Fferm yng ngwaelod plwyf Llanllechid oedd Cefnfaes, yn terfynu ar yr hen Dai’r Meibion. Nid yw’n bodoli bellach, a hynny ers dros ganrif a hanner. Eto mae olion ohoni ar fap OS cyfoes o ardal hendref Llanllechid ( sef y tir llawr gwlad o boptu’r A55 yn y plwyf). Mae bythynnod Tan Rallt ar yr hen ffordd rhwng Tyddyn Hendre a Thai’r Meibion; yn union gyferbyn â hwy ar draw syr A55 y mae cyfar o goed, yr enw arnynt yw Coed Cefnfaes, ac mae yn yr enw atgof o’r hen fferm sydd edi diflannu ers dros 160 o flynyddoedd. Mae’r enw yn awgrymu ei bod yn hen ddaliad, gan ei fod yn mynd â ni i’r Canol Oesoedd, pan oedd ‘maes’ yn dir agored , heb gaeau amgaeėdig. ( Mae’r gair ‘cae ‘yn perthyn i’r gair ‘cau’ ).

Map 1822 yn dangos lleoliad Cefnfaes ( Cenfais ) gyferbyn â Thai’r Meibion
Hanes Cefnfaes
Ym Mawrth 1675 y cawn y dystiolaeth ysgrifenedig cyntaf o’r daliad, mewn cytundeb ble mae Syr Robert Williams o’r Penrhyn yn rhoi les i Hugh ap William Gruffydd o Lanllechid ar chwarter ‘Cefn-faes in the parish of Llanllechid’ am 17 mlynedd, a hynny am un taliad o £25 a 4 ceiniog y flwyddyn o rent. Yr un dyddiad rhoddwyd les ar yr un telerau ar chwarter arall o dir Cefnfaes i Hugh Davies o Aber.
Daw’r dystiolaeth ysgrifenedig nesaf yn 1715. Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw’r hyn a ddywedir am yr enw
Lease …. of a cottage,tenement, and lands called the Grose, alias Kevnevaes, in the parish of Llanllechid.
Felly, yn ol y ddogfen hon, enw gwreiddiol Cefnfaes oedd Y Groes. Nid oes cofnod arall o hyn ar gael, ond mae’n hynod ddiddorol fod dau Dyddyn Maes y Groes heb fod nepell o’r Cefnfaes, ac, wrth gwrs, mae Maes y Groes yn bod heddiw. Tybed ai Cefn Maes y Groes oedd enw’r tir gwreiddiol, gyda ‘cefn’ yn air cyffredin yn golygu un ai ‘cefnen’ o dir’, neu, y gair llai cyffredin, sy’n golygu ‘canol’, fel yn y dywediadiau ‘gefn nos’, ‘gefn dydd golau’? O weld lleoliad natur tir y fferm, efallai mai’r olaf sydd fwyaf tebygol.
Gwelwn Cefnfaes nesaf yn 1751 pan oedd gŵr o’r enw John Hughes yn talu 12 swllt o dreth tir arni. Pan wnaed arolwg o diroedd y Penrhyn yn 1768, nodwyd fod Rowland Williams yn rhentu Cefnfaes, oedd yn ddaliad o 142 erw, gyda 26 o gaeau o amrywiol faint iddi.
Yn 1775, William Griffith oedd yn talu £1.4.0 o dreth tir ar Gefnfaes, ond roedd y cynnydd sylweddol hwnnw i’w egluro yn bennaf i’r ffaith fod WG hefyd yn dal tir cyfagos Wern, sef daliad cyfagos o 30 acer, Wern Porchell,sydd, hithau, wedi diflannu ers canrif a hanner, a mwy.
Erbyn 1793, mae tenantiaeth Cefnfaes wedi dod i ddwylo gŵr o’r enw Owen Ellis. Ef a’i ddisgynyddion fu’n dal tenantiaeth Cefnfaes am weddill ei bodolaeth fel fferm ac, oherwydd cysylltiad y teulu hwn â’r Cefnfaes y mae Ysgol/ Canolfan Cefnfaes a Stryd Cefnfaes ym Methesda heddiw.
Y tenantiaid – yr Ellisiaid
( Mae gwybodaeth fwy manwl ac ychwanegol am y teulu hwn yn y nodiadau Cilfodan ac Ellisiaid Llanllechid )
Gellir olrhain teulu Owen Ellis ym mhlwyf Llanllechid am, o leiaf, ganrif cyn cymryd tenantiaeth Cefnfaes, ac roeddynt yn deulu lluosog, canghennog yn y plwyf. Yn 1793, roedd Owen yn byw yn y Cefnfaes, oherwydd y flwyddyn honno mae ei frawd, Harry, oedd yn byw yn y Groeslon, yn ysgrifennu ei ewyllys, oedd yn rhoi ei holl eiddo i Owen Ellis, of Cefnfaes, ac yn ei enwi’n ysgutor i’r ewyllys. Bu Owen Ellis yn y Cefnfaes hyd ei farw yn 1802. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr ymddengys i’w weddw, Jane, ffermio’r Cefnfaes am rai blynyddoedd. Yna, yn 1813, cawn gofnod o roi tenantiaeth ar y cyd i’r weddw, Jane ( nee Williams) a’i mab hynaf, Owen Ellis arall. Mae’n amlwg iddo ef, am gyfnod cyn hynny, fod yn byw mewn ardaloedd eraill, gan i’w ddau fab hynaf, Owen,( g. 1802) a Humphrey,( g. 1803), gael eu geni mewn rhannau eraill o Arfon, un yn Llanberis, a’r llall ym Metws Garmon. Bu’r Owen Ellis hwn yn denant y Cefnfaes hyd ei farw yn 75 oed yn 1850.
Erbyn hynny mae’r fferm wedi ei rhannu’n ddwy, ond yn dal yn nhenantiaeth yr un teulu. Cyn y rhannu swyddogol, roedd dau dy ar y fferm, sef Cefnfaes, neu Hen Gefnfaes, a Chefnfaes Newydd. Yn ôl Arolwg Degwm 1838 roedd Cefnfaes yn nwylo dau denant, sef Owen Ellis a William Owen. Roedd y William Owen hwn yn gefnder i Owen Ellis, ac, yn ôl tystiolaeth ei fab yng nghyfraith, yn y Cefnfaes Newydd yr oedd William Owen yn byw. Priododd ail fab Owen Ellis, Humphrey, gyda Jane, merch William owen, a daeth ef i’r Cefnaes Newydd. Yn ol Cyfrifiad 1841, yng Nghefnfaes roedd Owen Ellis, 65 oed, ei fab hynaf 39 oed, yntau’n Owen, tri o blant eraill, Ellis, 30 oed, Ann, 25, a Catherine, 25. Yno, hefyd, roedd 5 o weision a morynion. Yng Nghefnfaes Newydd, wedyn, roedd Humphrey, 38, ei wraig, Jane, 35, a’u plant, Owen, 14, Catherine, 9, a William, 8, a William Owen, yn wr gweddw, yn byw gyda hwy. Yn llyfrau rhent Stad y Penrhyn 1849 gwelir y broses o rannu’r hen fferm yn ddau ddaliad annibynnol. Am Gefnfaes nodir
Now let to these two tenants separately
Gyda’r ddwy fferm roedd y mwyafrif o dir hen ddaliad Pwll Budur, ynghyd â rhan o’r Wig, oedd yn terfynu ar y Cefnfaes. Roedd ( Hen ) Gefnfaes yn 80 acer, a Chefnfaes Newydd yn 60 acer. Er mai yn 1849 y nodir hyn yn swyddogol, mae’n amlwg fod y rhaniad yn bodoli beth amser cyn hynny; ar fap OS ( Argraffiad 1880, ond gydag un newid yn unig, sef dangos y rheilffordd, ers argraffiad 1839), dangosir Cefnfaes Newydd a Hen Gefnfaes, gyda’r gyntaf rhwng Tai’r Meibion a Thraeth Lafan, a’r Newydd fwy wrth ochr tir Tai’r Meibion tua’r de-orllewin. Mae’r rheilffordd yn rhannu’r ddwy, ond gyda thiroedd y ddwy ohonynt i’r gogledd-orllewin o’r A5. ( Gweler map o’r hendref Ad-drefnu Daliadau Llanllechid 1840-60)
Yn 1849 roedd Owen Ellis yn talu rhent blynyddol o £100 ar un daliad, tra’r oedd ei fab, Humphrey, yn talu £75 y flwyddyn ar y llall. Mae’n arwyddocaol mai dyma renti uchaf holl ffermydd y plwyf, ar wahan i’r £130 yr oedd James Wyatt yn ei dalu am fferm Glan y Môr. Mewn cymhariaeth, doedd rhent un o ffermydd Cochwillan ond £65 y flwyddyn.
Bu farw’r ail Owen Ellis yn 1850. Yn dilyn ei farwolaeth cymrwyd tenantiaeth Cefnfaes gan ei fab hynaf, Owen, gydag Ann, yn cadw t iddo, y drydedd genhedlaeth, a’r trydydd Owen Ellis, i ffermio Cefnfaes. Yn ystod ei denantiaeth ef y daw bodolaeth Cefnfaes fel fferm annibynnol i ben.
Natur y Fferm
Mae enwau rhai o gaeau Cefnfaes yn dangos natur wlyb y tir hwn mewn oes cyn ei ddraenio, ( ar dywydd gwlyb iawn gellir gweld y natur hwn hyd heddiw) . O’r 142 erw yn y daliad gwreiddiol, , roedd Cors y Cefnfaes yn 29 acer, ac roedd Cae Llaciau ( ‘llaciau’ y gelwir y sianeli ar Draeth Lafan y daw’r llanw i mewn ar eu hyd o flaen y llanw, felly, byddai Cae Llaciau yn awgrymu ffrydiau o ddwr ), Gwern Fudr, a Gwern y Cae Newydd yn 22 acer ychwanegol o’r fferm, oedd yn gwneud traean o’i thir yn dir gwlyb, o fawr werth i amaeth. Mae tir sydd wedi ei enwi oherwydd presenoldeb coed gwern, fel arfer, yn wlyb, gan mai mewn tir o’r fath y tyf y coed rheiny. Oherwydd natur gwlyb y tir, yn 1850 fe roddodd y stad £10 i Gefnfaes, a £4:10:0 i Gefnfaes Newydd for draining lands
Mae gweddill tir Cefnfaes, fodd bynnag, yn dir llawr gwlad ffrwythlon. Enwau digon cyffredinol sydd i fwyafrif y caeau, yn nodweddion daearyddol, megis Cae Gwyn Mawr, Bryn Mawr, Winllan Fawr, a Cae Newydd Mawr, neu’n enwau’n disgrifio defnydd amaethyddol, megis Gweirglodd Uchaf, Buarth Lloiau, a Fuches Newydd.
Mae ewyllys Owen Ellis yr hynaf ( bf 1802 ) yn dangos inni sut fferm oedd Cefnfaes yn ei oes ef. Fferm gymysg ydoedd, fel holl ffermydd ei dydd, gyda’r prif bwyslais ar fod yn hunan-gynhaliol, er bod marchnad i gynnyrch dros-ben, yn anifeiliaid a chnydau. Roedd Owen Ellis yn berchen ar 7 buwch, 5 bustach, 5 o wartheg teirblwydd, a 5 o wartheg blwydd, y cyfan werth £129. Roedd 6 cheffyl ar y fferm, gwerth £5 yr un, nifer o ddefaid, oedd werth £30, ac un mochyn, gwerth £2. Roedd yno gynnyrch hefyd, yn yd, haidd, a gwenith, gwair, a gwellt, y cyfan werth £33. Mae nifer bychan yr anifeiliaid, yn ogystal â nifer uchel y ceffylau, ar gymaint o dir yn awgrymu fod cnydau sylweddol yn cael eu tyfu. Dylid cofio, yn ogystal, fod ffermio’n dal yn weddol gyntefig, yn ddigyfnewid ers y Canol Oesoedd, ac mai dyma’r cyfnod y sefydlwyd Cymdeithasau Amaethyddol ym mhob sir er mwyn moderneiddio a gwella amaethyddiaeth Prydain. Yn ogystal, mae enwau caeau yn dangos sefydlogrwydd defnydd yn y cyfnod cyn gweld gwerth cylchdroi cnydau a defnydd tir. Er enghraifft, mae Gweirglodd yn awgrymu’n gryf mai dyma’r defnydd bob blwyddyn o’r tir hwn. Felly, hefyd, gyda’r rhan fwyaf o gaeau ag enwau defnydd amaethyddol.
Er fod Cefnfaes yn fferm o faint sylweddol, bychan oedd y tŷ. Tair ystafell sydd iddo, sef cegin, siambar, a llofft, gyda’r holl ddodrefn yn werth llai na £23. Wedi cymryd dillad Owen Ellis a holl offer y fferm i ystyriaeth, mae stâd ffermwr Cefnfaes yn 1802 yn £279:12:0, sy’n cyfateb i lai nag £20,000 heddiw. Fodd bynnag, yr oedd, wyth mlynedd cyn ei farw, wedi llwyddo i brynu Cilfodan Isaf, ac roedd y fan honno yn mynd i fod o elw mawr i’w ddisgynyddion.
Ym 1850 bu farw Owen Ellis, y mab, a’i gladdu ym mynwent Llanllechid gyda’i wraig, Catherine ( oedd wedi marw yn 1816). Mae’n ddiddorol cymharu Cefnfaes yn ei gyfnod ef gyda’r fferm yng nghyfnod ei dad. Tair ystafell oedd i’r tŷ o hyd, ond mae un ‘washouse’ ychwanegol. £8:10:0 oedd gwerth yr holl ddodrefn, llai o dipyn na gwerth dodrefn ei dad hanner canrif ynghynt. Mae’r ystafelloedd gwely wedi mynd ychydig yn fwy crand, hefyd, gan mai 2 bedrooms sydd yno yn 1848 ( pan ysgrifennwyd yr ewyllys ) ac nid siambr a llofft fel yn1802. Roedd ganddo 20 o wartheg, 2 yn llai na’i dad , un gaseg ( ddall! ) ac un ceffyl, lle’r oedd gan ei dad 6, ac un mochyn oedd yno yn awr hefyd. Mae’r lleihad, mwy na thebyg, oherwydd fod daliad y mab, oherwydd y rhannu, yn llai o dipyn na daliad ei dad. Mwy diddorol yw gweld y gwahaniaeth mewn prisiau. Yn 1850 £3 oedd gwerth buwch, ble’r oedd hi’n £7 hanner canrif ynghynt, ac mae’r lleihad ym mhrisiau pob anifail yn debyg – ar wahân i geffyl, sydd wedi mwy na dyblu yn ei werth, o £5 yn 1802 i £11:10:0 yn 1850. Mae, hyd yn oed, y mochyn druan wedi colli chwarter ei werth mewn hanner canrif. Roedd y fferm yn parhau i dyfu yr un cnydau, a hynny ar oddeutu’r un cyfraddau ag yn amser y tad. Roedd gan y mab, hefyd, tua’r un faint o’r cnydau yn ei ydlan a’i storfeydd, gyda gwerth y cyfan yn £17:14:0, tra’r roedd cnydau ei dad werth bron i £10 yn fwy. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaeth yn y gwair a’r gwellt oedd gan y tad, gan fod ganddo werth £9:4:0 yn fwy o hwnnw na’i fab. Ar y cyfan, felly, mae’n ddiddorol sylwi nad oes fawr o wahaniaeth i’w weld rhwng amaethyddiaeth y Cefnfaes yn 1802, a’r amaeth yno yn 1848.
Roedd hi’n arfer i sawl ffermwr ddal tir ychwanegol i’w ddaliad cartref. Erbyn 1840 roedd Owen Ellis, Cefnfaes,ynghyd â Hugh Jones, Tyn Hendre, hefyd yn rhentu rhan o Dai’r Meibion, sef y caeau eang ar y llethrau, Bronnydd Uchaf a Bronnydd Ganol. Ar y terfyn â Chefnfaes, tua Thraeth Lafan, yr oedd daliad o 41 acer o’r enw Pwll Budur. Tir gwlyb oedd hwn yn ei hanfod, fel y dengys enw’r tri chae oedd iddo – Cae Pen y Lana ( Glannau? )( 14 erw), Tir Sych y Pwll ( 8 erw ), a Tir Gwlyb ( 19 acer ). Gellir gweld y pwll budr ei hun hyd heddiw, wrth gerdded Llwybr yr Arfordir o Aberogwen tuag Aber, ac fe ellir gweld dyfrffos Pwll Budr yn llifo i’r môr. Yn 1768 roedd Pwll Budur yn cael ei osod gyda Rallt, ac yn 1840, Ann Hughes, Aberogwen, oedd yn dal y tir. Fodd bynnag, yn 1849, nodir ym mhapurau’r Penrhyn
Pwll Budur added to Cefnfaes
Mewn gwirionedd, rhoddwyd ychydig o dir Pwll Budur i Glan y Môr, hefyd, ond aeth y mwyafrif helaeth at dir Cefnfaes, Felly, yn awr, mae Cefnfaes yn ddaliad mwy, er mai tir gwlyb yw llawer o’r ychwanegiad, ac mae Owen Ellis a’i blant yn ffermio dros 120 acer yn ngwaelod plwyf Llanllechid.
Diwedd Cefnfaes
Rhwng 1840 a diwedd y ganrif fe wnaeth Stad Penrhyn newidiadau a gwelliannau mawr i nifer o ffermydd eu stâd. Un elfen oedd uno tiroedd i greu daliadau mwy hyfyw. Er ei bod yn arfer ers blynyddoedd lawer i un tenant ddal mwy nag un daliad, ( fel y gwelwyd gyda Phwll Budur ) yn ail hanner y 19 ganrif, gwelir y Penrhyn yn uno tiroedd yn fwriadol, a rheiny’n uno parhaol. Canlyniad y broses hon oedd colli sawl daliad oedd wedi bodoli am ganrifoedd. Roedd gan y Penrhyn ddau fath o denant. Yn gyntaf, roedd y tenantiaid blynyddol, a rhennid y rhain yn Denantiaid Calan Mai ac yn Denantiaid Calan Gaeaf. Y dosbarth arall oedd Tenantiaid Lês. Roedd tenantiaeth y rhain wedi ei gosod fel les o hyn a hyn o flynyddoedd, ( unrhyw hyd rhwng 21 mlynedd a their cenhedlaeth ), ac ni allai, fel arfer, ddod i ben ond ar ddiwedd y les, neu pe byddai’r tenant yn ildio’r les Tenantiaeth Calan Gaeaf oedd i’r ddwy Gefnfaes, ond Tenantiaeth Les oedd un Tai’r Meibion. Yn 1857 daeth tenantiaeth les Tai’r Meibion , oedd yn nwylo Henry Evans ers blynyddoedd, i ben, ac fe fanteisiwyd ar hynny i uno’r ddwy Gefnfaes efo Tai’r Meibion i wneud un fferm sylweddol iawn , a rhoddwyd y denantiaeth i’r ddau frawd Ellis efo’i gilydd. Yn Rôl Rhent Penrhyn 1857 nodir ychwanegu at Gefnfaes
‘Chief part of Tai’r Meibion out of lease’
ac ychwanegir £107/5/0 o’i rhent ( o’r £108 a nodwyd) at rent Cefnfaes i greu rhent o £295 y flwyddyn, rhent fyddai’n cyfateb i oddeutu £30,000 heddiw. Ganrif ynghynt, yn 1757, £18 oedd y rhent blynyddol! ( rhyw £3,500 yn arian heddiw )
Mae les 1859 gan y Penrhyn yn gosod 256 acer, sef tiroedd ‘ old Cefnfaes, Cefnfaes Newydd, Tai’r Meibion, and Ffridd Bryn Adda ( ger y Bronnydd )’, a’r cyfan o dan enw Tai’r Meibion, i Owen a’i frawd, Humphrey Ellis. Erbyn hyn, mae’r rhent blynyddol wedi cynyddu ganpunt, i £ 392.
Er gwaethaf yr uno, mae’n amlwg i’r ddau frawd aros yn eu hen gartrefi am rai blynyddoedd. Yng Nghyfrifiad 1861, mae Owen, yn hen lanc, yn byw gydag Ann, ei chwaer ddibriod, yn yr Hen Gefnfaes, tra bod Humphrey a’i wraig yn dal yng Nghefnfaes Newydd.
Fel y nodwyd, o dan enw Tai’r Meibion yr unwyd tiroedd y pedwar daliad, a hwnnw oedd yr enw a oroesodd. Erbyn 1863, ceir cyfeiriad at ‘Owen Ellis, Tai’r Meibion, Gent’, ac yn 1867, sonnir am Owen Ellis, ‘formerly of Cefnfaes, and now of Tai’r Meibion’. Erbyn Cyfrifiad 1871, nid oes sôn am yr un o’r ddau Gefnfaes. Yn y cyfrifiad hwnnw mae Owen, Humphrey, Jane, ac Ann, eu chwaer, yn byw efo’i gilydd yn Nhai’r Meibion. Mae’r ddwy Gefnfaes wedi diflannu’n llwyr, ond arhosodd atgofion amdanynt ar dir Tai’r Meibion, gan mai enwau dau o gaeau’r fferm oedd ‘Cae tŷ yr hen Gefnfaes’, a ‘Chae Cefnfaes Newydd’, sy’n amlwg yn olion tiroedd y ddwy fferm. Cae arall, mewn rhan mwy gwlyb o’r tir, oedd Cors y Cefnfaes, ( sef y gors a nodwyd yn 1768 )ac, fe erys hyd heddiw goedlan ar y tir gyda’r enw Coed Cefnfaes. Mae’r goedlan hon yn ymestyn o’r A55 ger bythynnod Tan yr Allt i lawr i’r ochr draw i’r Rheilffordd.
A dyna ni, ddiwedd Cefnfaes. Diflannodd y fferm, neu’n hytrach, y ffermydd, yn nechrau 60au’r 19 ganrif, ond ni ddiflannodd yr enw. Arhosodd yn enw’r stâd a dyfodd oherwydd fod tenant Cefnfaes yn berchen ar fferm Cilfodan yn Nyffryn Ogwen, ac ar ran helaeth o dir y fferm honno y datblygwyd Bethesda a’r Carneddi. Oherwydd hynny, daeth cyfoeth i Owen Ellis a’i ddisgynyddion, a chan mai tenant Cefnfaes oedd Owen pan oedd twf Bethesda yn ei anterth, daeth Stâd Cefnfaes i fod. Petai Bethesda wedi datblygu ar ôl 1860, yna Stâd Tai’r Meibion fyddai hi, a byddid wedi colli enw Cefnfaes am byth. Ond mae’r hen fferm ddiflanedig o ben draw plwyf Llanllechid yn dal yn fyw yn y ganolfan a’r stryd sy’n parhau i gario’i henw, ganrif a hanner wedi iddi hi ei hun ddiflannu.
Ffynhonellau
Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768
Arolwg Degwm 1840
Papurau’r Penrhyn yn Archifdy Prifysgol Bangor
Casgliad Ewyllysiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ystadegau Cyfrifiad 1841 – 1871
Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Plwyfi Llanllechid a Llandegai William Parry ( Llechidon ) 1868
Hanes Methodistiaeth Arfon William Hobley
Cyfrifiad Presenoldeb Mannau Addoliad 1851
Map OS 1880 Taflen 77 a 78 ( fel taflenni 1839)