. Fel y gwyddys, y drefn gynhenid Gymraeg oedd enw’r mab yn dilyn enw’r tad, gyda ‘ab/ap” ( o ‘mab’) rhyngddynt, felly tad Dafydd ap Gwilym oedd Gwilym, tra bod enw’r Owen ap William ap Richard yn mynd â ni o fab i dad i daid. Fel y daeth dylwanwad arferion cyfenwau Saesneg fe ddatblygwyd tri dull yng Nghymru.

  1. Mewn rhai achosion fe Seisnigwyd blasenw yn y Gymraeg yn gyfenw yn y Saesneg, a daeth hwnnw yn gyfenw teuluol yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall; dyna sut y cafwyd Gough (<Coch), Vaughan ( < Fychan = iau), Dew ( < Du ), Gethin ( < Cethin = tywyll ), a sawl un arall
  2. Yn aml daeth yr S terfynol o’r Saesneg ‘son’, i roi cyfenwau megis Williams, Evans, ac ati
  3. Yn y mwyafrif o achosion yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac wedyn, fe barhawyd y drefn Gymreig o enw’r mab yn dilyn enw’r tad, ond mewn rhyw fath o ffurf Seisnig ar yr enw, a heb yr ‘ap’. Yn yr achos hwn ceid enghreifftiau megis mab Owen Hugh yn Sion Owen, a’i fab yntau yn William Sion. Ni ddiflannodd y drefn hon yn llwyr mewn rhai teuluoedd nes dechrau’r 19 ganrif.

Yn achos y teulu dan sylw, yr oedd Ellice Owen wedi cymryd enw ei dad fel cyfenw, ac fe gymerodd ei feibion ef ei enw bedydd ef, Ellis, yn gyfenw, a sefydlogodd yr enw hwnnw fel enw’r teulu. Fodd bynnag, bu i un gangen agos o’r teulu barhau yr arfer o gyfnewid enwau tad a mab am ganrif arall – enwau meibion brawd Owen Ellis, Harri, a fu farw yn y Groeslon, Llanllechid, yn 1793, oedd Owen Parry, Maurice Parry, ac Ellis Parry. Fodd bynnag, Ellis fu cyfenw disgynyddion Ellis Parry ar ei ôl ef.

Gan ein bod yn sôn am enwau, un nodwedd amlwg yn nheuluoedd Cymreig y cyfnod modern cynnar, yw fod arfer o ddefnyddio’r un enwau bedydd mewn teulu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’n wir dweud fod prinder affwysol o enwau yn y Gymraeg yn y cyfnod yn dilyn yr Oesoedd Canol. Doedd dim prinder amrywiaeth yn y cyfnod hwnnw, ond, wedi hynny, daeth prinder amlwg i fod, gyda phwll yr enwau yn hynod o gyfyngedig.  Cymrwch rhyw ddyrnaid o enwau,megis John, William, Richard, Thomas, David, Hugh. Owen, ac Evan, ac, mae’n debyg y byddai mwy na thri chwarter dynion Cymru yn cario un o’r enwau hynny. Pan ystyriwch beth fyddai canlyniadau hynny pan oedd mab yn cymryd enw ei dad yn gyfenw, gellir deall pam fod cymaint o angen llysenwau yn y Gymru Gymraeg; fel arall, byddai’n hollol amhosibl gwahanu un Richard Williams oddi wrth y llall, neu un John Jones o’r amryw a fyddai yn yr un ardal ag ef. Yn ogystal â’r prinder enwau, roedd parch at hynafiaid yn gyfrifol am weld yr un enwau yn ymddangos mewn teuluoedd penodol. Fe enwid plentyn ar ôl ei dad, neu un o’i ddau daid, yn rheolaidd, a byddai hynny yn sicr o gadw enw yn y teulu am genhedlaethau, os enwid yr wyr ar ôl ei daid, byddai ei wyr yntau, yn ei dro, yn cario’r un enw. Yn achos teulu’r Ellisiaid, yr enw creiddiol oedd Owen, yr enw a welsom yn y cyntaf o’r teulu inni allu ei adnabod, Owen ap William ap Richard, a gwelwn ef yn enw ar aelodau o’r teulu am ddwy ganrif, a mwy, wedyn, fel arfer, yn enw ar y mab hynaf. Gorwyr uniongyrchol Ellis Owen oedd Owen Ellis ( g 1775), ganed ei fab hynaf ef, Owen, yn 1806, ei wyr cyntaf ( mab ei ail fab, Humphrey), oedd Owen ( ganed 1827); yn ogystal, roedd na dri Owen Ellis arall yn y teulu agos yn ystod y 19 ganrif. Bu i un ohonynt farw mewn amgylchiadau trist yn 1884, ond mwy amdano ef yn nes ymlaen. Yn aml, hefyd, rhoddid yr un enw fel ail enw brawd arall, er enghraifft, brawd Owen Ellis, ( 1802-1875) oedd Ellis Owen Ellis ( 1809 -1890), ac, mewn dwy genhedlaeth wedyn fe welwn Robert Owen Ellis yn frawd i Owen Ellis. Enw arall cyffredin i’r teulu oedd Humphrey, fel arfer, yn ail fab i brif gangen y teulu; roedd na, o leiaf, dri Humphrey yn y teulu yn ystod y 19 ganrif, ac, oherwydd i’w frawd hynaf, Owen, farw yn hen lanc, yr Humphrey cyntaf a’i ddisgynyddion oedd prif gangen y teulu wedi hynny. Mewn un achos fe welwn ddau frawd, un yn William Humphrey, a’r llall yn Humphrey. Efallai mai’r ffaith fod cynifer o blant yn marw’n ifanc oedd yn gyfrifol am rywbeth fel hyn, sef sicrhau fod enw bedydd yn parhau yn y teulu. Enw arall sy’n digwydd ar fwy nag un o’r teulu oedd Henry.

O safbwynt y prinder amrywiaeth enwau yng Nghymru’r cyfnod, a’r anhawster mae hynny’n ei beri i haneswyr, cymrwch y canlynol fel un enghraifft. Yn 1841, mewn tair fferm ar derfyn ei gilydd ym mhlwyf Llandygai, enw’r tri thenant oedd William Jones, ac roedd y tri yn 50 oed, ac, ie, tri unigolyn gwahanol oeddynt. Mae’n anodd iawn, os nad amhosibl, eu dilyn ymlaen)

Ond yn ôl â ni at y cychwyn. Mae’n debyg yr arhosodd Cilfodan Uchaf yn nheulu Ellis ( er fod dogfen o 1733/34 y nodi fod y tir yn eiddo i Richard Williams, Kiltreflys, ‘yeoman’). Yn sicr, ym mlynyddoedd canol y 18fed ganrif roedd Henry Ellis yn byw yno, ac, wedi iddo ef symud i’r Groeslon, aeth ei frawd, Morris, yno i ffermio, cyn iddo yntau ymfudo i’r Amerig, gyda’i chwaer, Betsan, mae’n debyg. ( Gweler Elisabeth Ellis isod). Brawd arall oedd Owen Ellis ( isod) Am Gilfodan Isaf, dengys treth tir 1792 fod gŵr o’r un enw a’r un a oedd wedi cael y tir ganrif ynghynt fel gwaddol priodas, John Morris, yn talu treth ar dir y daliad hwnnw, Fodd bynnag, mae’n amlwg nad ef oedd y perchennog, gan fod fod Owen Ellis ( perchennog y Gilfodan Uchaf ) wedi prynu’r tir ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1794, a hynny am £735, oddi wrth Maurice Jones, Gent, Bryn y Pin,  Gaerhun, Dyffryn Conwy. ( sef y Caerhun yn Nyffryn Conwy). Ni welais gofnod o Maurice Jones yn prynu’r tir, ond gallai fod wedi gwneud hynny yn y ddwy flynedd rhwng 1792 a 1794.  Yn ychwanegol, wn i ddim a oedd Owen Ellis a Maurice Jones yn perthyn, ond, yn sicr, ymhen ychydig dros hanner canrif, yn 1851, roedd ŵyr,  Owen Ellis, Owen arall, mab hynaf ei ail fab, Humphrey, yn ffermio Bryn y Pin, yn fachgen ifanc  23 oed, gyda’i wraig, ac, ym 1861,  roedd yno efo’i deulu ifanc, ac roedd y fferm honno yn Nyffryn Conwy ym meddiant y teulu hyd 1939, o leiaf.

Yn ôl i Lanllechid. Beth bynnag oedd a wnelo yr ‘yeoman’ o Giltrefnus a’r lle yn 1733, mae’n amlwg mai’r Ellisiaid oedd yno o hyd, gan fod Owen Ellis yn talu treth tir ar Gilfodan Uchaf yn 1791, ac mae cyfeiriadau eraill at y teulu yng Nghilfodan yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n bosibl fod gan drefn forgeisio’r cyfnod, ac o fenthyca yn erbyn tir, rywbeth i’w wneud â hyn. Beth bynnag am hynny, yn 1794, unwyd holl diroedd y ddwy Gilfodan o’r afon i’r mynydd ym mherchnogaeth yr Ellisiaid gyda’r pryniant a nodir uchod. Roedd y pryniant hwn yn un hynod o ffortunus, gan iddo ddod ar yr adeg gorau posibl, o safbwynt lleoliad y tiroedd, a thwf y diwydiant llechi yn Nyffryn Ogwen. Doedd Owen Ellis ei hun ddim  yn byw yng Nghilfodan, er bod perthnasau iddo yno, gan ei fod ef yn ffermio i lawr ger Traeth Lafan. ( Gweler yr erthygl ar Cefnfaes am fwy am yr Ellisiaid ).

Felly, roedd yr Ellisiaid yn hen deulu yn yr ardal, ac yn gymharol gefnog, yn ôl safonau’r cyfnod. Mae tystiolaeth fod meibion y teulu yn cael addysg bur dda. Er mai tenantiaid oeddynt i’r Penrhyn, y mae cysylltiadau’r teulu gyda sawl fferm sylweddol ar hendref Llanllechid, yn ogystal â’r fferm fynyddig, Cilfodan, oedd, fel y gwelsom, yn nwylo Owen a’i ddisgynyddion uniongyrchol.  Roedd eraill o’r teulu, disgynyddion i frawd Owen, Harry, yn byw yn Groeslon, Talybont, gydag, o leiaf, ddau feddyg yn y gangen hon o’r teulu, sef Dr Griffith Ellis, yn y 18fed ganrif, a Dr Henry Ellis, Meddyg yr Undeb ym Mangor yng nghanol y 19eg ganrif. ( Gweler Dr Henry Ellis isod )

Yn ôl at brif cangen y deulu, sef disgynyddion uniongyrchol Henry Ellis, Cilfodan, a’i fab hynaf, Owen Ellis ; roeddynt hwy yn gysylltiedig gydag hen fferm Cefnfaes yn hendref Llanllechid  

Coed Cefnfaes ar ran o’r hen fferm, gyda bythynnod Tanrallt yn y blaendir, a Glanymor Isaf yn y cefndir

Er mwyn edrych ar y teulu yn fwy manwl, trafodwn aelodau unigol fesul un. Byddwn yn trafod sawl aelod o’r teulu uniongyrchol, a chysylltiedig, a fu yn byw yn yr ardal rhwng canol y 18 ganrif a dechrau’r 20 ganrif. Wrth reswm, bydd ambell aelod yn teilyngu mwy o sylw nag eraill, a bydd mwy o wybodaeth am rai nag eraill.

Owen Ellis m 1802

Dywed Llechidon mai ei frawd, Henry, oedd aer Cilfodan, gan iddo ef fod yno yn ffermio yng nghanol y 18ed ganrif. Fodd bynnag, mae cymysgu yn llinach y teulu gan Llechidon, gan ei fod yn nodi fod Henry yn dad i Ellis Parry, Groeslon, ac i Owen Ellis, ond mae’r ewyllys isod yn dangos mai dau frawd oedd Ellis ac Owen, ac nid tad a mab. Yn ogystal, mae’r traddodiad teuluol o enwi’r mab hynaf yn Owen yn milwrio yn erbyn y ffaith mai Henry oed yr hynaf, a’r aer, ac yn llinach Owen y mae Cilfodan Yn dilyn symudiad Henry i’r Groeslon, dywed Llechidon i frawd arall, Morris, fynd i i Gilfodan, ond ymfudodd ef i’r America tua 1785. Y tebygrwydd yw fod canrif a mwy, a hynny’n ddigofnod, ac yn dibynnu ar gof teuluol, yn gallu mynd yn niwlog. Fel y gwelir, nid yw’r cofnodion sydd gennym yn cefnogi Llechidon.

Bid a fo am hynny, ni wyddys ddim am ddyddiau cynnar Owen, ond roedd yn y Cefnfaes yn 1793, pan brofwyd ewyllys ei frawd, Harry ( Henry ), oedd yn byw yn y Groeslon, Llanllechid; Owen, a dyn lleol arall o’r enw Rice Thomas, oedd ysgutoriaid yr ewyllys, ac yn gyfrifol am weinyddu ei hamodau. Owen, y brawd, oedd i fod i weithredu fel math o warcheidwad dros feibion gweddol ifanc Harri, hyd nes y byddent yn cyrraedd yr oed angenrheidiol. Yr oedd Harri, yntau, yn eithaf cefnog, gan iddo adael £291:17:10 ( rhyw £23,000 yn ôl gwerth heddiw)  i’w dri mab, ond, gan nad oedd yr un yn 21, roedd Owen a Rice i gadw golwg ar yr etifeddiaeth, gan roi traean i bob mab fel y cyrhaeddai yr oed hwnnw. Nid oes cyfeiriad at Owen cyn hyn, ond nid oedd  wedi bod yn y Cefnfaes lawer iawn cyn 1792, ( dyddiad llunio’r ewyllys) oherwydd eraill oedd yn talu treth tir yno yn y cyfeiriadau cynt sydd gennym at y fferm. I fynd yn ôl at yr hyn a ddywedwyd uchod, mae’r ffaith nad oedd Cilfodan yn rhan o ewyllys Harri, ac mai yn nheulu Owen y bu Cilfodan, yn awgrymu mai ef, nid Harri, oedd yr hynaf, ac aer Cilfodan. Bu farw Owen yn 1802, gan adael tenantiaeth y Cefnfaes i’w wraig, Jane.

Yn ôl y rhestr stoc a wnaed o’i eiddo a adawyd i’w weddw, gadawodd eiddo gwerth £293.97 ( a fyddai werth tua £12,000 heddiw ), oedd yn eithaf derbyniol yn ôl safonau’r oes, gan ystyried nad oedd teulu’r Cefnfaes wedi dechrau manteisio ar eu tiroedd yng Nghilfodan yn 1802. Roedd Owen Ellis yn ffermio un o ffermydd llawr gwlad mwyaf ( 142 acer ) a gorau Llanllechid, ac mae ei ewyllys yn adlewyrchu hynny. Fel cymhariaeth, yn 1807, £163.15 oedd gwaddol Ann William, Ty Gwyn, oedd yn fferm bur sylweddol ar derfyn Cefnfaes, tra’r oedd mwy nag un ffermwr yn gadael llai na £50 yn ei ewyllys. Yn 1810 gadawodd John Thomas, Talybont, eiddo gwerth £354.20, ond mae’n arwyddocaol iddo adael swm sylweddol o £50.80 yn y ty, ynghyd â rhestru popeth oedd ganddo,gan gynnwys llieiniau byrddau a blancedi. Mae’r arian parod sylweddol yn awgrymu fod John Thomas yn ymarfer rhyw fusnes ychwanegol i ffermio. ( Efallai mai porthmona a wnâi, gan mai gan borthmyn y cyfnod yr oedd y mwyaf o arian parod yn yr ardaloedd cefn gwlad yn y cyfnod). Beth bynnag am hynny, eiddo nodweddiadol y ffermwr oedd eiddo Owen Ellis, sef

7 buwch

5 bustach,

5 buwch 3 oed

5 buwch blwydd

120 o ddefaid

6 cheffyl

a dau fochyn

y cyfan, yn ôl prisiau’r oes yn cyfateb i £191.00. ( Y dull a arferid i brisio oedd cael dau ffermwr lleol o sylwedd i edrych ar holl stoc a chynnyrch yr ymadawedig, gan roi pris teg, cyfoes, ar bopeth).

Gadawodd, hefyd, amrywiol gnydau gwerth £63, offer fferm gwerth £13.95, dodrefn ty gwerth £22.32, a gwerth £3 o ddillad. Eiddo gwr cyfforddus ei fyd ydoedd, heb fod yn hynod o gyfoethog, ond, yn sicr, heb fod yn dlawd; yn y Bond lle rhestrid ei eiddo wedi ei farwolaeth, fe’i gelwid yn Iwmon, sef ffermwr gweddol gefnog.

Owen Ellis 1775 – 1848 (mab yr uchod )

Ni wyddys ddim am ei fywyd cynnar, ond mae’n amlwg iddo dreulio peth o’r cyfnod hwnnw y tu allan i’r plwy, gan i’w ddau fab hynaf, Owen a Humphrey,  gael eu geni mewn ardaloedd eraill, Owen, g.1802, ym Metws Garmon, a’i ail fab, Humphrey, yn Llanberis yn 1803. Erbyn 1813, yn ôl cytundeb y Penrhyn, yr oedd wedi cael tenantiaeth Cefnfaes ar y cyd gyda’r fam, Jane, eithr mae’n sicr iddo fod yno cyn hynny, gan i’w drydydd mab, Elis, gael ei fedyddio yn eglwys Llanllechid ar Chwefror 22 1809, a nodir enw tad Ellis fel Owen Ellis of Cefnfaes. Fe gollodd ei wraig Catherine, yn 41 oed,yn 1816, ac fe gafodd hi ei chladdu ym mynwent Llanllechid. Yn ôl Cyfrifiad 1841 yr oedd yn dal i fyw yn y Cefnfaes gyda’i fab hynaf, dibriod,Owen, 35 oed, ei fab, Ellis, 30 oed, ( Nid yw oedran Ellis yn hollol gywir, gan fod Cofrestr Plwyf Llanllechid yn dangos iddo gael ei fedyddio 22 Chwefror 1809, fyddai yn ei wneud yn 32 adeg Cyfrifiad 1841 ), ei ferch, Ann, 25,( Nid yw oedran Ann yn gywir ychwaith, gan iddi gael ei bedyddio yn Eglwys Llanllechid ar Hydref 12, 1812, fyddai’n ei gwneud yn 28 ar ddyddiad y Cyfrifiad), a’i ferch, Catherine, 25 ( g 1816 Eto’n anghywir, gan mai 17 Ebrill, 1814, yw dyddiad cofnod ei bedydd yn Eglwys Llanllechid.). ++ Yn y ty hefyd yr oedd merch 4 oed o’r enw Catherine Ellis, a oedd, yn amlwg yn wyres, i Owen Ellis; mae’n weddol sicr mai merch ei fab, Henry, oedd Catherine, gan y byddai hi oddeutu’r 4 oed, ac nad oes cofnod ohoni yng nghartref ei rhieni adeg y Cyfrifiad. Yno, hefyd, roedd Margaret Jones, 35 oed, a’i merch hithau, Catherine, 8 oed; roedd Margaret yn ferch i Owen, ac, yn amlwg, yn wraig weddw, a nodir iddi fod ag ‘Independent means’ yn ôl y Cyfrifiad. Yr oedd ei bedwerydd mab, Henry, ( uchod) ganed 1811, yntau wedi priodi, ac wedi gadael y cartref, ond yn dal yn y plwyf.( mwy amdano ef yn nes ymlaen ). Yn gynnar yn ei denantiaeth yr oedd Owen Ellis wedi dechrau manteisio ar ei dir yng Nghilfodan, gan iddo, yn 1815, roi les 100 mlynedd, am £15 ( y flwyddyn?) i aelodau hen gapel Yr Achub er mwyn iddynt adeiladu capel sylweddol fwy ar gyfer eu cynulleidfa, oedd yn prysur gynyddu, ar dir Cilfodan. Dyma gychwyn Capel Carneddi, oedd yn fam eglwys i holl gapeli Methodistaidd Dyffryn Ogwen.

++ Nid yw peidio gwybod oedran yn beth anghyffredin yn y cyfnod. Fel enghraifft, dya oedran Elinor Jones, Coed Hywel Isaf, trwy 4 Cyfrifiad

1841 – 55 1851 – 62 1861 – 74 1871 – 82

Neu beth am ei mab, John 1851 – 35 1861 – 48 1871 – 53 1881 – 64? Dydy hi ddim yn hawdd ymchwilio i hanes!

Rywdro cyn 1841, ( tystiolaeth Cyfrifiad), fe rannwyd 142 acer y Cefnfaes yn ddwy fferm, o 80 a 62 acer; arhosodd Owen, a’i fab hynaf, dibriod, a gweddill ei blant yn y Cefnfaes ( weithiau Hen Gefnfaes), ac aeth ei ail fab, Humphrey, a’i deulu ifanc i ffermio Cefnfaes Newydd. Efallai i hyn ddigwydd mor gynnar â 1826, pan briododd Humphrey, ond mae angen ymchwil pellach yma. Fodd bynnag, mae peth dirgelwch ynglyn â’r seyllfa: yn ôl Arolwg Degwm ( 1838-40), yr oedd Cefnfaes yn un daliad, gyda dau denant, sef Owen Ellis a dyn o’r enw William Owen. Roedd William Owen yn gefnder i Owen Ellis, ac ef oedd tad Jane, gwraig Humphrey, ac, yn 1841, roedd William yn byw gyda’i ferch a’i theulu yng Nghefnfaes Newydd, sy’n gwneud inni gredu mai ei ran ef o denantiaeth Cefnfaes oedd Cefnfaes Newydd. Ymhellach, mae’n amlwg fod William Owen yn eithaf cefnog, gan y nodir, pan fu farw Jane yn 1886, fod ganddi ei chyfoeth ei hun, wedi ei etifeddu, a hynny gryn dipyn yn fwy na chyfoeth ei gwr.

Noda Llechidon am Owen Ellis, ei fod ‘ Yr oedd yntau yn llenor da, ……… ac yn wr o ddylanwad mawr ym mhlwyf Llanllechid, yn neillduol yn ei gysylltiad ag achosion plwyfol’

Bu farw Owen yn 1850, gan adael cryn dipyn mwy o eiddo i’w deulu nag a wnaeth ei dad. Roedd hynny yn bennaf oherwydd y datblygiadau ar dir Cilfodan i fyny’r dyffryn, er mai yn y pymtheg mynedd yn dilyn ei farwolaeth y ffrwydrodd poblogaeth yr ardal, ac y datblygwyd i’w llawn dwf y rhan fwyaf o’r Carneddi, Bont Uchaf, Cae Star, a llawer o’r Stryd Fawr ar y tir o eiddo’r Ellisiaid ar hen ddaliad Cilfodan, nes ei fod yn adlewyrchu mwy ar y Bethesda presennol.

Yn ei ewyllys gadawodd stâd bersonol gwerth £954:11:0 ( sy’n cyfateb i £73,370 ym mhrisiau heddiw). Wrth reswm, nid oedd hwn yn cynnwys y cytundebau les, oedd yn dod ag arian rheolaidd i goffrau’r teulu yn flynyddol. Roedd ei eiddo yn cynnwys

5 buwch odro

2 fuwch 3 oed

7 buwch dwyflwydd oed

6 heffer blwydd

50 o ddefaid

Un ceffyl ac un caseg ddall

Hwch

Gwerth dros £20 o gnydau ( Yd, yn bennaf)

Offer ffermio

Dwy drol

Dau aradr

Dwy og

Offer ceffyl

Dodrefn gwerth £9:5:0

Yn ei ewyllys, gadawodd gymunroddau i’w deulu. Un peth diddorol yw dull y tad o ofalu am ei blant. Nid yw’r rheiny sydd wedi sefydlu eu teuluoedd eu hunain, sef Humphrey, Henry, Elizabeth, a Catherine, ond yn cael £1 yr un yn ewyllys eu tad; mae’r rheiny wedi gadael y nyth, ac yn gyfrifol am  adeiladu, a phluo, eu nythod eu hunain.Mae Ellis yn cael £450, sef arian a fenthyciwyd fel morgais ar ddau dy ym Mangor gan rhyw Hugh Williams, ysgolfeistr. Mae hyn yn dipyn o ddirgelwch, gan fod Ellis, yntau yn briod, gyda wraig a merch, yn 1848 ( Gweler isod). Mae merch arall, Margaret, yn derbyn £40, tra bod ei merch hi i gael £200 pan yw’n cyrraedd 21 oed. Fel y gwelwyd ynghynt, mae’n amlwg fod Margaret yn wraig weddw, efo merch, yn byw yn ôl gyda’i thad yn y Cefnfaes.  Mae’r holl arian sydd ar ôl wedyn i fynd i’r ferch ddibriod, Ann, oedd yn byw adref gydag ef, tra mae ei holl diroedd a’i dai ( ym Methesda, mae’n debyg)  i fynd i’w fab hynaf, Owen, yntau’n ddibriod, ac yn ffermio’r Cefnfaes gyda’i dad.

Nid yw ewyllys Owen Ellis yn adlewyrchu’n deg ei eiddo, oherwydd yr arfer o gael eiddo personol ( yr hyn a elwid yn gyfreithiol, yn ‘personalty’), ac eiddo busnes ar wahân, ynghyd â’r arfer cyffredin o berson yn rhoi arian ac eiddo i’w deulu cyn ei farw, fel na fyddent yn ymddangos yn ei ewyllys. Nid yw ewyllys bersonol Owen Ellis, felly, yn dangos y cyfoeth yr oedd ei eiddo ar lethrau gogleddol dyffryn Ogwen wedi, ac yn, dod iddo, oherwydd, erbyn Cyfrifiad 1841, yr oedd, o leiaf, 310 o dai wedi eu codi ar dir Cilfodan, sef ei fferm yn y dyffryn, gyda thua 1400 o bobl yn byw ynddynt. Roedd y rhain yn cynnwys tai Cilfodan, Pencarneddi, Carneddi, Bontuchaf, Llidiart y Gwenyn, Pant Dreiniog, Twr Tewdws, Bryntirion, Pant y Cledr, Tan y Ffordd, Cae Garw, ynghyd â 438 eiddo ar, ac yng nghyffinau, Stryd Fawr Bethesda. Er y gallai nifer o’r tai hyn fod ar dir oedd wedi ei werthu gan Owen Ellis, byddai’r mwyafrif llethol wedi eu codi ar dir oedd ar les iddo, wedi ei lesu un ai gan berchennog y ty, neu, yn llawer amlach, gan ‘entrepeneur’ lleol , oedd yn lesu tir i adeiladu mwy nag un ty arnynt, er mwyn eu rhentu ganddo. Mae mwy nag un enghraifft o ewyllys chwarelwr, neu siopwr, sy’n gadael rhenti tai fel cymunroddion ynddynt, a hynny ar dai wedi eu hadeiladu ar dir oedd wedi ei lesu gan Owen Ellis. Mantais y system lesu i berchennog y tir oedd fod arian am y les yn llifo i mewn, heb gyfrifoldeb landlordiaeth, yn gyson o flwyddyn i flwyddyn, yn ogstal â’r ffaith mai’r tirfeddiannwr oedd yn dal i fod yn berchennog ar y tir – ar ddiwedd cyfnod y les, deuai’r tir yn òl i’r tirfeddiannwr. Felly, erbyn dwy ddegawd olaf ei oes, yr oedd cyfoeth sylweddol yn llifo i goffrau Owen Ellis a’i deulu o’i diroedd yn Nyffryn Ogwen, ac, oherwydd mai yn y Cefnfaes, yr oedd yn byw, fe enwyd y stâd a ddatblygodd oherwydd llif y cyfoeth yn Stad y Cefnfaes. ( Am fwy o wybodaeth am gyfoeth y stâd, gweler yr adran ar Humphrey Ellis 1803 – 1886 isod)

Yn ystod ei oes faith (ac, yn sicr, yn ôl disgwyliadau’r oes, yr oedd 75 yn oedran teg iawn ), yr oedd Owen Ellis, Cefnfaes, wedi gweld newidiadau syfrdanol, sylfaenol, a chwyldroadol yn ei ardal, newidiadau a ddaeth â llawer iawn o fudd iddo ef a’i deulu. Pan aned ef, doedd Chwarel Braich y Cafn ddim yn bod; yn hytrach roedd y tir a elwid wrth yr enw yn cael ei ddal gan 7 tenant, ac 80 o gloddwyr annibynnol yn gweithio gweithfeydd bychain, ac yn cludo eu llechi amrwd i Aberogwen i’w hallforio. Pan oedd yn 7 oed dechreuodd Penrhyn brynu prydlesi’r cloddwyr, a chychwyn y fentr fawr; erbyn yr oedd yn 15 oed yr oedd 400 o weithwyr yn gweithio yn y chwarel. Rai blynyddoedd wedi iddo ddod i denantiaeth Cefnfaes ar y cyd efo’i fam, yn 1815, rhoes les i adeiladu Capel Carneddi ar ei dir ar fferm Cilfodan. Cyn iddo gyrraedd yr hanner cant, fe welodd Telford yn agor ei ffordd newydd o Lundain i Gaergybi, gan fynd trwy ei dir yn Nyffryn Ogwen; gwelodd ddau gapel, oedd yn arwyddocaol iawn i dwf yr ardal yn cael ei godi ar ei dir, sef yr un a nodir uchod yn 1815 ger y Bont Uchaf a’r llall, bum mlynedd yn ddiweddarach, ger y ffordd newydd ar y Wern, a gwelodd dai a stryd fawr yn madarchu o gwmpas yr ail gapel , gan dyfu’n bentref a gafodd ei enwi ar ôl y capel ifanc. Gwelodd, hefyd, ffordd newydd arall o waith Telford yn mynd o Fangor i Gonwy, gan ddilyn yr hen lwybr heibio’r Cefnfaes. Rhyw bedair blynedd cyn ei farwolaeth, daeth y rheilffordd newydd trwy ei dir, oedd yn ei alluogi i fynd ag unrhyw anifeiliaid i’w gwerthu yn ninasoedd Lloegr. Ym mlynyddoedd ei ieuenctid ychydig gannoedd o boblogaeth oedd i blwyf gwledig Llanllechid; flwyddyn wedi ei farw mae Cyfrifiad 1851 yn nodi fod dros 6000 o bobl yn byw yn y plwyf, llawer ohonynt ar dir o’i eiddo ef yn unig – a doedd y cyfanswm hwn ddim yn ystyried poblogaeth plwyf Llandygai, oedd yn ffurfio hanner arall Dyffryn Ogwen. Yn bennaf, roedd Owen Ellis, pan fu farw, yn llawer iawn, iawn mwy cefnog na’r Owen Elis a gymerodd denantiaeth y Cefnfaes gyda’i fam rywdro rhwng 1803 ac 1809.

Owen Ellis 1802 – 1875

Owen, a’i frawd, Humphrey, a fedodd yn llawn yr hyn a heuwyd pan brynodd eu hendaid Gilfodan dros ddwy ganrif ynghynt, a phan unodd eu taid y ddwy Gilfodan yn 1792. Fel y mab hynaf, gwelwyd fel yr etifeddodd Owen benteuluaeth yr Ellisiaid yn 1850, gan gadw tenantiaeth Cefnfaes / Hen Gefnfaes. Mae’n fwy na thebyg mai partneriaeth oedd rhyngddo ef a’i frawd, Humphrey, (fel ei dad, cyn marwolaeth hwnnw), gan mai dyna a awgrymir gan ddatblygiadau yn nes ymlaen. Partneriaeth neu beidio, Owen oedd y mab hynaf, ac Owen oedd yr etifedd cyfreithiol ( ‘ heir at law‘ yw’r term swyddogol, Saesneg ), ac ef, yng ngolwg y gyfraith, yw perchen popeth oedd yn eiddo i’w dad. Wedi marw hwnnw yn 1850, yn ôl Cyfrifiad 1851, gydag Owen yn y Cefnfaes, yr oedd ei chwaer ddibriod, Ann, yn byw, ynghyd â’u chwaer weddw, Margaret Jones, a’i merch hithau, Catherine.  Yn y fferm ar y terfyn, Cefnfaes Newydd, yr oedd y brawd arall, Humphrey, a’i deulu, sef ei wraig, Jane ( nee Owen g 1806), a’i blant, Catherine (g 1832) William(g 1833) Henry (g 1843). Roedd ei fab hynaf, Owen, 23 oed, gyda’i wraig ifanc, Catherine, yn ffermio Bryn y Pin, Caerhun, Dyffryn Conwy, ( Gweler isod  Bryn y Pin )

Yn y blynyddoedd nesaf, daeth newid sylweddol arall, ar wahân i’r arian o dir Cilfodan, i amgylchiadau Owen Ellis, Cefnfaes, newid a achoswyd gan newidiadau yn stâd y Penrhyn yn y blynyddoedd 1840 – 1860, sef ad-drefnu tiroedd a daliadau, yn enwedig yn hendref Llanllechid. Ar y terfyn â’r ddwy Gefnfaes yr oedd fferm arall sylweddol Tai’r Meibion, fferm oedd yn bodoli ers blynyddoedd.  Yn ôl Arolwg 1768, dangosir fferm Tai’r Meibion, gyda’i thir mewn dwy ran, yn ymestyn o’i therfyn â Chefnfaes ar lawr gwlad gogledd-ddwyreiniol yr hendref, hyd at ffin plwyf Abergwyngregyn, ac i fyny i’r ucheldir, Yn ol Arolwg 1768, roedd hon yn fferm sylweddol o 210 erw, gyda chaeau Bronnydd Ganol, Bronnydd Uchaf, a Chae Ty Bronnydd, oedd yn dir mynyddig, llethrog, yn 117 o’r erwau rheiny, ac yn fwy na hanner y fferm. Roedd cors ar dir Tai’r Meibion, hefyd. Yn 1768, un fferm oedd, yn nhenantiaeth dyn o’r enw Thomas Pierce, ond, erbyn 1840 roedd Owen Ellis, Cefnfaes, (y tad)  ynghyd â Hugh Jones, yn rhentu tir Bronnydd Uchaf a Bronnydd Ganol.  Yn ôl Cyfrifiad 1841 yr oedd gweddill tir Tai’r Meibion yn nwylo Henry Evans a’i deulu. Mae’n amlwg fod yr Henry Evans hwn yn ffermwr pur alluog, gan ei fod yn ennill gwobrau’n aml yn sioeau amaethyddol y cyfnod, a hynny am bethau mor amrywiol a defaid, meheryn, aredig, a ffensio. ( Roedd Arglwydd Penrhyn yn gefnogwr brwd i wella tiroedd a ffermio, ac roedd yn trefnu sioe amaethyddol leol bob blwyddyn, gyda gwobrau am gynnyrch a gwelliannau; yn ogystal roedd Cymdethas Amaethyddol Sir Gaernarfon wedi ei sefydlu ddechrau’r ganrif, gydag Arglwydd Penrhyn yn Gadeirydd am flynyddoedd, ac roedd y Gymdeithas, hithau, yn trefnu cystadlaethau ).Yn 1849, roedd rhent Tai’r Meibion yn £108/ 11/5, sy’n llai o gryn dipyn na chyfanswm rhenti’r ddwy Gefnfaes. Erbyn 1851 mae ty o’r enw Hen Dai’r Meibion, yn nhenantiaeth Margaret Davies a’r teulu, tra mae Henry Evans a’i feibion yn dal yn Nhai’r Meibion ei hun. Fodd bynnag, erbyn 1861, mae Henry Evans, oedd wedi ei eni yn Aber yn 1789, wedi gadael Tai’r Meibion ac yn byw fel ‘boarder’ efo’i ferch yn Nhan y Ffordd, Bethesda. (Am fwy o wybodaeth gweler ‘Tai’r Meibion’). Mae’n debyg mai’r rheswm amlwg am ‘ymddeoliad’ Henry Evans o’i denantiaeth oedd fod y Penrhyn wedi penderfynu uno, nid yn unig rai o ddaliadau llai’r hendref, ond rhai o’r rhai mwyaf, hefyd. Yng nghanol yr 1850au fe ail-unwyd y ddwy Gefnfaes, ynghyd â thiroedd llawr gwlad, a llethrau isaf, Tai’r Meibion, i greu un fferm sylweddol o dan yr enw Tai’r Meibion. Erbyn hynny, byddai Henry Evans ymhell yn ei chwedegau, ac yn rhy hen i gychwyn ar fentr newydd, ac, er bod ganddo fab yn ei ddeugeiniau, nid iddo ef y cynigwyd tenantiaeth y daliad newydd, eithr i Owen Ellis, a hynny ar y cyd â’i frawd, Humphrey. Mae’n debyg mai synnwyr cyffredin ar ran asiant y stâd oedd hynny, gan fod uno tri daliad sylweddol yn golygu fod yn rhaid i ddau denant golli bywoliaeth; roedd ei rhoi i ddau denant, oedd yn ddau frawd, ar y cyd, yn golygu mai un yn unig a gollai ffon ei fara, ac roedd ef mewn oedran teg. At ei gilydd, roedd y Penrhyn yn dda gyda’u tenantiaid, cyhyd â bod y rheiny’n ffermwyr da, ac yn ‘ufudd’; er enghraifft, pan ddilewyd tair fferm i greu Tyn Hendre, fe roddwyd tenantiaeth newydd ar ffermydd eraill i’r tri thenant a gollodd eu ffermydd.

Unwyd y ddwy Gefnfaes, efo rhai o diroedd Tai’r Meibion, o dan yr enw Tai’r Meibion, yn 1857, a rhoddwyd y fferm newydd ar rent o £295, ( = tua £17,500 heddiw ), i’r ddau frawd. Yn ôl cytundeb o 1859, rhoddwyd les ar ‘Old Cefnfaes, Cefnfaes Newydd, Tai’r Meibion,  and Ffridd Bryn Adda’ ( ger y Bronnydd), i gyd yn 256 acer,  i Owen a Humphrey Ellis ar y cyd. Roedd y rhent wedi codi ganpunt mewn dwy flynedd, i £392 ( sy’n cyfateb yn fras i £24, 000 heddiw). Eto, mae’n amlwg mai aros yn eu hen gartrefi wnaeth y brodyr Ellis, gan fod Cyfrifiad 1861 yn nodi Owen, a’i chwaer, Ann, yn preswylio yn Cefnfaes, a Humphrey, a’i wraig, yng Nghefnfaes Newydd, ond ni ddangosir neb yn byw yn Nhai’r Meibion. Erbyn 1863 mae dau newid wedi digwydd i Owen Ellis; yn gyntaf, mae’n amlwg ei fod wedi symud i’r cartref newydd, gan y disgrifir ef fel ‘Owen Ellis, of Tai’r Meibion’, ac yn ail, disgrifir ef fel ‘gent’, felly mae Owen wedi ymddyrchafu o ddosbarth ‘yeoman’ ei daid, a hynny, mae’n sicr, oherwydd y cyfoeth oedd yn dod o diroedd Cilfodan. Yn 1867 ceir y cyfeiriad ‘ Owen Ellis, formerly of Cefnfaes, and now of Tai’r Meibion’, felly mae’r cyfnewidiad yn orffenedig. Yng Nghyfrifiad 1871, nodir Owen Ellis yn byw yn Nhai’r Meibion, a disgrifir ef fel ‘ farmer of 276 acres, employs 5 men and 2 boys’.

Bu farw Owen Ellis yn 72/73 oed yn 1875, a chafodd ei gladdu gyda’i fam a’i dad ym medd y teulu ym mynwent Llanllechid.

Carreg fedd teulu E;;is, Cefnfaes, ym mynwen Llanllechid

Humphrey Ellis   1803 – 1886

w

Llun trwy garedigrwydd Peter Ellis Roberts, Hendref, Gwalchmai

Er mai’r ail fab oedd Humphrey, mae’r ffaith fod ei frawd hynaf, Owen, yn hen lanc, yn golygu fod prif gangen yr Ellisiaid yn mynd i ddisgyn trwyddo ef a’i ddisgynyddion; pe byddai Owen farw o’i flaen, ef fyddai yr etifedd cyfreithiol, a phe byddai ef farw o flaen Owen, byddai’r etifeddiaeth yn disgyn trwy ei deulu ef, trwy ei fab hynaf, neu deulu hwnnw. A bu Owen farw o’i flaen.

Fel y nodwyd, roedd Humphrey wedi ei eni yn Llanberis, ond, erbyn 1808, pan oedd yn 5 oed, yr oedd yn ôl yn y plwyf teuluol, Llanllechid. Ddiwedd Ionawr 1826 fe  briododd gyda merch o’r plwyf, oedd dair blynedd yn iau nag ef, o’r enw Jane Owen. Roedd hi yn gyfyrderes iddo, gan fod ei thad, William Owen, yn gefnder i’w dad ef. Erbyn 1841, noda’r  Cyfrifiad fod y ddau, gyda’u plant, Owen,14, Catherine, 9, a William, 7, yn byw yng Nghefnfaes Newydd, sef rhan o’r Cefnfaes gwreiddiol, oedd, yn amlwg, wedi ei rhannu’n ddau. Yn Arolwg Degwm 1838 roedd Owen Ellis a William Owen yn rhannu tir Cefnfaes, nd, mewn gwirionedd, yn ôl tystiolaeth Humphrey ellis ei hun mewn llythyr i Hugh Derfel Hughes, William Owen oedd tenant Cefnfaes Newydd, a, thrwy briodas Humphrey a’i ferch ef y daeth Humphrey i’r Cefnfaes Newydd o’r fferm nesaf ati. Yn 1841 roedd ei dad yng nghyfraith, 60 oed, yn byw gyda’i ferch a’i theulu yng Nghefnfaes Newydd.  Erbyn 1851 yr oedd mab iau, yn dwyn enw teuluol arall, Henry, wedi ei eni, ond nid wyf, hyd yn hyn, wedi gallu dilyn hanes hwn.

Fe welir, yn nes ymlaen, fod hen fodryb Humphrey yn gysylltiedig gyda’r Anghydffurfwyr cynnar yn yr ardal, a pharhaodd y gweithgarwch crefyddol. Bedyddwyr oedd teulu Humphrey Ellis, yn mynychu Capel Gilfach ar hendref Llanllechid;  ac roedd Humphrey yn flaenor yn y capel hwnnw, gyda’i frawd yn godwr canu yno. Yn wir, ef oedd y pen-blaenor, ac yn rhinwedd ei swydd, ef a arwyddodd y Cyfrifiad Crefyddol ar gyfer y capel yn 1851 ( Yn y cyfrifiad hwnnw nodid pawb a fynychai pob lle o addoliad ar gyfer gwasanaeth bore a nos 31 Mawrth 1851. Fel mater o ddiddordeb, cynulleidfa Capel Gilfach oedd 74 yn y bore, a 68 gyda’r nos). Mae’n ddiddorol nodi mai enw gwreiddiol Capel Gilfach oedd Capel Cefnfaes, a’r rheswm am hynny oedd mai ar aelwyd Cefnfaes Newydd y cynhelid cyfarfodydd cyntaf y Bedyddwyr yn yr ardal, cyn codi’r capel ar dir y Gilfach. Roedd hynny, mae’n debyg, am fod fod mam yng nghyfraith Humphrey Ellis, Charlotte Owen, yn dod o deulu o Fedyddwyr o Sir Fôn, acyn swcro’r gyulleidfa yn ei chartref newydd. Eto, mae’n weddol sicr nad merch Charlotte a ddygodd ei gwr at y Bedyddwyr, wrth gofio am Betsan Elis ( isod), a’r hyn y nodir ar farwolaeth ei frawd, Owen

Yr oedd ein anwyl frawd yn aelod gyda y Bedyddwyr er’s tymhor maith, a bydd colled fawr ar ei ol yn eglwys fechau y Gilfach. Yr oedd yn gefn da i’r achos …. ac yn godwr canu ers blynyddoedd maith.

Seren Cymru 19/3/1875

Efallai fod Humphrey a’i frawd, Owen, mewn partneriaeth, er fod Cyfrifiad 1871 yn nodi’r ddau ar wahân, gydag Owen fel y nodir uchod,a Humphrey, yntau yn byw yn Nhai’r Meibion ( mewn ty arall? ), yn cael ei ddisgrifio fel ‘ farmer of 180 acre, employs 5 men, 1 boy’. Yr oedd y tir yr oeddynt yn berchen arno yn uwch i fyny’r dyffryn yn dod â chyfoeth cynyddol iddynt, ac y neu gwneud yn gefnog iawn wrth i’r ganrif fynd yn ei blaen. Yn ôl y Dr John Llywelyn Williams (Hanes Dyffryn Ogwen Stâd y Coetmor a Stâd y Cefnfaes), wrth gyfeirio at dystiolaeth Asiant Stâd Cefnfaes, W J Parry, i Bwyllgor Dethol ar Ddaliadau Trefol yn 1888, ddwy flynedd wedi marw Humphrey Ellis

Erbyn cyfnod yr adroddiad yr oedd cyfanswm yr adeiladau yn cynnwys oddeutu 600 tŷ, pum capel a dwy ysgol genedlaethol, oll yn cyfrannu rhent blynyddol o £1700. Gwerth yr eiddo ar ddechrau’r ganrif oedd £1500, ond bedair ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach chwyddodd gwerth yr eiddo i £60,000.

Roedd hyn yn gyfoeth sylweddol, tua £4,000,000 ym mhres heddiw, gyda’r rhent cryn dipyn yn fwy na £100,000n ( arian heddiw)

Fodd bynnag, er y cyfoeth sylweddol oedd yn llifo i goffrau’r teulu, ni fu bywyd personol Humphrey Ellis yn esmwyth, Bu farw ei fab, William, yn 24 oed yn 1855 neu 1857. Er y nodir ei farwolaeth ym mhlwyf Llanllechid, a hynny fel mab y Cefnfaes, adeg ei farw, yr oedd yn briod, ac yn ffermio Ty Coch, Llanffinan, Sir Fôn, ac roedd ei weddw, Jannet Anne, yn byw yno yn 1861, gyda’i ddau fab ifanc, William Humphrey John, 6 oed, a Humphrey 5 oed. Oherwydd oedran y meibion, mae 1857 yn fwy tebygol na’r 1855 a nodir yng nghofrestrau’r plwyf. Bydd cryn fwy am un o’r ddau hyn yn nes ymlaen. Erbyn 1861 nid oes cofnod o’i fab ieuengaf, Henry, ychwaith, ond ni chanfum gofnod o’i farwolaeth hyd yn hyn. (A bod yn onest,ar hyn o bryd, dydw i ddim yn sicr am yr Henry hwn – fe aned, ac fe fu farw, mab o’r enw Henry yn 1837, a dim ond yng Nghyfrifiad 1851 y deuwn ar ei draws yr Henry hwn). Fel y nodwyd, roedd mab hynaf Humphrey, Owen, yn ffermio Bryn y Pin, Caerhun, ers ei fod yn ei ugeiniau cynnar, ond ni chafodd yntau fyw i ddilyn ei dad yn Nhai’r Meibion, gan iddo farw yn ddyn ifanc 41 oed yn 1867. Er mai tair merch oedd plant cyntaf Owen a’i wraig, cawsant ddau fab wedyn, wedi eu henwi yn ôl traddodiad y teulu yn Owen a Humphrey. ( Cafwyd mwy o blant cyn marwolaeth Owen ). Pan fu eu tad farw yr oedd Owen yn 9 a Humphrey yn 7. Erbyn 1867, felly, roedd mab hynaf yr Ellisiaid, y ffermwyr sylweddol, a pherchnogion stâd Cefnfaes,  yn hen lanc, a’i bartner, yr ail frawd, wedi colli ei dri mab. ( Yn wir, cyn ei farw, yr oedd ei blant i gyd wedi marw ). Yr oedd ganddo wyrion a allai ei ddilyn, ond, yn 1884, ddwy flynedd cyn marw Humphrey, fe laddodd yr hynaf o’r rheiny ei hun; fodd bynnag, fe barhaodd yr olyniaeth, ac roedd hynny wedi ei sicrhau. trwy gynllun Humphrey, mae’n sicr, yn ei flynyddoedd olaf.

Bu farw Humphrey a’i wraig o fewn wythnos i’w gilydd yn 1886; claddwyd Jane ar Fai 5ed, yn 81 oed, a Humphrey ar Fai 12, y ddau yn Llanllechid. Erbyn hyn, yr oedd Stâd Cefnfaes a’r teulu Ellis wedi eu gwahanu yn gyfreithiol, ac roedd W J Parry yn gweinyddu’r stâd; o’r herwydd, eiddo personol sydd yn ewyllys Humphrey. Yn yr ewyllys honno, gadawodd eiddo oedd werth £2140.13.0. Unwaith eto, rhaid inni wahaniaethau rhwng yr eiddo personol a’r eiddo busnes. Yn ôl tystiolaeth o achos cyfreithiol yn Llundain yn 1888, yr oedd cyfoeth Humphrey a Jane Ellis rhwng £70,000 ac £80,000, sy’n gyfoeth sylweddol iawn. Nodir, ymhellach, fod gan Jane gyfoeth etifeddol ei hun, oedd gryn dipyn yn fwy na chyfoeth ei gwr, ac roedd ganddi, yn anghyffredin iawn yn yr oes honno, ei chyfrif banc ei hun. Yr oedd Humphrey wedi rhannu £12,000 o’i eiddo personol o £15,000 rhwng ei wyrion a’i wyresau ychydig cyn ei farw. Yn ogystal, fel ei chwaer, oedd yn ddibriod, ac yn byw gyda Humphrey a Jane yn Nhai’r Meibion, yr oedd Ann Ellis yn cael hanner eiddo ei brawd.

Humphrey Ellis 1856 – 1897

Erbyn blynyddoedd olaf ei oes, pan oedd yn ffermio Tai’r Meibion ar ei ben ei hun, yr oedd Humphrey Ellis wedi colli ei blant i gyd, ond yr oedd ganddo etifeddion, gan fod iddo wyrion. Ym Mryn y Pin, Caerhun,  yr oedd dau o feibion ei fab hynaf, Owen, sef Owen, ganed 1858, a Humphrey, ganed 1860, tra’r oedd meibion ei ail fab, William, William Humphrey a Humphrey, yn byw heb fod ymhell oddi wrtho. Fe welwyd i William farw yn ddyn ifanc, ac yntau yn ffermio yn y Ty Coch, Llanffinan, gan adael gweddw ifanc a dau fab, William Humphrey John, 6 oed, a Humphrey, 5 oed. Bedair blynedd wedi’r Cyfrifiad, ar Ragfyr 8fed 1865, fe ailbriododd y weddw, Jannet, gyda dyn oedd fwy na 15 mlynedd yn hyn na hi, William Evans, oedd yn ffermio’r Perfeddgoed, fferm 130 acer ger Caerhun ym mhlwyf Bangor, rhyw bum milltir o Dai’r Meibion. Erbyn 1871 y mae Humphrey efo’i fam, a dwy hanner chwaer, 6 a 5 oed, yn byw yn y Perfeddgoed. Nid oes sôn am y mab hynaf yn byw gyda hwy, neu’n hytrach, nid oedd yno ddyddiad y Cyfrifiad. Efallai ei fod mewn ysgol breswyl, gan fod enghreifftiau o hynny yn y teulu. Yn sicr, nid yw wedi marw, gan ei fod yn ymddangos eto ar gyfrifiad 1901, yn gweithio fel clerc mewn banc ym Mangor, ac yn byw gyda’i fam, a’i thrydydd gwr, Griffith Johnson, ym Mron Derw yn y ddinas. Mae William Humphrey John, fel mwy nag un o’i deulu estynedig, yn gweithio fel clerc, neu ariannwr, mewn banc, neu fusnes, ond, yn wahanol i’r lleill, yn aros yn y swydd trwy’i oes, ac yn un o’r ychydig ddynion yn nheulu’r Ellis am dros ganrif sydd ddim yn maeddu’i ddwylo efo’r pridd! Erbyn Cyfrifiad 1881, nid yw’r teulu Evans yn y Perfeddgoed, ( efallai iddynt adael oherwydd fod William Evans wedi marw),  ond mae’r ail fab, Humphrey, gyda’i daid yn Nhai’r Meibion, yn 25 oed, ac yn cael ei ddisgrifio fel ‘Farmer’s grandson’. Fodd bynnag, nid ef oedd etifedd cyfreithiol ei daid, gan mai, yn nhrefn pethau, mab hynaf ( byw ) y mab hynaf fyddai’r etifedd. Owen, mab Bryn y Pin, oedd yr etifedd, ac fe ddaeth hwnnw i Dai’r Meibion yn 1883, ond bu ef farw, mewn amgylchiadau trychinebus, yn fuan wedi hynny ( gweler isod ). Yn dilyn hynny, yn nhrefn gyfreithiol pethau, daeth ei frawd, Humphrey arall, yn etifedd cyfreithiol Humphrey Ellis, Tai’r Meibion. Erbyn Cyfrifiad 1891 y mae Humphrey ( mab William) wedi symud o Dai’r Meibion i gymryd tenantiaeth fferm sylweddol Wig, ar y terfyn â Thai’r Meibion ym mhlwyf Aber,ac yno y mae’n ffermio gyda’i wraig, Gwen, ei ferch 14 mis oed, Jane, a nai a nith, gyda’r cyfenw Evans; er ei bod yn demtasiwn cysylltu’r rhain rywsut efo’i hanner chwiorydd, ni ellir profi hynny. Ganed merch arall, Margaret, yn 1893, ond, bu Humphrey farw yn 40 oed ar Awst 18, 1897. O dan y pennawd

Death of a well-known farmer

mae’r Caernarvon and Denbigh Herald 27 Awst 1897 yn nodi

On Sunday night the death occurred at his residence, Wig Farm, of Mr Humphrey Ellis, who was well known throughout North Wales as a successful farmer, and breeder of Welsh cattle and heavy horses. Mr Ellis was only 40 years of age and leaves a widow with two children. His illness was only of a few days’ duration, and his loss will be felt in agricultural circles generally’.

Yn ôl Cyfrifiad 1901, mae ei weddw, Gwen, a’i ferch, yn ffermio Wig, ac maent yno yn ôl Cyfrifiad 1911. Ni ellir, ar hyn o bryd, ddilyn y llinach yn y fferm, ond, yn sicr, yr oedd yn ôl yn y teulu yn 1979, pan oedd mab ieuengaf Tai’r Meibion, Kenneth Ellis, (1910 – 1994 ) yn ffermio’r tir, ar ôl bod, hefyd, yn ffermio Bryn y Pin hefo’i hen ewythr, Robert Ellis.

Er nad yw’n berthnasol i hanes y teulu Ellis, mae’n rhaid sôn am un cyd-ddigwyddiad diddorol. Fe aeth mab y Cefnfaes > Tai’r Meibion i ffermio Ty Coch, Llanffinan, ac yno ganed ei fab, a ddaeth, yn ei dro i ffermio Tai’r Meibion. Yn negawdau olaf yr 20 ganrif, a degawd cyntaf yr 21 ganrif, gwas Tair Meibion oedd Owen Williams, oedd wedi ei eni a’i fagu yn y Ty Coch, Llanffinan. Rhyfedd o fyd!

Humphrey Ellis 1859 – 1934

Erbyn 1891 y mae tenantiaeth Tai’r Meibion yn nwylo Humphrey Ellis arall, sef cefnder Humphrey Ellis, Wig; hwn yw ail fab ( yr hynaf sy’n fyw ) Owen Ellis, Bryn y Pin, mab hynaf ei daid, ac, fel yr etifedd cyfreithiol, ef a gymrodd denantiaeth prif fferm y teulu. Mae’n weddol sicr iddo fod yno yn dilyn marwolaeth ei daid yn 1886; cyn hynny, yr oedd wedi treulio cyfnod fel clerc ym Manc y National Westminster yg Nghaerdydd. Fel yr etifedd, ef, hefyd, oedd penteulu’r Ellisiaid, oedd yn berchnogion Stâd Cefnfaes, stâd a oedd, gyda llaw, yn cael ei gweinyddu’n annibynnol, ers 1878, gan WJ Parry, (ymhlith ei heyrn niferus arall mewn tân sylweddol). Felly, erbyn diwedd yr 1880au, mae tair fferm fwyaf llawr gwlad yr ardal sydd ar derfyn ei gilydd, Wig, Tai’r Meibion, a Thyn Hendre yn nwylo disgynyddion uniongyrchol Owen Ellis, Cefnfaes, dau yn gefndryd i’w gilydd, a’r llall yn gyfyrder iddynt. Yn y flwyddyn hon yr oedd Humphrey yn 31 oed, yn ddibriod, ac yn byw gyda’i fodryb ddibriod, Ann, 78 oed, oedd yn dal yn Nhai’r Meibion. Cyn 1894 yr oedd Humphrey wedi priodi gyda merch ddeuddeg mlynedd yn iau nag ef, Jane Catherine Roberts, o fferm Cefn Du, Gaerwen, plwyf Lanfihangel Esgeifiog, Ynys Môn, a chawsant chwech o blant yn y saith blynedd nesaf

1894   Ann Katherine Jane

1896   William Owen Humphrey

1897   Robert Thomas Hugh

1898   Winifred Mary

1900   Henry Griffith

1901   Enid Elizabeth

Yn 1898, bu farw ei hen fodryb Ann, yn 85 oed, a chladdwyd hi ym mynwent Aber. Mae’n eithaf sicr i’w heiddo hi ddod i feddiant Dair blynedd yn ddiweddarach, wedi gwaeledd hir, ar Fai 6ed, 1902, bu farw ei wraig, a chladdwyd hi ym mynwent Aber.

Ail-briododd Humphrey ym mis Hydref, 1909, gyda merch 35 oed o Preston, Rowena Marie Cockshott, a ganed plentyn iddynt, Kenneth Lindsey, yn 1910.

Yr oedd Humphrey Ellis, fel ei hynafiaid, yn ffermwr amlwg, a disgrifir ef, mewn un adroddiad o’r Gwalia, fel ‘ un o’r ffermwyr mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru, yr hwn fydd yn beirniadu yn y rhan fwyaf o’n prif arddangosfeydd amaethyddol’. Wrth bori ym mhapurau a chyfnodolion y cyfnod gwelir ei enw yn rheolaidd fel enillydd a beirniad ar sawl agwedd o amaeth, yn enwedig, felly, geffylau gwedd. Yr oedd, hefyd, yn amlwg ar sawl pwyllgor lleol a sirol, ac yn aelod o gymdeithasau niferus ac amrywil. Yn 1889, fe safodd Humphrey Ellis fel ymgeisydd Toriaidd ar gyfer Cyngor Sir Gaernarfon, y cyngor sir newydd oedd yn cael sefydlu y flwyddyn honno yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1888. Doedd Elis ddim wrth fodd gohebydd Bethesda wrth iddo ysgrifennu i Faner ac Amserau Cymru, oedd yn bapur Rhyddfrydol i’r carn. Am yr ymgeisydd rhyddfrydol, dywed, yn ddiflewyn ar dafod, fod yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Thomas  Roberts, yn methu cael ystafell i gynnal ei gyfarfodydd yn ardal hendref Llanllechidac Aber, oherwydd gwrthwynebiad i’w ddaliadau

Ei wrthwynebydd ydyw Mr. Humphrey Ellis, Tai’r Meibion, yr hwn sydd yn Dori rhongc. Y mae Mr. Thomas Roberts yn iach ar bwngc y cadeirydd ac ar bwngc yr iaith. Gwrthwynebodd Sais i fod yn gadeirydd yn Arfon, cefnoga Gymro-gwr a chalon yn ogystal a thafod Gymraeg -i lenwi y swydd. O ganlyniad, cynghorem etholwyr rhanbarth Aber i bleidleisio yn gryno dros Alr. Roberts-a gwneyd eu goreu i orchfygu Mr. Ellis, y Tori o Dai’r Meibion.  

Baner ac Amserau Cymru  23/1/1889

Thomas Roberts a enillodd yr etholiad.

Yn ogystal â bod yn denant yn Nhai’r Meibion, yr oedd Humphrey Ellis yn berchen ar ffermydd. Yn ôl tystiolaeth un o’i denantiaid yn Nyffryn Conwy i’r Comisiwn Tir yn Llanrwst yn 1893, yr oedd Ellis yn berchen ar ddwy fferm yn Llangelynin. ( Y plwyf nesaf i Gaerhun, ble’r oedd fferm Bryn y Pin) Dywedodd y tenant

he had no complaint to make against his landlord, other that he let game. The rent of the farm was very high, ‘ taking into consideration the state of things’. He received an abatement of 10 per cent. …….. witness ….. said that the landlord was a tenant farmer himself, and a Nonconformist’

Yn ei henaint, ymddeolodd Humphrey Ellis o’r fferm, gan symud i fyw i Lys Menai, Bangor, lle y bu farw ddechrau Rhagfyr, 1934, yn 74 oed,  a chladdwyd ef ym mynwent Aber, ym medd y teulu ( Nid yn Llanllechid, fel ei hynafiaid) . Yn ei ewyllys, gadawodd y nesaf peth i £20,000 o eiddo a chyfoeth personol i’w deulu, oedd, yn sicr, heb fod yn agos i gyfanswm ei gyfoeth.

Aelodau eraill o’r teulu

Henry Ellis  1811 – 1864

Henry oedd pedwerydd mab, a phumed plentyn Owen a Catherine Ellis, ac fe’i ganed yn 1811.

Ar Fawrth 9fed 1832, fe briododd ferch o’r un oed ag ef, Sarah Roberts, o Lanfaglan, yn eglwys y plwyf hwnnw, gyda’i frawd Ellis yn dyst iddo. Erbyn 1841 yr oedd yn byw yn y Talybont Inn, Llanllechid, efo’i wraig a phedwar o blant, gan gynnwys Owen, oedd yn 5, neu 6, oed,( mae blotyn inc dros yr oed, ac, er fod y drefn yn rhestr y teulu yn awgrymu 2 oed, mae’n weddol sicr mai 5/6 oedd, gan fod pob cofnod arall yn nodi 1835 fel blwyddyn ei eni. Mae mwy amdano ef isod) ac yn ei ddisgrifio ei hun fel ‘Publican’. Erbyn 1851, mae Henry yn dal i fyw yn Nhalybont, ( ond heb yr ‘Inn’). ac yn cael ei ddisgrifio o hyd fel ‘Publican’ ond, hefyd, fel ‘Farmer of 30 acres’, gan fod tir, bellach, ynghlwm wrth y dafarn. Yn ogystal â’r tir oedd ynghlwm wrth Talybont Inn ( sef Talybont Isaf ), yr oedd Henry, hefyd, yn rhentu tiroedd unigol, megis Tyddyn Cwta, a Chae’r Ffos. Yn Nhalybont, hefyd, yr oedd 5 o blant, ond nid oedd Owen yno. Down ato ef yn nes ymlaen.

Erbyn 1861, yr oedd wedi codi mwy eto yn y byd, gan ei fod yn ffermio 160 o aceri, ac, er ei fod yn dal i fyw yn Nhalybont, ni ddisgrifir ef fel ‘publican’.

Bu Henry Ellis farw yn 53 oed yn 1864, a chafodd ei gladdu ym mynwent Llanllechid.

Yn ystod ei oes, ac wedi hynny, newidiodd enw’r cartref teuluol. Bu yn Talybont Isaf, Talybont Inn, Talybont, y George and Dragon, a’r Ty Uchaf, a bu  ym meddiant disgynyddion uniongyrchol Henry Ellis hyd at, o leiaf, 1979, pan mai’r preswylwyr oedd Megan Ellis ( ganed 1925)  ac Elizabeth Ellis. Yn nechrau’r 80au, prynwyd y Ty Uchaf gan wr lleol, a newidiwyd yr enw i Abbeyfield ( er mwyn dod gyntaf ar y Tudalennau Melyn!) ; erbyn heddiw, mae mewn dwylo gwahanol, ond yn parhau’r westy, o dan yr enw Llechen.

Owen Ellis Tyn Hendre 1835 – 1899

Mab i Henry a Sarah Roberts, Talybont, ( uchod ) oedd Owen. Mae trefn ei enw yng nghofnod Cyfrifiad 1841 yn awgrymu ei fod yn 2 – 3 oed, ond mae blotyn inc dros yr oed; mae pob cofnod arall yn nodi mai 1835 oedd dyddiad ei eni. Golyga hyn fod ei enw yn y lle anghywir yn nhrefn plant Henry a Sarah. (Nid yw hyn yn peri syndod, gan ei bod yn ymddangos nad oedd y teulu Ellis, fel teulu cyfan, yn rhyw sicr iawn o oedrannau a dyddiadau geni eu plant! ) Nid yw yn y cartref yn ôl Cyfrifiad 1851; yn hytrach, yr oedd ef yn ddisgybl 16 oed mewn ysgol yn Frodsham yn Swydd Gaer yn cael y math o addysg yr oedd sawl aelod o’r teulu yn ei gael. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe’i gwelwn yn Gyfrifydd ac Ariannwr yn Elgin yn yr Alban, yn gweithio, yn ôl ei ddisgynyddion, gyda chwmni oedd yn ymwneud mewn rhyw fodd â’r Caledonian Canal. Fodd bynnag, ymhen 10 mlynedd y mae yn ei ôl ym mhlwyf Llanllechid, oherwydd ddiwedd 1871 fe briododd gyda Grace Hughes, merch Aberogwen, oedd yn 22 oed, 14 blynedd yn iau nag ef. Yr oedd fferm newydd Tyn Hendre ( Gweler Tyn Hendre) wedi ei ffurfio trwy ad-drefnu tiroedd yn 1857, a, gan ei bod yn fferm arbenigol, rhoddwyd y denantiaeth i ffermwr ifanc profiadol o Sais, ac arwerthwr lleol, Charles Bicknell. Wedi marwolaeth cynnar Bicknell, fe gymerwyd y denantiaeth gan Owen Ellis, y cyfrifydd, a bu ef yno, gyda’i deulu yn ffermio, nes iddo farw, yn 64 oed  fis Gorffennaf, 1899.  Gadawodd weddw a naw o blant ar ei ôl yn Nhyn Hendre. Fe fu tenantiaeth Tyn Hendre ym meddiant Grace tan ei marwolaeth yn 1938, ac fe fu’n ffermio gyda chymorth ei meibion, yn enwedig ei mab hynaf, Henry Owen Ellis, ganed 1872, a’i frawd, Tom. Henry oedd yn ffermio’r fferm yn 1939,ac arhosodd y fferm yn nwylo disgynyddion uniongyrchol Owen Ellis tan ddegawdau olaf yr 20fed ganrif, gan mai ei wyrion, Owen Ellis, ganed 1908, a Robert Gwynedd Ellis, ganed 1912, oedd yn ffermio’r tir yn 1979. Gadawodd y teulu’r fferm Hydref 1990, gan symud i fyw i’r pentref ( Gwynedd i Dalybont, ac Owen i Dalybont). Ar eu holau hwy yr aeth y fferm allan o ddwylo teulu’r Ellisiad, wedi canrif o denantiaeth lwyddiannus.

Grace Ellis, a’i phlant, y tu allan i Dyn Hendre 1921 Llun trwy garedigrwydd Peter Ellis Roberts Hendref Gwalchmai

Ellis Owen Ellis 1809 – 1890

Ellis oedd trydydd mab a phedwerydd plentyn Owen a Catherine Ellis, Cefnfaes. Fel yn achos mwy nag un o blant y pâr, mae amryfusedd rhwng dyddiad geni a’r oedran a nodir ar eu cyfer yn Nghyfrifiad 1941. Nodir oedran Ellis fel 40, sy’n golygu mai 1811 oedd blwyddyn ei eni, ond mae cofnodion y plwyf yn nodi iddo gael ei fedyddio yn 1809. Yn yr un modd mae cymysgedd efo oedran Ann. Beth bynnag, gwas ffarm – ‘Ag Lab – yw Ellis, yn gweithio adref, mae’n debyg. Dangoswyd fod ewyllys ei dad yn gadael arian iddo yn gymunrodd, ond, erbyn 1851, yr oedd wedi priodi gydag Anne, ac yn byw yn Talybont Penybont, ger y Lodge i Barc Penrhyn, ac yn cael ei ddisgrifio fel ‘Farmer of 10 acres’. Mae’n amlwg ei fod wedi priodi ers rhai blynyddoedd gan fod ganddo ef a’i wraig ferch 5 oed, Mary, yn byw gyda hwy. Erbyn 1881 y mae ef a’i wraig ym mhlwyf Llangeinwen, Ynys Môn, ble mae’n cael ei ddisgrifio fel ‘Retired Provision Merchant’, sef siopwr. Bu farw yn 81 oed, a chladdwyd ef Tachwedd 26 1890, ym mynwent Niwbwrch. Nid yw Llechidon yn sôn amdano fel un o feibion Owen Ellis; y tebygrwydd am hyn yw ei fod,mae’n debyg, wedi gadael yr ardal, ac heb fod yn un o ‘enwogion’ y plwyf.

Dr Griffith Ellis

Cafodd ei eni yng Nghilfodan yn 1737. Yn ôl Llechidon ‘ Adnabyddid ef ydyddiau hynny wrth yr enw ‘ Doctor Elis, Cilfodan’. Symudodd i fyw i Fangor, ble treuliodd weddill ei oes yn feddyg. Roedd yn frawd i Owen Ellis, a Betsan Ellis( isod), ymhlith eraill. Yn ôl Llechidon, ef a adeiladodd y ty cyntaf yn y Groeslon, Llanllechid.

Elizabeth ( Betsan ) Ellis  c. 1755 – c 1840

Chwaer i’r Owen Ellis cyntaf a nodir uchod oedd Elizabeth Ellis, neu, fel yr adwaenid hi ar lafar, Betsan Ellis. Yn 1771 roedd hi’n ferch ifanc yn byw yng Nghilfodan. Roedd hi’n un o’r Anghydffurfwyr cyntaf yn yr ardal, yn Fedyddwraig, a chafodd ei bedyddio, yn ôl yr hanes, mewn ffynnon ar dir Cilfodan (neu, mewn cyfeiriad arall, yn afon Ffrydlas, oedd yn ffurfio un terfyn i’r fferm ). Nodir mai yn ei chartref hi y cafwyd y bregeth Anghydffurfiol gyntaf yn yr ardal, ond mae amheuaeth ai yng Nghilfodan, ai, yn debycach, yn y Tyddyn Isaf, y bu hynny, gan iddi symud i’r fan honno, rhwng Llanllechid a Maes y Groes, o Gilfodan. Beth bynnag am y lleoliad, gwyddom y traddodwyd y bregeth cyn 1785, gan i Betsan Ellis ymfudo i Ogledd America y flwyddyn honno. Mae’n bosibl iddi ymfudo gyda’i brawd, Morris, fu’n ffermio Cilfodan wedi i Henry symud i Fangor, gan fod tystiolaeth iddo yntau, Morris, fynd i’r America tua’r un pryd. Bu hi farw mewn gwth o oedran ar y cyfandir hwnnw yng nghanol y 19 ganrif

Dr Henry Ellis 1817 – 1869

Fe welsom, uchod, fel y bu i Owen Ellis fod yn ysgutor i ewyllys ei frawd Harri ( Henry ), Groeslon, a fu farw yn 1792/3, a’i fod yn gyfrifol am yr ystâd nes i dri mab Harri gyrraaedd eu 21 oed, gan roi cymunrodd benodol i’r tri ar yr oed hwnnw. Yr ieuengaf o’r meibion oedd Ellis Parry ( a oedd wedi parhau’r hen arfer o gymryd enw’r tad yn gyfenw), ac arhosodd ef yn y Groeslon. Ei fab ef oedd Henry, a aned yn 1817. Cafodd addysg dda, yn ôl arfer y teulu, ac, wedi cyrraedd yr oedran derbyniol, prentisiwyd ef yn feddyg, yn ôl dull yr oes, gyda meddyg lleol, Dr John Roberts, ym Mangor. Cafodd hyfforddiant pellach mewn ysbytai yn Nulyn, Richmond, a Whitworth, cyn dychwelyd Fangor yn feddyg. Sefydlodd ei hun yn 313 Stryd Fawr ( ger Stryd Deon ), gan briodi efo merch o Landgai, a magu teulu. Fe’i penodwyd yn feddyg Undeb Bangor a Biwmares, ( sefydlwyd 1837 i weinyddu Deddf y Tlodion), gyda chyfrifoldeb dros blwyfi Bangor, Aber, a Llanfairfechan. Yn ôl Llechidon, yn 1866, yr oedd wedi gwneud ‘darganfyddiad rhyfeddol, sef ffordd i ddefnyddio math o gyffur meddygol i wneyd papur i wasanaethu yn lle llechi ysgrifennu yn yr ysgolion dyddiol‘. Mae’n amlwg na chafodd gyfle i fanteisio’r ariannol ar ei ‘ddarganfyddiad rhyfeddol, oherwydd bu farw yn wr gweddol ifanc 52 oed yn Ionawr 1869. Dilynwyd ef fel meddyg, yn yr un cyfeiriad, gan ei fab Ellis Henry Ellis, a nodir ei fod yn ‘Practising Physician and Surgeon’ yng Nghyfrifiad 1871, ac yntau ond yn 22 oed! Bu farw’n wr ifanc 33 oed yn Ebrill 1882, yn ddibriod.

Owen Ellis 1857 – 1884

Ef oedd wyr hynaf Humphrey Ellis, Tai’r Meibion, mab, ( ond nid plentyn ), cyntaf Owen, ei fab hynaf, oedd yn ffermio Bryn y Pin, Caerhun. Bu farw’r tad pan oedd Owen y mab yn 9 oed, gan adael y fam, Catherine, yng ngofal y fferm ( Bu hi yno tan ei marwolaeth yn 1909 yn 79 oed). Unwaith y bu ei dad farw, Owen oedd etifedd cyfreithiol ei daid, ac fe newidiwyd ewyllys y taid i gydnabod hynny yn 1868.

Yn 1883 daeth Owen i fyw at ei daid a’i nain i Dai’r Meibion, o Fryn y Pin, Caerhun, Dyffryn Conwy. Er fod ei gefnder, Humphrey, mab William, eisoes yn Nhai’r Meibion, yn cynorthwyo ei daid, efallai mai cynllun y taid oedd hyn i sicrhau olyniaeth yn y brif fferm, gan  mai Owen, fel ei wyr hynaf, fyddai etifedd Humphrey. Eto, efallai fod bwriad arall i ddod ag Owen o Ddyffryn Conwy i Lanllechid, gan ei bod yn amlwg fod Owen yn dioddef o broblemau meddyliol. Yn ôl disgrifiad a roddwyd ohono bum mlynedd wedi ei farw, yr oedd yn ‘intemperate’, sef yn gymeriad eithafol; gallai hynny olygu unrhyw beth o arferion personol i broblemau meddyliol. Efallai mai dod ag ef i Dai’r Meibion i geisio gwella, neu sefydlogi, mewn ardal gwahanol oedd y bwriad. Pwy a wyr, erbyn hyn? Fodd bynnag, ni fu diwedd hapus i’r hanes.  Ym Mehefin 1884, aeth yr Owen Ellis ifanc , am ryw reswm, o Dai’r Meibion i aros mewn ty llety ym Mhorthaethwy ac yno, un pnawn Sadwrn, fe aeth i’w lofft, ac fe saethodd ei hun. Roedd yn 27 oed. Yn ôl Y Llan, roedd yn  ‘ wr ifanc o gryn gyfoeth’, fel petai hynny’n rheswm i beidio difa ei hun. Wedi dweud hynny, yr oedd yn hollol wir, gan fod ei daid ychydig ynghynt, wedi gwaddoli incwm o £500 y flwyddyn iddo, oedd yn arian sylweddol i wr ifanc yn y cyfnod. Dyfarnodd y cwest i’w farwolaeth iddo ddifa ei hun oherwydd ‘ ei fod yn agored i ffitiau o wallgofrwydd crefyddol’.  Fodd bynnag, arall, a mwy beirniadol, oedd barn Baner ac Amserau Cymru, pan ddywedir am y gwr ifanc ymadawedig a’i weithred

Ond y gwir plaen oedd  iddo gymryd lle fel canlyniad o ymarfer yn ormodol o’r ddiod gref’

Fodd bynnag, rhaid rhoi eiriau’r Faner Ryddfrydol yn eu cyd-destun gwleidyddol, gan mai Toriaid cefnog oedd Ellisiaid Tai’r Meibion, a Thoriaid oedd casbethau’r Faner, ei pherchennog a’i golygydd, Thomas Gee, a’i gohebwyr lleol, ar draws Cymru, ac yn Nyffryn Ogwen. Eto, gall ‘intemperate’ olygu ‘yfed i ormodiaeth’, yn ogystal â bod yn eithafol.

Bryn y Pin, Caerhun

Er nad cymeriad yw fferm, y mae’n rhan o hanes y teulu am ganrifoedd, a dylid sôn ychydig amdani. Yn 1794 fe brynodd Owen Ellis, Cefnfaes, dir yn Nyffryn Ogwen am £735, oddi wrth Maurice Jones, Gent, Bryn y Pin; roedd y tir hwn yn terfynu ar Gilfodan Uchaf, oedd yn nwylo Ellis, ac yn rhedeg at Afon Ogwen; y pryniant hwn oedd sail cyfoeth yr Ellisiaid yn y ganrif i ddod, oherwydd dyma hanfod Stâd Cefnfaes. Wn i ddim a oedd Ellis a Maurice Jones yn berthnasau, ond, o 1851, am, o leiaf ganrif, yr oedd 80 acer  Bryn y Pin, ar lethrau gogledd-orllewinol Dyffryn Conwy, uwchben Caerhun a Thyn y Groes, yn cael ei drin gan Ellisiaid, a’r rheiny yn aelodau canolog, nid ymylol, o’r teulu. Yn 1841, gweddw ifanc, Elizabeth Jones, 25 oed, sy’n ffermio’r lle, gyda’i mam a’i merch fach 4 oed; doedd hi ddim yno ddwy neu dair blynedd ynghynt, yn ôl yr Arolwg Degwm. Yn ogystal, doedd dim cysylltiad perchnogaeth rhwng yr Ellisiaid a’r fferm, ychwaith, gan mai stâd Williams Bulkeley, Biwmares, oedd y tirfeddiannwyr. Erbyn 1851, fodd bynnag, yr oedd Bryn y Pin yn cael ei ffermio gan fab hynaf y Cefnfaes, Owen Ellis, gyda’i wraig ifanc, 22 oed, Catherine. Bu Owen farw yn ddyn ifanc yn 1867, ond arhosodd ei weddw a rhai o’i theulu ym Mryn y Pin tan ei marw yn 1909. Fel y gwelwyd, lladdodd ei mab hynaf ei hun yn 1884, a daeth ei hail fab yn feistr Tai’r Meibion, ond aros adref i ffermio Bryn y Pin wnaeth ei thrydydd mab, Robert Owen Ellis, ganed 1862. Pan oedd yn 42, yn 1904, fe briododd gyda merch o’r un plwyf, Dorothy, oedd 12 mlynedd yn iau nag ef, a chawsant ddwy o ferched. Ym 1939 yr oedd yn dal gyda’i deulu ym Mryn y Pin, ond, erbyn hyn, efallai oherwydd ei fod yn 77 oed, yr oedd Ken Ellis, ei nai, fab ei frawd hyn, Humphrey, wedi dod ato i ffermio. Oddi yno y daeth Ken Ellis i’r Wig

Cloi

Er ei bod yn hollol amlwg fod disgynyddion lawer i’r teulu dylanwadol hwn ym mhlwyf Llanllechid  heddiw ar hyd a lled y wlad, a’r byd, mae’n debyg, bellach nad oes ond un sy’n cario’r cyfenw Ellis, sef un disgynydd trwy linell wrywaid, a hwnnw wedi disgyn trwy deulu Tyn Hendre, nid trwy deulu Tai’r Meibion. Bellach nid ydynt yn ddylanwad ym mhlwyf Llanllechid, naill ai fel arweinwyr yn y byd amaethyddol, y byd crefyddol, nac fel perchnogion Stâd y Cefnfaes, nad yw bellach yn bodoli ond mewn enw un canolfan ac un stryd . Yn union fel y diflannodd y teulu pwerus o Gastell y Penrhyn, ac y diflannodd eu llaw haearnaidd oddi ar  fywyd Dyffryn Ogwen, felly hefyd y diflannodd y teulu cynhenid hwn a fu, am ganrif a mwy, yn hynod o bwysig ym mywyd y dyffryn, gyda’u dylanwad yn cyfannu’r ddau ddiwydiant pwysig yn y plwy, amaeth a chwarelydda, yr ail trwy adeiladau ar gyfer y gymdeithas chwarelyddol, a’r cyntaf trwy fod yn ymarferwyr crefft gyntaf dynolryw, a bod yn feistri ar honno, cymaint meistri fel bod y tair fferm fwyaf yn yr ardal yn eu meddiant am flynyddoedd lawer.

Tai’r Meibion o lethrau Moel Wnion

Ffynonellau

Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid Hugh Derfel Hughes

Cofnodion Cyfrifiad 1841 – 1911

Ewyllysiau yn y Llyfrgell Genedlaethol 1690 – 1851

Wills and Probate – 1941

Llyfrau Rhent Stâd y Penrhyn

Dogfennaeth gyffredinol Stâd y Penrhyn

Baner ac Amserau Cymru

Seren Cymru

The Standard

Caernarvon and Denbigh Herald

Gwybodaeth a deunyddiau gan Peter Ellis Roberts Hendref Gwalchmai

Arysgrifau Mynwent Llanllechid ac Aber

%d bloggers like this: