Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid 1760 -1860 Rhan 1 Cyflwyniad Cyffredinol

Cyflwyniad

Mae’r cyfnod rhwng c.1760 a  c1860 yn cael ei ystyried yn gyfnod pwysig iawn mewn amaeth trwy’r byd gorllewinol. Mae pawb yn gyfarwydd gyda’r Chwyldro Diwydiannol, sy’n cael ei ddyddio yn gyffredinol i gyfnod bras rhwng  1760 i 1840, ond nid mor gyfarwydd yw’r hyn a elwir yr Ail Chwyldro Amaethyddol oedd yn digwydd tua’r un pryd yn Ewrop. (Er mwyn dirnad maint y newid, digwyddodd y Chwyldro Amaethyddol Cyntaf, yn ôl haneswyr, tua 10,000 o flynoddoedd cyn y Cyfnod Modern, pan ddatblygwyd tyfu grawn a thrin y tir yn y Cilgant Aur yn y dwyrain canol, gyda’r canlyniad, am y tro cyntaf, fod cymdeithasau yn sefydlog, gan arwain at ddatblygiad cymunedau, yn bentrefi, trefi, a dinasoedd.  Felly roedd bron i 12,000 o flynyddoedd rhwng y chwyldro cyntaf a’r ail, cyfnod anferthol o hir o ddatblygiadau a newidiadau bychain, graddol, yn hytrach na newidiadau cyflym, sylfaenol, fel ddigwyddodd yn y cyfnod sydd dan sylw yma.) Er fod y ddau chwyldro – diwydiannol ac amaethyddol – yn digwydd tua’r un pryd, mae anghytundeb ymhlith haneswyr pa chwyldro a ddaeth gyntaf, ac a roes fodd i’r llall fodoli. Dadleua rhai fod y gwelliannau amaethyddol, ac yn arbennig yr amgau tiroedd comin, wedi gorfodi pobl i adael y tir, gan dyrru at ei gilydd, gan greu gweithlu parod i’r diwydiannau newydd. Ar y llaw arall mae’r safbwynt fod creu dosbarth o weithwyr oedd angen eu bwydo, a bod raid wrth welliannau mewn amaeth i gynhyrchu mwy o fwyd. Mae’n debyg mai hen gwestiwn yr iâr a’r wy ydy hi yma eto. Beth bynnag, yn dilyn y cyfnod hwn o’r ail chwyldro, roedd y degawdau a’i dilynai – sef ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg – yn cael eu hystyried yn oes aur amaethyddiaeth ym Mhrydain, gyda’r diwydiant ( fel yr oedd erbyn hyn ) yn manteisio ar bob datblygiad diweddar.

Yn fras, gellir dweud fod y chwyldro hwn wedi cychwyn yn Ewrop, yr Almaen a’r Iseldiroedd, yn benodol, gan ymestyn allan, yn arbennig tua’r gorllewin. (Yn ddiweddarach, yn enwedig yn ail hanner y 19eg ganrif, y daeth newidiadau chwyldroadol, yn arbennig mewn peiriannau, o’r cyfeiriad arall, sef o’r Unol daleithiau.) Wrth ymledu, yn enwedig yn Lloegr, fe cafwyd dyfeisiadau ac addasiadau pellach. Fodd bynnag, rhaid cofio fod Cymru ar eithaf gorllewinol Prydain, a bod Gwynedd ar eithaf gorllewinol Cymru. Yn y ddeunawfed ganrif roedd hi’n arferol dweud ei bod yn cymryd o leiaf hanner canrif i unrhyw ffasiwn Llundeinig gyrraedd Cymru, a blynyddoedd wedyn i gyrraedd gorllewin Cymru. Roedd hynny’n hollol wir, hefyd, am unrhyw newid mewn yn y byd amaethyddol. Tra’r oedd datblygiadau sylweddol mewn amaeth yn iseldiroedd breision Lloegr, araf iawn, iawn oedd unrhyw gynnydd a datblygiad amaethyddol, o safbwynt natur, dulliau, na chynnyrch,  yng ngogledd orllewin Cymru, er gwaethaf ymdrechion mawr ambell dirfeddiannwr lleol ym Môn ac Arfon, yn enwedig Richard Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf, a’i ddau olynydd yn mhlwyfi Llanllechid a Llandygai. Pennant oedd Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Gaernarfon, a sefydlwyd yn 1807 i wella amaeth yn y sir. Roedd hi’n ffaith hefyd fod nifer o offeiriaid a gwyr eglwysig yn flaengar iawn wrth geisio datblygu amaethyddiaeth: mae’n debyg fod tri rheswm am hyn; yn gyntaf roeddynt yn ddysgedig ac yn gyfarwydd â’r byd newydd hwn; yn ail, roedd nifer yn dirfeddiannwyr ( ar raddfa lai ) eu hunain, ( er enghraifft, y Parch Morris Hughes oedd perchennog Ty Slates ym mhlwyf Llanllechid),ac, yn drydydd, roeddynt yn cylchdroi yn gymdeithasol gyda’r tirfeddiannwyr mawr. Ym Môn, offeiriad lleol oedd perchennog y fridfa goed fwyaf yn y sir, a, phan sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Môn flwyddyn ar ôl un Arfon, roedd chwech offeriad yn y cyfarfod sefydlu. Y gwr fu, fwy neu lai, yn uniongyrchol gyfrifol am sefydlu’r Gymdeithas Amaethyddol gyntaf ym Mhrydain, Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, ym 1755, oedd Hywel Harris, y diwygiwr Methodistaidd. Yn 1790 comisiynodd y Bwrdd Amaeth Prydeinig archwiliad o gyflwr amaeth yng Ngogledd Cymru, a’r person a gafodd y comisiwn oi wmeud y gwaith oedd Walter Davies ( Gwallter Mechain ), ficer Manafon, Sir Drefaldwyn ( lle bu’r bardd R S Thomas yn ficer ganrif a hanner yn ddiweddarach). Cyhoeddodd ef ei adroddiad gynhwysfawr General view of the agriculture and domestic economy of North Wales mewn dau ran, yn 1810 ac 1815.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gweithgarwch hwn ar ran y dynion hyn, ‘chwyldro’ fyddai’r gair olaf i ddisgrifio unrhyw newid oedd yn digwydd yma am y rhan fwyaf o’r can mlynedd dan sylw. Er fod peth datblygiad, nid tan ddiwedd y cyfnod dan sylw, o tua 1840 ymlaen y cyflymodd y newidiadau yn Llanllechid, a’r ardaloedd oddi amgylch, a hynny oherwydd tri ffactor penodol, oedd yn rhoi pwysau ar, ac yn gyrru’r, chwyldro. Y tri hyn oedd

a} y tirfeddiannwr, ac, yn arbennig, ei asiant, oedd yn mynnu newid pethau, a mabwysiadu’r dulliau newydd ( ambell un nad oedd mor newydd erbyn hynny ),

b} y galw cynyddol, yn lleol ac yn genedlaethol, am fwyd i gynnal y trefi a’r dinasoedd oedd yn tyfu fel madarch trwy Gymru a Lloegr

c} y rhwydwaith reilffordd, oedd yn ei gwneud yn hawdd mynd â chynnyrch o’r fferm i’r farchnad yn gyflym. Erbyn 1850 yr oedd rheilffordd yn mynd trwy blwyf Llanllechid ar ei ffordd o Gaergybi i Gaer, lle gellid cysylltu gyda rhwydweithiau eraill, oedd yn datblygu fel gwe pry cop i holl ddinasoedd a threfi Lloegr. Ble gynt yr oedd porthmyn yn cymryd wythnosau i gerdded gwartheg Llanllechid, a’r ardaloedd cylchynnol, i’w marchnadoedd yn Lloegr, roedd yr anifeiliaid yn gallu cyrraedd, bellach, mewn oriau, neu ychydig ddyddiau, ar y mwyaf. Felly, hefyd, gynnyrch yr oedd yn rhaid eu gwerthu gynt mewn marchadoedd lleol. Cyn hyn, nid oedd pwrpas cynhyrchu dim mwy nag oedd yn ddigonol i gynnal y teulu, ac y gellid ei werthu yn y ffair leol, boed hynny’n wythnosol, neu fisol. Byddai unrhyw gynnyrch dros ben yn cael ei wastraffu. Ond nid yn awr, ble’r oedd marchnad llawer mwy, a llawer mwy hygyrch.  Ni ddylem anghofio, chwaith, y farchnad oedd yn agor yn gyflym ar garreg drws ffermwyr y plwyf yn awr; roedd Bangor a Bethesda wedi ffrwydro ( ac yn ffrwydro ymhellach) mewn poblogaeth erbyn 1850, oherwydd twf Chwarel Braich y Cafn, ac roedd angen bwyd ar gyfer yr holl bobl ‘anghynhyrchiol’ hyn ( yn amaethyddol ). A’r tu ôl i hyn i gyd, roedd un catalydd mawr – mewn marchnad fwy efo dulliau llawer cyflymach, mwy effeithiol o gyflenwi cynnyrch roedd llawer mwy o gystadleuaeth – roedd ffermwyr Llanllechid bellach yn cystadlu efo ffermwyr o ardaloedd eraill, pell ac agos – ac roedd safon, a maint, y cynnyrch yn bwysicach o lawer nag ydoedd gynt i gystadlu yn y farchnad newydd hon. Roedd y trên yn fygythiad yn ogystal â bendith. Oherwydd hynny, roedd hi’n rheidrwydd newid a chofleidio’r chwyldro; yn wahanol i 1760, erbyn 1860 y ffermwr blaengar, y ffermwr oedd yn arbrofi, y ffermwr newydd, oedd yn llwyddo, y ffermwr oedd yn gyrru ei fferm yn ei blaen yn yr oes newydd, ( ac yn cael ei yrru yn ei flaen gan eraill uwch ei ben, yn amlach na heb), nid y ffermwr traddodiadol oedd yn cynnal y tir fel yr oedd ei deidiau wedi gwneud, ac yn gwneud hynny gyda’r un dulliau a’r un drefn. Yn y gwaith hwn byddwn yn edrych yn weddol fanwl ar sut y digwyddodd y broses hon mewn un plwyf yn Arfon, sef ym mhlwyf Llanllechid. I raddau helaeth nid oedd y Llanllechid amaethyddol yn 1860 yn edrych yn debyg i Lanllechid 1760. Petai person o Lanllechid yn 1760 yn cael ei drosglwyddo trwy amser i’r un ardal ganrif yn ddiweddarach, byddai’n cael trafferth adnabod llawer o’r plwyf, nid yn unig oherwydd dylanwad y diwydiant chwarelyddol, a thwf poblogaeth, ond, hefyd, o safbwynt yr agwedd amaethyddol, patrwm y caeau, a’r dulliau o amaethu. Yn y safwe hon fe geisiwn ni fod yn rhyw fath o deithiwr mewn amser, gan ymweld â plwy Llanllechid trwy’r can mlynedd dan sylw.

%d bloggers like this: