Amaeth ym Mhlwyf Llanllechid 1760 – 1860 Rhan 5 Daliadau Unigol 1760-1820

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Fel y nodwyd mewn pennod flaenorol, doedd ffermio yng Nghymru ddim wedi newid fawr ddim ers y Canol Oesoedd, ac roedd y ffermydd, yn ogystal â’r dulliau, yn dal yn debyg iawn.  Amcangyfrifir fod un ffermwr, a’i deulu, yn y Canol Oesoedd yn gallu trin rhyw 30 acer, ac y byddai teulu estynedig o 4 penteulu – sef tad a thri o blant a’u teuluoedd – yn gallu ffermio ryw 120 acer. Tir âr fyddai hwn, wrth reswm, tir y gellid codi gwahanol gnydau ohono; byddai hyn yn ychwanegol i’r tir comin helaeth oedd ar gael i bori anifeiliaid ar y cyd, neu i godi mawn, a hel poethwal. Ar y tir âr, fwy neu lai yr un cnydau a dyfid, yn yr un drefn, yn yr un graddfa, ac yn yr un dulliau. (Gweler yr adran ar Cnydau). Yn ôl un ffynhonnell 18 acer oedd maint cyfartalog fferm llawr gwlad yng Nghymru yn y 18ed ganrif, sy’n cydfynd yn agos gyda maint tir âr daliad tair a phedair canrif ynghynt. Fodd bynnag, mae Gwallter Mechain, (Y Parch Walter Davies),  mewn adroddiad gynhwysfawr ar Amaethyddiaeth Cymru 1790 – 1815, yn nodi mai  cyfartaledd cyffredinol maint fferm yng Nghymru – hynny yw, ar gyfer pob fferm, llawr gwlad a mynydd – yw 50 – 60 acer. Mae’r maint cyfartalog hwn yn sylweddol uwch na’r 18 acer  a nodwyd, a hynny oherwydd nifer helaeth y ffermydd mynydd oedd yng Nghymru; ffermydd gyda channoedd o aceri mynyddig, ond ychydig iawn o dir y gellid tyfu cnydau arno oedd ar y rhan fwyaf o’r rheiny. O’r herwydd, nid yw maint cyfartalog ffermydd yn adlewyrchu anawdd y ffermydd hynny. Gwelwn hyn yn glir wrth fanylu yn nes ymlaen.

Yn 1768, yr oedd 106 o ddaliadau gwahanol ym mhlwyf Llanllechid, gyda’r mwyafrif, fel y nodwyd, yn perthyn i’r Penrhyn. Mae gennym fanylion manwl am y daliadau rheiny, gan i Richard Pennant, pan etifeddodd y stâd yn 1767 gomisiynu arolwg manwl o’i diroedd gan syrfewr o Loegr, R Leigh. Cwblhaodd y syrfewr ei gomisiwn, wedi gwneud gwaith manwl a chlir, yn dangos enw, maint, a lleoliad pob cae, afon, a llyn ym mhob daliad ar y stâd. Mae llawer iawn o’r casgliadau y down iddynt yn y drafodaeth hon wedi ei seilio ar y wybodaeth yng ngwaith Leagh. Mae gennym wybodaeth am 74 o ddaliadau, yn 3286 o aceri, sy’n rhoi cyfartaledd o 44.4 acer i bob daliad, sy’n gosod cyfartaledd y daliadau hynny rywle yn y canol rhwng y cyfartaledd a nodir ar gyfer ffermydd llawr gwlad Cymru, a chyfartaledd ffermydd Cymru yn gyffredinol. Fodd bynnag, pan ystyrir fod 308 o’r aceri yn y daliadau hyn yn dir gwlyb (cors, gwaun, neu ros ), 56 acer yn goed, neu’n eithin, a 484 yn ffridd, neu’n dir garw, mae hynny’n dod â maint cyfartalog ffermydd y plwyf i 33 acer. A doedd y rheiny i gyd ddim yn aceri cynhyrchiol! Wrth gwrs, roedd fferm a fferm – dydy bob un ddim yn gyfartalog; 7 acer oedd Tyddyn y Gaseg, 13 oedd Abercaseg, 6 oedd Tyddyn Cwta, a 10 oedd Tyddyn Feitos, ac mae sawl un arall tebyg iddynt. Ar y llaw arall, roedd dros 60 acer o un o’r ddwy Cochwillan, a thua 60 o 70 acer y llall, yn diroedd cynhyrchiol. Er bod 54 acer o dir corsiog, neu dir anghynyrchiol ar dir Cefnfaes, roedd 88 acer o dir da yno, ac am 210 acer Tai’r Meibion, er fod mwy na’i hanner yn dri chae anferth ar y llethrau, a’r bronnydd, mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir y gellid gwneud defnydd amaethyddol effeithiol ohono. Mae hynny, hefyd, yn wir am ddaliadau mwyaf yr hendref, megis Aberogwen, Glan y Môr, Talybont, Dologwen, Maes y Penbwl, ac eraill.

Ffactor arall oedd yn effeithio ar y tirwedd yn yr ardal hon oedd y cerrig mawrion oedd ym mhobman, olion rhewlifoedd Oes yr Ia a fu’n gorchuddio’r tir am filoedd o flynyddoedd, Pan giliodd y rhewlifoedd, gadawsant ar eu holau gerrig a chreigiau yn britho, hyd yn oed, y tiroedd gorau. Roedd yn anodd, hyd yn oed ynamhosib, clirio’r cerrig hyn o’r tir, ac roedd ffermwyr yn gorfod ffermio o’u cwmpas. Dim ond gyda datblygiad Chwarel Braich y Cafn y daeth hi’n haws clirio’r cerrig hyn, oherwydd fod powdwr du ar gael yn lleol, yn ogystal â dynion oedd yn gwybod sut i’w ddefnyddio. Fe rydd Gwallter Mechain enghraifft o wella’r tir trwy glirio cerrig rywdro cyn 1815

On one farm, fifteen acres covered with stones of vast size had been cleared 

 Fodd bynnag, troi’r dwr i’w felin ei hun oedd y tirfeddiannwr, gan fod y tenant yn gorfod talu am y gwaith trwy godiad o 5% o’r gost ar ei rent am ugain mlynedd

paying £12.10 additional rent , which is 5% of the expenditure

 Ymhen yr ugain mlynedd, byddai’r tenant druan wedi talu’n gyfangwbl am wella fferm y tirfeddiannwr! Mae’r ffaith fod Gwallter yn cymeradwyo’r arfer hwn fel un i’w efelychu yn dangos ar ba ochr i’r clawdd y safai ef!

Er gwaethaf yr enghraifft hwn, digon yw dweud, yn 1760, ac am flynyddoedd wedi hynny, fod cerrig, yn ogystal â natur y tir, yn milwrio yn erbyn ffyniant amaeth.  Yn gyffredinol, ar wahân i eithriadau prin, crafu byw oedd hanes y rhan fwyaf o ffermwyr yr ardal hon yn y cyfnod, yn union fel eu gweithwyr. Dim ond ar diroedd llawr gwlad breision Cymru a’r gororau yr oedd gwahaniaeth sylweddol yn ariannol rhwng ffermwr a gweithiwr; o safbwynt statws cymdeithasol yn unig yr oedd y gwahaniaeth mewn ardaloedd o diroedd gwael.  Oherwydd natur eu tiroedd, does dim rhyfedd fod ffermwyr Llanllechid, fel eu gweision, yn wael eu byd yn y cyfnod dan sylw, fel y gwelwn yn nes ymlaen. Dyma i chi Hugh Evans, yn ei gyfrol hunangofiannol Cwm Eithin, yn nodi am ei ardal ef ( Uwchaled ) yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif

Yr oedd y ffermwyr …. yn ddigon canolig  a thlawd o ran eu hamgylchiadau … caled iawn oedd eu byd hwythau’

Yr un oedd natur tir Uwchaled a llawer o dir Llanllechid

Gwern Bryn EithinTir anghynhyrchiol mewn rhan o blwyf Llanllechid

 O edrych ar rai o’r daliadau yn 1765, mae’n amlwg fod rhyw fath o gytundeb beth ddylai maint daliad fod, nid o ran bod yn rhy fychan, ond o fod yn rhy fawr i un tenant. Gallai hyn fod o safbwynt effeithiolrwydd y ffermio, neu o safbwynt cael mwy o rent, ond mae’n sicr ei fod yn waddol o syniadaeth canrifoedd cynt ynghylch maint daliadau, a gallu unigolion a theuluoedd i’w trin.Yn Llanllechid gwelir fod hen ddaliadau a fu, unwaith, yn amlwg, yn unedau mwy, yn cael eu ffermio ar y cyd, mae’n debyg, gan gymuned, neu deulu estynedig,  erbyn 1768 wedi eu rhannu’r ddaliadau llai, mwy hylaw i un teulu ei ffermio. Er enghraifft, erbyn 1768, roedd Aberogwen yn ddau ddaliad, o 62 a 37 acer. Rhannwyd Corbri, a fu unwaith yn ddaliad sylweddol iawn, yn dri, yn 64, 97, a 107 acer, ond yn y ddwy fwyaf roedd y ffriddoedd a’r tiroedd anghynhyrchiol yn 39 a 41 acer, sy’n gwneud y tair Corbri tua’r un faint o dir cynhyrchiol. Roedd Cochwillan, wedyn, yn cael ei gosod fel dau ddaliad o 70 a 79 acer. Roedd hen diroedd Cochwillan wedi rhannu cyn hynny, gan i Dalybont Uchaf ddod yn rhan annibynnol ar y demesne canoloesol cyn 1750, o leiaf, pan oedd treth tir yn cael ei dalu’n annibynnol ar y tir.  Rhannwyd Gwaun Gwiail yn 3 daliad, o 83, 43, a 46 acer, tra rhannwyd Ciltwllan, ar draws yr afon Gaseg, yn ddau ddaliad o 64, a 69 acer, tra’r oedd y trydydd ond yn farclodiad o 9 acer. Roedd Bryn Hafod y Wern, erbyn 1768, yn ddau ddaliad eithaf bychan, un o 34 acer, a’r llall yn 27 acer. Mae’r rhannu hwn yn hollol amlwg fwriadol mewn sawl achos, lle gwelir hen gaeau, neu ffriddoedd, oedd gynt yn rhan o’r daliad mwy gwreiddiol, wedi eu rhannu rhwng y daliadau newydd. Cymrwch ddau o ddaliadau Gwaun y Gwiail, y ddau gyda rhannau, (hanner, fel arfer ),  yn perthyn i’r ddwy – Ffridd Newydd Wair, Ffridd Arw, Buarth Lloiau, Cae Aber Afon, Cae Rhos, a Than yr Ysgubor. Neu beth am y ddau ddaliad mwyaf yng Nghiltwllan, sy’n rhannu Ffridd Isaf, Ffridd Ucha, Ffridd Eithin, a Chae’r Pant. Nid oedd y broses hon wedi darfod, ychwaith, oherwydd, rywdro cyn 1840, fe rannwyd 142 acer Cefnfaes yn ddwy fferm, Cefnfaes          ( weithiau Hen Gefnfaes ) a Chefnfaes Newydd, gydag Owen Ellis a’i deulu yn y cyntaf, ( roedd y teulu wedi bod yn denantiaid Cefnfaes ers hanner canrif, o leiaf ), a’i fab, Humphrey, a’i deulu yntau,  yn y daliad newydd. Mewn achosion eraill, roedd daliad wedi aros yn un, ond fod mwy nag un tenant yn rhentu’r tir. Er enghraifft, pan wnaed arolwg o gyflwr rhai o ffermdai Stâd Penrhyn yn 1815/16, nodwyd am y Fedw fod 4 ty yno, pob un,gyda llaw, mewn cyflwr enbydus. Gallai un neu ddau fod yn dai i weision, ond mae’r sylw pellach

As the buildings of this farm are in so bad a state, it would be more advantageous to have but one tenant, and enlarge one of the houses, and build new farm buildings’,

 mae’n amlwg nad un tenant oedd i’r fferm. Mae cofnodion trethi tir, wedyn, er nad yw’r rheiny yn gyflawn, nag yn lluosog, yn dangos fod mwy nag un person, yn aml, yn talu treth ar yr un tir, sy’n golygu fod tir wedi ei rannu rhang gwahanol denantiaid.

Rhywbeth arall arwyddocaol i’w nodi gyda’r daliadau mwyaf o dros 100 acer, yw fod cyfran fawr o’r tir yn dir wâst, yn anghynhyrchiol, neu’n ffridd i bori defaid, sy’n gadael y tir cynhyrchiol yn faintioli gweddol debyg bob tro. Gwelwyd eisoes ddaliadau Corbri, Cefnfaes, a Thai’r Meibion. Fedw wedyn yn 115 acer, ond mae 57 o’r rheiny yn ffriddoedd. Pen y Bryn yn 110, ond gyda 47 acer yn dir wast. Ac mae’r un patrwm trwy’r plwyf; prin iawn yw’r daliadau o dir cynhyrchiol sy’n fwy na rhyw 60 acer, sef digon i un teulu fedru ei ffermio. Ac mae llawer o’r daliadau yn llawer llai – nifer yn 20 – 30 acer (Mignant, Powls, Pant y Gwair, Tyddyn Ceiliog, Tyddyn Fertos, Ysgubor Newydd, Pentre Isaf, ac yn y blaen, ac yn y blaen). Fel yr eir yn uwch i fyny’r dyffryn, mae’r patrwm, o reidrwydd, yn dwysau, gyda mwy o dir gwael, ymylol, anghynhyrchiol, a llai o dir cynhyrchiol. Ym mhen uchaf y dyffryn, gwelir y patrwm canlynol yn y daliadau pellaf

Daliad                         Maint              Ffriddoedd/ tir gwael           Tir âr

Gwaun Gwiail            46                                33                                13

Gwaun Gwiail            43                                22                                21

Gwaun Gwiail            80                                33                                47

Ciltwllan                     64                                49                                15

Ciltwllan                     62                                49                                13

Tanygarth                  75                                28                                47

Cymysgmai                61                                24                                37

Fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd y daliadau, fel ag yr oeddynt, rhwng 1760 ac 1840, yn bodloni gofynion y tenantiaid a’r ffermwyr gorau, yn bennaf oherwydd natur y tiroedd, fel y nodwyd uchod, ynghyd â’r patrwm tir.

Pan aeth Gwallter Mechain i Aber a Hendre Llanllechid rywdro cyn 1815 fe welodd

Fields belonging to different farms are here very much intermingled, and are moreover too small and irregular in their shape.

A dyma inni dystiolaeth dyn o’r enw D J Evans, Bangor, Pennsylvania, wrth ysgrifennu am ei hen gartref, Gwaun Gwiail, yn Y Drych, papur newydd Cymraeg Gogledd America yn 1914

Yr un modd hefyd y caeau a’r ffriddoedd,  yr oeddynt blith drafflith; cae yma yn perthyn i un fferm, a’r cae nesaf ato i un arall. Y mae yn anhawdd gwybod paham yr oeddynt wedi eu rhannu felly, os nad er mwyn rhyw fath o amrywiaeth, a’r amrywiaeth hwnnw er mwyn unoliaeth

 Y gwir yw fod olion daliadaeth tiroedd y Canol Oesoedd yn dal i ddylanwadu’n drwm ar batrwm y tir ganrifoedd wedi hynny. Ac roedd hynny’n arbennig o wir yn hendref Llanllechid, gyda nifer o ddaliadau, nad oeddynt yn ffermydd annibynnol, yn cael eu dal un ai’n rhannol, neu’n unigol gan denantiaid o ddaliadau eraill, nad oeddynt, bob amser, yn agos at y tir hwnnw tir. Ceir enghreifftiau o denant un daliad yn dal daliad arall nad oedd ar y terfyn â’i fferm gartref, ac, yn amlach, roedd ambell ddaliad wedi cael ei rannu rhwng sawl tenant. Roedd dal tiroedd eraill wedyn, a’r rheiny yn aml heb fod yn agos at y daliad cartref, yn digwydd yn aml gan ffermwr blaengar, nad oedd digon o dir cynhyrchiol yn ei ddaliad cyntaf i gynnal ei waith, na’i uchelgais.

Dyna’r caeau, wedyn; roedd y rhain, yn enwedig ar lawr gwlad yr Hendre, yn rhai bychain. Roedd hyn, eto, yn barhad o’r Canol Oesoedd, lle’r oedd y tir wedi ei rannu’n lleiniau yn ôl faint y gallai un dyn eu trin. Roedd rheswm arall am y caeau bychain; ffermydd cymysg oedd ffermydd llawr gwlad Cymru bron yn ddieithriad ( hyd at yn weddol ddiweddar, a dweud y gwir.Dyma ddywed Hyde Hall, yn ei gyfrol A Description of Caernarvonshire (cyh. 1809)

The farms within this county may be divided into arable, mixed, and mountain. They have …….. as elsewhere, fatter cattle for sale, and sold nearly lean in mountain farms. Mixed farms are such as pay their rent by the sale both of corn and lean cattle 

Mewn ffermydd cymysg tyfir sawl math o gnwd, a chedwir ystod o wahanol anifeiliaid fferm. Does dim arbenigo mewn fferm sydd â’i phrif fwriad i fod yn hunan-gynhaliol; rhaid wrth y cyfan. Canlyniad hynny oedd fod angen llawer o wahanu rhwng cnwd a chnwd, rhwng anifail ac anifail, a rhwng anifail a chnwd. A dyna oedd sail nifer o gaeau’r Hendre ddiwedd y ddeunafwed ganrif.

Cymrwch ddaliadau Talybont a Dologwen, oedd, yn 1765, yn un daliad o 76 acer o dir cynhyrchiol. Roedd wedi ei rhannu’n 36 cae, cyfartaledd o rhyw 2 acer y cae.

12 acer oedd Llwyn Celyn wedyn , wedi ei rhannu’n 9 cae,

Roedd

19 cae yn 40 acer Tyddyn Isaf,

11 cae mewn 18 acer Tyddyn Maes y Groes,

13 mewn 13 ym Mignant, ac yn y blaen.

Ble’r oedd angen trin y tir, roedd  y caeau’n fychain a hawdd eu trin gan un neu ddau o bobl. A ble’r oedd angen gwahanu gwahanol agweddau o’r fferm, roedd caeau bychain yn hwylus ar gyfer hynny: waliau, cloddiau, a gwrychoedd oedd ffens drydan y ddeunawfed ganrif.

Talybont Dologwen

Talybont-Dologwen yn dangos y caeau bychain. Peidied â cheisio lleoli’r fferm trwy ddefnyddio Aber Ogwen ar y map; nid oedd Leigh yn deall y Gymraeg, ac mae’n defnyddio ‘aber’ yn lle ‘afon’ yr holl ffordd i’w tharddiad yn y llyn

Mae ambell ddaliad, wedyn, yn cynnwys caeau mewn gwahanol rannau digyswllt, eto’n adlewyrchu patrwm yr Oesoedd Canol o unigolion yn trin rhannau digyswllt o dir. Y ‘gwely’ oedd cyfanswm tir teulu yn y cyfnod hwnnw, a thu mewn i’r gwely, ceid ‘gafaelion’ ( unigol ‘gafael’). Roedd y gafael, wedyn, wedi ei rannu yn amrywiol rannau, ac roedd y tir âr ynddo wedi ei rannu yn lleiniau ( unigol ‘llain’ ), sef stribedi bychain, hirgul, yn cael eu trin gan unigolyn, neu deulu. Yn aml, byddai gan unigolyn, neu ei deulu agos, fwy nag un llain.  Yn y canrifoedd cynnar, yr oedd y ‘gwely’ yn un darn o dir, yn eiddo i bennaeth y teulu estynedig, ; yr oedd y gwely, wedyn, wedi ei rannu yn ‘afaelion’, gyda phob gafael dan reolaeth aelod arall o’r teulu, a’r rheiny, wedyn, wedi eu rhannu ymhellach. Gydag amser, roedd sawl penteulu, neu deulu, yn sicrhau mwy o dir, gan amlaf trwy briodas, neu rodd gan dywysog, a’r tir hwnnw, bron yn ddieithriad, mewn rhan arall o’r wlad. Bryd hynny, daeth y gwely i olygu holl dir y benteulu/ teulu ble bynnag yr oedd y tir hwnnw. Yn ogystal, er fod pob tir y tu mewn i’r gwely, neu’r gafael, ar farwolaeth ei ddeiliad, i fod i fynd yn ei ôl i feddiant y teulu cyfan, dros amser roedd y tir yn cael ei etifeddu gan etifeddion person. Er enghraifft, petai dyn cyffredin, oedd yn meddu ar lain o dir, yn marw, yn hytrach na bod y llain honno’n mynd yn ei hôl i feddiant y teulu estynedig, roedd yn cael ei hetifeddu gan un o’i  deulu agos. Yn aml, hefyd, byddai un person yn etifeddu mwy nag un darn o dir gan wahanol bersonau. Canlyniad hyn oedd rhannu tiroedd, gyda pherchennog yn berchen ar diroedd mewn gwahanol fannau. Ar ben hyn i gyd, roedd yr arfer Cymraeg o rannu eiddo yn gyfartal rhwng pob etifedd yn rhannu eiddo i rannau llai a llai o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae olion effaith hyn i’w weld yn y daliadau yn Llanllechid, ble mae mwy nag un mewn rhannau digyswllt.

Llwyn Celyn

Cynllun o fferm Llwyn Celyn yn 1768, gyda’r fferm mewn dau ran digyswllt;dim ond ychydig dros 12 acer oedd y daliad, ond roedd yn cynnwys 9 cae, mewn dau ran digyswllt – cyfartaledd o 1.3 acer y cae. Mae’n amlwg fod y rhan sy’n cynnwysG,H,i,K ar un adeg yn un rhan, oedd yn cael eiddo cyffredin, gan mai Caeau Cyd oedd yr enw ar bob un.

Maes y Penbwl

Cynllun o’r fferm Maes y Penbwl ( yn y parc heddiw) yn dangos daliad o 82 acer, mewn dwy ran ar wahân, un yn 35 acer, a’r llall yn 47 acer. Mae’r ty yn y daliad ble dangosir A. Nid oes ond 22 cae yn y daliad, sy’n rhoi maint cyfartalog o 3.7 acer y cae – cryn dipyn yn fwy na’r rhan fwyaf o ddaliadau’r ardal

Fel y nodwyd, rhesymau hanesyddol oedd yn gyfrifol am y ffaith fod ambell ddaliad yn cynnwys rhannau digyswllt ar wahân, ond nid oes gennym amcan heddiw beth oedd y rheswm, gan y gallai fod ymhell yn ôl yn niwloedd y gorffennol. Beth bynnag, yn 1768 roeddynt wedi sefydlogi’n ddaliadau unigol. Fodd bynnag, am y caeau bychain y tu mewn i’r daliadau, roedd rheswm pam roedd cymaint ohonynt; roedd yr holl ffermydd ym mhlwyf Llanllechid,  ar wahân i’r ffermydd mynydd, yn ffermydd cymysg,

The farms within this county may be divided into arable, mixed, and mountain. They have …….. as elsewhere, fatter cattle for sale, and sold nearly lean in mountain farms. Mixed farms are such as pay their rent by the sale both of corn and lean cattle 

Mewn ffermydd felly rhaid wrth gaeau gwahanol ar gyfer gwahanol gynnyrch, a chloddiau i gadw’r anifeiliaid o’r gwair a’r yd, beth bynnag fo maint y daliad.

Gyda llaw, bu imi ddarganfod ystyr newydd ( i mi ) i’r gair ‘buarth’. Hyd nes imi ddadansoddi gwaith Leigh yn fanwl roeddwn i wedi synio erioed mai cowt ffarm oedd buarth, gyda’r ystyr arall yn yr ardal hon o ‘gorlan’. Mae’r gair yn dod o ‘bu’, fel yn ‘buwch’, ac yn golygu ‘gwartheg’, a ‘garth’, sy’n golygu ‘lle caeedig’, fel yn ‘ lluarth’, sy’n golygu ‘gardd lysiau’.  Dim ond y ddau ystyr yma sydd i’r gair yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, hefyd, ar wahân i ystyr trosiadol o le i gyrchu iddo, neu ‘fangre’ , Ond mae’n amlwg fod na drydydd ystyr iddo, yn Nyffryn Ogwen, beth bynnag, oherwydd mae na 93 o  fuarthau ar ddaliadau Llanllechid – roedd na 10 ar dir Talybont Dologwen yn unig, a 7 yn Aberogwen, gyda 4 o 6 cae Pencoed yn fuarthau, fel yr oedd  5 o 18 cae Pant y Gwair ( 19 acer oedd y fferm, gydag 18 cae, ar gyfartaledd o ychydig dros acer yr un). Ac er fod rhai buarthau yn fychan, fel y disgwylid i fuarth fod, roedd nifer yn fwy nag acer, gyda rhai yn 3 a 4 acer o faint. Ac mae’r un peth yn wir am blwyf Llandygai, lle’r oedd 43 Buarth. Ac mae enwau fel Buarth Rhyg, Buarth Glofar, a Buarth Gwenith, yn gorfodi rhywun i chwilio ystyr wahanol i’r gair na’r un presennol, o gowt, neu iard.  Efallai fod a wnelo’r ystyr gyda ffin y tiroedd. Roedd y caeau neu’r lleiniau yn wreiddiol yn y Canol Oesoedd yn cael eu gwahanu gan y sinach, sef y rhimyn culaf o dir y gellid ei adael rhwng dwy lain (sy’n rhoi ei enw i ‘sinach o ddyn’, sef rhywun cul, crintachlyd). Beth bynnag, fe ddatblygwyd dulliau gwahanol o wahanu tiroedd. Yn ôl Gwallter Mechain mewn adroddiad fanwl a ddefnyddir yn aml yn nes ymlaen

The common fences are banks of sods, about four feet and a half with a fosse on each side

Yn yr ucheldir, fodd bynnag–

there are stone fences six feet high

Ac roedd ambell dirfeddiannwr wedi dechrau tyfu gwrychoedd o ddrain gan fewnforio planhigion dwyflwydd oed o Iwerddon, am rhwng tri swllt a phum swllt y fil. Erbyn dechrau’r 19 ganrif yr oedd rhai o feistri tir blaengar Mon wedi dechrau planhigfeydd, a gellid prynu planhigion drain ar gyfer gwrychoedd o’r Gwyndy, Llandrygarn, Llynfaes, a Bodedern.

Eto rhaid cadw mewn cof, yn 1780, roedd dwy ran o dair tir Ynys Môn heb glawdd o gwbl arno, a byddai ffermwyr yn gorfod rhai llyffethair, neu garchar, am goesau eu ceffylau rhag iddynt grwydro. Mae’n debyg fod Buarth yn gae wedi ei amgau gyda cherrig, neu glawdd cadarn, fel na allai anifail fynd i mewn iddo neu allan ohono. Mae’n arwyddocaol, hefyd, fod y gair cytras ‘guorth’ yn y Wyddeleg yn golygu ‘cae’, neu ‘gae bychan ‘.

%d bloggers like this: