Fel y nodwyd eisoes, ffermydd cymysg oedd ffermydd llawr gwlad Cymru yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ar ei hol. Yn draddodiadol, byddai hanner y daliad yn dir âr ar gyfer cnydau, a’r hanner arall ar gyfer porfa anifeiliaid. O’r herwydd mae nifer helaeth o gaeau Llanllechid yn 1768 yn cario enwau cnydau, megis Cae Gwenith, Cae Ceirch, Gweirglodd, ac ati.
Er bod amrywiaeth o fferm i fferm, y cnydau a dyfid yn gyffredinol oedd gwair, yd, neu rawngnydau, yn cynnwys, ceirch, haidd, gwenith, a rhyg, clofer, tatws, pys, a ffa, ychydig o gywarch, ac, yn nes ymlaen, ambell rwdan. Er fod pwysau mawr ar dyfu rwdins ers ail hanner y 18ed ganrif, nid oes cymaint o dystiolaeth gofnodol â hynny eu bod yn cael eu tyfu ar unrhyw raddfa arwyddocaol ym mhlwyf Llanllechid. Eto doedd hynny ddim yn anghyffredin, nac yn eithriadol, i’r ardal; er fod anogaeth gref i wella amaeth trwy dyfu cnydau gwraidd, rwdins yn benodol, ers diwedd yr 17eg ganrif, ym Môn gyfagos ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn ôl tystiolaeth Thomas Williams, Llanidan ( sef Twm Chwarae Teg, Gwaith Copr Mynydd Parys) , roedd llai na 50 acer o rwdins yn cael eu tyfu ar yr holl ynys, ac roedd hyn er fod sawl tirfeddiannwr arloesol yno. Mae tystiolaeth fod hopys , hefyd, wedi bod yn cael ei dyfu yn yr ardal ar raddfa fechan.
Gwair, yn amlwg, oedd y cnwd a dyfid fwyaf ar y ffermydd, yn bennaf oherwydd ei fod yn haws ei dyfu na’r un cnwd arall, a’i fod yn fwyd gaeaf i’r anifeiliaid. Doedd ond angen cau tir i mewn am gyfnod rhag i’r anifeiliaid fynd iddo, gadael iddo nes ei bod yn adeg ei bladurio, a’i gynaeafu. Mae’r dystiolaeth yn enwau’r caeau yn Arolwg 1765 yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, mae nifer lluosog yr enwau ‘gweirglodd’, gydag ambell ‘gae gwair’, yn yr ardal yn dangos mai dyma’r cnwd mwyaf cyffredin o ddigon.
At present about a fourth part of each of these farms is set apart for the production of hay
Hyde Hall
Roedd gweirgloddiau mawr yn yr hendref ee Gweirglodd Needham 21 acer, Gweirglodd Newydd 34 acer. Mae’n sicr fod y rhain yn oroesiad o’r Canol Oesoedd, oherwydd eu maint, ond, erbyn ail hanner y 18ed ganrif maent wedi eu rhannu, rhwng gwahanol ddaliadau a gwahanol denantiaid. Yn 1768, roedd Gweirglodd Newydd wedi ei rhannu rhwng 12 o wahanol denantiaid, tra’r oedd 11 acer o Weirglodd Needham wedi mynd yn rhan o Winllan. Yr un yw’r darlun yn Arolwg Cymudo’r Degwm 1838-40, hefyd, gyda’r gweirgloddiau wedi eu rhannu rhwng nifer o wahanol bobl. Mae tyfu gwair yn yr un tir o flwyddyn i flwyddyn yn fwy cyffredin na thyfu cnydau gwyn, neu wreiddgnydau, gan nad yw’n tynnu cymaint o nerth y tir ag a wnânt hwy, felly gall Gweirglodd fod yn enw ar dir lle tyfir gwair yn gyffredinol arno.
O safbwynt cnydau grawn, mae ffynhonnell yn nodi mai cyfradd y prif gnydau yd ar gyfer Llanllechid oedd
Ceirch 20 Haidd 14 Gwenith 1
sy’n dweud wrthym y tyfid ugain acer o geirch am bob acer o wenith, gyda haidd, ar 14 acer, bron yn dri chwarter cyfanswm y ceirch, ac yn llawer mwy na gwenith. Mae rhesymau traddodiadol, economaidd, a chymdeithasol am hyn, a manylir ar hynny wrth drafod y cnydau.
Fodd bynnag, dydy enwau’r caeau yn Arolwg 1768 ddim yn adlewyrchu’r sefyllfa hon, os mai tystiolaeth caeau’n unig sydd gennym i gefnogi’r dadleuon. Dim ond tri chae ym mhlwyf Llanllechid sy’n cario enw ‘Gwenith’ , sef Fuches Wenith 5 acer yn y Cefnfaes, Buarth Gwenith 2 acer yn Nhai’r Meibion, a Buarth Gwenith 1 acer ar Dyddyn Ceiliog. Tri chyfeiriad at geirch a geir; oedd na Gae Ceirch 2 acer ar Dyddyn Caseg, ac ym Mhen y Bryn, un 5 acer yn Fedw, a Ffridd Geirch ddwy acer ym Mryn Hafod y Wern. Dim ond un Cae Haidd sydd yn y plwyf, a hwnnw ar dir mynyddig Pen y Bryn uchaf [ Bethesda bellach]. Os awn ar draws Ogwen i blwyf Llandygai, fe welwn batrwm ychydig yn wahanol. Er mai gweirgloddiau sydd amlycaf yn enwau caeau Arolwg 1768 yn y plwyf hwn, hefyd, gyda 49 cae yn dwyn yr enw, un ai’n annibynnol, neu fel rhan o enw mwy, megis Gweirglodd y Llyn ar dir Bryn Twrw, Gweirglodd Dwy Bladur ar dir Cororion, a Gweirglodd Ratgoed ar dir Tyddyn Dicwm, mae caeau’n cynnwys enwau cnydau yd yn y plwyf hefyd. Haidd a gwenith yw’r enwau sy’n dod amlaf, gyda ‘haidd’ mewn 5 enw cyffelyb, Cae Haidd, ar diroedd Tyddyn y Wern, Tyn Caeau, Bryn Cul, Dinas, a Chwarel Goch, tra bod 5 enghraifft o ‘wenith’ ar gaeau yn y demesne, Ty Newydd, Cefn y Coed, Pen y Bryn, a Lôn Isa. Eto, yn groes i’r patrwm a nodwyd uchod, mae’r caeau gwenith yn llawer mwy o faint na’r caeau haidd, gyda Bryn Gwenith y demesne ei hun yn 12 acer, sy’n fwy o gryn dipyn na’r caeau haidd i gyd efo’i gilydd. Mae ‘ceirch’ yn elfen mewn enwau caeau ar diroedd Cilgeraint a Dinas, ond yn llai aml na’r raddfa a nodir fel yr arfer yn y cylch. Fel y byddid yn disgwyl, fel yr eir i fyny’r dyffryn i ganol y mynyddoedd, mae llawer llai o gnydau yn cael eu tyfu; natur y tir sy’n bennaf gyfriol am hynny, er nad yw’r tywydd mwy garw o gymorth ychwaith. Dim ond yng ngheg Nant Ffrancon y ceid enw cnwd grawn ar gaeau sef Gallt y Ceirch ym Mhenisa’rnant, a Chae Bryn Ceirch ar fferm Dolawen, sydd ar y terfyn. Mae gweirgloddiau ar ffermydd y nant, ac un nodwedd ohonynt yw fod ambell un yn eang, megis Gweirglodd dan y Ty a Gweirglodd yr Onnen ar dir Ty y Maes, y gyntaf yn 43 acer, a’r llall yn 26 acer, ac ar fferm Pentre ceir Gweirglodd dan y tai, yn 23 acer. Yn Nant y Benglog, wedyn, un o gaeau Gwern y Gof Uchaf oedd Gweirglodd tu hwnt i’r afon, 29 acer, tra’r oedd Gweirglodd Dôl y Llech ar Dyddyn Capel Curig yn 40 acer. Mae rhywun yn gorfod gofyn ai porfa well na’r arferol yn yr ardal sydd yn y gweirgloddiau mawrion hyn, ac nid gwair fel y cyfryw, ynteu a yw’r gwair mor denau yn yr ucheldir fel bod raid cael arwynebedd mawr i gael cnwd go lew i’w gynaeafu Eto, mae gweirgloddiau bychain, hefyd, megis Gweirglodd Afon Gywion ym Mlaen y Nant, oedd yn acer, a Gweirglodd y Beudy Mawr yng Nglanllugwy oedd yn 4 acer. Fodd bynnag, cyn rhoi gormod o goel fod enwau’r caeau yn rhoi darlun sicr inni o faint a gnydau a dyfid ar urhyw adeg, mae’n hanfodol cadw mewn cof nad yw enwau’r caeau yn profi dim am faint y cnydau a dyfid, dim ond yn dystiolaeth o fodolaeth y cnydau yn yr ardal. Gallai enw fod yn hanesyddol ei darddiad, yn atgof o gnwd a dyfid yn y cae ar un adeg, neu gallai fod yn enw ar dir lle tyfai cnwd yn arbennig o dda, neu’n enw ar gnwd oedd yn digwydd bod yno ar y pryd. Ar y llaw arall, mae’n sicr fod cnydau yn cael eu tyfu mewn sawl cae gydag enw penodol neu generig arall arno, megis Cornelau ( Corbri )neu Cae Pella (sawl un).
Mae enwau rhai caeau yn yr ardal yn dangos fod ambell gnwd arall yn cael eu tyfu ar ffermydd yr ardal, er enghraifft meillion, neu clofer, o’r Saesneg, ( Buarth Glofer – Groeslon a Chae mawr, Cae Glofer – Wern, ac, yn Llandygai, roedd Maes Meillionnog ar dir Ty Newydd). Yn ôl Hugh Derfel, roedd rhyg wedi bod yn gnwd cyffredin, ond, erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd wedi ei ddisodli gan gnydau grawn eraill, oedd yn haws eu trin, ac yn fwy maethlon. Noda HDH fod thyg gwyn a rhyg du yn cael ei dyfu’n helaeth ar dir Cilgeraint yn yr 16ed ganrif, ond nad oedd wedi ei dyfu yn y dyffryn ers tua 1830. Ymhellach, mae’n nodi fod toes rhyg mor galed â chwyr crydd i’w dylino. Roedd Buarth Rhyg yn y Gerlan, ac ar dir Corbri, yn cadw cof am y cnwd hwn. Roedd pys, wedyn, yn gnwd a dyfid ar sawl fferm, ac mae Cae Pys ym Maes y Penbwl, a chae o’r un enw ar dir Tan y Rhiw yn dangos fod y cnwd yn cael ei dyfu yn yr ardal. Roedd cywarch yn cael ei dyfu mewn rhai ffermydd, ond, er ei fod o’r un teulu â mariwana, nid er cysur y’i tyfid, ond yn bennaf er mwyn gwneud rhaffau, olew, a bwyd anifeiliaid, a cheir Gardd Gywarch ar ambell fferm, megis Rhos Uchaf a Chilgeraint. I orffen, roedd sawl Gardd Datws yn y ddau blwyf,er enghraifft, Talybont, Cae Gwilym Ddu, Maes y Penbwl, Winllan, Bryn Eithin, ac eraill; diddorol sylwi mai ‘gardd datws’ sydd ar bob fferm, ac ni cheir ond un Cae Pytatws yn y dyffryn, sef ar dir Cochwillan. Darn bychan o dir wedi ei droi, fel arfer yn agos i’r ty, yw ‘gardd’, gair o’r Hen Norwyeg, gyda llaw, er mor debyg i’r Gymraeg ‘arddu’, ‘aredig’, ydyw. Roedd pob gardd yn y dyffryn o dan acer, ond roedd Cae Pytatws Cochwillan yn 4 acer!
Ffynhonnell arall sy’n rhoi gwybodaeth am gnydau ffermydd yr ardal yn y cyfnod dan sylw yw ewyllysiau. Er mai cymharol ychydig o bobl oedd yn llunio ewyllys cyn y cyfnod modern, yr oedd rhai, a’r rheiny’n ffermwyr, gan amlaf, ac mae’r rheiny a oroesodd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ambell dro, rhestrir holl eiddo’r ymadawedig, dro arall bydd llawer o’i eiddo eisoes wedi ei drosglwyddo cyn ei farwolaeth i’w wraig, neu ei fab, i barhau’r olyniaeth yn y fferm. Nid oedd llawer o broblem yn hynny, gan mai’r drefn, cyn dechrau gwella amaethyddiaeth yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif, oedd i stadau gynnig ‘tenantiaeth tair cenhedlaeth’ ar fferm, sef y byddai’r fferm yn nwylo’r un teulu am dair cenhedlaeth. Yn raddol, yn y 19eg ganrif, er mwyn sicrhau’r ffermwyr gorau, a gallu dileu tenantiaeth fermwr gwael, newidiwyd lesau tenantiaeth i dair, neu bum, mlynedd, ond lle’r oedd modd dileu gyda rhybudd o ddau dymor (blwyddyn), neu, hyd yn oed, hanner tymor ( chwe mis ) ar adegau . Ond yn ôl at yr ewyllysiau. Yn aml, byddai ffermwr yn rhestru yr eiddo yr oedd yn ei adael, a gallai’r rhain amrywio o geffylau i raw, neu ddillad; yn aml, nodir cnydau, a’u gwerth, a rhydd hyn ddarlun inni o’r hyn a dyfid ar y ffermydd, yn enwedig ffermydd yr hendref, gan mai ychydig iawn o gnydau a dyfid yn uwch i fyny’r dyffryn.
Wele ambell ewyllys o’r 18ed ganrif ( Defnyddir ffurf arian degol heddiw)
1768 Ellis Owen Cilfodan Gwenith a gwair ( dim mwy o fanylion)
1788 William ap Robert Rallt a Fedw Gwair £12.50 Haidd £8 Ceirch £3.30 Gwenith £4 Tatws £0.60 Haidd wedi’i ddyrnu £1 Blawd Ceirch £1.50
1799 Wiliam Jones Glan y Môr Gwair £20 Tatws £0.60
1784 Edward Thomas Corbri Gwair a gwenith
1785 Alice Williams Talybraich Gwair £21.40 Gwenith £52 ( O gofio ble mae Talybraich, mae hyn yn arwyddocaol iawn)
Os symudwn yn ein blaenau i’r 19eg ganrif, dyma’r cnydau a gymunnir mewn ewyllysiau; yma, yn hytrach na nodi pob ewyllys yn unigol, nodir sawl gwaith y cynhwysir cnwd yn yr ewyllysiau
1800 – 30 Nifer yr ewyllysiau lle nodir cnydau 7 ewyllys
Gwenith – 2 ewyllys Gwair 5 ewyllys Haidd 4 Ceirch 3 Tatws 3 Pys 1 Ffa 1
Nodir YD, heb nodi pa gnwd mewn un ewyllys
1830-50 8 ewyllys
Gwair 6 Gwenith 3 Haidd 3 Ceirch 3 Yd 4 Tatws 4
O safbwynt gwerth y gwahanol gnydau a grybwyllir yn yr ewyllysiau, ac lle rhoddir gwerth, ceir hyn yn yr ewyllysiau
Cnwd | Ewyllysiau 1800-30 | Ewyllysiau 1830-50 |
Gwair | £34.25 | £29.45 |
Yd | – | £19.40 |
Gwenith | £43 | £39.25 |
Ceirch | £13 | £7.60 |
Haidd | £24 | £22.80 |
Tatws | £8.30 | £11 |
Fodd bynnag, yn ystadegol, nid yw’r symiau yn dystiolaeth gadarn i brofi fawr ddim, a hynny am ddau reswm; yn gyntaf, nid yw nifer yr ewyllysiau yn ddigon i gefnogi unrhyw ddamcaniaeth, ac, yn ail, a phwysicach, mae prisiau’r gwahanol gnydau yn wahanol, ac, felly, nid yw swm uwch o bres yn golygu mai’r cnwd hwnnw yw’r un a dyfir fwyaf ar fferm, er enghraifft, roedd pris gwenith yn yr 1840au deirgwaith beth oedd pris ceirch. Yr hyn mae’r ewyllysiau yn ei brofi yw fod ffermydd yr hendref, yn benodol, yn enwedig y ffermydd sylweddol, yn tyfu sawl cnwd gwahanol. Yn ewyllys Owen Davies, Tai’r Meibion 1837, er enghraifft, nodir haidd, ceirch,gwenith, gwair, a thatws, tra’r oedd gwair, gwenith, haidd, a cheirch yn ewyllys Owen Ellis, Cefnfaes, a brofwyd yn 1850. I grynhoi, gwelir mai ffermydd cymysg iawn yw’r rhan fwyaf o ffermydd llawr gwlad a llethrau is Llanllechid, gyda phob cnwd cyffredin yn cael eu tyfu, er ei bod yn amlwg mai ar y tiroedd gorau yn unig y gellir tyfu amrywiaeth o gnydau. Ar y ffermydd llai, a’r tiroedd llai cynhyrchiol, mae’n sicr mai gwair a rhyw un cnwd o yd a dyfid.
Ond yn ôl at enwau’r caeau am eiliad. Rwan, mae enwau cnydau, ( neu anifeiliaid, o ran hynny), ar gaeau yn codi cwestiwn, a hwnnw’n gwestiwn ieithyddol, yn hytrach na chwestiwn amaethyddol. A ydy enwau’r caeau hynny sy’n cario enwau cnydau , neu anifeiliaid, yn enw sydd arno ar y pryd, am mai dyna sy’n digwydd tyfu ynddo pan ddaeth Leigh, neu un o’i weithwyr, i holi wrth wneud ei arolwg, neu ai dyna’r enw arferol am mai dyna a dyfir ynddo flwyddyn ar ol blwyddyn. Mae Cae Du Sofl ar dir Plas Uchaf, Cae’r Sofle yn Abercegin, a Sofl yn Nhyddyn Dicym, yn sicr yn bwrw amheuaeth ar enw parhaol i’r caeau, gan mai bonion yr yd wedi eu medi yw ‘sofl’, a hwnnw’n rhywbeth tros dro am gyfnod gweddol fyr. Nid yw sofl yn nodwedd barhaol o unrhyw gae! A fyddid yn galw cae yn Gae Sofl yn barhaol, os mai ond am gyfnod byr, yn dilyn cynaeafu yd, y byddai sofl yno? Ynteu ai ateb i gwestiwn megis ‘Pa gae ydy hwnna?’ fyddai Cae Sofl am fod sofl ynddo ar y pryd? Os mai hynny sy’n wir, mae’n dangos nad oes nifer o gaeau yn y plwy efo enw penodol – ac mae nifer sylweddol o gaeau efo enwau amlwg benodol, enwau sydd arnynt ers cenedlaethau. Os yr ail esboniad sy’n wir, sef tyfu’r un cnwd o flwyddyn i flwyddyn, mae’n dangos arferion ffermio gwael, gan fod cylchdroi tri chnwd wedi bod yn arfer amaethyddol cyfarwydd ym Mhrydain gyfan ers y Canol Oesoedd, a bod y cylch pedair blynedd yn y wlad ers yr 17eg ganrif.
Gyda’r cylch tair blynedd, rhennid y tir oedd ar gael i’w arddu yn dri rhan, gan blannu un rhan yn yr hydref efo rhyg neu wenith gaeaf, a dilyn hynny yn y gwanwyn efo ceirch neu haidd. Yn yr ail ran tyfid pys neu ffa, tra gadewid y trydydd yn dyndir. Byddid yn cylchdroi hyn, fel bod un rhan yn cael gorffwys fel tyndir bob tair blynedd. Byddid yn newid y cnydau, hefyd, gan roi gwenith yn lle rhyg, a thyfu clofer neu rwdins yn lle pys.
Petai’r cylch tri chnwd yn digwydd yn Llanllechid, byddai’n anodd rhoi enw cnwd yn enw parhaol ar gae.
Mae cymryd y dewis arall yn dangos natur wael amaeth yn Llanllechid, sef mai tynnu’r un cnwd o’r un tir wnaed yn aml. Yn anffodus, gellir fod tystiolaeth anuniongyrchol i hynny.
Soniwyd eisoes am y gweirgloddiau. Yn 1768, ym mhlwyf Llanllechid, roedd na 47 o gaeau’n cario’r enw Gweirglodd, sef Cae Gwair, yn y plwyf, a’r rheiny’n gyfrifol am dros 180 o aceri’r plwyf. Ym mhlwyf Llandygai, wedyn, roedd 42 o weirgloddiau, yn 252 o erwau. Er bod nifer yn cario enw cyffredinol, megis Gweirglodd, a allai fod yn enw un flwyddyn yn unig, mae enwau megis Gweirglodd Bellaf ( Aberogwen, Cochwillan, ac ati ), neu Gweirglodd Bach ( 11 enghraifft, gan gynnwys Ciltwllan, ac Aberogwen ) yn awgrymu defnydd mwy parhaol, tra bod enwau penodol fel Gweirglodd Dorti ( Talybont Dologwen ), a Gweirglodd Ellen, gweirglodd Barbara ( Tai’r Meibion ), gweirglodd Sabel, ( Tyddyn Sabel] a Gweirglodd Simwnt ( Tyddyn Sabel/ Gwern Saeson Fychan ) yn awgrymu’n gryf ddefnydd parhaol, neu brif ddefnydd, ar gyfer yr un cnwd. Er na wyddom pwy yw’r personau yn yr enwau hyn, mae Gweirglodd Needham – daliad o 12 acer yn Hendre – yn cario enw teulu, neu ddisgynyddion agos, Ralph Needham, a ddaeth I’r ardal fel cyfaill ideulu’r Penrhyn yn y 15ed ganrif. Ond eto, a bod yn deg gyda’r ffermwyr, nid oes raid i gae sy’n cario’r enw ‘gweirglodd’ fod yn tyfu gwair bob blwyddyn; gallai fod yn enw hanesyddol. Wedi’r cwbl, nid oes gwair bob blwyddyn ym Mhant y Gwair, ac nid oes llawer o eithin heddiw ym Mryn Eithin, na gwiail yng Ngwaun Gwiail. Mewn pentref ym Môn mae cae pêl droed yn dwyn yr enw Y Gors!
Mae’n debyg fod yr ateb am enwau cnydau ar gaeau rywle yn y canol rhwng y ddau eglurhâd pegynol. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos fod gwahanol gnydau yn cael eu tyfu yn weddol helaeth ar ffermydd cymysg Llanllechid, lawer mwy nag sydd yn y rhestr enwau. Mae’n debyg fod enwau cnydau ar gaeau penodol yn dangos mai dyma’r prif gnydau yn y cae, ond nid heb gylchdroi. Allaf i ddim credu mai ond glofer a dyfid yn Cae Glofar, na dim ond Pys yn Cae Pys. Fedra i chwaith ddim credu mai ond lloiau oedd bob amser yn y caeau o’r un enw yn Mryn Hafod y Wern neu Faes y Penbwl, neu’r 5 cae o’r un enw yng Nghochwillan, na dim ond meheryn ym Muarth y Meheryn Gwaun Gwiail.
Ond ar y llaw arall, rhag inni fod yn rhy deg efo’r ffermwyr, rhaid cofio beth mae tystiolaeth gyfoes yn ei ddweud am amaethyddiaeth ac amaethwyr lleol.
Dyma i chi Hyde Hall yn 1809-11 yn nodi am y ffermwyr lleol
The drill husbandry is quite unknown, and an invigorating course of crops, with some very few exceptions, is everywhere neglected. The due collection of manure, a matter of such pure necessity, is almost completely disregarded, and the economy of a yard upon a farm is scarcely understood. Green crops also are mere exception
Ategir y frawddeg olaf gan y ffaith mai pedwar cae yn unig yn yr holl blwyf yn 1768 oedd yn cario enw cnwd glas, sef Cae Glofar 4 acer yn Glanrafon, Cae Glofer 2 acer yn Wern, Buarth Glofer llai nag acer yn y Groeslon, a Chae Pys 4 acer yn Nhalybont Dologwen. A phan oedd Gwallter Mechain yn gwneud ei ymchwil manwl tua’r un pryd ar gyfer i ei adroddiad gynhwysfawr General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales, 1815, fe aeth yn unswydd i blwyf cyffiniol Aber, oherwydd iddo glywed pethau od am y ffermio yno
They (ffermwyr y plwyf ) raised a continued succession of white crops ( hen enw am gnydau yd ) for many years without manure. The writer of this report went to examine such a curious phenomenon in tillage, and found the soil to be a light, pebbly loam, the crops scanty, and over-run with weeds.
Hynny yw, doedden nhw ddim yn cylchdroi cnydau yn ddeddfol, doedden nhw chwaith ddim yn rhoi gwrtaith i’r tir, ac roedd yr had yn llawn chwyn. Roedd y sylw olaf hwn yn denu cwynion o sawl tu. Roedd y ffermwyr yn cadw eu had eu hunain, neu’n ei brynu gan ffermwyr cyfagos, ac roedd yr had, ac o’r herwydd yr yd yn llawn chwyn. Er fod cyfnewidfa yd yng Nghaernarfo, a marchnad yd ym Mangor, cyndyn iawn oedd ffermwyr yr ardal i wario ar had glan a ffres. Canylyniad hynny, ynghyd â’r ffaith fod y tir yn wael, yn ôl Hugh Derfel, oedd ‘fod yr yd yn ddrwg ei liw, a’r bara yn ddu ac yn blymaidd’.
Yr gwyn am ddiffyg y ffermwyr lleol a welir yn sylwadau Hyde Hall ( uchod ) am ffermwyr yr ardal yn 1809-11
A dyma sylw llawn emosiwn Gwallter Mechain
Lime must be had, or landlord is ruined – lime, lime, lime
Roedd peth gwrtaith, gan gynnwys calch, yn cael ei ddefnyddio, beth bynnag, os yw enwau caeau yn dystiolaeth. Roedd na ddau Gae’r Odyn yn y plwy (Cefnfaes a Thalysarn) sy’n dystiolaeth i‘r arfer o ddod a chalch i mewn ar longau bychain i Draeth Lafan, a’I losgi yn yr odyn cyn ei roi ar y tir i’w felysu – mae calch pur yn llosgi’r tir a’r tyfiant. Mae’n debyg mai’r broblem fwyaf gyda chalch oedd y gost o’i gludo o’r traeth; byddai’n rhatach yr agosaf i Draeth Lafan yr oedd y fferm, ac mae natur hirgul plwyfi Llanllechid a Llandygai yn golygu y byddai calch yn llawer drutach y pellaf i fyny’r dyffryn yr eid. Dydy dwy odyn mewn plwyf mor fawr ddim yn dystiolaeth o sefyllfa galonogol, ac yn adlewyrchiad o allu sawl ffermwr i fforddio calch. Pan adeiladwyd gwesty Capel Curig, fe gostiodd £15, pris uchel yn y cyfnod hwnnw, i gludo calch pur o Draeth Lafan i ben draw’r plwy. Mae Cae Batin ar fferm Aberogwen, wedyn, yn dystiolaeth o hen ddull o wrteithio tir. Y batin oedd y tywyrch – fe’u torrid ym Mehefin, eu rhoi mewn tomennydd, a’u mudlosgi. Defnyddid y lludw ym Medi, pan oedd y rhyg yn cael ei hau, ac roedd yn ffynhonell gyfoethog o botash, sy’n wrtaith arbennig o effeithiol i ddatblygu gwreiddiau cryfion i blanhigion. Fodd bynnag,mae sawl awdurdod yn nodi nad oedd yn wrtaith effeithiol, ond roedd yn dal i gael ei wneud a’i ddefnyddio, fel y dengys enw’r cae.
Fel y nodwyd, roedd cylchdroi cyndau yn bedwar cnwd wedi ei ddatblygu’n ddull effeithiol yn yr Almaen a’r Iseldiroedd ers yr ail ganrif ar bymtheg, ac wedi cyrraedd Lloegr yn weddol fuan wedi hynny. Ond doedd o ddim wedi cyrraedd y rhan helath o’r Gogledd Orllewin. Roedd rwdins yn rhan bwysig o gylchdroi cnydau, gan eu bod yn glanhau’r pridd. Er iddynt gael eu cyflwyno I Sir Fon yn 1765 gan Thomas Williams, Llanidan – Twm Chwarae Teg Mynydd Parys – doedden nhw ddim wedi dod yn boblogaidd – dim ond 50 acer o rwdins oedd ar yr holl ynys 30 mlynedd wedi hynny. Yn 1815 mae Benjamin Wyatt, Lime Grove, asiant y Penrhyn, yn tystio
The soil of Caernarfonshire between the sea and the hills is in general well adapted to turnips. No course of husbandry would answer better than the introduction of this root into the rotation of crops. A deficiency of winter food is a great loss to the county, as the vast tracts of mountains and pasture are capable of summering nearly twice the number of livestock that can be wintered thereon. Too much encouragement cannot be given to the introduction of this kind of tillage
Ond dal yn gyndyn i newid oedd ffermwyr Llanllechid, yn y cyfnod cynnar, beth bynnag. Er i ffermwyr y plwyf a wnaeth ewyllys hyd at 1860 adael cnydau o bob math, ni adawodd yr un ohonynt yr un rwdan i neb! Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn golygu nad oedd ambell i ffermwr mwy blaengar na’i gilydd yn cylchdroi cnydau’n effeithiol ac yn tyfu rwdins.
I grynhoi, edrychwn ar sylwadau’r beirniaid yn Sioe Amaethyddol Parc Penrhyn 1845 ( neu’n hytrach y Penrhyn Park Agricultural Show ) a sefydlwyd gan yr arglwydd Penrhyn rai blynyddoedd ynghynt, er mwyn gwella amaeth ar ei stâd. Mae’r sylwadau cyffredinol yn dangos cyflwr cyffredinol amaeth yn Llanllechid yn y cyfnod; dyma’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud
REMARKS BY THE JUDGES. The Farms entered for the Premiums were generally well cropped,but on all of them a great want of green crops, and the lands in a dirty state; the same remark applies to the corn crops examined, which were all heavy crops, but in much of them the land was exceedingly dirty, which appears to be overlooked by the Tenants when sending in their claims. There are many more claims for turnips this year than last, many of the fields being examined did not appear to have had a hoe amongst them. Potatoes, although strong heavy crops, are generally not properly cleaned, many of the fields of potatoes in our opinion have been entered, merely because there was a good appearance of a crop upon them, and not on account of the laud being properly cleaned.
North Wales Chronicle and Advertiser 21/10/ 1845
Er fod hyn, ynghyd ag enwau’r enillwyr a’u daliadau, yn dangos fod cnydau mwy amrywiol, gan gynnwys rwdins, yn cael eu tyfu ar ffermydd Llanllechid erbyn 1845, mae’r sylwadau cyffredinol yn feirniadaeth llym o gyflwr yr amaethu yn yr ardal.
CNYDAU
Gwair

Fel y nodwyd eisoes, gwair yw’r cnwd sylfaenol mewn unrhyw fferm sy’n cadw anifeiliaid, gan ei fod yn gnwd hawdd ei dyfu, hawdd ei gynaeafu, ac yn gynhaliaeth i’r anifeiliaid. Mae nifer y gweirgloddiau ar y ffermydd llawr gwlad yn tystio i’r ffaith mai gwair oedd hanfod amaeth, ac mae gweirgloddiau sylweddol ar y ffermydd mynyddig yn tystio i hynny, hefyd. Yn ogystal â’r ffaith fod gweirgloddiau ar ffermydd unigol, roedd 4 daliad unigol yn yr hendref yn cario’r enw, sef Gweirglodd Needham( 21 acer ), a thair gweirglodd ar y terfyn â’i gilydd, sef Gweirglodd Newydd, (24 acer ), Gweirglodd Wern (9 acer), a Gweirglodd Hir ( 4 acer); mae hyn yn tystio i gyfnod pan oedd y gweirgloddiau hyn yn weirgloddiau i’r holl gymdeithas, neu i’r teulu estynedig. Yn ogystal, roedd fferm Pant y Gwair, oedd, yn wreiddiol yn rhan o ddaliad mawr Corbri, yn tystio fod y cnwd yn un pwysig. Wedi dweud hyn, rhaid nodi mai cnydau tenau iawn o wair pur wael a geid, hyd yn oed ar y tiroedd mwyaf ffrwythlon, a hynny yn deillio o ddau reswm, sef natur wael y tir nad oedd yn cael ei wrteithio’n llawn, a’r ffaith mai cnydau llawn chwyn a geid. Nid oedd y ffaith nad oedd unrhyw draeniad cynlluniedig i’r holl ddwr a ddeuai o’r mynyddoedd o unrhyw gymorth i dyfu unrhyw gnwd, ychwaith. Hyn sydd yn sylw Hugh Derfel
‘... oherwydd fod y tir yn fynych heb ei gwteru, a’i agosrwydd i’r mynyddoedd, y rhai a sugnant gawodydd i lawr yn aml…’
Y cnydau gwael hyn oedd yn gyfrifol am y ffaith nad oedd y ffermydd, yn gyffredinol, yn medru cadw’r rhan fwyaf o’u stoc anifeiliaid dros y gaeaf; nid oedd ganddynt ddigon o borthiant i’w cynnal trwy fisoedd llwm y gaeaf, ac roedd llawer o’r stoc yn cael ei werthu, neu yn cael eu lladd ddechrau gaeaf.
Ceirch

Dyma’r cnwd grawn mwyaf cyffredin o lawer ar ffermydd, gan ei fod yn elfen sylfaenol ym mwyd y bobl a’r anifeiliaid. Fel bwyd i’r bobl, roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bara, a briwes, megis uwd, tra’r oedd yn fwyd arbennig o dda i anifeiliaid, yn enwedig i’r ceffylau gwedd, oedd yn elfen ganolog, sylfaenol, a hanfodol i bob fferm am ganrifoedd. Y ceffyl oedd calon y fferm, a sylfaen amaeth llwyddiannus, heb fynediad i geffyl, ni ellid ffermio unrhyw dir yn llwyddiannus. Budd ceirch fel bwyd i anifail fel y ceffyl oedd ei fod yn fwyd oedd yn rhoi ynni cyson heb gynhyrchu gormod o fraster. Yn ôl Gwallter Mechain, A Survey of Agriculture in North Wales 1815, gwellt ceirch, yn enwedig yr hen geirch Cymreig, oedd yn gweud y gwellt gorau i’w roi o dan anifeiliaid. Oherwydd y ffactorau a nodir, mae’n sicr mai ceirch oedd y cnwd sylfaenol i yrru pob fferm am ganrifoedd. Yn wahanol i rawngnydau eraill, ni ellid defnyddio ceirch mewn unrhyw ffordd cyn ei falu, ac roedd y melinau niferus trwy’r wlad yn malu ceirch yn fwy nag unrhyw rawn arall. Roedd dwy felin at ddefnydd ffermwyr Llanllechid, sef Melin Coetmor a Melin Cochwillan, a drowyd o fod yn bandy i fod yn felin ar ddechrau’r 1800au. Y ceirch Cymreig cynhenid oedd ceirch coliog, neu geirch blewog, ond nid oedd yn un arbennig o dda, ac fe ‘i disodlwyd gan geirch o’r Iseldiroedd a Gwlad Pwyl, ond fe welwyd nad oedd y ceirch hwn yn arbennig o addas i ffermydd ucheldir Cymru, ac aeth ffermwyr y fan honno yn ôl at yr hen geirch brodorol, yn enwedig ar gyfer cnydau gleision ar gyfer eu cynaeafu’n ifanc cyn i’r pennau ffurfio, er mwyn porthi anifeiliaid. Ni wyddys pa hadau ceirch a heuid yn Llanllechid, ond mae tystiolaeth gyfoes mai cnydau budron oedd y cnydau, a hynny oherwydd hadau yn llawn baw a chwyn, oedd yn rhoi cnydau gwael.
Haidd

Dyma’r ail gnwd, o safbwynt maint, a dyfid ar ffermydd cymysg Môn ac Arfon, tua thri chwarter maint y ceirch, a thua phymtheg gwaith yn fwy na hynny o wenith a dyfid. Roedd yn gnwd arbennig o addas i bridd ysgafn Ynys Môn a hendref Llanllechid, a thyfid ef bron yn gyfangwbl ar gyfer bwyd a phorthiant ar y fferm. Yn ôl Gwallter `Mechain, ( ibid)gwendid mawr ffermwyr Cymru oedd eu harfer i ddefnyddio eu hadau haidd( a phob grawn, a dweud y gwir) eu hunain, yn hytrach na phrynu had newydd o’r tu allan. Y prif wendid yn hynny oedd fod llawer o faw yn yr hâd, a bod y baw hwnnw yn egino’n chwyn yn yr yd pan dyfai. Yn wir, un o dasgau’r ffermwr a dyfai yd oedd mynd trwy’r caeau, pan dyfai’r cnwd, gydag offer arbennig i dorri’r chwyn.
Gwenith

Heddiw, dyma’r cnwd grawn sy’n cael ei dyfu fwyaf trwy’r byd; yn wir, cynhyrchir mwy o wenith na’r holl gnydau grawn eraill gyda’i gilydd, a hynny oherwydd ei fod yn un o fwydydd hanfodol a sylaenol pobl ac anifeiliaid. Fodd bynnag, hyd ganol y 19eg ganrif, nid oedd yn gnwd arbennig o gyffredin yng ngogledd orllewin Cymru, er ei fod yn cael ei dyfu’n helaeth mewn iseldiroedd a dyffrynnoedd Cymru a oedd yn nes i ganolfannau poblog Lloegr. Y rheswm am hyn oedd mai cnwd i’w werthu, yn bennaf, oedd gwenith, ac mai prif bwrpas cnydau ffermydd Llanllechid, a’r ardaloedd cyfagos, oedd cynhyrchu bwyd i’r teulu a’r anifeiliaid. Pan agorwyd marchnadoedd pellennig i ffermwyr gogledd orllewin Cymru gan y rheilffordd yng nghanol y 19eg ganrif, cafwyd cyfle i dyfu cnydau i’w gwerthu. Un cynnyrch cyffredin gwenith yw blawd sy’n cynhyrchu bara gwyn. Roedd bara gwyn yn fara nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn ei fwyta cyn y 19eg ganrif, yn bennaf oherwydd fod pris y blawd yn uwch, oherwydd fod angen ei falu ddwywaith yn y felin. Bara ceirch cwrs fyddai sylfaen bwydlen y mwyafrif o bobl, gyda bara gwyn yn cael ei fwyta gan y byddigion yn unig. Gyda llaw, roedd y bara ceirch cwrs, nad oedd yn mynd rhwng y cerrig melin ond unwaith, gan adael hadau oedd bron yn gyfan, yn bennaf gyfrifol am ddifetha danneddy rhai a’i bwytai. Beth bynnag, gyda chynnydd mewn cyflogau gweithwyr cyffredin, ynghyd â gwella cysylltiadau, death llawer mwy o alw am fara gwyn, ac, felly, am wenith. Roedd hynny’n gyfrifol am gynydd yn y tir oedd yn cael ei roi i dyfu gwenith. Roedd ei wellt, gyda llaw, yn cael ei ddefnyddio i doi tai hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Mae Hugh Derfel yn rhoi sylw hynod o wasaidd wrth egluro sut y daeth bara gwyn gwenith yn gyffredin yn Nyffryn Ogwen, pan ddywed
‘ …. ddarfu i Arglwydd Penrhyn ….greu ysgogiad newydd, pryd y daeth blawd Lle’rpwll ( sic) yma gyntaf; ac ar ol ei ddydd ef bu ei Arglwyddes, yn hytrach na chodi y cyflogau, yn cyfnewid llongeidiau o lechi am haidd Rwsia, gan ei werthu yn rhatach, ac yr oedd y ddau yn caru ac yn ceisio lles y chwarelwyr, y rhau a’u carent ac y’u parchent hwythau. fel yr anrhydedda plant eu rhieni.‘
Rhyg

Nodwyd eisoes gyfeiriad at dyfu rhyg bob yn ail â gwenith. Nawr mae rhyg yn gnwd diddorol. Er iddo gael ei ddatblygu’n gynnar iawn yn hanes amaeth, mae’n diflannu o gofnodion archaeolegol am ganrifoedd, nes ail-ymddangos yn ystod Oes Bres Canolbarth Ewrop, tua 1500 CCM. Roedd yn cael ei dyfu gan y Rhufeiniaid, er fod Pliny’r Hynaf yn ei ddisgrifio fel rhywbeth oedd yn chwerw iawn, ac, er ei gymysgu gyda blawd arall, yn hynod o anghymeradwy i’r cylla. Fodd bynnag, daeth yn gnwd poblogaidd iawn yn y Canol Oesoedd, yn enwedig ar diroedd gwael, gan ei fod yn tyfu’n llwyddiannus ar dir ymylol, a thir gwael. Mae Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid,1867, yn sôn am wraig o’r enw Gras ych Huw, oedd yn ffermio Cilgeraint, yn tyfu cwd tew o haidd, rhyg, a chywarch ar lethrau’r fferm ym mherfedd-dir Dyffryn Ogwen, ac roedd llannerchau yn dwyn cnydau tew o ryg du a rhyg gwyn i fyny llethrau Tanysgafell at Fryn yr Hen Eglwys, ond mae’n mynd yn ei flaen i nodi fod tyfu rhyg wedi darfod o’r ardal tua hanner can mlynedd cyn iddo ef ysgrifennu, sef yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif. Roedd sawl rheswm am hynny: yn gyntaf, nodwyd ei chwerwder, yn ail roedd y ffaith ei fod yn rawn hynod o galed, ac yn anodd ei falu mewn melin, gyda’r canlyniad mai
‘Gwaith caled oedd pobi bara rhyg, ac ni fuasai waeth i wraig dylino cwyr crydd na’i dylino yntau’ ( HDH ibid 111)
Un sgil effaith i fara rhyg oedd fod y bara a’r hadau ynddo mor galed fel ag i wisgo dannedd y rhai a’i bwytai, ac mae’n hawdd gweld, o astudio dannedd meirwon oesau o’r blaen, pwy oedd wedi treulio amser yn bwyta bara rhyg. Dros amser, bara i’r tlodion oedd bara rhyg, gan fod angen malu blawd gwyn ddwywaith, ac roedd hyn yn broses ddrutach. Fodd bynnag, daeth blawd gwyn fwy o fewn cyrraedd, a bara gwyn yn fwy poblogaidd, yn enwedig erbyn canol y 19eg ganrif. Eto mae’n amlwg fod rhyg wedi peidio â bod yn gnwd o bwys yn yr ardal hon erbyn canol y ganrif o’i blaen, oherwydd, yn Arolwg 1765, yn enwau’r caeau, ymhlith niferoedd yn dwyn enwau ‘gwenith’, ‘ceirch’, a ’haidd’, a sawl ‘gardd datws’, dim ond pedwar sy’n cynnwys y gair ‘rhyg’ yn Llanllechid, ac mae pob un o’r rheiny yn ‘fuarthau’, ac yn llai nag acer o faint; mae’r rhain ar dir Corbri (2 ), Sychnant, a thyddyn Gerlan. Ceir dau Buarth Rhyg ( neu’n fwy na thebyg un wedi’i rannu’n ddau) yn Llandygai, ar dyddyn 7 acer Chwarel Goch, a’r ddau yn llai nag acer.
Clofer

Problem fawr amaethyddiaeth am filoedd o flynyddoedd oedd fod pridd oedd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cnydau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn mynd yn salach fesul blwyddyn. Er bod gwrtaith elfennol, a gwahanol fathau o ychwanegion, yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr o ddyddiau amaethu yn y Cilgant Aur, y broblem fwyaf oedd fod y tir yn colli’r elfen bwysicaf ynddo, sef nitrogen ac nad oedd hynny’n cael ei roi yn ei ôl. Canlyniad anochel hynny oedd fod y pridd wedi ei wanychu dros y canrifoedd, nes ei fod yn cynhyrchu cnydau gwael. Yn wir, mae rhai haneswyr yn haeru mai’r rheswm i gymaint o boblogaeth Ewrop farw yn ystod y Pla Du (1348 – 1353 yn bennaf), oedd oherwydd fod y boblogaeth yn gyffredinol wedi mynd yn wan oherwydd gwendid cynnyrch y tir, ac ategant fod y gwelliant mewn cynnyrch yn y 15ed ganrif wedi digwydd oherwydd i’r tir gael llonydd i orffwys oherwydd y Pla Du. Beth bynnag am hynny, roedd yr Arabiaid ( fel y gwnaethant mewn sawl maes arall), ganrifoedd cyn trigolion Ewrop, wedi darganfod fod y planhigyn gwyllt, clofer, neu ‘meillion’ yn y Gymraeg, yn dda iawn am roi nitrogen yn ôl i’r pridd, os byddent yn ei dyfu, ac yna ei aredig yn ôl i’r tir. Yn y Canol Oesoedd Diweddar, daeth yr arfer hwn drosodd i Sbaen, oherwydd fod de’r wlad honno, Andalusia, yn benodol, dan reolaeth Arabiaid. Erbyn canol yr 16ed ganrif roedd yr arfer o dyfu cnwd clofer wedi ei ddofi wedi cyrraedd Lombardy, a Ffrainc erbyn 1583. Yn 1620, mewnforiwyd yr hadau clofer cyntaf i Lundain, ac fe ymledodd yr arfer o dyfu clofer trwy Brydain. Mae’n amlwg fod y cnwd wedi cyrraedd Llanllechid cyn 1765, fel y tystia enw un neu ddau o gaeau yn yr ardal.
Pys

Roedd pys yn gnwd pwysig i werin Cymru ers canrifoedd. Pys melyn caled oeddynt fel arfer, ac yn cael eu defnyddio ar gyfer bwyd, megis cawl a briwes, i’r bobl, ac fel bwyd i’r anifeiliaid. Yn wir, roedd pys yn aml yn ffurfio’r rhan fwyaf o fwydlen teuluoedd cyffredin.Roedd y dail a’r coesau yn cael eu haredig i’r pridd er mwyn gwrteithio. Hyd ddechrau’r 19eg ganrif roedd tua 10% o dir fferm arferol yn cael ei roi i dyfu pys; byddai’r pys yn cael eu defnyddio ar gyfer bwydo’r teulu a’r anifeiliaid, tra byddai’r gwlydd yn cael ei dorri a’i aredig yn ei ôl i’r tir cyn plannu ceirch ynddo ddechrau’r gaeaf.
Tatws

Ers eu dyfodiad i Ewrop o’r Amerig yn yr 16ed ganrif, yr oedd tatws wedi dod yn rhan bwysig o fwydlen y bobl gyffredin yng Nghymru, er nad oeddent yn dibynnu cymaint anynt ag yr oedd eu cefndryd yn Iwerddon, fel y tystiodd trychineb y Newyn Mawr yn Iwerddon, 1845-49, pan ddifethwyd y cynhaeaf gan ffwng.
Fel y gellid tybio, roedd sawl gardd datws – a honno’n ardd gan amlaf, nid cae, er fod na Gae Pytatws o 4 acer ar dir un o’r ddwy Gochwillan.roedd 7 ym mhlwyf Llandygai, ar y demesne, Tyddyn Felin Hen, Moelyci, Tyn y Lôn, Cororion, Tregarth, a ‘gardd pytatws’ ar dir Dinas. Roedd deg ‘gardd datws’ yn Llanllechid – 3 ar dir Corbri, ac un yr un ar diroedd Cae Gwilym Ddu, Winllan,Bryn Eithin, Wern, Cochwillan, Penybryn ( uchaf ), a Chae Ifan Gymro, ac un ar dir Tyn y Maes yn Nant Ffrancon. Erbyn canol y ganrif nesaf mae tystiolaeth fod caeau o datws yn cael eu tyfu.
Cywarch

Roedd hwn yn gnwd oedd wedi bod yn boblogaidd ers canrifoedd, gyda defnydd pwysig i wneud rhaffau, edafedd, a llinyn o’i ffeibrau cryfion. Roedd olion hyn ym mhlwyf Llandygai, ble’r oedd Gardd Gywarch ar dir y demesne, Rhos Uchaf, Coed Hywel, a Chilgeraint , ond, eto, doedd dim yr ochr arall i Ogwen. Diddorol yw’r canlynol o “Goffadwriaethol Hanes fy Ewythr Huw Rolant a Modryb Marsli’ gan William Williams, Llandygai ( 1738-1817 ), ble mae’n disgrifio’r ddau oedd yn byw mewn bwthyn bychan yng nghanol Môn yn y ddeunawfed ganrif. Yr oedd gan y bwthyn ‘ddryll o ardd, oddeutu hanner erw ……Yn hwn yr hauai yr hen wr gywarch...’ a chnydau eraill. Yn nes ymlaen, dywed ‘ Ei waith ef ar ôl gadael yr ysgubor a fyddai pilio cywarch, ei guro a’i drafelu, a’i gribo i’r hen wraig i’w nyddu…’ ( Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn 1932 t.105)
Hopys

I orffen, o ran diddordeb, enwau dau o gaeau bychain Sychnant oedd Hopyard Bach, sy’n dangos olion tyfu hopys ar gyfer bragu cwrw lleol. Roedd cae gyda’r enw Hopys ar dir y demesne yn Llandygai, hefyd. Mae’n debyg fod hwnnw yn dangos olion o fragu ar gyfer y plas, ac efallai fod y caeau yn Sychnant yn dangos un ai olion o fragu ar gyfer yr ardal gan denant mewn rhyw oes, neu dyfu hopys ar gyfer ei werthu i unigoion oedd yn bragu. Mae tystiolaeth o fragu ar gyfer y teulu a bragu ar gyfer gwerthiant i’r cyhoedd. Roedd sawl ‘tafarn’ answyddogol yn yr ardal, er enghraifft, ble byddai gwraig y ty ( fel arfer) yn gwerthu cwrw brag yn un o ystafelloedd y ty.