Awdur: Dafydd Fôn Mai 2020 ymlaen
Rhagymadrodd
Ar gyfer y gwaith hwn, byddwn yn edrych ar ran orllewinol y plwyf yn bennaf, sef y rhan o’r môr at Bont Twr, ac i’r de-orllewin o afon Caseg. Mae hynny’n cynnwys y tir sy’n ymestyn o Draeth Lafan, ar hyd y llethrau, ble mae ffermydd Fedw, Bronnydd, Bryn Hafod y Wern, Tan y Bwlch, Cilfodan, Tyddyn Sabel, Tan y Garth, a Chiltwllan yn cyffwrdd y Carneddau, ac i fyny at Waun Gwiail yng ngesail y Carneddau. Fodd bynnag, oherwydd eu bod yn rhan o’r un dyffryn yn ddaearyddol, bydd ambell gyferiad at blwyf Llandygai, ac at Nant Ffrancon, ac ucheldir Nant y Benglog. Mae ansawdd a natur tiroedd y gwahanol rannau hyn o’r dyffryn yn wahanol i’w gilydd, ac roedd eu defnydd amaethyddol, o reidrwydd, yn wahanol. Mae’n amlwg fod tiroedd gwaelod y ddau blwyf yn weddol debyg i’w gilydd, gyda thir ffrwythlon rhwng afon Cegin ac Abergwyngregyn: dyna pam y sefydlwyd Cochwillan a Phenrhyn ar y gorau o’r tiroedd rheiny. Roedd mwy o dir cynhyrchiol ym mhlwyf Llanllechid nag oedd yn Llandygai, er fod yr Hendre (sef tir gwaelod y plwyf rhwng y bronnydd a’r môr yn cynnwys tipyn go lew o dir gwlyb, a thir oedd yn troi’n wlyb mewn tywydd gwael. Gellir gweld hynny hyd heddiw; does ond rhaid edrych i lawr ar yr ardal wedi llawer o dywydd gwlyb.
Rhan o’r hendre yn ngwaelod Llanllechid wedi tywydd gwlyb. Ble mae’r dwr heddiw roedd hen ddaliad Pwll Budr. Ger y coed, mae sianel yn rhedeg i’r môr; nodir ef ar fapiau OS fel Sianel Pwll Budr
Roedd tir cynhyrchiol Llandygai wedi ei gyfyngu’n gyffredinol i ‘demesne’ Penrhyn, Ty Newydd (y cymerwyd 181 o’i 297 acer o’i dir i’r demesne’), a Chororion. (yn 72 acer). Roedd y Wern Fawr (y mae’r A5 yn awr yn ei chroesi rhwng Llys y Gwynt a Thai Teilwriaid), cyn sychu llawer arni yn nghanol y 19 ganrif, yn dir corsiog o 30 acer, ac roedd Ffridd y Deon yn 55 acer o borfa wael ar y llethr rhwng afon Cegin a’r A5 heddiw. Daliadau o gaeau bychain rhwng creigiau a gwylltir oedd y rhan fwyaf o Landygai. Yn Nant Ffrancon, wedyn, roedd ychydig iawn o dir gweddol ar y gwaelodion ei hun, ond dengys yr enwau, a’r sefyllfa bresennol, pa mor brin oedd, ac yw, y caeau, a pha mor eang y corsdir, hyd yn oed heddiw, pan fo gwelliannau helaeth wedi digwydd. Ar yr ochrau a’r mynyddoedd yr oedd y rhan fwyaf o’r ychydig ffermydd oedd, ac sydd, yno. Yn 1768, yn y fwyaf o’r ffermydd ar lawr y nant, sef Pentre, 121 o’i 1388 acer oedd yn rhywbeth tebyg i dir cynhyrchiol, ond tir pori oedd hwnnw gan mwyaf, gydag ond 28 acer yn weirglodd; roedd y gweddill i gyd yn ucheldir. A dim ond 28 o 953 acer Blaen y Nant oedd yn cael ei ystyried yn dir i dyfu gwair. Roedd llai fyth o dir da ym Maes Caradog. Pan eid yn uwch eto i Nant y Benglog, tir mynydd llwyr oedd yno, yn rhosydd, ffriddoedd, clogwyni, a mynyddoedd. Ble mai ffermydd cymysg oedd y mwyafrif llethol o ffermydd Llanllechid, o Caseg i’r môr, roedd natur y ddwy Nant yn golygu mai ffermio defaid yn bennaf a wnai’r ffermydd yn yr ardaloedd hyn. Roedd y rhan fwyaf o’u tiroedd yn hyn, a elwid gan deithwyr yn ‘high sheep walks’, ar dir uchel uwchben 1000 troedfedd.
O hyn ymlaen, felly, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn ymwneud â’r rhan honno o blwyf Llanllechid a nodais gynt, er y gellir cael ambell gyfeiriad am fannau cyfagos.
Eglwys Llanllechid: hi mae’n debyg, oedd canolbwynt gweinyddol y plwyf am ganrifoedd