Amaeth ym mhlwyf Llanllechid 1760-1860 Rhan 2 Cefndir penodol

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Fel y nodwyd, roedd na wahaniaeth mawr rhwng ffermio 1760 a ffermio 1860, yn Llanllechid, fel yng Nghymru, ac fel ym Mhrydain, er fod y gwahaniaethau yn hwyrach yn ymddangos yn yr ardal hon. Yn wir, fe ellid dweud i’r newidiadau mawr ym mhlwyf Llanllechid ddigwydd rhwng 1840 ac 1860, a hynny yn bennaf oherwydd un dyn, a dylanwad ei dad arno, ynghyd â dylanwad, anogaeth, a chefnogaeth ei gyflogwr. Ond mwy am hwnnw yn nes ymlaen.

Os awn i gychwyn y cyfnod dan sylw – yn gyffredinol, fe ellid dweud y byddai ffermwr 1760 yn fwy cyfforddus yn 1260, o ran dulliau, offer, cynnyrch, a natur ei dir, nag y byddai yn 1860, cymaint oedd y newid mewn canrif. Dywed ysgrifennwyr y cyfnod nad oedd ffermwyr Cymru, yn gyffredinol, yn gwybod dim am egwyddorion newydd amaethyddiaeth, ac yn rhedeg eu ffermydd yn ôl yr hen arferion oedd wedi eu trosglwyddo iddynt gan eu tadau a’u teidiau. Yn 1795, mewn traethawd ar amaethyddiaeth Ynys Mon, fe ddywedodd y Parch Peter Bailey Williams fod ffermwyr yr ynys yn ‘anwybodus a diog’. Dim ond afon Menai oedd rhwng ffermwyr Llanllechid a’u cyd-amaethwyr ym Môn, a does dim lle i gredu eu bod hwythau’n wahanol.

Yn 1760, ffermio er mwyn cynnal y teulu a wneid, ynghyd â rhoi degwm o’r cynnyrch i gynnal yr eglwys, a rhenti i gynnal y meistr tir. Roedd pob cynnyrch yn mynd i ateb y dibenion hynny, trwy ddefnyddio’r cynnyrch craidd at ddefnydd y teulu, ac yna trwy werthu neu ffeirio popeth oedd dros ben. Ar gyfer hynny, roedd nifer o ffeiriau ym mhob plwyf lle gellid gwerthu, neu gyfnewid, cynnyrch. Roedd ffeiriau bychain wythnosol, lle ffeirid nwyddau treuliadwy, [megis menyn a llysiau], yn ogystal a ffeiriau mwy, ond llai aml. Yn Llanllechid roedd 4 ffair fwy bob blwyddyn

Mai 7, Awst 11, Hydref 1, a Hydref 29 – sef dyddiad yr unig un sydd ar ôl. Roedd honno ger yr eglwys  tra’r oedd y tair arall i lawr ar y ffordd dyrpeg weddol newydd o Gonwy i Bwllheli yn Nhalybont, yn ôl Edmund Hyde Hall, a fu’n teithio’r sir 1809-1811.

Roedd cyfnewidfa yd yng Nghaernarfon, lle gellid gwerthu unrhyw rawn oedd dros ben, ac, yn nes ymlaen, cynhelid marchnad yd hefyd ym Mangor.

Oherwydd dulliau amaethu a natur y tir, doedd dim modd cynhyrchu digon o fwyd i gadw’r holl anifeiliaid dros y gaeaf, a byddai raid gwerthu neu ladd peth o’r stoc yn yr hydref, ac ail-gychwyn bob gwanwyn. Yn ol Hyde Hall

fairs are established for the sale of cattle, horses, swine, and sheep, but the two last are more commonly bought up by dealers going about the county’

sef porthmyn yn mynd o fferm i fferm i brynu moch a defaid, ond y ffermwr yn mynd â’r gwartheg a’r ceffylau i ffair ganolog. Roedd y drefn hon, yn enwedig efo moch, yn parhau tan ganol yr ugeinfed ganrif, pan aeth cadw moch allan o’r ffasiwn.

Un canlyniad y drefn hon o werthu anifeiliaid oedd fod stoc y ffermwyr yn dirywio yn hytrach na gwella, oherwydd mai’r anifeiliaid gorau a werthid, er mwyn sicrhau’r prisiau uchaf. Byddai hynny’n golygu cadw’r creaduriaid gwaelaf ar gyfer magu’r flwyddyn wedyn, gydag oblygiadau hynny i’r stoc yn gyffredinol.

Wedi prynu gwartheg yn y ffair leol, neu, ambell dro, wedi eu prynu’n syth o’r fferm, byddai porthmyn yn gyrru’r anifeiliaid trwy Eryri, a draw i drefi Lloegr, rhai cyn belled â Llundain. Byddai anifeiliaid Môn yn croesi’r Fenai ychydig yn is nag Ynys y Moch, ger Porthaethwy.  Mae tystiolaeth gyfoes i’r croesi hwn. Cafodd un teithiwr o’r enw Aikin gryn hwyl yn gwylio gwartheg yn cael eu gyrru ar draws y Fenai ychydig yn nes i Fangor nag y mae Pont Menai heddiw. Roedd rhai yn cael eu cario gan y lli i lawr yr afon, ac roedd dynion mewn cychod yn eu gyrru i’r lan. Yn ôl R T Jenkins ‘Y Ffordd yng Nghymru’ roedd anifeiliaid Mon wedi croesi’r Fenai, yn mynd y tu ôl i Fangor, i fyny ochr ddeheuol Dyffryn Ogwen (plwyf Llandygai ) at Wern Gof, a draw am Gapel Curig ac ymlaen am Loegr. Yn 1797 aeth

10000 gwartheg                 8000 defaid             5000 moch

o flaen porthmyn Môn i Loegr, ac roedd 12000 y flwyddyn o wartheg yn mynd allan o Sir Gaernarfon tua’r un cyfnod

Er nad oes unrhyw dystiolaeth fod gwartheg Môn yn croesi i Arfon yn unlle ond ger Ynys y Moch,  mae’r Dr. John Llywelyn Williams ( safwe Hanes Dyffryn Ogwen ) wedi dangos yn glir fod gan yr hen ddaliad, Capel Ogwen,  sydd bellach ym Mharc Penrhyn, gysylltiad amlwg gyda’r porthmyn, ond nid yw hynny’n cydfynd â sylwadau R T Jenkins, os nad yno y cesglid anifeiliaid Llanllechid a’r rhan hon o Landygai cyn eu gyrru  i ymuno gyda’r niferoedd mawr oedd yn croesi o Fôn. Roedd Capel Ogwen yn agos i’r bont a groesodd Thomas Pennant yn ei deithiau 1778 -81

‘From Llandygai I descended and crossed the wooden bridge over the furious torrent Ogwen, which, a little lower, discharges itself into the sea at Aber-ogwen, near which is the ruin of the old chapel, Capel Ogwen’.

Roedd Capel Ogwen, hefyd, yn agos i’r hen ffordd, Lôn Domas, oedd yn rhedeg o Aber Ogwen am Fangor gan ymuno gyda’r Stryd Fawr ac i fyny Penchwintan. Gallai anifeiliaid gwaelod Llanllechid ddilyn y ffordd hon cyn ymuno efo llwybr y porthmyn trwy Bentir. Ar y llaw arall, gallai’r anifeiliaid fynd ar y llwybr heibio Coed Hywel a Phant y Cyff, gan ymuno efo’r prif yrr eto ym Mhentir.

Fodd bynnag, mae’n debyg y gallai Capel Ogwen fod yn fan casglu ar gyfer gwartheg rhan o Landygai a Llanllechid, a gellid fod wedi gyrru gwartheg o Fôn ar draws y Fenai o Benrhyn Safnes, ger Biwmares,  cyn eu gyrru draw i Abergwyngregyn, a thros Fwlch y Ddeufaen draw am farchnad Abergele. Yr oedd y bwlch hwn dros is-fryniau’r Carneddau yn llwybr a dramwywyd ers Oes y Cerrig, fel y dengys ambell faen hir sy’n dal i sefyll arno. Yn Oes y Cerrig fe arwyddid llwybr pwysig trwy osod maen hir ar y gorwel ag un arall, ac mae nifer yn dal i aros.

Picture 1

Maen hir ar y llwybr o’r Bronnydd i Aber am fwlch y Ddeufaen

 Ganrifoedd wedi hynny, deuai ffordd Rufeinig o Gaerhun i Gaersaint yr un ffordd dros y bwlch, ac roedd y brif ffordd ganoloesol o Ddyffryn Conwy i Arfon a Môn yn ddilyn yr un llwybr. Mae tebygrwydd fod porthmyn lleol yn ei ddefnyddio, hefyd, ond nid oedd yn un o’r prif lwybrau i Loegr. Yn hytrach, mynd i farchnad Abergele yr oedd anifeiliaid y ffordd hyn, er mwyn eu gwerthu ar gyfer teithiau pellach i Loegr.

Beth bynnag, dyna’r sefyllfa gyffredinol yn 1760, ond, erbyn 1801, roedd poblogaeth Prydain wedi dyblu i dros 9 miliwn, ac, erbyn 1850 roedd wedi dyblu eto, i dros 20 miliwn. Cyn 1750, doedd y boblogaeth erioed wedi bod yn fwy na rhyw 5.7 miliwn, a dim ond dwywaith mewn hanes y bu hynny. Erbyn 1850 roedd nifer o ddinasoedd a threfi, oedd eisoes yn bod, wedi ffrwydro o ran poblogaeth, a dwsinau o drefi newydd, wedi ymddangos a thyfu’n syfrdanol, a hynny oherwydd fod y gweithfeydd newydd, oedd yn datblygu fel madarch, yn tynnu gweithwyr a’u teuluoedd o bob cyfeiriad iddynt. Er fod Chwarel Cae Braich y Cafn wedi tyfu’n gyflym ers ei chychwyn ym 1782, rhyw 400 o weithwyr oedd ynddi ar ddiwedd y ganrif, ac, yn ôl Hyde Hall A Description of Caernarvonshire, tua 300 o dai oedd yn yr holl blwyf yn 1809. Erbyn 1825 mae 1000 yn gweithio ynddi, neu’n uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith, yn ôl tystiolaeth Hugh Derfel, a deugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd y gweithlu wedi cynyddu mwy nag wythgwaith i dros 3000.  Yn 1809 dim ond tai bychain gwyngalchog i’r chwarelwyr a welodd Hyde Hall, ac roedd y rhan fwyaf o’r rheiny ar ochr Llandygai i’r afon, o fewn cyrraedd i’r chwarel. Doedd Bethesda, a’r pentrefi cylchynnol ddim yn bod. Ym Mangor, wedyn, ym 1750, rhyw 70 o dai oedd yn y dref, gyda’r rheiny yn bennaf o gwmpas yr eglwys gadeiriol, gydag ychydig ar ochr yr hyn a ddeuai wedyn yn Stryd Fawr ac ym mhentref Hirael. Erbyn 1801, oherwydd datblygiad Chwarel Braich y Cafn, roedd y boblogaeth wedi tyfu i 1800, ac, ymhen hanner canrif, roedd wedi tyfu’n syfrdanol fwy. Gellir gweld datblygiad Dyffryn Ogwen, er enghraifft, drwy astudio’r cyfrifiadau cynnar. Er mai Cyfrifiad 1841 yw’r cynharaf sydd ar gael, mae hynny’n dderbyniol i’n pwrpas ni, gan mai o ganol yr 1850au y ffrwydrodd poblogaeth yr ardal.  Yn ôl Cyfrifiad 1841, roedd gweithwyr yn byw ym meudai daliadau oedd yn bodoli, er enghraifft, roedd 4 chwarelwr yn byw yn adeiladau allanol Abercaseg, 3 yn Nhyddyn y Gaseg, a gwr a’i wraig yn Llwyn Rhandir. Fferm Gerlan sydd fwyaf diddorol, gyda 5 teulu yn yr adeiladau, yn cael eu nodi fel Outhouse No 1, Outhouse No2, ac yn y blaen. Erbyn Cyfrifiad 1851, roedd y rhain wedi newid yn Gerlan No1, Gerlan No 2, hyd at Gerlan No 5. Yr hyn sy’n ddiddorol am y tai hyn yw mai hwy yw rhes Hen Gerlan, sy’n rhedeg yn groes i gynllun symetrig y pentref a ddatblygwyd yn 1864 ac 1865. Beth bynnag, fel roedd y trefi’n chwyddo gyda dyfodiad y gweithwyr, a’u teuluoedd, roedd strwythur cynhaliol o bobl yn tyfu i’w cynnal, yn siopwyr, crefftwyr, twrneiod, meddygon, a llawer o wahanol swyddi angenrheidiol cyffelyb. Doedd y rhain ddim yn tyfu eu cynnyrch eu hunain, ac, am y tro cyntaf erioed yn hanes y wlad, roedd mwyafrif y boblogaeth heb fod yn cyfrannu i gynhyrchu bwyd. Yn 1770 amcangyfrifir fod 80% o boblogaeth Prydain yn trin y tir; erbyn 1861 roedd y ganran wedi disgyn i 21%. Felly, erbyn 1860 roedd 1 o bob 5 yn gweithio i fwydo’r 4 o bob 5 nad oeddynt yn cynhyrchu bwyd. Roedd angen gwella dulliau amaethu felly, a bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal â bod twf mawr pentref Bethesda a thwf tref Bangor yn rhoi mwy o farchnad i ffermwyr y cylch, yn 1848 agorwyd rheilffordd o Fangor i Gaer ac i Lundain, gyda’r lein o Gaergybi yn agor ddwy flynedd wedyn, Roedd hyn yn agor llwybr cyflym i fynd ag anifeiliaid a nwyddau i farchnad fawr dinasoedd Lloegr. Ond mae dwy ochr i bob ceiniog, ac roedd dwy ochr i ddyfodiad y trên, oherwydd, yn ogystal â bod yn fendith i’r ffermwyr, roedd, hefyd, yn fygythiad, gan ei bod yn cludo nwyddau i mewn hefyd, nifer o nwyddau fyddai’n cystadlu’n uniongyrchol gyda chynnyrch y ffermwyr lleol. Os am gystadlu gyda nwyddau oedd, bellach, yn gallu cyrraedd y farchnad leol o ogledd-orllewin Lloegr mewn oriau, yn hytrach na dyddiau, neu wythosau, rhaid oedd gwella.

Canlyniad y newidiadau syfrdanol yma oedd yr angen i amaeth, ym mhob cwr o Brydain, ddatblygu’n ddiwydiant, er mwyn bwydo’r holl boblogaeth yma oedd, nid yn unig yn ffrwydro o ran maint, ond yn segur o ran cynhyrchu bwyd. Yn ogystal, gair mawr y 19eg ganrif, yn enwedig Oes Fictoria, oedd Cynnydd, ac roedd brwdfrydedd ac awydd cyffredinol am gynnydd ym mhob maes, yn gyrru nifer o unigolion dylanwadol , yn dirfeddiannwyr, a’u hasiantwyr, gan mwyaf, i wella dulliau amaethu eu tenantiaid, gan, yn y pen draw, wrth reswm, wella eu stadau eu hunain, uchafu y cynnyrch, a, thrwy hynny, gynyddu eu cyfoeth. Mae’n arwyddocaol, er ei fod yn datblygu Chwarel Cae Braich y Cafn a’i gosod ar seiliau diwydiannol cadarn, gan ddod ag arian sylweddol iddo, mai diddordeb mawr, a chynllun, Richard Pennant (1737 – 1808) oedd gwella ansawdd tiroedd ei stâd, a dulliau ei denantiaid o amaethu’r tiroedd hynny. Yn ystod ei gyfnod yn y Penrhyn fe blannwyd dros 600,000 o goed i wella ansawdd y tir digysgod yr oedd wedi ei etifeddu. Mae’n arwyddocaol, hefyd, mai cefndir mewn amaethyddiaeth oedd gan yr asiant a benododd yn 1786, Benjamin Wyatt. Ef, a’i olynydd, ei fab ieuengaf, James, fu’n arwain y gwelliannau yn Stad y Penrhyn (yn ogystal ag yn y chwarel), am ddegawdau, gan droi stad o diroedd annrhefnus, hen ffasiwn, yn uned drefnus, effeithiol, a modern.  Er mai adeiladu ‘castell’ newydd, neo-glasurol, a chostus, a pharc amgaeedig o’i amgyllch, oedd prif gonsyrn  yr ail Arglwydd Penrhyn, George Hay Dawkins (1763 – 1840), roedd ei olynydd, ei fab yng nghyfraith, Edward Douglas Pennant, Yr Hen Lord (1800 -1886), gyda’r un diddordeb ysol â’r Arglwydd cyntaf mewn gwella’r tiroedd. Mae’n debyg mai adlewyrchiad oedd hyn o’r hen egwyddor mai cyfoeth oedd tir, ac nid, fel yn achos sawl dyn busnes llwyddiannus, arian sychion yn y banc – er nad oedd arglwyddi’r Penrhyn yn brin o hwnnw, ychwaith! Er fod nifer o’r rhain yn ddynion busnes hirben, neu’n ddigon ffodus i benodi dynion busnes hirben, nid gwneud arian er mwyn gwneud arian oedd y prif gonsyrn, fel yn achos dynion busnes, ond gwneud arian er mwyn gwella’r cyfoeth go iawn – y tir. Ac, er mai dynion busnes, dynion y ‘cyfoeth newydd’ oedd y Pennantiaid, dyna sut roedd teulu’r Penrhyn, hwythau, yn meddwl. Modd i gael arian oedd Chwarel Cae, tir y stâd oedd yn bwysig. Yn ogystal, rhaid inni beidio anghofio nad oedd y Penrhyn yn byw mewn gwagle; yn ystod yr un cyfnod, roedd llawer iawn o’r tirfeddiannwyr mawr yn gwneud gwelliannau sylweddol i’w tiroedd.

Roedd y landlordiaid mwyaf cydwybodol yn barod i foddsoddi’n drwm yn ffyniant newydd amaethyddiaeth a chofnodwyd i Iarll Powys wario bron chwarter ei rentol ar welliannau rhwng 1859 a 1879. Codwyd ffermdai a thai allan newydd ar raddfa helaeth  – gan Cawdor yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, a Talbot ym Morgannwg, a Grosvenor yn Sir Fflint.

Hanes Cymru   t 396   John Davies

Gwella oedd prif nodwedd yr Ail Chwyldro Amaethyddol yn gyffredinol, gwella tir, anifeiliaid, offer, a chynnyrch, yn ogystal â chael mwy o dir yn gynhyrchiol – yn bennaf trwy gau tiroedd comin, ac ennill tir oedd yn wastraff, gan amlaf o’r mynydd a’r môr. Yn y blynyddoedd o gwmpas troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr adeiladwyd Cob Malltraeth ym Môn, a Chob Maddocks ar y Traeth Mawr yn Eifionydd, gan ennill miloedd o aceri i amaeth. Er fod amgau tiroedd comin, gan ddwyn oddi arnynt hawliau traddodiadol y werin i bori anifeiliaid, casglu tanwydd, ac yn y blaen, wedi digwydd dros y canrifoedd, fe basiwyd mwyafrif llethol y Deddfau Amgau, oedd yn rhoi hawl i dirfeddiannwr amgau tir comin yn ei ardal, rhwng 1750 ac 1860. Fe amgaeewyd y rhan fwyaf o dir comin llethrau Moelyci, ym mhlwyf Llandygai, yn y degawdau wedi i’r chwarel dorri trwy wal y mynydd i’r tir comin hwnnw yn 1796. Bu’r Penrhyn wrthi yn annog y gweithwyr i blannu tatws ar y tir hwn oedd wedi ei ennill o’r mynydd. Yn 1768, yn Llandygai, comin oedd y cyfan uwchben llinell oedd yn ymestyn o Foelyci, tros Chwarel Goch, Hafoty, Tyn Clwt, a Chilgeraint. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y comin i gyd, hyd at ei derfynau heddiw, wedi ei amgau. Yn Llanllechid, wedyn, nid oedd cymaint ar ôl i’w amgau, gan fod Fedw, Bronnydd, Bryn Hafod y Wern, Cilfodan, Tyddyn Sabel, Ciltwllan, a Gwaun Gwiail yn bodoli cyn 1768. Fe fu’r Penrhyn yn edrych ar amgau tiroedd ychwanegol wedi dyfodiad Richard Pennant i’r stâd, yn benodol wedi iddo uno tiroedd y stad yn 1781. Yn Awst 1783 ysgrifennodd ei asiant, William Williams, Llandygai, at ei feistr oedd mewn ty arall o’i eiddo yn Swydd Gaer, gan nodi

I looked over Llanllechid common, there’s a good deal of it worth inclosing, but I think it will be difficult to divide it so as to please all ….they’ll grumble if their allotments are fixed higher up in the mountain..’

Canlyniad hynny oedd nad aed ymlaen gydag amgau helaeth o diroedd Llanllechid; mater o gae neu ddau ydoedd yr amgau, a’r ennill tir newydd, yn y plwyf wedi hynny. Ennill tir trwy wella yr hyn oedd eisoes wedi ei amgau oedd hanes Llanllechid, ennill trwy sychu, clirio, a gwella.

Dyna’r sefyllfa gyffredinol yn nechrau’r cyfnod dan sylw. Yn y drafodaeth hon byddwn yn edrych i ba raddau yr effeithiodd y chwyldro mawr hwn ar Lanllechid yn benodol, beth ddigwyddodd yn y plwyf, pryd y digwyddodd y newidiadau, a beth oedd y canlyniad, a sut roedd y plwyf ac amaeth wedi newid erbyn 1860.

 

%d bloggers like this: