Bugeilio ar y Carneddau 1850au a’r 1860au

Fe ysgrifennwyd yr erthygl hon gan David John Evans, ac fe’i cyhoeddwyd yn Y Drych, papur wythnosol Cymraeg Gogledd America rhwng 2014 a 2017. Mae’n disgrifio plentyndod yr awdur yng Ngwaun Gwiail yn yr 1850au a’r 1860au. Am y cefndir manwl, gweler yr erthygl ar Gwaun Gwiail.

Defnyddiwyd orgraff, sillafu, gan mwyaf, yr erthygl gwreiddiol

Hel Defaid

Un o’r adegau mwyaf dyddorol  i ni y bechgyn yn yr hen amser fyddai adeg wyn bach a nol y defaid adref o’r hendref tua dechreu Ebrill. Wrth fod y waen yn lle mor uchel, byddent yn mynd a’r wyn i leoedd is i bori dros y gauaf, a byddem yn bryderus iawn pan y byddent yn dyfod adref yn y gwanwyn i weled sut olwg fyddai arnynt. Gwyddem wrth hynn pa fath le fyddent wedi ei gael yn y gauaf.

Adeg wyn, gydag ambell eithriad, fyddai diwedd Mawrth a mis Ebrill. Yr wyf yn cofio yn dda mor falch fyddwn os y digwyddai inni gael oen o flaen William Griffith a Sion Rolant. Byddem yn dod a’r defaid i lawr o’r mynydd yn y gauaf i’r caeau o gwmpas y tai, yn enwedig y mamogiaid, ond, er hyny, byddai llawer o honynt yn mynu myned i’w cynefin i’r mynydd i gael wyn. Fe ddywedid i un o ddefaid y Waen fyned yr holl ffordd o tudraw i Glynog i ochr Carnedd Llewelyn i gael oen. Weithiau byddai yn waith anhawdd iawn dyfod a dwy neu dair o ddefaid ag wyn i lawr o’r mynydd, byddent yn benderfynol o fynd eu ffordd eu hunain; ond droion eraill, ni fyddai raid gwneyd dim ond dal a chario yr wyn, ac fe ganlynai yr hen ddefaid fel cwn ar eich ol. Peth pleserus iawn fyddai edrych ar yr wyn yn chwareu; y naill yn rhedeg ar ol y llall, ac os byddai yno dwmpath uwch na’i gilydd, caech eu gweled yn rhedeg i’w ben, ac yn ceisio twlcio. y naill y llall i lawr, pryd y byddai yr  hen famogiaid yn ddiwyd yn pori ac yn rhoi ambell i fref, a hono heb fod yn glir iawn wrth eu bod yn pori; ond waeth er hyny, byddai yr oen yn sicr o adnabod ac ateb brefiad ei fam. Y mae yn anhawdd credu mor dda yr oedd y fam a’r oen yn adnabod brefiadau eu gilydd. Gwelais ddafad ac oen yn myned at eu gilydd ar draws cymoedd a hyny o bellder bron anhygoel a hyny yn unig trwy ateb y naill y llall yn eu brefiadau. Adeg fyddai yn rhoddi y prawf goreu arnom fel bugeiliaid fyddai adeg marcio yr wyn. Byddem yn eu hel i gyd gyda’u gilydd, y mamogiaid a’r wyn i un gorlan, a byddai y rhai fyddai yn marcio yn dal y naill oen ar ol y llall, a byddai raid i ninau ofalu am ddal y fam i’w gollwng gyda’r oen, ac yr oedd yn gofyn bod yn lled graff i fedru gwneyd hyny lle byddai cant neu rhagor o wyn. Diwrnodau pwysig iawn i ni fyddai diwrnod golchi a chneifio defaid. Ychydig iawn fyddem yn ei gysgu noswaith hel, o herwydd byddent yn dyfod i fyny o Talsarn, Llwynpenddu, Cilfoden a’r Gerlan; rywle tua haner nos, ac yn cyfarfod yn y Waen, ond cyn cychwyn i’r mynydd y peth cyntaf fyddai y cwn. yn curo; dyna lle y byddai tua dwsin neu ragor o gwn yn ngenau eu gilydd! Yr oedd ein ci ni yn gryf ac yn gurwr da, ond nid oedd yn ddigon ffyrnig i ddal ati. Un gwael am guro oedd yr hen Dos, ci William Griffith, ond am yr hen Finer, yr hen ddaeargi, ‘doedd dim diwedd ar hwnw; byddai yn yr afael gyda rhyw gi o hyd. Yr oedd gan bawb eu lleoedd wrth hel y defaid. Talsarn a Willie Griffith tua Pen Carnedd Llewelyn, Llwynpenddu; a gweision Rowlant yr Elen, a ninau Bryniau Melynion a’r Ysgolion. Byddem i fyny ar benau y mynyddoedd rywle tua 1 neu 2 y boreu, ac yn dechreu gwaeddi ei hochr hi, a byddem yn gwasgu at ein gilydd i’r Waen rhwng yr Arddgoed a’r Elen i lawr dros y Braich, ac i fuarth y Braich. Buarth neu gorlan gyffredinol ydoedd y Braich, ac yno y byddem yn eu didoli —defaid y Waen yn cael eu didoli oddiwrth y lleill ac yn cael eu hel trwy yr olchfa yn afon Lafar a’u gollwng wedi hyny i’r mynydd i sychu hyd ddiwrnod cneifio; ond am y lleill byddent hwy yn golchi y defaid yn afon Gaseg, ac yn eu cadw adref hyd ar ol cneifio. Yr oedd y buarth golchi yn debyg i’r llythyren V yn culhau at yr afon,lle y byddai dau ddyn un bob ochr yn taflu y defaid ar eu penau ac yn gofalu ar iddynt fyned o dan y dwr ac i nofio ar draws yr olchfa i’r lan arall. Yr oedd gwahanol ddosbarthiadau o ddefaid, a hyny yn benaf am eu bod yn cynefino mewn lleoedd, gwahanol. Yr oedd rhai yn ddefaid barus; rhai anfoddlon ydoedd y rhai hyn, a phob amser yn chwilio am le i fedru myned dros y cloddiau i leoedd na chaniateid iddynt. Dyma y dosbarth y byddai y cwn yn eu hanos. Byddai gwlan gweddol amynt, ond byth lawer o gig. Dosbarth arall o ddefaid ydoedd y rhai hyny fyddai yn pori mewn lleoedd gwlybion o gwmpas hen donenydd. Chwyddo dan eu penau y byddai y rhai hyn bob amser, yn afiach, yn dueddol i’r bendro, a diwedd llawer o honynt fyddai myned i’r donen ac yn rhy wan i ddyfod allan a boddi. Dosbarth arall ydoedd y rhai hyny fyddai yn pori mewn lleoedd peryglus. Yr oedd lleoedd felly rhwng Camedd Llewelyn a Charnedd Ddafydd, “Yr Ysgolion.” Yr oedd yno, yr hyn a alwem yn stepiau ac ar y rhai hyny lle byddai llawer o wellt glas yn tyfu. Yr oedd yno un neu ddwy yn neillduol y byddai yn aml iawn ddefaid wedi neidio i lawr iddynt. Yr oeddynt yn edrych mor ddeniadol fel y byddai y demtasiwn yn rhy gref i ami i ddafad. Ond byddai yn haws neidio i lawr na neidio i fyny, a buan iawn y ceid gweled y lle ydoedd unwaith yn edrych mor ddeniadol wedi myned yn goch drosto heb flewyn glas i’w weled yno o gwbl, ac un o’r pethau mwyaf torgalonus fyddai eu gweled yn cerdded ol a blaen, ac yn brefu yn hiraethus am ryw ffordd i fyned oddi yno, ond yn ofer hyd nes i rywun fyned yno gyda rhaffau i’w codi i fyny. Bum gydag eraill yn tynu rhai oddi yno unwaith neu ddwy a gwaith peryglus ydoedd.

Yr wyf yn cofio i ddau ohonom fyned i geisio dafad ag oen o’r Ysgolion; un yn dal y rhaff a’r llall yn myned i lawr i geisio eu dal a rhwymo y rhaff am danynt a’u codi i fyny, ac i fy rhan i y disgynodd myned i lawr, a llwyddais i gael y fam ond fe neidiodd yr oen dros y dibyn a thorodd a wddf. Dosbarth arall o ddefaid

ydoedd rhai corniog. Porent mewn lleoedd. ychydig yn llwm, a byddent yn ddigon iach, ond anaml y byddai llawer o gig arnynt. Yr oedd dosbarth arall o ddefaid a’u cy efin ar benau uchaf y mynyddoedd; llawer o honynt yn ddefaid da, ond yn rhy wyllt a. gormod o liw niwl ar eu gwlan. Y dosbarth goreu ydoedd y rhai hyny oedd a’u cynefin ar y gwaenydd gwelltog a’r ochrau heulog. Byddent i’w gweled yn aml yn gorwedd yn ddigonol ac yn cnoi eu cil yn yr haul. Y pethau hyn ydynt alegori o’r gwahanol ddosbarthiadau o ddynion mewn cymdeithas, a gadawyf hwynt i’r darllenydd eu deongli fel y gwelo oreu. Yr oedd y rhai fyddai yn arfer gyda defaid yn lled fedrus fel meddygon. Gwelais rai gweithiau ryw fath o bilionen yn tyfu dros eu llygaid, a dygwyddai hyny yn aml wedi dyfod a hwy i lawr o’r mynydd yn niwedd y flwyddyn—yr adladd yn rhy gryf iddynt. Y feddyginiaeth bron anffaeledig i’r cyfryw fyddai eu dal a chrafu careg las a rhoddi y llwch yn eu llygaid. Yr oedd yr operation ar y bendro yn gofyn llawer mwy o fedr. Byddai raid tori trwy asgwrn y pen a thynu y dwfr oddiar yr ymenydd. Ni byddai rhoddi esgyrn eu coesau yn eu lle a hyny yn ami er iddynt fod allan trwy y croen, ond goruchwyliaeth digon syml a chyffredin. Yr oedd dan elyn neillduol i’r defaid, sef y gigfran a’r llwynog. Tynu eu llygaid y byddai y gigfran, ond sugno eu gwaed y byddai madyn, a byddent yn gwneyd llawer o ddifrod vn neillduol gyda’r wyn. Byddai y gigfran bob amser yn nythu yn yr ysgolion, a byddai raid myned yno yn y gwanwyn i dynu y nyth cyn i’r cywion ehedeg. Ond gwaith anhawdd a pheryglus ydoedd, a byddai raid cael rhai o’r chwarelwyr fyddent wedi arfer gyda rhaffau. Byddai y nyth ar ryw step fechan o dan ryw gantel o graig ydoedd yn taflu dros ei throed rhyw ddeuddeg neu fwy o droedfeddi, a byddai raid i’r un elai yno yswingio gyda phren yn ei law i dynu y nyth. Gwelais rai yn tori eu calonau ar ben y gromlech uwch ben y nyth ac yn gorfod troi yn ol, a ‘doedd hyny ryfedd yn y byd, canys yr oedd yn gofyn pen da iawn i beidio a syfrdanu uwch ben y fath ddiibyn. Un tro gwelais ddyn ydoedd yn ei ymddygiad yn honi nad ofnai Dduw na dyn yn cychwyn i lawr, ond yn fuan yn myned yn un hen fretyn, a bu gorfod ei dynu i fyny cyn iddo fynd yn agos i’r nyth. Ar ei ol aeth dyn ieuanc, un fechgyn y Garneddwen, i lawr a thynodd y nyth yn hollol ddirodres. Byddem yn rhoddi llawer o ddiwrnodau i hela llwynog. Yr wyf yn cofio ein bod unwaith uwch ben Cwmffynongaseg yn ymyl pen y Garnedd. Yr oeddynt wedi gosod y gynwyr yn rhes, rhai ar bob ochr, a minau gyda y cwn ychydig yn mhellach. Yr oeddwn yn dal y ei yn nghysgod maen mawr, ac yn awyddus iawn am i’r ci gael cynyg ar y llwynog. Yn mhen ysbaid wedi i’r rhai oedd yn codi y llwynog ddechreu treiglo y ceryg i lawr a gwaeddi, fe welwn madyn yn dyfod yn union i fy nghyfeiriad a’r gynwyr y naill ar ol y llall yn saethu ato, ond yr hen lwynog yn slentian yn ei flaen tuag ataf, ac yr oeddwn mor falch gweled fel y tybiwn y diweddaf wedi ei fethu, ond pan yr oedd mewn tua chan llath i mi, clyw’n ergyd ac ar yr un pryd, er fy mawr siomedigaeth fe welwn madyn a’i draed i fyny. Yr oedd yno un o feibion White, pen cipar Lord Penrhyn, bachgen ieuanc tua 15 oed, a hwnw a saethodd y llwynog, a ‘doedd ryfedd yn y byd iddo wneyd. Yn ol fel y deallais wedi hyny efe ydoedd General White a fu mor llwyddianus yn amddiffyn Ladysmith yn amser rhyfel y Boers. Yr oeddwn wedi meddwl ysgrifenu ychydig ar adeg lladd mawn a chynauaf gvrair, a dygwyddiadau a hen draddodiadau neillduol yr ydwyf yn eu cofio, ond feallai fod hyn yn ddigon ar hyn o bryd.

<span>%d</span> bloggers like this: