Cwt Mochyn Maes Caradog

Dafydd Fôn Medi 2020

Pan ydym yn meddwl am adeilad rhestredig, rydym yn dueddol o feddwl am gestyll,a  phalasau, ynghyd ag eglwysi cadeiriol crand o oes a fu. Ond nid dyna’r achos o bell ffordd: erbyn hyn mae bron popeth sydd o ddiddordeb hanesyddol yn rhestredig, ac yn cael eu hamddiffyn. Gall hyn gynnwys unrhyw beth, o gastell i gwt, ac o deml i ffens grawiau.  Yn gyffredinol, mae dau fath o wrthrych yn rhestredig. Yn gyntaf, ceir y pethau rheiny sy’n unigryw, megis Castell Penrhyn, Pont Menai,neu Dŷ John Iorc, ac yn ail, ac yn llawer mwy niferus, ceir y gwrthrychau hynny sy’n cynrychioli eu math, megis ffens grawiau ym Mynydd Llandygai, neu rhestai Bryn Eglwys. Perthyn i’r ail ddosbarth hwn y mae testun y nodyn hwn.

Er fod sawl mochyn wedi byw mewn castell, a phlas, cartref yr anifail ei hun yw’r adeilad rhestredig dan sylw, a hwnnw’n gartref i fochyn, neu’n foch, Maes Caradog yn Nant Ffrancon. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o adeiladau Maes Caradog yn rhestredig, ond am y twlc y soniwn ni. Does dim yn arbennig ynddo, mwy nag oedd yn y moch a breswyliai ynddo; fe’i rhestrwyd yn syml am ei fod yn gynrychioladol o ran o adeiladau pob fferm o ganol y 19 ganrif ymlaen, ac wedi eu hadeiladu i batrwm cyffredin. Pan aeth stâd y Penrhyn ati i foderneiddio’r stad, yn ddaliadau, ffermydd, ac adeiladau, o 1845 ymlaen, fe luniasant gynlluniau manwl ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd ac adeiladau, er enghraifft, yr oedd ganddynt gynllun penodol sut fath o adeiladau y dylai fferm o dan 100 acer eu cael, a chynllun i fferm dros 100 acer. Dyna pam y mae cymaint o ffermydd y stad, yn dai ac adeiladau, yn edrych yn debyg. Bu’r cynllun hwn o foderneiddio ar waith o 1845, gyda Glan y Môr Isaf, hyd cwblhau’r olaf, Tai’r Meibion, yn 1895. Yr oedd gan y stâd, hefyd, gynlluniau generig ar gyfer pob adeilad, ac nid yw cwt mochyn yn eithriad.

Mae hanes hir i gadw moch yn Ewrop, er mai yn Tseina y’u dofwyd ac y’u magwyd gyntaf, rai miloedd o flynyddoedd yn ol. Yma yng Nghymru, yr oedd moch yn anifeiliaid cyffredin, yn cael eu cadw mewn haid, gyda’r meichiad ( bugail moch ) yn eu gwarchod. Yn ôl y chwedl, meichiaid Matholwch oedd y rhai cyntaf i weld Bendigeidfran yn ei brasgamu hi ar draws y môr i ddial camwri ei chwaer, Branwen, a hwch  a ddarganfu Lleu Llaw Gyffes yn Nyffryn Nantlle, pan drowyd hwnnw yn eryr wrth geisio ei ladd. Yma, yn Nyffryn Ogwen, roedd moch fil o flynyddoedd yn ôl, canys roedd corlan iddynt yng Nghororion, gan fod yr enw, o bosibl,* yn deillio o Greu ( = corlan foch ) wyrion rhywun neu’i gilydd. Roedd y mochyn yn anifail hawdd iawn ei gadw, a hynny i bobl gyffredin, gan nad oedd angen tir arno, fel gwartheg ac ati. Os am fynd allan, gellid ei droi allan i dir comin i rychu a thyrchu, dim ond ei gadw i mewn yn y nos, rhag anifeilaid rheibus – a dyna fyddai pwrpas y ‘creu’ . Roedd moch yn arbennig, hefyd, am eu gallu i fwyta mes, sy’n wenwyn pur i’r rhan fwyaf o greaduriaid. I’r hen Gymry, Gwyl Ieuan y Moch, a ddethlid ar 29 Awst, oedd y dyddiad cyntaf pan fyddai’n gyfreithlon rhedeg moch yn y coed i’w pesgi ar fes. Dyna darddiad enw Parc Moch yn Llanllechid, sef coedlan i yrru moch iddi ar y cyfnod penodol. Mae Hugh Derfel Hughes yn ei lyfr arbennig ‘ Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid’ yn nodi fod moch arbennig iawn, yn fychain gyda chig melys, yn cael eu cadw gan Stâd Coetmor ddiwedd y 18ed ganrif, ac mai’r moch hyn oedd yn cael eu cadw ym Mharc Moch.

Erbyn heddiw, peth prin iawn yw gweld mochyn (pedeircoes ) ar unrhyw fferm, onibai ei bod yn arbenigo mewn magu’r creadur arbennig hwn, ond am ganrif a mwy rhwng canol y 19eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif, roedd moch yn rhan hanfodol o economi cefn gwlad. Roedd twlc mochyn ar bob fferm a thyddyn, ac mae enghreifftiau o sawl tŷ moel ( = ty heb ddim ond gardd ynghlwm wrth ) yn cadw mochyn,  a hynny yng nghanol trefi a phentrefi. Roedd twlc mochyn mewn sawl gardd tai cynnar yn Nyffryn Ogwen. Mae ambell enghraifft wedi ei gofnodi , cyn dyfodiad Byrddau Iechyd Cyhoeddus a Chynghorau Trefol a Sirol, o unigolion yn cadw mochyn i mewn yn y tŷ, hyd yn oed. Yn 1890, fe safodd y nofelydd Daniel Owen etholiad ar gyfer Cyngor Tref yr Wyddgrug, ac un o’i brif bolisiau oedd gwrthwynebu cynlluniau’r Cyngor i atal trigolion y dref rhag cadw mochyn mewn twlc yn yr ardd.

Daeth y mochyn yn greadur hynod o gyffredin o chwarter cyntaf y 19eg ganrif ymlaen, yn bennaf, oherwydd gwelliannau mewn bridio moch, a ddatblygodd o fod yn greaduriaid main, heb lawer o gig arnynt, i fod yn anifeiliaid tew, cigog, brasterog. Roeddynt yn anifeilaid hawdd iawn eu cadw, yn bwyta popeth, yn gig a llysiau, yn wir, unrhyw beth oedd  dros ben – crwyn tatws, sgim llefrith, popeth dros ben ar ffarm a thyddyn. Oherwydd y natur hon o fwyta popeth y mae rhai crefyddau yn eu gweld yn anifeiliaid budron, ac yn gwrthod bwyta ei gig.

Roedd marchnad fawr i gig y mochyn, yn enwedig yn ninasoedd Cymru a Lloegr, a datblygwyd economi, gyda phorthmyn moch lluosog yn rhan o’r rhwydwaith leol. Amrywiai’r rhain o borthmyn oedd yn prynu yn lleol a gyrru i’r dinasoedd, i rai oedd yn prynu moch bach i ail-lenwi twlc oedd wedi ei wagio i’r farchnad. Bu i ddatblygiad y rhwydwaith drenau yn ail chwarter y 19eg ganrif, hefyd, yn gymorth i’r fasnach foch, gan y gellid, yn awr, yrru llwythi ohonynt yn gyflym o’r wlad i ddinasoedd mawr Prydain.

Roedd, o leiaf, un mochyn, yn cael ei ladd yn flynyddol ar bob fferm ar gyfer ei gig, gan ei fod, wedi ei halltu, yn gallu parhau dros y gaeaf, mewn oes di-rewgell. Roedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur pwysig yng nghalendr y byd amaethyddol. Roedd y mochyn yn arbennig iawn, hefyd, oherwydd fod defnydd i bob rhan o’i gorff; yn wir, dywedid y defnyddid “pob rhan o’r mochyn heblaw’r wïch.”

I dyddynnwr, ac ambell berchen tŷ moel, roedd defnydd arall pwysig i’r mochyn, sef i dalu’r rhent. Fe’i pesgid, ac fe’i gwerthid, a hynny tua chyfnod talu’r rhent blynyddol. Weithiau, byddai’n mynd yn fain ar ambell dyddynnwr ar ganol blwyddyn , a byddai’r rhaid gwerthu’r mochyn er mwyn clirio rhyw gost arall. Adeg talu’r rhent, wedyn, ni fyddai mochyn, ac ni fyddai modd, a dyna darddiad y dywediad fod yr hwch wedi mynd trwy’r siop, sef wedi ei gwerthu cyn pryd, gan adael dim ar ôl i dalu’r rhent.

A dyma ddychwelyd at gwt mochyn Maes Caradog, un o ddwsinau ar ddwsinau o rai cyffelyb yn Nyffryn Ogwen. Cafodd ei adeiladu, gan Stâd Penrhyn, y landlord, yn niwedd y 19eg ganrif, yn  gwt dwbl ar gyfer dwy hwch a dau dorllwyth, neu rhyw ddeg o foch tewion. Mae’n dilyn patrwm generig oedd gan y stâd, ac mae cynlluniau ar gyfer adeiladu cwt mochyn ym mhapurau’r Penrhyn yn Archifdy’r Nrifysgol. Yn nechrau’r 1960au, fodd bynnag, fe addaswyd un rhan o gwt Maes Caradog ar gyfer creu pwll trochi defaid; roedd hyn yn adlewyrchu’r diwedd fu i fagu moch wedi canol y ganrif honno. Mae’n adeilad cadarn, o gerrig rwbel, gyda tho llechi iddo, a llechi awyru yn ei grib. Mae iddo gwt ar gyfer cysgod, rhywbeth hanfodol i fochyn, gan fod ei groen yn gallu llosgi’n hawdd mewn haul cryf ( dyna sy’n egluro natur mochyn i rowlio mewn mwd a baw – amddiffyn ei groen y mae, nid bod yn fudr, fel y gred naturiol! ). Mae’r cowt bach y tu allan wedi ei wneud o gerrig graean, ac mae llefydd bwydo yn y wal flaen.

A dyna ni, cartref i frenin – o fochyn beth bynnag

*Gallai’r enw, hefyd, fod yn deillio o’r ‘creu’ sy’n golygu ‘caer’, ‘amddiffynfa’, sef yr ystyr sydd yn yr enw ‘Creuddyn’

%d bloggers like this: