Mae fferm Cilfodan yn ddaliad o dir yn Nyffryn Ogwen.Yn wahanol i’r rhan fwyaf o diroedd y dyffryn, fu hi erioed ym meddiant y Penrhyn, a phrofodd hynny o fudd mawr i un teulu. Yr oedd y fferm yn ymestyn o’r mynydd uwchlaw Tyddyn Sabel, i lawr ar hyd Ffrydlas, at y ffin â fferm Pant, yna Pen y Bryn, ac i lawr ar hyd ffin Pen y Bryn i lawr i Ogwan. Yr ochr arall yr oedd yn ffinio efo Cae Ifan Gymro, ac yna ar hyd ffin stad Coetmor i Ogwan.
Ceir sôn am ei thir yn 1627, pan yw rhenti nifer o diroedd all in the township of Bodfeio’ yn cael eu prynu oddi wrth Syr Thomas Williams, Y Faenol am £244 gan Morris ap John ap Ieuan o gwmwd Dinorwig. Gan mai aelod o deulu Cochwillan oedd y Syr Thomas Williams a werthodd y rhenti, mae’n debyg mai perthyn i Gochwillan yr oedd tir Cilfodan yn wreiddiol. Yn ol y ddogfen hon, y caeau dan sylw yw
Pant y Cledr, Cae’r Chwarel, Cae’r Fedw Bach( alias Cae Fedw Goch Uchaf, Cae’r Fedw Goch Isa, Cae’r Cyll, Cae’r Clochydd, Cae’r Sgubor, Cae Pen y Gaer, Cae’r Fuches Hen, Cae Maes y Gaer, Cae yr Wafen ( sic) Goch, y Cae Bychan, Cae yr Achub, Cae Brest y Gaer, Cae’r Foty, y Ffridd Uchaf, y Ffridd Isaf
Mae’r enwau yn dangos yn amlwg mai tir Cilfodan yw’r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’r caeau hyn. Mae Cae Clochydd yn parhau yma. Fwy na dwy ganrif yn ddiweddarach mae les yn cael ei rhoi ‘ on a parcel of land called Cae Clochydd, bounded on the south-east by the river Ffrydlas, and on the west by the road leading from Pencarneddi to Bont Uchaf’. Mae’n ddigon hawdd, felly, adnabod ffiniau’r tir sy’n cadw ei enw mewn rhes o dai yn y Carneddi heddiw, a hwnnw’n enw sy’n bodoli ers o leiaf pedair canrif. Mae’r caeau sy’n cyfeirio at ‘gaer’ hefyd yn amlwg yn rhan o dir y fferm bresennol. Mewn dogfen o 1859 sonnir am roi les i Robert Prees of Cilyfodan ‘ for 60 years of lands called Pen y Gaer, Pen y Gaer Bach, part of cae Fuches Hen, and Cae Fuches Ganol’, ac yn 1861 rhoddir les arall ar ‘Cae Cyll, and Cae Fuches Hen’, Yr un tiroedd yw’r rhain a’r caeau a nodir yn nogfen 1627, ond eu bod, mewn sawl achos, wedi eu rhannu ymhellach. Nid oes reswm, mewn gwirionedd, i gymryd nad oedd yr holl caeau a nodir yn 1627 yn perthyn i Gilfodan. Er y gallai ‘ Cae Chwarel’ gyfeirio at unrhyw chwarel ar y tir, mae’n demtasiwn llygadu chwarel ddiweddarach Pantdreiniog, oedd ar dir Cilfodan. Wrth gwrs, gallai fod yn yn chwarel fechan arall – ac roedd llechi ( amrwd ) yn cael eu cynhyrchu yn Nyffryn Ogwen, a’u hallforio o Aberogwen, yn y 15ed ganrif – a gallai fod yn dwll bychan lle codid cerrig i godi cytiau. Eto mae Pantdreiniog yn dal i hudo.
Ar Chwefror 10fed, 1628, gwnaed cytundeb pellach rhwng y Morris ap John ap Richard o Ddinorwig a nodwyd gydag Owen ap William ap Richard, sef ‘ mortgage for a period of 500 years of a close of arable land, meadow, and pasture called y Kae Garrow abutting the river called afon Ogwen in the township of Bofaio’. Enw arall ar Pant y Cledr ( sef un o’r caeau a enwir yng nghytundeb 1627) oedd Cae Garw, ( ceir ‘Cae Garw alias Pant y Cledr’ mewn dogfen arall yn 1691 ) ac fe fu tai o’r enw Cae Garw a Phant y Cledr yng nghyffiniau Pen y Graig, a Bryntirion, sy’n lleoli’r cae ble mae rhan o Fethesda heddiw hwn.
Yn 1660, yr oedd tiroedd Cilfodan i gyd, hefyd, yn amlwg wedi dod i feddiant yr Owen ap William ap Richard o Fodfeio a nodwyd, oherwydd mae cofnod ohono ef, a’i wraig, Elisabeth yn rhoi i’w mab, Ellice Owen
‘ Gift of a messuage, tenement, and land called tythyn kil y fodan’ .
Mae’n bosib fod Cilfodan a Chae Garw yn ddau ddaliad gwahanol, gan fod cyfeiriadau diweddarach at Gilfodan Uchaf a Chilfodan Isaf, gyda’r Isaf yn ymestyn i lawr at yr afon. Beth bynnag, mae’r caeau sy’n cael eu rhoi i Ellice yn gyffredinol yn rhai a enwir yn rhan uchaf Cilfodan wedi hynny. Yr hyn sydd fwyaf arwyddocaol am y weithred o roi’r tir i’r mab gan ei rieni yn 1660 yw fod y tir, am dros ddwy ganrif wedi hynny, yn aros ym meddiant yr un teulu, sef teulu yr Ellice (Ellis) Owen uchod, teulu y sefydlogodd eu cyfenw yn Ellis, ar ôl yr Ellice Owen hwn, mae’n debyg. Ellis fu’r teulu o ganol y 18fed ganrif ymlaen ( ar wahan i un gangen fu’n cyfnewid enw a chyfenw am ganrif wedyn ). Diddorol nodi, hefyd, ei bod yn ymddangos fod Owen yn enw ar fab, (hynaf, fel arfer), y teulu bob cenhedlaeth wedi hynny. Enwau eraill a welir yn y teulu o genhedlaeth i genhedlaeth yw Humphrey a Henry
Fel y nodwyd, erbyn 1691 mae’n sicr fod wedi dau ddaliad, gan fod dogfen ar gael sy’n cofnodi trosglwyddo rhan o dir Cilfodan gan Richard Rowlands a Henry Owen, Dologwen, i John Morris o Lanllechid fel gwaddol priodas.
Awgryma enwau’r caeau a nodir mai’r rhan isaf Cilfodan yw hon.
Diddorol iawn yw fod un cae yn 1691, fel yn 1627, yn cael ei enwi yn Cae Chwarel, sy’n ategu’r hyn a ddywedwyd yn flaenorol.
Mae’n debyg yr arhosodd Cilfodan Uchaf yn nheulu Ellis ( er fod dogfen o 1733/34 y nodi fod y tir yn eiddo i Richard Williams, Kiltreflys, ‘yeoman’). Am Gilfodan Isaf, dengys treth tir 1792 fod gŵr o’r un enw a’r un a gafodd y tir ganrif ynghynt fel gwaddol priodas, John Morris, yn talu treth ar dir honno. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad ef oedd y perchennog, gan fod fod Owen Ellis ( perchennog y Gilfodan Uchaf ) wedi prynu’r tir ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1794, a hynny am £735, oddi wrth Maurice Jones, Gent, Bryn y Pin, Gaerhun ( sef y Caerhun yn Nyffryn Conwy. Roedd yn sicr fod Owen Ellis a Maurice Jones yn perthyn, yn sicr, yn 1861, roedd ŵyr, neu or-wyr, Owen Ellis, Owen arall, yn ffermio Bryn y Pin efo’i deulu ifanc, ac mae Bryn y Pin yn gysylltiedig efo’r teulu Ellis trwy’r ganrif). Beth bynnag oedd a wnelo yr ‘yeoman’ o Giltrefnus a’r lle yn 1733, mae’n amlwg mai’r Ellisiaid oedd yno o hyd, gan fod Owen Ellis yn talu treth tir ar Gilfodan Uchaf yn 1791, ac mae cyfeiriadau eraill at y teulu yng Nghilfodan yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n debyg fod gan drefn forgeisi’r cyfnod, ac o fenthyca yn erbyn tir, rywbeth i’w wneud a hyn. Beth bynnag am hynny, yn 1794, unwyd yr holl diroedd o’r afon i’r mynydd ym mherchnogaeth yr Ellisiaid. Roedd y pryniant hwn yn un hynod o ffortunus, gan iddo ddod ar yr adeg gorau posibl, o safbwynt lleoliad y tiroedd, a thwf y diwydiant llechi yn Nyffryn Ogwen. Doedd Owen Ellis ei hun ddim yn byw yng Nghilfodan, er bod perthnasau iddo yno, gan ei fod ef yn ffermio i lawr ger Traeth Lafan. ( Gweler yr erthygl ar Cefnfaes am fwy am yr Ellisiaid )
Cyn sôn am gyfraniad Cilfodan i ddatblygiad Bethesda, dylid cyfeirio at un ffaith diddorol arall. Chwaer i’r Owen Ellis a nodir uchod oedd Elizabeth Ellis, neu, fel yr adwaenid hi ar lafar, Betsan Ellis. Yn 1771 roedd hi’n ferch ifanc yn byw yng Nghilfodan. Roedd hi’n un o’r Anghydffurfwyr cyntaf yn yr ardal, yn Fedyddwraig, a chafodd ei bedyddio, yn ôl yr hanes, mewn ffynnon ar dir Cilfodan ( neu, mewn cyfeiriad arall, yn afon Ffrydlas, ar dir y fferm ). Nodir mai yn ei chartref hi y cafwyd y bregeth Anghydffurfiol gyntaf yn yr ardal, ond mae amheuaeth ai yng Nghilfodan, ai yn y Tyddyn Isaf, y bu hynny, gan iddi symud i Dyddyn Isaf o Gilfodan. Beth bynnag am y lleoliad, gwyddom y traddodwyd y bregeth cyn 1785, gan i Betsan Ellis ymfudo i Ogledd America y flwyddyn honno.
Yn ôl at Owen Ellis, Chilfodan. Fe unodd ef diroedd y ddwy Gilfodan rhyw ddeng mlynedd wedi i Pennant uno’r gweithfeydd bychain annibynnol ar Gae Braich y Cafn. A brynodd o Gilfodan Isaf oherwydd ei fod yn rhagweld y dyfodol, neu am ei fod am fwy o dir? Pwy a wyr? Beth bynnag, fe brofodd yn bryniant hynod o ffodus iddo ef, a’i ddisgynyddion. Yn 1815/16 gwelwyd fod angen capel Methodistaidd mawr yn yr ardal, ac fe roddodd Owen Ellis brydles o gan mlynedd ar dir Cilfodan i adeiladu Capel Carneddi arno, a symudodd cynulleidfa fechan capel Rachub yno. Datblygodd Capel Carneddi yn fam eglwys holl gapeli Methodistaidd yr ardal. Cafodd £15 am y les, gydag ardreth blynyddol o £2. Ar ôl 1815, y mae stryd fawr Bethesda, hefyd, yn datblygu, ac mae hon, i gyd o Gapel Bethesda ( codwyd 1820 ) i lawr at waelod y stryd, ar dir Cilfodan.
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae rhan isaf fferm Cilfodan yn prysur ddadfeilio, oherwydd fod datblygiad Chwarel Cae Braich y Cafn wedi golygu twf mawr ardal Bethesda. Yng Nghyfrifiad 1841, gwelir fod na 88 o bobl yn byw mewn 44 o dai yn Llidiart y Gwenyn, ar dir Cilfodan. Yn 1862, roedd teulu’r Ellisiaid yn derbyn rhent o rhwng £2 a £30 punt y flwyddyn am y tai hyn. Hyd at 60au’r ganrif gwelir nifer helaeth o ddogfennau cyfreithiol sy’n dangos datblygiad Carneddi a Bethesda, a chynnydd eithriadol yng nghyfoeth yr Ellisiaid. Er enghraifft, Chwefror 26, 1857, rhoddwyd les am 34 mlynedd ar
‘ a parcel of land adjoining the road from Llanllechid to Carneddi, formerly part of a field called Llain y Tu uchaf i’r Ffordd, which was in turn called Cilyfodan’
er mwyn codi tri thŷ arno. Dim ond un o nifer helaeth tebyg yw’r ddogfen hon.
Yn Nhachwedd yr un flwyddyn gwelir cytundeb rhwng Owen Ellis a Thomas Morris a John Roberts o Bantdreiniog, a Robert Griffith o Fethesda, ‘Grocer ‘
‘Draft lease for 51 years of certain lands called Tan y Ffordd, formerly part of Cilfoden Farm’
ar rent o £30 y flwyddyn gyntaf, a £60 y flwyddyn bob blwyddyn wedi hynny. Mae’r lleoliad, natur yr ymgymerwyr, a maint y rhent, yn awgrymu’n gryf iawn mai les i ddatblygu Chwarel Pantdreiniog yw hon. Yn ogystal, datblygwyd nifer sylweddol o dai gyda’r enw Tan y Ffordd; erbyn hyn, yr unig rai sydd ar ôl yw’r rhai y newidiwyd eu henw i Rhes Pen y Bryn
Erbyn yr 1860au yr oedd Cilfodan Isaf, fwy neu lai, wedi diflannu’n gyfangwbl o dan y datblygiad trefol newydd o dai, siopau, swyddfeydd,a mannau busnes eraill a dyfasai yn sgil datblygiad Chwarel Cae. Ar ei thir y codwyd y Stryd Fawr bron i gyd, yr holl dai y ddwy ochr i’r stryd, a’r mwyafrif llethol o’r hyn oedd yn Fethesda a’r Carneddi, Bont Uchaf, Cae Star, Penygraig, Bryntirion, a nifer o dai bychain a elwid yn Twr Tewdws, nad oes, bellach ond un yn aros, sef Twr.
Erys Cilfodan ( Uchaf ) yn fferm hyfyw, ond gorwedd ei thir bellach rhwng ffordd Carneddi a’r mynydd. Gellir parhau i adnabod nifer o’r caeau o’u henwau dros dair canrif yn ol. Fodd bynnag, mae gweddill ei chaeau o dan dai, ac o dan yr hen chwarel – bellach wedi ei llenwi – ambell un yn dal i gadw cof o gaeau’r fferm yn 1627 ac 1691
Ffynhonellau
Dogfennau yn archifdy Prifysgol Bangor
Dogfennaeth Stad y Penrhyn
Map o diroedd y Penrhyn 1768
Hanes Methodistiaeth Arfon Hobley
Cofnodion Cyfrifiad 1841, 1851, 1861, 1871