Crefft Gyntaf Dynolryw – ffermio yn Nyffryn Ogwen 1760 – 1900

Clydesdale horses

Dyma fersiwn estynedig o ddarlith a draddodwyd yn Neuadd Ogwen ym mhenwythnos Cynefin a Chymuned, Medi 2021,  i ddathlu dauganmlwyddiant sefydlu Bethesda

Rydw i am I chi ddod am dro efo fi I’r union fan hyn ddau gan mlynedd i heddiw, ac edrych o gwmpas ychydig. Fe fydden ni’n sefyll ar ochr lôn newydd ddwyflwydd oed  Telford sy’n nadreddu ar draws Y Wern, ac am Barc y Moch. Dim ond dau adeilad bychan yn unig sydd yn ei hymyl, capel Bethesda, a thafarn y Star, dim byd arall. Eto, fan hyn, yn yr union ardal yma,  y byddai pentref mawr a phoblog Bethesda yn tyfu dros yr hanner canrif nesaf. Gyda llaw, ydych chi wedi meddwl, cyn I Fethodistiaeth afael go iawn, pa mor gyffredin oedd cael addoldy a thafarn yn agos I’w gilydd, ond af i ddim pellach I lawr y llwybr hwnnw, rhag ofn

Ardal bresennol Bethesda yn edrych tua Charel Cae Braich y Cafn. Mae Capel Bethesda yn amlwg ar y Stryd Fawr, ond nid hwn yw’r gwreiddiol, wrth reswm

Beth bynnag, fe edrychwn o’n cwmpas. Draw acw, mi welwn nI’r twll na ar lethrau’r Fronllwyd sy’n cael ei wneud yn fwy ac yn fwy gan rai cannoedd o weithwyr ers dros ddeng mlynedd ar hugain bellach; yn 1816, tua 400 oedd yn gweithio yno, ond erbyn 1820, tystir i’r ffaith fod bron teirgwaith hynny yn cael eu cyflogi

We went under a bridge, and saw the workmen at their different employments. About a thousand men are engaged.

‘Tours through Part of North Wales in 1817 and 1819 by Captain and Mrs Henry Hanmer’, NLW, ms. 23996C, p. 65-66

Fe welem rhyw hanner cant o dai bychain o fewn cyrraedd iddi, wedi eu codi ar gyfer y gweithwyr, y rhan fwyaf ohonyn ar ochr Llandygai I’r afon Ogwan

In the neighbourhood of the quarries a number of ornamental cottages are dispersed for the accommodation of the labourers

Fisher, Paul Hawkins, A Three weeks tour into Wales in the year 1817 (Stroud, 1818)

Fisher, Paul Hawkins, A Three weeks tour into Wales in the year 1817 (Stroud, 1818)

 ac mae nifer o dai yma ac acw ar y llethrau

the hills adjoining his ( Arglwydd Penrhyn) quarries are all dotted over with near well built houses

Dyddiadur [? Mrs Ann Lewis] 1809, March 4 – July 2, NLW Harpton Court, 2364

Caerberllan, Braichmelyn – rhes o dai a godwyd ar dir fferm Tyn Twr ar gyfer chwarelwyr y mlynyddoedd cynnar Chwarel Cae Braich y Cafn

Mae’r teithwyr sy’n dod I weld yr ardal yn dod I weld, ac ysgrifennu am, aruthredd y mynyddoedd a gwyrthiau’r chwarel newydd sy’n bwyta’r mynydd, ond heb roi fawr o sylw i fywyd bob dydd y dyffryn ( dim o gwbl, gan amlaf). Ond fe wnawn ni, oherwydd, ar wahân I’r hyn sy’n denu sylw’r teithwyr o bell, yr hyn fyddai’n amlwg  fyddai’r  patrwm daearyddol, patrwm o weithio, a phatrwm o fyw, oedd wedi bodoli yma ers llawer iawn mwy na deng mlynedd ar hugain y chwarel, oedd yma ers cenedlaethau. Roedd na chwyldro mawr yn mynd I fod yn yr ardal yn uniongyrchol o gwmpas y Star a chapel Bethesda, a hynny oherwydd y twll, ond roedd sylfaen patrwm cyffredinol y dyffryn yn mynd i aros yn debyg, er fod llawer ohono yntau yn mynd I newid yn sylweddol, a hynny, hefyd, ond yn anuniongyrchol, oherwydd y twll.  Tra’r oedd Bethesda a’r pentrefi eraill yn tyfu fel grawn unnos, tybed beth oedd yn digwydd I’r hen ffordd o fyw, a’r hen batrwm amaethyddol? Am hynny rydw I’n mynd i sôn heddiw.

Yn gyffredinol, yn 1820, ar wahân i’r chwarel a’i strwythurau, yr hyn fydden ni yn ei weld yma fyddai dyffryn amaethyddol, gyda daliadau o wahanol natur ac ansawdd. Yn Nant Ffrancon a Nant y Benglog, roedd nifer o ffermydd mynydd, mawr o ran tirwedd, ond gwael o ran natur y tir, addas I ddefaid, a pheth gwartheg, yn unig.

Nant Ffrancon, gyda’i ffermydd mynyddig

The extent of these farms ( ffermydd mynydd ) vary from 200 to 2000 acres  ……… meadow land, high rocky land called sheepwalk,and  low rocky land called cattle pasture

Hyde Hall 1811

Yn rhan ganol y dyffryn, roedd ffermydd o faint canolig a bychan, a hynny ar dir digon gwael, ond llai creigiog, gyda ffriddoedd o ‘borfa arw, fynyddig’ ( diffiniad GPC ) ar y llethrau uchaf. Roedd llawer o dir pob fferm yn dir gwael, er enghraifft,  

Cilgeraint 66 acer, gyda 40 acer yn ffridd a choed,

un o’r tair Gwaun y Gwiail – 46 acer, gyda 33 yn ffriddoedd,

Tyn Clwt gyda 48 acer allan o 67 yn ffridd, gwaun, neu greigiau.

Fodd bynnag, roedd ffermydd yr ardal yma yn medru tyfu rhai ambell gnwd.

Yn rhan isa’r dyffryn, wedyn, mae’r tir gorau, ond mae na dir gwael fan yma hefyd, tir gwlyb a chorsydd yn bennaf. Yr hendref oedd yr enw ar y tir gwastad yng ngwaelod plwyf Llanllechid, sy’n dangos mai yn yr ardal hon, mewn oesoedd cynharch yr oedd y tir gorau, a lleoliad y fferm sefydlog. Wrth reswm, dyma pam yr oedd plastai Cochwillan a’r Penrhyn yma.  Fodd bynnag, os ewch chi I sefyll ar Lôn Bronnydd yn dilyn cyfnod estynedig o dywydd gwlyb ac edrych i lawr ar yr hendref, fe welwch pa mor wlyb yw’r ardal, a hynny ar ol dwy ganrif a mwy o geisio ei sychu. Roedd hen dyddyn Pwll Budur yn 41 acer, ond roedd 19 o’r rheiny yn bwll a thir gwlyb – erys y pwll yno hyd heddiw. Ar derfyn Pwll Budur roedd Cefnfaes, fferm dda o 142 acer, ond roedd yno gors 29 acer, a dwy wern yn 11 acer rhyngddynt, oedd yn gwneud bron i draean y fferm yn dir gwlyb anghynhyrchiol.

Pwll Budr,a thir gwlyb yn yr hendref

Yn awr, os edrychwn yn fanylach ar y daliadau, fe welwn nad oes na ddim llawer o drefn na chynllun yma. Mae’r hendref, yn benodol, yn glytwaith hollol afresymegol o gaeau mawr a mân  ar draws ei gilydd, gyda thenantiaid yn rhannu daliadau unigol, neu un tenant yn dal sawl daliad, yn aml ymhell oddi wrth ei gilydd.

Fields belonging to different farms are here very much intermingled, and are moreover too small and irregular in their shape.

Walter Davies ( Gwallter Mechain )

A dyma ichi David John Evans, a ymfudodd i’r  UDA yn ddyn ifanc, yn sôn am ei fagwraeth yng Ngwaun Gwiail yn yr 1850au

…… y caeau a’r ffriddoedd, yr oeddynt blith drafflith; cae yma yn perthyn i un fferm, a’r cae nesaf ato i un arall.

Y Drych 21 Mai 2014 ( Papur newydd wythnosol Cymry Gogledd America)

Roedd y gybolfa yma, yn y bôn, yn deillio o ddull ffermio’r Canol Oesoedd, gyda meysydd agored mawr, a phobl yn berchen ar leiniau a drylliau gwahanol yma ac acw, gyda gwahanol aelodau o’r un teulu yn dal lleiniau cyffiniol. Cafodd y sefyllfa drefnus oedd yn bodoli ei chwilfriwio  yn dilyn y Pla Du  ( 1348 -53, ac yn ysbeidiol am fwy nag ugain mlynedd wedyn ), pan fu farw traean poblogaeth Ewrop. Yng Nghymru roedd llawer o diroedd âr yn ddiberchennog, a mantesiwyd ar hynny gan y rhai oedd yn fyw, gyda nifer yn meddiannu lleiniau a thiroedd diberchennog, yn aml yma ac acw, heb gysylltiad. Y Pla Du, hefyd, a roddodd fod i’r hyn a ddaeth yn stadau tiriog yn nes ymlaen, stadau megis Cochwillan a’r Penrhyn, trwy i uchelwyr gronni tiroedd diberchennog. Ymhell cyn 1820 roedd llawer o’r lleiniau agored wedi eu cau gyda gwrychoedd, cloddiau, neu waliau. Eto mae’n amlwg fod rhannau yn dal yn agored, gan fod Benjamin Wyatt, yn negawd olaf y 18ed ganrif, yn annog nifer o denantiaid y Penrhyn i godi cloddiau a waliau, a phlannu gwrychoedd. Ar ben hyn I gyd,roedd dull hollol fympwyol y Penrhyn o osod tiroedd yn rhannau, ac yn gaeau unigol, wedi creu patrwm tir a thenantiaeth sy’n rwj-raj I gyd. Mae Llyfrau Rhent y Penrhyn hyd at ganol y 19eg ganrif yn llawn o enghreifftiau o ddaliadau yn cael eu dal gan denant ‘and partners’, neu fwy nag un wedi eu henwi, ac o un person yn dal mwy nag un daliad. Roedd Ann Hughes, Aberogwen, er enghraifft, hefyd yn dal Pwll Budr, ac yn dal Gweirglodd Hir ‘ with partners’, tra’r oedd Owen Ellis, Cefnfaes, hefyd yn dal Bronnydd Uchaf a Bronnydd Ganol efo rhyw Hugh Jones. Yn ôl Arolwg Cymudo’r Degwm 1838, mae 33 o ddaliadau Llanllechid, a 39 o ddaliadau Llandygai, yn cael eu rhentu ar y cyd gan fwy nag un tenant, gyda nifer ohonynt yn cael eu dal gan fwy na dau denant. Yn achos Llanllechid, nodir and partners, tra mai and others a nodir yr ochr arall i Ogwan.  Ac roedd hyn yn wir am ddaliadau bychain yn ogystal â rhai mwy ee Cwlyn, Tyn Clawdd. Roedd hyn yn arfer cyffredin, a, thros y blynyddoedd roedd wedi arwain I’r cymhlethdod a nodwyd.

Mewn sefyllfa o’r fath roedd hi’n hollol amhosibl i wahanol diroedd a ddelid gan berson fod yn terfynu ar ei gilydd.

Roedd y caeau unigol ar y daliadau yn niferus, ac yn aml yn fychan, yn enwedig ar y daliadau llai. 28 acer oedd Penybryn Uchaf, ac roedd na 18 o gaeau yno, a 13 o gaeau ar 18 acer Tai’r Teilwriaid. Roedd 19 allan o 31 cae Talybont Isaf yn acer neu lai. Mae rhesymau ymarferol am hyn, yn y rhan fwyaf o achosion. Mewn fferm gymysg mae’n rhaid wrth derfynau rhwng cnydau ac anifeiliaid, a rhwng anifeiliaid ac anifeiliaid. Cyn oes y ffens drydan, na’r ffens ei hun, o ran hynny, clawdd, neu wal, neu wrych oedd yr ateb ymarferol ( er mai’r dull cyffredin ar diroedd agored, hyd yn oed hyd y cyfnod dan sylw, oedd cael y plant ieuangaf i gadw’r anifeiliaid o’r cnydau). Mae unrhyw fath o ffens yn gyfleus, oherwydd gellir cau darn bychan o dir I bwrpas arbennig, a hynny dros dro, a gellir ei dynnu yn hawdd, a mynd yn ôl I’r cae gwreiddiol, , ond mae clawdd, neu wrych, yn barhaol, ac yn creu caeau llai bob tro. Rhaid cofio, hefyd, fod caeau bychain yn haws eu trin yn oes y ffarmio bôn braich.

Roedd rhai daliadau mawr hanesyddol wedi eu rhannu dan yr un enw. Er fod Talybont Uchaf wedi hollti oddi wrth y Gochwillan wreiddiol yn weddol gynnar, roedd na ddwy Gochwillan o hyd, a thair Corbri, dwy Aberogwen, dwy Gefnfaes, tair Ciltwllan, tair Gwaun Gwiail, dwy Goed Hywel, dwy Gororion, ac ati. Efallai, mewn ambell achos, i hyn fod yn fwriadol, gan rannu daliad mawr yn unedau llai, gan y byddai rhent yr uned gyfan yn rhy fawr I denant cyffredin, ond, mae’n debyg mai’r arfer o rentu rhannau o ddaliad I denantiaid gwahanol mewn oes gynt oedd wedi arwain I’r drefn yn ymgarregu I’r sefyllfa oedd yn bodoli. Er fod y rhan fwyaf o’r rhai a nodwyd yn ddaliadau mawr yn wreiddiol – ee roedd Corbri gyfan yn 265 acer, Cochwillan yn 149), a Choed Hywel yn 114, nid felly pob un;  dim ond 73 acer oedd y ddwy Gororion, 61 acer oedd y ddwy Bryn Hafod y Wern, a 7 acer yr un oedd y ddau Ty Du: mae sawl enghraifft o hyn, a’r rhannu traddodiadol oedd yn gyfrifol amdano.

Ar y cyfan, sail canoloesol diweddar oedd I batrwm daliadaeth tir Dyffryn Ogwen. Roedd llawer o’r daliadau yn bodoli ers diwedd y canol oesoedd, neu ddechrau’r cyfnod modern, er fod rhai wedi newid eu henwau yn ôl eu perchnogion. 

Hafod Garadog 1415 ( wedyn Maes Caradog)

Dologwen 1426/7

Llwyn Penddu 1552

Cilfodan 1617

Canlyniad y drefn ( neu’r annhrefn, yn hytrach ), oedd fod pawb a phopeth ar draws ei gilydd. Mae hi’n syndod mawr fod unrhyw denant na thirfeddiannwr yn gwybod ble’r oedd o, neu hi!

A sôn am dirfeddiannwr . Roedd sefyllfa plwyf Llandygai yn syml – roedd y cyfan yn nwylo’r Penrhyn er y Canol Oesoedd, gan fod eu heiddo yn  seiliedig ar y tri gwely teuluol oedd yn sail i’r teulu. ( gwely = tir oedd yn eiddo i dylwyth).  Roedd y sefyllfa yn fwy cymhleth ym mhlwyf Llanllechid. Roedd tiroedd helaeth Cochwillan yn y plwyf hwnnw wedi dod i gorlan y Penrhyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, trwy i’r Archesgob John Williams ( Sion Iorc), o deulu Cochwillan, brynu’r Penrhyn, ac uno’r ddwy stâd. Ond roedd hen stâd Coetmor, cartref y Pughiaid,  yn berchen ar dipyn go lew o dir yn y plwyf, yn enwedig o Goetmor i lawr glannau’r Ogwen. Er I’r stâd honno fynd rhwng y cwn a’r brain ddiwedd y 18ed ganrif oherwydd ymgyfreithio, erbyn degawdau cyntaf y 19eg ganrif, mae yn nwylo landlord absennol – Iarll Egmont – uchelwr Seisnig-Gwyddelig â’i brif gartref yn Lloegr, oedd wedi priodi Jane Wynne o Sir Gaernarfon. Wedyn, roedd stâd fechan Tan y Bwlch, eiddo’r hen deulu lleol, Williams,  yn berchen ar rai tiroedd, megis Ciltrefnus a Chae Gronw, ac roedd na ambell ddaliad oedd yn nwylo unigolion, megis Tyddyn Du, Llwyn y Penddu, a Chilfodan, ac roedd Plas Hwfa wedi ei waddoli ar gyfer tlodion y plwyf ers yr ail ganrif ar bymtheg, gan yr Esgob Griffith Williams, Esgob Ossary, yn Iwerddon, ond yn gyn-reithor plwyf Llanllechid. Fel mater o ddiddordeb, ni fu’r tir ble’r ydym ni heddiw (Neuadd Ogwen ), na’r tir lle saif y rhan fwyaf o’r Stryd Fawr, ac uwch ei phen i’r mynydd, erioed ym meddiant y Penrhyn, ond stori arall ydy honno. ( Gweler Cilfodan )

Plas Hwfa

Yn 1820, rydan ni yn anterth y cyfnod amgau tiroedd, pan oedd tiroedd agored, tiroedd comin, yn cael eu hamgau a’u hawlio, gan dirfeddiannwyr, fel arfer, a hynny ar anogaeth y Llywodraeth, oedd yn gweld fod angen mawr gwneud defnydd o dir oedd wedi bod, hyd yn hyn, heb ei ddefnyddio, ar wahân i ddefnydd gan y werin ar gyfer pori eu hanifeiliaid, hel coed tân, ac ati. Yng nghanol y 18fed ganrif roedd traean tir Prydain yn gomin agored, ac, fel mae’r enw yn awgrymu, roedd hawliau cyffredin gan y bobl gyffredin i’w ddefnyddio, i bori eu hanifeiliaid, er enghraifft. ( < ‘common people‘, fel yn House of Commons; dyna sut daeth yr enw ‘Tir Comin’ i’r Gymraeg ).O’r herwydd, roedd yn dir agored, digloddiau, heb berchen unigol, a heb ei arddu.Roedd dwy ran o dair Ynys Môn yn agored yn y cyfnod, ac roedd rhaid rhoi llyffethair ar goesau ceffylau rhag iddynt grwydro. Gyda llaw, roedd y tir comin yn gallu bod y tu mewn i dir mewn perchnogaeth, yn ogystal â’r tu allan iddo. Roedd amgau, ac amharu ar hawliau’r werin, wedi digwydd ers y Canol Oesoedd, ond, yn dilyn Deddf Amgau 1773, a ddiddymodd hawliau’r werin ar y tir comin, y cyflymodd y broses, ac yr amgaeewyd y rhan fwyaf o’r 700,000 o aceri a amgaeewyd rhwng yr 17ed ganrif a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Caëewyd tiroedd comin y tu mewn i gymunedau, y tu allan i gymunedau, megis tir mynydd, ac enillwyd tir newydd o’r gwyllt, a hawliwyd y tiroedd hyn, fel arfer, gan dirfeddiannwyr mawr y plasdai lleol, gan amddifadu’r bobl gyffredin o’u hawliau traddodiadol. Rhan o’r adennill tir hwn yn y gogledd-orllewin oedd ennill miloedd o aceri trwy adeiladu Cob Porthmadog yn 1811, a sychu’r Traeth Mawr, ac ennill cannoedd o aceri o Gors Ddyga, trwy godi Cob Malltraeth ( 1790 a 1812 ). Fodd bynnag, yn yr ardal hon, fydden ni ddim wedi gweld fawr amgau mawr yn Llanllechid, gan fod unrhyw dir oedd ag unrhyw werth wedi ei hawlio o’r mynydd ers cenedlaethau. Roedd pethau’n wahanol ym mhlwyf Llandygai, ble mae Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn yn dangos popeth mewn llinell ddychmygol uwchben tiroedd Moelyci, Chwarel Goch, Bodfeurig, Cilgeraint, a Choed y Parc yn dir comin, agored. Fodd bynnag, erbyn 1796, roedd y chwarel wedi torri trwy’r clawdd mynydd, ac roedd y Penrhyn wedi hawlio’r mynydd,ac yn annog ardalwyr I dyfu tatws yno.

…. ac yn y flwyddyn 1796 rhoddwyd hwy ( =chwarelwyr mewn cyfnod o ddirwasgiad ) i arloesi 100 erw o fynydd Llandegai, ac a elwid wedi ei gau yn ‘Cae’r Mynydd’, a phlanu tatws ynddo i’r llechgloddwyr …

HLlaLl t125

Nid ardal Kate Roberts yw hon, ble mae’r chwarelwyr yn cymryd tir o’r comin, ac yn creu tyddynnod a phentrefi cyfain ohono; un tirfeddiannwr sy’n hawlio’r tir yma, ac yn elwa ohono.

Mynydd Llandygai: enillwyd y tir o’r mynydd o 1796 ymlaen

Rydw i eisoes wedi cyfeirio at dir gwael y dyffryn.  Mae enwau’r caeau yn 1768 yn dangos fod 10% o dir y Penrhyn rhwng afon Caseg ac Ogwen a’r môr ym mhlwyf Llanllechid,  yn dir gwlyb ( cors, gwaun, rhos ac ati ), tra bod 15% yn ffridd. Pan ychwanegwch chi enwau fel Cae Eithin, Coed, Creigiau,   ac ati, fe welir fod llawer o’r tir yn dir na ellid gwneud fawr ag ef, ar wahân i bori.  A doedd y sefyllfa ddim gwahanol ym mhlwyf Llandygai; os rhywbeth, mae’n waeth. Does ond rhaid edrych ar ddwy ochr y dyffryn ble mae Bethesda heddiw I weld fod llawer mwy o dir diffaith, coediog, a chreigiog ar lethrau Llandygai nag sydd ar lethrau’r Carneddau yn Llanllechid. Ac am y tir oedd ar gael, oedd fawr ddim gwella ar hwnnw yn digwydd – megis sychu tiroedd, clirio cerrig i ennill tir, sianelu’r dwr oedd yn llifo I lawr y llethrau 

Streams of water are never disturbed by being turned out of their ancient courses

 Gwallter Mechain

Fe allasai’r tir, o’I wella, gynnal rhwng 30% a 40% mwy o anifeiliaid nag a wnai, pe gellid cynhyrchu mwy yn yr haf, I’w bwydo trwy’r gaeaf

A deficiency of winter food is a great loss to the county, as the vast tracts of mountains and pasture are capable of summering nearly twice the number of livestock that can be wintered thereon..

Benjamin Wyatt 1815

Diffyg medru cynhyrchu digon o fwyd ar gyfer y gaeaf oedd yn gyfrifol am y ffaith fod y ffermwyr yn gorfod gwerthu cyfran o’u hanifeiliaid yn yr hydref; mewn canrifoedd cynt byddid yn lladd anifeiliaid, gan fwyta’r cig dros yr hirlwm.

Mewn gwirionedd, ffermio yr hyn oedd ganddyn nhw oedd y ffermwyr, nid ei wella, yn bennaf am nad oedd trefn pethau yn eu cymell I wella pethau. Doedd y drefn tenantiaeth o ddwy, weithiau dair, cenhedlaeth – sef rhoi’r denantiaeth dros fywyd tad a mab – ddim yn anogaeth I wella, gan nad oedd pwysau ar denant i wneud; roedd y tir yn y teulu am gyfnod estynedig, beth bynnag a ddigwyddai. Dyma enghraifft o’r math o denantiaeth a roid yn y canrifoedd cynnar, sef  ar Galangaeaf ( 20 Tachwedd ) 1676

Lease for three lives on  ….. kae mawr, buarth ffrwd gariadog, and gwern y sayson

Y rhent blynyddol oedd ‘ 5/6c, 2 geese, 2 capon, 4 days service, or 7s for presents, and a heriot* at the end of each life’.

*heriot = hawl arglwydd/ tirfeddiannwr i geffyl gorau, neu ddillad, tenant ar ei farwolaeth.

Yn achos y Penrhyn, wedyn, roedd natur perchnogion absennol cyn Richard Pennant yn golygu mai’r unig ddiddordeb oedd ganddynt oedd yn arian y rhenti. Pan ddaeth Richard Pennant i’r Penrhyn yn 1765, ef oedd y perchennog cyntaf ers degawdau I fyw yno, a’r un cyntaf ers mwy na hynny i fod ag unrhyw ddiddordeb yn nhiroedd y stâd, ar wahan I’w rhenti.

Gwael iawn oedd adeiladau’r ffermydd, hefyd. Yn ol Benjamin Wyatt, doedd dim adeiladau amaethyddol o gwbwl ar y ffermydd uwch

Lack of shelter and scarcity of winter foods are the principle disadvantages of these farms. In severe winters, many of his sheep will die

Gwnaeth y Penrhyn arolwg o  adeiladau rhai o’u ffermydd yn 1815/6.

Am Giltwllan, dywedir,

The whole are in a delapidated state, and need to be rebuilt’

Ac am feudai Gwaun y Gwiail

Stable very small and low, barn too low and narrow, end walls must be rebuilt, roof wants renewing, Cowhouse too low.

Am Fedw, nodir mai’r peth gorau I’w wneud fyddai chwalu’r cyfan a dechrau o’r dechrau.

Er na ddisgrifir pob fferm, does dim rheswm I gredu nad sefyllfa debyg oedd yn y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Am y tai,  roedd y werin yng Nghymru, yn gyffredinol, yn byw mewn hofelau

One smoky hearth … and one damp litter cell, for it cannot be called a bedroom, are frequently all the space allotted to a labourer, his wife, and four or five children

Gwallter Mechain

Doedd llawer o’r tai ffermydd fawr gwell

Dyma Waun Gwiail yn yr 1850au, un rhimyn hir o dy efo dau gwpwrdd yn gwneud dwy ystafell iddo

ar wlawogydd byddai y dwr fel llifeiriant yn dyfod i mewn, a chan mai y siambr oedd y lle isaf, yno y byddai y dwfr ddyfnaf, ond ni byddai byth yn codi yn uwch na rhyw ddwy droedfedd, oherwydd yr oedd yno ddigon o dyllau iddo fynd allan.

D J Evans

Un o ffermydd gorau’r hendref oedd Cefnfaes; yn ôl ewyllys Owen Ellis, 1810, cegin, siambr, a llofft oedd yno; o leiaf, dyna’r unig ystafelloedd ble’r oedd dodrefn i’w cymuno yn yr ewyllys.

Yn ôl Hyde Hall , a Gwallter Mechain, ni welid gwerth iard ar ffarm, ac nid oedd un yn yr dyffryn. Yn wir, yr un agosaf, a’r unig un yn y cylch ehangach, oedd ar fferm ym Mhentir, ond nid enwir honno. Mae’r nifer helaeth o gaeau ar ddaliadau’r Penrhyn yn ôl Arolwg 1768 a elwir yn Cae’n Drws / Cae Drws / Cae’r Drws yn y dyffryn yn dyst I’r ffaith yr eid yn syth o’r ty i gae penodol.

Roedd y ffermwyr, felly, yn gyffredinol, ac nid yn yr ardal yma yn unig, mae’n rhaid pwysleisio, yn byw o dan yr un amodau â’u hynafiaid. Roedd eu harferion a’u dulliau amaethu yr un hefyd; roedd ffermwyr yn 1820 yn ffermio, fwy neu lai, yn union fel yr oedd eu teidiau, a’u teidiau hwythau wedi ffermio. Byddai ffermwr o 1620 yn gyfforddus iawn ar fferm yn 1820.

Y Ffermio

Dyma ichi William Williams, Llandygai, yn disgrifio ffermwyr daliadau bychain Dyffryn Ogwen yn ail hanner y 18fed ganrif

They usually raised upon their small farms sufficient quantity of provisions for the family. Two or three small cows supplied them with milk and butter, winter and summer. They maintained each a number of sheep on the adjoining common; their wool employed the women in carding, spinning, knitting etc for the use of the family. A number of sheep were allotted to be killed and salted for winter flesh meat besides a hog or two.

Williams, William, ‘A Survey of the Ancient and Present State of the County of Caernarvon by a Landsurveyor’ (1806), tud. 204-205.

A dyma oedd yma, ffermydd cymysg, hunan-gynhaliol; y ddau brif wahaniaeth oedd maint a lleoliad daearyddol, gyda’r ail yn dylanwadu ar yr anifeiliaid a’r cnydau/

Anifeiliaid

Yn y mynyddoedd, defaid a gedwid yn bennaf, wrth gwrs, ac, yn 1820,  roedd dau bandy yn y dyffryn I wneud y brethyn cartref hanfodol. Roedd pandy ar yr un safle â melin Cochwillan, hefyd, hyd at tua 1800, ond melin yn unig oedd yno wedi hynny. Cedwid gwartheg, hefyd ond roedd mwy o wartheg yng nghanol a gwaelod y dyffryn; roedd  gwartheg yn haws gofalu amdanynt na defaid.  Er fod Hyde Hall yn honni fod yr hen drefn hafod a hendre wedi goroesi y Sir Gaernarfon,

When the cattle are driven in the summer up the mountain, milch cows are also sent, and with them go the milkers, for whose temporary residences hafotty or summer houses are built

Mae’n sicr mai eithriadol oedd yr hen drefn erbyn 1820; yn wir, roedd hi wedi darfod yn y rhan fwyaf o’r sir yn yr 17eg ganrif, gan aros yn y mynydd-dir mwyaf anghysbell yn unig. Roedd enwau, megis Hafoty ( Llandygai ), a Hafod Beilyn ( Llanllechid – union leoliad yn anhysbys ), yn profi bodolaeth y drefn yn Nyffryn Ogwen, hefyd, mewn oes gynharach.

 Er bod amrywiaeth o wartheg trwy Gymru, gwartheg duon oedd bennaf yn y gogledd orllewin. Y gwartheg hyn, o’u gwerthu yn yr hydref,  oedd yn talu cyfran helaeth o’r rhenti. Roedd na 4 ffair ym mhlwyf Llanllechid  – Mai 7ed, Awst 11, a Hydref 1 i lawr yn yr hendref , ar ochr ffordd dyrpeg Conwy yng nghyfnod Hyde Hall, a  Hydref 29 ger yr eglwys; yn ffeiriau Hydref y byddai’r porthmyn yn prynu, neu’n cytuno ar, y gwartheg. Roedd dau lwybr porthmyn yn yr ardal, sef trwy Nant Ffrancon a thros Fwlch y Ddeufaen, ac âi miloedd o wartheg Môn ac Arfon ar eu hyd  bob blwyddyn. Yn ôl R T Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru, y llwybr o Borthaethwy, trwy Bentir, ac i fyny Dyffryn Ogwen oedd y prif lwybr porthmona ar gyfer gwartheg Môn ac Arfon.

Y gwendid mawr, yn ôl gohebydd yn y wasg leol, oedd fod y ffermwyr, er mwyn sicrhau’r uchafswm ariannol, yn gwerthu eu hanifeiliaid gorau, gan fridio o’r rhai gwaelaf, gyda chanlyniad hynny ar eu stoc yn gyffredinol.

They must sell their inferior stock, and rescue the best for breeding – not as they do now – sell the best and retain the worst, by which constant depreciation is insured, and a bad breed perpetuated

North Wales Chronicle 1 Tachwedd 1852

Cedwid ambell i fochyn ar y rhan fwyaf o ffermydd, gyda’r plastai yn cadw nifer,  fel mae enw Parc y Moch yn tystio – moch bach duon Plasty Coetmor, yn ôl Hugh Derfel –  ac roedd cae o’r un enw ar demesne y Penrhyn. Mae mochyn yn greadur da iawn I’w gael ar fferm, achos mi fwytith rywbeth, ac, wedi ei ladd, fe ellir, meddan nhw, wneud defnydd o bopeth ond ei wich. Roedd moch yn cael eu prynu gan borthmyn moch, hefyd,a’u gyrru i farchnadoedd Lloegr. Yn wahanol i’r dull gyda gwartheg, y drefn oedd i borthmyn moch fynd o gwmpas y ffermydd i fargeinio am yr anifeiliaid. Pethau tenau, gwael oedd y moch cynhenid Cymreig yn gyffredinol, ond datblygwyd bridiau newydd o foch tewion o tua 1840 ymlaen.

Erbyn y cyfnod hwn eithriad oedd cadw geifr – gadawodd Elis Owen, Cilfodan, 10 gafr yn ei ewyllys yn 1768, ond does fawr o sôn am eifr ar ffermydd wedi hynny. Mae hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa trwy Gymru erbnyn 1820, ble roedd cadw geifr wedi gostwng yn sylweddol ym mhob sir. Nid oes sicrwydd pam y digwyddodd y gostyngiad, er fod sawl dyfaliad wedi ei wneud, gan gynnwys un braidd yn anghredadwy gan Thomas Pennant eu bod yn mynd i lefydd anhygyrch ar y mynyddoedd, ac yn methu dianc oddi yno. Mae’n debyg fod mwy nag un rheswm dilys, ond gallai’r ffaith eu bod yn bwyta coed ifanc, gan ddifetha ymdrechion tirfeddiannwyr i feithrin planhigfeydd, fod yn ffactor; yn 1815 gorchmynnodd Stâd Gwydir i’r holl denantiaid ddifa eu geifr am eu bod yn difetha coed ifanc.

The Goat. This old, and once numerous inhabitant of Wales …… is declining;. This kind of wild sheep, or mountaineer, is rarely seen. I never had a view of more than three in company, except one evening, at Aber, about ten of them were quietly driven into a fold yard, the size of a house floor, for milking. I am told, the landlords discourage the race, because they are injurious to the growth of timber, by nibbling the bark.

Hutton, W., Remarks upon North Wales: being the Result of Sixteen Tours Through that part of the Principality (Birmingham, 1803), t. 137

Ond roedd William Williams yn tristáu oherwydd y gostyngiad yn niferoedd by geifr a ffermid/ Am Nant Ffrancon, dywed


Goats, which formerly by all accounts covered these hills are now reduced as one may say to nothing and the few that remain are only an inferior breed – small and dropping only one kid. … Some of our gentle folks of landed property have lately taken it into their heads to think that the goat is an animal destructive to woods and plantations and that the custom of keeping them has been the cause of the bleakness and sterility of the country; foolish supposition! All cattle as well as the goat … and sheep [are] a great enemy to vegetation … Herds of goat are, as it were, ornaments to the rocks and beneficial to their owners; a fat goat is an excellent meat, even superior to mutton in my opinion. {They are cheap and easy to keep}
Williams, William, ‘A Survey of the Ancient and Present State of the County of Caernarvon by a Landsurveyor [William Williams]   1806 . tud 175-176

Am geffylau, mae rhyw ohebydd yn y North Wales Coast Pioneer yn 1907 yn honni am 1765

When his lordship first came to the estate …. the farms were so poor, that in all the tract  they could not produce more than three miserable teams

Mae’n wir nad oes sôn am geffyl yn yr ychydig ewyllysiau o’r ardal sydd ar gael cyn 1800, ond ychen a ddefnyddid yn draddodiadol, ac mae’r holl erthygl mor ymgreiniol ei thôn fel mai dangos y ffermwyr ar eu gwaethaf, a Phennant fel eu hachubwr, yw’r bwriad.

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, fodd bynnag, mae’r ewyllysiau yn dangos fod ceffyl, neu geffylau, ar fwyafrif y ffermydd.  Rhaid gofyn y cwestiwn ai’r chwarel oedd yn gyfrifol am ffaith i’r ceffyl ddod yn anifail cyffredin ar y ffermydd yn yr ardal hon, a hynny mewn cyfnod mor fyr. Roedd yr holl gludo llechi o’r chwarel ar bynfeirch am y blynyddoedd cyntaf, yna gyda cheffylau a throliau, a, phan agorwyd y dramffordd o Felin Penlan i Borth Penrhyn yn 1798, ac yna’r datblygiad pwysig o’i hymestyn y pum milltir at  Chwarel Braich y Cafn, ceffylau oedd yn tynnu’r certi ar honno, hefyd. Fodd bynnag, fel y gwelir yn rhan olaf y gwaith hwn, degymwyd y galw am geffylau pan ddatblygwyd y dramffordd.

I gloi’r adran hon, fel rhyw fath o gip sydyn, yn ewyllys Henry Edward, oedd yn ffarmio rhyw 100 acer yn y Corbri, a fu farw yn 1822.

fe adawodd

9 buwch, 9 bustach, 6 llo, 80 o ddefaid, 4 ceffyl, a dau fochyn, ynghyd â chnydau ac offer. Fferm gymysg go iawn.

CNYDAU

Roedd gwahanol gnydau yn cael eu tyfu, fel mae enwau caeau ac ewyllysiau yn tystio. Mae problem gydag enwau caeau yn Arolwg 1768, sef a yw’r holl enwau yn enwau parhaol, ynteu a yw rhai yn enwau a roddwyd yn ystod yr arolwg, a hynny oherwydd yr hyn oedd yn tyfu ynddo ar y pryd, neu ba anifail oedd yn ei bori. Os yw’n enw parhaol, yna mae’n adlewyrchu’n ddrwg ar ffermwyr y cyfnod, sef nad oeddynt yn cylchdroi cnydau, ond yn tyfu’r un cnwd yn yr un pridd o flwyddyn i flwyddyn, felly’n gwanhau’r tir a’r cnwd. (Gwelir mwy ar gylchdroi yn nes ymlaen). Byddai’n well gennyf i gredu mai enw’r presennol ydoedd, neu, os nad hynny, mai enw a roddwyd oherwydd mai’r cnwd hwnnw, neu’r anifail hwnnw, oedd yn gysyllyiedig ag eg amlaf, er enghraifft, ‘cae ceirch’ am mai yn hwnnw, yn hytrach nag unrhyw gae arall, y tyfid deirch, pan wneid hynny. Fodd bynnag, am y cnydau. Tyfid gwair, wrth reswm, ac mae ‘gweirglodd’ yn enw cyffredin iawn yn arolwg 1768

At present about a fourth part of each of these farms is set apart for the production of hay

Hyde Hall

Roedd gweirgloddiau mawr yn yr hendref ee Gweirglodd Needham 21 acer, Gweirglodd Newydd 34 acer. Mae’n sicr fod y rhain yn oroesiad o’r Canol Oesoedd, oherwydd eu maint, ond, erbyn ail hanner y 18ed ganrif maent wedi eu rhannu, rhwng gwahanol ddaliadau a gwahanol denantiaid. Yn 1768, roedd Gweirglodd Newydd wedi ei rhannu rhwng 12 o wahanol denantiaid, tra’r oedd 11 acer o Weirglodd Needham wedi mynd yn rhan o Winllan. Yr un yw’r darlun yn Arolwg Cymudo’r Degwm 1838-40, hefyd, gyda’r gweirgloddiau wedi eu rhannu rhwng nifer o wahanol bobl. Mae tyfu gwair yn yr un tir o flwyddyn i flwyddyn yn fwy cyffredin na thyfu cnydau gwyn, neu wreiddgnydau, gan nad yw’n tynnu cymaint o nerth y tir ag a wnânt hwy, felly gall Gweirglodd fod yn enw ar dir lle tyfir gwair yn gyffredinol arno.

O safbwynt cnydau gwyn, neu gnydau grawn, mae Hugh Derfel yn dweud fod tyfu rhyg du a rhyg gwyn ar lethrau Cilgeraint yn yr ail ganrif ar bymtheg – roedd hwnnw yn tyfu ar dir gwael, ac yn gwneud bara du, cyffredin, er, meddai Hugh Derfel fod toes rhyg fel cwyr crydd o galed! Mae’n parhau yn gnwd cyffredin iawn mewn rhannau helaeth o’r byd, yn enwedig dwyrain Ewrop a gorllewin Asia, ond  fe ddaeth tyfu rhyg I ben yn yr ardal hon tua 1830.  Mae ceirch yn tyfu ar dir salach fyth, yr hen geirch du Cymreig, ‘ ceirch blewog’, a thyfid llawer o hwnnw yn yr ardal. Ceirch oedd yn gyrru’r fferm, yn fwyd i anifeiliaid – y ceffylau yn benodol – ac yn fara I ddyn. Tyfid gwenith a haidd ar y tiroedd brasach, ac roedd hwnnw, fel arfer,  ar gyfer ei werthu i dalu’r rhent. Yn gyffredinol, ar diroedd âr y dyffryn, am bob acer o wenith, roedd 14 acer o haidd, ac ugain acer o geirch. Ar wahanol adegau roedd 4 melin yn y dyffryn ar gyfer malu’r grawn – Felin Isa, ( Penylan), Felin Ucha, ( Cochwillan), Felin Hen, a Melin Coetmor.

Roedd hi’n hen arfer i bob ffermwr gadw ei hâd ei hun, ac roedd ffermwyr y dyffryn yn dal I wneud hyn, er mai’r arfer dda oedd cael hâd newydd, glân o’r tu allan.  Y canlyniad oedd fod yr yd a gynhyrchid yn llawn chwyn; oherwydd hyn, a’r tir gwlyb,

‘yr oedd ein cynhaeaf yn ddiweddar, ……meddai Hugh Derfel …. yr yd yn ddrwg ei liw, a’r bara yn ddu ac yn blymaidd’

a’r gwair, yn ôl Hall,

is generally smothered with rushes, all of which help to constitute a bad heated manure called hay’

Roedd tatws yn gnwd cyffredin, hefyd, fel y dengys y nifer helaeth o erddi tatws a nodir yn Arolwg 1768, a gwerthid tatws yn y ffeiriau. Dydy ‘gardd’ ddim gyda’r un ystyr yn hollol ag sydd iddo heddiw. Er ei fod yn ymddangos yn air Cymraeg da, mae GPC yn nodi mai o’r Hen Norwyeg y daw, ac mae’n golygu darn o dir wedi ei wrteithio, yn aml yn ymyl y ty. Darn bychan o dir lle tyfid tatws oedd ‘gardd datws’, felly; at ei gilydd, mae’r cyfan sydd yn yr Arolwg, yn llai nag acer o faint. Roedd pys, hefyd, yn gnwd pwysig, yn fwyd sylfaenol, ac yn wrtaith; roedd na Gae Pys ar fferm Maes y Penbwl. Mewn un neu ddwy o ffermydd ceir Gardd Gywarch, sef planhigyn sy’n perthyn I Fariwana, ond roedd sawl defnydd gwahanol iddo ar ffermydd y cyfnod, o wneud rhaffau, i olew, i fwyd anifeiliaid

Fel enghraifft o gnydau, yn ei ewyllys yn 1810, fe adawodd John Thomas, Talybont, wair, yd, gwenith, haidd, ffa, pys, a thatws, y cyfan werth dros £17, rhyw £1700 heddiw.

Rwan mae pob cnwd angen gwrtaith.

Ond, meddai Gwallter Mechain, am ffermwyr Aber a’r hendref

They  raised a continued succession of white crops ( sef cnydau yd ) for many years without manure

Yn wir, mi ddaeth yma’n unswydd I weld y phenomen hwn o dyfu cnydau heb wrtaith.

Ond mi oedd na wrteithio, tail anifeiliaid gan mwyaf, fel y byddid yn disgwyl.

Mae calch yn hanfodol i felysu tir asidig, fel sydd yn yr ardal hon

Lime must be had, meddai Gwallter Mechain , lime, lime, lime

Mi oedd peth calch yn cael ei gludo ers blynyddoedd mewn llongau bychain I Aberogwen, ac yn cael ei losgi, fel mae Cae’r Odyn ar dir Cefnfaes, a Thy Gwyn, ger Glasinfryn, yn tystio. Y rhwystr mawr oedd y gost o’I gludo yn uwch I fyny’r dyffryn.

Lime is brought to the shore, but cannot be expected to go far with an uphill carriage. The lime employed in building Capel Curig cost above 30 shilling a load

Hyde Hall

Un dull cyffredin lleol o wrteithio yng ngwaelod y dyffryn oedd gwasgaru tywod cregin o Draeth Lafan ar y caeau. Roedd cefnen fawr o hen gregyn o’r enw Y Cefn Gwyn  ger Coredau Penrhyn, ac roedd hwnnw yn cael ei ddefnyddio ers yr ail ganrif ar bymtheg. 

Hen arfer arall cyffredin oedd codi tywyrch wyneb darn o dir, a’u llosgi, ym Mehefin, gan wasgaru’r lludw yn yr hydref ar eu tiroedd. Yr enw ar y tywyrch hyn oedd ‘batin’, ac roedd na ddau Gae Batin yn Nyffryn Ogwen. Dull arall o wrteithio oedd tyfu pys a chlofer, ac aredig gweddillion y cnwd I’r pridd yn yr hydref. Roedd ambell Gae Pys a Chae Glofer ar ffermydd yr ardal – Clofar Bach a Maes Meillionog ar dir Ty Newydd, Llandygai, er enghraifft.

Er ei bod yn arfer cylchdroi cnydau ers y Canol Oesoedd, cylchdroi tri thymor oedd hynny; doedd y cylchdroi pedwar cnwd dim wedi cyrraedd y parthau hyn, na, hyd yn oed, blannu mewn rhesi

The drill husbandry is quite unknown, and an invigorating course of crops, with some very few exceptions, is everywhere neglected.

Hyde Hall

Er fod amaethwyr yr Iseldiroedd wedi cyhoeddi gwerth y rwdan I wella’r pridd ers yr 1680au, doedd hi ddim wedi cydio yn y gogledd orllewin. Er i nifer o dirfeddiannwyr yn y gogledd orllewin ymdrechu’n galed i gael eu tenantiaid i weld gwerth tyfu rwdins, cyndyn oedd y ffermwyr i fabwysiadu’r cnwd. Bu Thomas Williams, Treffos, ( Twm Chwarae Teg, prif asiant Mynydd Paris ) yn ddyfal a thaer ei grwsâd dros y rwdan yn ail hanner y 18fed ganrif; er hynny, roedd llai na hanner can acer o rwdins ar yr holl ynys yn 1800. Roedd yr un grwsâd dros y Fenai

The soil of Caernarfonshire between the sea and the hills is in general well adapted to turnips. No course of husbandry would answer better than the introduction of this root into the rotation of crops

Benjamin Wyatt 1815

Ond, fel eu cymheiriad ar yr ynys, cyndyn, hefyd, oedd ffermwyr Dyffryn Ogwen I’w thyfu. Mor hwyr ag 1847, mewn sioe amaethyddol leol, nodir ar gyfer gwobr am

the best and cleanest crop of turnips no less than 5 acres NO CANDIDATE

NWC Hydref 1847

OFFER

Traddodiadol ydy’r gair gorau I ddisgrifio’r offer. Dau ddyrnwr oedd yng Ngogledd Cymru I gyd yn 1798– un yn Sir Ddinbych, a droid ag ager, ac un yn Sir Fflint a droid â dwr ( Gwallter Mechain), ffust a nithio oedd hi ym mhob man arall. Eto daeth y dyrnwr yn gyffredin (‘in general use’ – The Progress of the early Threshing Machine – Stuart Macdonald The Agricultural History Review) yng Ngogledd Cymru erbyn 1808, er ei bod yn bur debygol mai yn nwyrain y rhanbarth y byddai fwyaf cyffredin, a hynny ar y ffermydd mwyaf yn unig. Rhaid peidio meddwl am y dyrnwr mawr yn y cyswllt hwn, yn ogystal, gan mai peiriannau mwy ysgafn yn cael eu troi gan ddau, weithiau dri, cheffyl oeddynt, yn cyrraedd y fferm mewn rhyw fath o ‘kit’ coed, ac yn cael ei roi efo’i gilydd gan y ffermwr, neu grefftwr lleol.

Dyrnwr cynnar
Dyrnwr bach, hefyd yn beiriant nithio

Roedd yr hen aradr Cymreig trwsgl, oedd yn debycach I ddrws nag i aradr, yn dal mewn bri, ac roedd og ar sawl ffarm; y rhain oedd hanfodion sylfaenol trin y tir. Eto, roedd yr aradr Albanaidd, a’r aradr Lammas yn prysur ennill tir, yn bennaf oherwydd eu bod yn ysgafnach, yn haws eu trin, ac yn llawer mwy effeithiol na’r hen aradr Gymreig. Crymanau a phladuriau oedd yn cael eu defnyddio I dorri gwair ac yd – roedd na gae 3 acer ar dir Tai’r Meibion o’r enw Pedair Pladur – oherwydd byddai angen 4 pladurwr I’w dorri mewn diwrnod. Pren oedd y rhan fwyaf o rawiau, ond roedd ambell i raw newydd o haearn – a elwid yn ‘rhaw Lloegr’. Yn gyffredinol, roedd yr holl offer, fel popeth arall, yn perthyn i genedlaethau cynt, ac yn gwneud ffarmio yn waith hynod lafurus, yn dibynnu’n llwyr ar fôn braich. Dim rhyfedd mai’r enw ar gnydau mewn rhai ardaloedd yw’r ‘Llafur’!

Dywed Hugh Derfel mai I’r Penrhyn lai na chanrif cyn ei ddyddiau ef, y daeth y drol gyntaf I’r ardal. Fodd bynnag, yn 1796, fe ddywed Thomas Pennant am yr adeg pan ddaeth Richard Pennant i’r Penrhyn yn 1765

there were not four carts on his estate, and only three in all Nant-Frankon [Nant Ffrancon], and the roads scarcely passable for a horse

The history of the parishes of Whiteford, and Holywell, ([London] 1796), pp. 271-272

Aiff Thomas Pennant ymlaen

By his ( Richard Pennant) judicious management a happy reverse took place. The carriages have encreased to the present time, to rather more than a hundred broad-wheel carts and waggons.

ibid

 Fel y gwelwn yn nes ymlaen, mae’n sicr mai Richard Pennant oedd yn gyfrifol am y newid hwn, nid oherwydd ‘judicious management’, fel yr honna Pennant, ond fel effaith uniongyrchol datblygu ei chwarel lechi yng Nghae Braich y Cafn.

Erbyn 1820, roedd trol ar y rhan fwyaf o’r ffermydd, er mai siâr mewn trol oedd gan Robert Williams, Cochwillan, yn ei ewyllys 1823. Roedd ceir llusg a chewyll teilo yn dal i gael eu defnyddio ar y ffermydd uwch; yn wir, roedd ceir llusg ar un fferm, o leiaf,  yn Nant y Benglog, yn nauddegau’r 20fed ganrif.

Ond er mor draddodiadol eu hoffer a’u dulliau,  yr oedd ffermwyr yr ardal yn amlwg yn llwyddo i gadw eu pennau uwchben y dwr. Er fod y mwyafrif llethol ohonynt ymhell o fod yn gefnog, mewn byd lle’r oedd y werin yn byw mewn tlodi affwysol, yr oedd llawer o ffermwyr, mawr a bach, yn gymharol dda eu byd! Rhwng 1800 ac 1830 fe geir 51 ewyllys, neu  fondiau, gan drigolion plwyf Llandygai, a 67 gan drigolion Llanllechid, ac mae’r mwyafrif llethol o’r rheiny yn ffermwyr. Wrth gwrs, roedd amrywiaeth helaeth yng ngwerth yr eiddo a nodir  ( £1 yn 1820 = £100 heddiw ) – £48 oedd gwerth Richard Williams, Cochwillan 1823, ond roedd Owen Rowland, Blaen y Nant yn gadael eiddo gwerth £665:15:0 yn 1819. Diddorol nodi fod sawl ffermwr efo arian sychion hefyd – ‘monies in the house’. £98 oedd cyfanswm ewyllys William Parry, Brynllys, yn 1819, ond roedd £75 ohoni yn ‘cash’. Ac mae sawl ffermwr, hefyd, yn rhoi benthyg arian – yn 1817, er enghraifft, mae ewyllys William Roberts, Cefn y Coed, yn nodi £140 fel ‘money by several debtors’. Unwaith eto, mae’n weddol sicr mai manteisio ar anghenion y chwarel, ei gweithwyr, a’u teuluoedd, a wnâi llawer o’r ffermwyr, gan gynyddu eu heiddo bydol trwy wneud hynny.

Felly dyna yn fras iawn y sefyllfa yn Nyffryn Ogwen yn 1820. Ond pe deuem yn ein holau ymhen trigain mlynedd, fe fyddai pethau’n wahanol iawn . Ar wahân i’r holl dwf ym mhoblogaeth y dyffryn,  bu newid  mawr yn y byd amaeth hefyd.  Cyn manylu, edrychwn ar y prif ffactorau fu’n fodd i yrru’r newid hwnnw.

Yn gyntaf, y ffactor allanol, Y  Chwyldro Diwydiannol. Gyda datblygiad trefi a dinasoedd mawrion, fe ymddangosodd carfan anferth o bobl oedd yn anghynhyrchiol yn amaethyddol, ac roedd rhaid i rywun eu bwydo, gan eu bod yn gweithio yn y diwydiannau newydd, ac nid oedd ganddynt dir i’w drin, beth bynnag. Dyma roddodd fod i’r Ail Chwyldro Amaethyddol. ( Mae’n arwyddocaol i’r Chwyldro Amaethyddol Cyntaf ddigwydd dros 10,000 o flynyddoedd cyn yr ail, sef yn y Cilgant Aur, pan ddechreuwyd plannu cnydau, gan greu cymdeithas sefydlog; ni fu newidiadau sylfaenol, felly, am hynny o amser!). Fel mater o ddiddordeb, mae ysgol arall o feddwl ymhlith haneswyr sy’n credu mai’r Chwyldro Amaethyddol doddodd fod i’r Chwyldro Diwydiannol, trwy gynhyrchu mwy o fwyd, a allugodd y boblogaeth i dyfu’n syfrdanol, gyda hynny, yn ei dro, yn golygu cyflenwi mwy o weithwyr i’r diwydiannau newydd. Hen gwestiwn yr iâr ar wy, nad oes datrysiad syml iddo. Fodd bynnag, mae’n ffaith hanesyddol i boblogaeth Prydain gynyddu o 5.5 miliwn yn 1700 i 9 miliwn yn 1801. Fel y nodwyd eisoes, rhoddwyd pwysau mawr gan yr awdurdodau ar adennill tiroedd diffaith – tir comin, a thir gwyllt – ac ar dirfeddiannwyr i wella eu tiroedd, a chynyddu eu cynnyrch. A dyna wnaed. Mae datblygiadau mewn amaeth, o safbwynt tir, peiriannau, ansawdd anifeiliaid, ansawdd cnydau, a maint cynnyrch, trwy’r byd gorllewinol yn y 19eg ganrif, yn syfrdanol.

Yn lleol, wedyn, tyfodd poblogaeth yr ardal hon yn syfrdanol. Yr oedd y cynnydd yn digwydd yn y cyfnod yr ydym ni yn sefyll ar ochr lôn Telford; yn ôl Hugh Derfel

…. Erbyn 1802 yr oedd nifer y gweithwyr ( yn y chwarel ) yn 300, ac yn 1808 yr eu nifer yn 600 ………… Erbyn 1815, ar derfyniad y rhyfel ( yn erbyn Ffrainc ) yr oedd eu nifer yn 800, a’r flwyddyn nesaf yn 1000.

HLLaLL tud 125

Wrth gwrs, roedd pob gweithwyr yn dod â theulu gydag ef, neu’n magu un wedi cyrraedd, ac, fel yr ehangai cymdeithas, roedd holl systemau cefnogol y gymdeithas honno ( e.e. adeiladwyr, crefftwyr, masnachwyr, siopwyr, gweinyddwyr, ac yn y blaen), yn chwyddo’r boblogaeth ymhellach.Cynyddodd poblogaeth plwyf Llanllechid o 1,332 ym 1801 i 6000 yn 1851, 7500 yn 1861, a thros 8000 yn 1881, ac, erbyn 1881  roedd 4000 arall ym mhlwyf Llandygai. Yn rhy aml, hefyd, rydym yn anghofio fod twf sylweddol Bangor yn uniongyrchol gysylltiedig gyda datblygiad Chwarel Cae. Ac roedd pawb angen bwyd. Y canlyniad anochel oedd fod galw  mawr am fwyd ar garreg ddrws y ffarmwr lleol. Dyma Hugh Derfel eto, yn  sôn am ddylifiad y gweithwyr i’r chwarel o’r 1815 ymlaen

….a boliau y rhai hynny, eu gwragedd a’u plant, yn galw am ymborth, yn yd, ymenyn, caws, llaeth, a chig, am yr hyn y caent hwythau y ffarmwyr bris rhagorol

Ibid t 125

Pan agorwyd y rheilffordd ddiwedd yr 1840au, roedd marchnad fawr, newydd gogledd orllewin Lloegr, hefyd, wedi agor I ffermwyr yr ardal hon, os oeddynt am fanteisio arni. Rhoes fodd i fynd ag anifeiliaid ffermwyr yr ardal yn gyflym iawn i farchnadoedd helaeth gogledd orllewin Lloegr, gan gyrraedd yno yn y cyflwr gorau, rhywbeth nad oedd cerdded ar draws Gogledd Cymru yn gallu ei wneud. Ni ddarfu am y porthmyn, gan eu bod hwy yn addasu trwy ddefnyddio’r trên. Roedd y trên, hefyd, yn gwneud cludo nwyddau yn rhatach.

Yn ôl John Davies

Costiai 1s 5c i gludo tunnell o ymennyn o Ddyffryn Tywi i Ferthyr mewn certi, 1.9c oedd y gost cyfatebol ar y trên

HC t 396

Ond roedd y trên yn fygythiad hefyd, gan ei bod yn dod â nwyddau i mewn i gystadlu efo’r ffarmwr lleol. Bu’r trên yn gyfrwng i newid amaethyddiaeth yn gyffredinol trwy Gymru, gan yrru’r trwch o ffermwyr i symud o fod yn ffermio ar gyfer hunan-gynhaliaeth yn bennaf, i fod yn ffermio ar gyfer marchnata cynnyrch. I lwyddo, rhaid oedd i bob ffermwr sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar gynhyrchu’r hyn yr oedd ei dir orau am ei gynhyrchu, gan gychwyn y broses o arbenigo. Er na ddarfu am y fferm hollol gymysg am ganrif a hanner wedi hyn, roedd y rhan fwyaf o ffermydd eisoes yn canolbwyntio ar fwy ar un math o gynnyrch. Yn yr ardaloedd hyn cynhyrchwyd mwy o gig ar gyfer y marchnadoedd lleol a phellach, a llai o yd, gan y gellid dod â hwnnw i’r ardal yn llawer rhatach nag y gellid ei gynhyrchu, a hwnnw o ansawdd llawer gwell nag a gynhyrchid yn lleol. Y tren ddaru sicrhau fod blawd gwyn yn dod yn gyffredin yn yr ardal, a gwneud i fara gwyn ddisodli bara ceirch.

Ffactor bwysig arall oedd meddylfryd y Pennantiaid, Richard Pennant, a’r Hen Lord, yn benodol.  Mae’n amhosib ysgaru datblygiad amaeth yn Nyffryn Ogwen oddi wrth y ffaith fod perchennog y chwarel hefyd yn berchennog ar y rhan fwyaf o’r tir o’I chwmpas, a bod ganddo’r awydd a’r arian i wella ei diroedd. Mewn ardaloedd eraill, megis Nantlle a Stiniog, roedd y chwareli unigol yn nwylo dynion busnes, a’u hunig gonsyrn hwy oedd gwneud elw mawr, iddynt hwy eu hunain, ac i’w buddsoddwyr, dros Glawdd Offa, fel arfer. Yn Nyffryn Ogwen roedd peth o elw’r chwarel yn mynd yn ôl i’r dyffryn I wella tir a ffermydd y Stâd. Yn y bôn, nid un o’r hen bendefigaeth diriog oedd Pennant, entrepreuner oedd, o deulu o entrepreuneriaid, yn meddwl fel entrepreneur, ac yn meddu ar dair nodwedd oedd yn hanfodol i lwyddiant entrepreuneraidd, arian sylweddol, ynni rhyfeddol, a gweledigaeth glir. O’r eiliad y cymrodd feddiant o’r Penrhyn yn 1765, fe roddodd y nodweddion hyn ar waith, gyda’r bwriad syml o gynyddu ei gyfoeth. Ei fantais fawr oedd oedd ei fod yn berchennog ar y rhan fwyaf o’r hyn a welai, ac nad oedd arno angen caniatâd neb arall pan oedd am wneud unrhyw newid.

Y trydydd ffactor oedd teulu’r Wyatt, teulu lluosog, a hynod o alluog, gyda’u gwreiddiau yn swydd Stafford. Yn 1786, fe benodwyd Benjamin Wyatt yn brif asiant y Penrhyn, a hynny, gyda llaw, dros ben y gwr lleol, William Williams, Llandygai. Pan fu farw Wyatt yn 1818, fe’I dilynwyd yn y swydd gan ei drydydd plentyn ar ddeg, James, a bu hwnnw yn y swydd tan 1860. Fe ffynnodd y Penrhyn yn y 19eg ganrif yn bennaf oherwydd gallu ac ynni rhyfeddol y tad a’r mab yma. Bu mab James, Arthur, yn Rheolwr y Chwarel hyd 1886, pryd yr ymddiswyddodd oherwydd ei fod yn anghytuno gyda dull y Penrhyn o ddelio gydag anghydfod gyda’r gweithwyr. Roedd ef yn uchel iawn ei barch gan y chwarelwyr, oherwydd ei degwch, ac mae W J Parry yn nodi ‘nid oedd i chwarelwyr Cae Braich y Cafn gyfaill cywirach’. ( Chwarel a Chwarelwyr 1896 ). Bu’r teulu yn uchel swyddogion i’r Penrhyn am union ganrif, ac yn hynod o ddylanwadol.

Pan ddaeth Richard Pennant I’r Penrhyn yn 1765, roedd ganddo dri blaenoriaeth, gwella’r tiroedd, datblygu adnoddau a mwynau oedd ar ei dir, a gwella cysylltiadau mewn ardal nad oedd dim ond llwybrau traddodiadol yn ei chroesi.  Yn syth ar ôl dod I’r Penrhyn fe newidiodd y tenantiaethau dwy a thair oes I gyd yn rhai 21 mlynedd, gan ail edrych ar bob un yn fanwl pan ddaeth y rheiny I ben yn 1786. Ar gyfnodau o ddirwasgiad, wedyn,  yn ystod rhyfelodd Napoleon, fe yrrai ei weithwyr

 about enclosing, draining, and otherwise improving a large tract of very poor turbary soil  

Gwallter Mechain

Fe ddywedir i Pennant blannu dros chwe chan mil o goed ar lechweddau uchel ei dir, er mwyn creu cysgod. Roedd yn gwella tir, megis clirio cerrig, mewn daliadau, hefyd, ond nid un i dorri cnau gweigion oedd Pennant; os oedd yn cytuno efo cais tenant I wneud gwaith gwella, roedd y stâd yn talu am hynny, ond yn codi 5% ar y rhent blynyddol, dull a gymeradwyir yn fawr gan Gwallter Mechain, sydd, fel offeiriad Eglwys Loegr a Thori rhonc,  â’I empathi yn gadarn bob amser gyda’r tirfeddiannwr, ac nid gyda’I werin ei hun. Yn hyn o beth, nid yw’n wahanol i Thomas Pennant, Hyde Hall, a’r holl deithwyr eraill, sydd oll yn llawn o edmygedd at y tirfeddiannwr a’i wahanol ddulliau, ond â dim cydymdeimlad o gwbl gyda, na fawr o ddiddordeb yn, y werin sy’n gweithio. Mae Hanes, meddent hwy, yn cael ei ysgrifennu gan yr enillwyr, ac, yn achos y teithwyr cynnar a ysgrifennodd am yr ardal, roeddynt oll yn Saeson cefnog yn edrych ar Sais llwyddiannus, ( er mai yn Sir y Fflint yr oedd ei wreiddiau), ac yn deall dim ar ei weithwyr anghyfiaith, heb sôn am ddangos unrhyw ddiddordeb ynddynt. Beth bynnag, un peth penodol a wnaeth Richard, neu ei wraig, oedd comisiynu Benjamin Wyatt i gynllunio a chodi llaethdy modern yng ngheg Nant Ffrancon. Fe godwyd Plas Penisa’rnant tua 1800, ac yr oedd yn destun rhyfeddod ac edmygedd i nifer o deithwyr, oherwydd mor gyfoes ydoedd, yn adlewyrchu’r syniadau diweddaraf am adeilad amaethyddol o’r fath. Fe wnaeth llaethdy Penisa’rnant yr hyn yr oedd i fod i’w wneud, sef gweithredu fel golau llachar i ddenu sylw, er mwyn mawrygu’r Penrhyn a’i berchnogion

Ddydd Mercher, Gorffennaf 25ain, 1810, daeth Richard Fenton heibio

….set off to see the dressed Dairy and Cottage belonging to Lady Penrhyn
on the banks of the Ogwen……
The Dairy itself in its first requisites particularly merits notice, airiness and coolness, being situated so as to command the best
aspect, and having its floor, its benches, and its lining all of the beautiful Slate of the Penrhyn Quarry, finely polished and nicely jointed, the whole ventilated in the most judicious manner, and abundantly and curiously supplied with fine water to prevent the possibility of anything impure existing to vitiate the atmosphere such a Room requires…… The Kitchen is a model
of convenience and neatness, and a fit companion for such a dairy…

Tours in Wales 1804-13  Richard Fenton

Bu Richard Pennant farw yn 1808 a dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins, er mai gweddw Richard, Ann Susannah, oedd yn dal yr awennau hyd ei marwolaeth hithau yn 1816. Ble roedd golygon Pennant yn bennaf tuag at allan, roedd rhai Dawkins yn sicr at i fewn, ac mi dreuliodd y cyfan o ugain mlynedd olaf ei oes, y mwyafrif helaeth o elw sylweddol Chwarel Cae, a’r rhan fwyaf o amser ac ynni James Wyatt, yn creu’r anghenfil neo-glasurol na yn y Penrhyn, a chreu Parc, gan gau y cyfan I mewn efo wal fawr, ddiadlam.

Er fod y demesne wedi ei ehangu yn 1784 at y traeth, fel rhan o welliannau i’r hen gastell, tua 1820 y dechreuwyd ehangu o ddifrif. Yr oedd yr hen demesne yn 285 o aceri, wedi ei rannu yn 51 o gaeau o amrywiol faint. Trwyddo yr oedd Lôn Domas, o Landygai i Fangor, yn rhedeg, ac, ar ei derfyn, rhyngddo a’r ddwy afon, roedd daliadau amaethyddol o wahanol faint. Mae’r parc newydd yn sylweddol fwy. Symudwyd Lôn Domas fwy neu lai  I’w llwybr presennol o Dalybont i Fangor. Rhwng 1821 ac 1824 fe sythwyd afon Ogwan yn ei haber, ac ehangwyd y parc drosti at y ffordd i lawr at Aberogwen, ac amgylchynnwyd popeth gan y wal sydd mewn rhyw hanner cylch, rhwng y ddau aber. Roedd y parc newydd hwn yn 570 acer, sy’n golygu fod nifer o ddaliadau amaethyddol, yn cwmpasu 285 acer, wedi eu llyncu.

Llanllechid – un o’r ddwy Aberogwen, Dologwen, Maes y Penbwl, Tyddyn Glan yr Afon, Capel Ogwen ( oedd wedi symud o Landygai i Lanllechid gyda newid llwybr Ogwan yn ei rhan isaf )

Llandygai –  dwy Abercegin, Tafarnau, Lodge, Ty Newydd (rhannol, mae’r gweddill o dan Stâd Ddiwydiannol Llandygai), Tan y Fynwent, Tyddyn Canol, Tyddyn Isaf, Nant Gwreiddiog ( yn rhannol, aeth y gweddill o dan Iard y Penrhyn, y rheilffordd, a’r tai sydd o gwmpas y felin).

Daeth Edward Gordon Douglas Pennant – yr Hen Lord –  i’r arglwyddiaeth yn 1841, ac yn ystod ei oes ef y bu’r newidiadau amaethyddol mwyaf. Fodd bynnag,  rhaid inni gofio nad oedd yn unigryw – roedd  llawer iawn o dirfeddiannwyr, yn lleol ac yn genedlaethol,  ers y ddeunawfed ganrif yn gwneud yr un peth – teulu’r Faenol, Thomas Williams, Treffos, Captain Rayner, Farmyard, Bulkeleys Baron Hill, Iarll Powys, a nifer o rai eraill.

 Beth bynnag, rhwng 1845 ac 1865, gweddnewidiwyd daliadau rhan isaf y dyffryn hwn yn llwyr, proses a hwyluswyd yn fawr yn 1855, pan brynodd y Penrhyn y rhan fwyaf o diroedd Coetmor allan o forgais, a daeth Llanllechid gyfan, fwy neu lai, yn eiddo iddynt. Bu Wyatt yn brysur, yn enwedig yng ngwaelod y dyffryn, yn uno daliadau, yn creu daliadau newydd, yn gwneud caeau mwy, ac yn chwynnu tenantiaid. Petaem yn dod yn ôl yma yn 1880, fyddem ni ddim wedi gweld yr hen ddaliadau canlynol.

Llanllechid ( Yr Hendref) – Tyddyn Ceiliog, Tyddyn Defeitos, Tyddyn Sachre, Cefnfaes, Cefnfaes Newydd, Pwll Budr, Wern Porchell, Cae Mawr, Cae Gwilym Ddu, Winllan, Tyddyn Maes y Groes, Cae Coch, Ty Gwyn, Groeslon, Tyddyn, Tan y Marian Bach, Pencoed, Gweirglodd Needham, Gweirglodd Hir, Gweirglodd Newydd, Cae’r Ffos, Tyn Cae, Llain, Caeau Cyd, Ysgubor Newydd, Pentre Isa, Llain y Ffwlbart

Llandygai – Nant Gwreiddiog, Penylan, Bryn Dymchwel,Tyddyn Iolyn, Tyddyn y Wern, Ty Gwyn, Ffridd y Deon, Rhos, Llys y Gwynt, Siambre Gwynion

Mewn ambell achos, yn enwedig yn Llandygai,  roedd, a mae, yr enw yn aros, ond ar dy moel. Daeth rhai tai yn gartrefi i’r nifer o giperiaid a gyflogwyd gan y stâd, yn bennaf o’r Alban – ee Ty Gwyn, Capel Ogwen, ond chwalwyd y  rhan fwyaf. Dyma ddywedodd bardd dienw o’r cyfnod am ffawd un fferm

Mae Tyddyn Iolyn yn ulw

……………………………………

A’I ffyrdd ddilledir a phridd a lludw

( Am drafodaeth fanwl ar yr ad-drefnu hwn gweler Ad-drefnu Daliadau Llanllechid)

Pan ychwanegwch chi’r ffermydd ddiflannodd yn uniongyrchol oherwydd y chwarel – Dôl y Parc, Ty Hen, Tyddyn Du, a Brynllys o dan y tomenni, Pen y Bryn, Cilfodan Isaf, Ciltrefnus a Chae Gronw, a rhannau o Tyddyn y Twr, o dan dai, a ffermydd sylweddol Coed y Parc, gweddill Tyddyn y Twr, a  Chymysgmai, a ddarniwyd – mi welwch faint y newid mewn cyfnod cymharol fyr.

Mewn sawl achos fe aed yn ôl I greu un fferm o’r rhai a rannwyd, megis Cochwillan, Gwern Hywel, Corbri, Cororion, Cilgeraint, Moelyci, ac eraill. Ond nid mewn eraill, am ryw reswm ee mae Bryn Hafod y Wern yn dal yn ddwy, ac arhosodd Gwaun Gwiail yn dair.

Fe wnaed ambell fferm yn fferm arbennigol, megis fferm fawr newydd Tyn Hendre yn fferm i fagu ceffylau ar gyfer y stâd, a Moelyci ar gyfer magu teirw.

Aed ati i lunio rhaglen o wella adeiladau a thai ffermydd y stâd, gan gael cynlluniau penodol ar gyfer ffermydd o dan 100 acer, a chynlluniau gwahanol ar gyfer y rhai dros 100 acer (  nad oeddynt yn ffermydd mynydd, gan fod angen adeiladau gwahanol .ar gyfer ffermydd mynydd a ffermydd cymysg y llethrau a llawr gwlad).  Mae unffurfiaeth yr adeiladau a’r tai ar nifer o ddaliadau heddiw yn dyst i’r cynlluniau hyn. Fe ddechreuodd y rhaglen adeiladu gyda Glan y Môr Isaf yn 1845. Mae’n debyg fod y dyddiad hwn a’r lleoliad yn arwyddocaol, y dyddiad oherwydd mai dyma pryd y cwblhawyd y castell a’r parc yn derfynol, gan ryddhau mwy o elw’r Chwarel. Ond rhaid inni gofio, hefyd,  mai yn 1845 y derbyniodd Pennant iawndal o tua £1.8 miliwn ( yn arian heddiw ) am golli’r 764 o gaethweision yn Jamaica. Mae’r lleoliad yn debygol oherwydd mai tenant Glan y Môr oedd James Wyatt, a byddai gwella ei fferm ei hun gyntaf yn naturiol iddo. Beth bynnag, o fewn deuddeng mlynedd yr oedd adeiladau Lôn Isa, Pant y Cyff, Talybont, Tyn y Ffridd, Ty Newydd, Rhos, a’r Wig ( ym mhlwyf Aber), wedi eu codi o’r newydd, ac roedd siediau newydd wedi eu codi yn Aberogwen, Ty Gwyn, Tyddyn, Coed Hywel, Glasinfryn,a Minffordd. Fe barhaodd y gwaith adnewyddu hwn trwy’r stad am hanner canrif, gan gael ei gwblhau gyda Thai’r Meibion yn 1895. Efallai fy mod yn darllen gormod i’r ffaith fod un o’r ffermydd gorau ar y stâd wedi gorfod aros hyd yr olaf yn y cynllun adnewyddu adeiladau a thy, ond gall fod yn arwyddocaol mai tenantiaid y fferm fawr hon, o’i chychwyn fel y fferm bresennol yn 1857,  oedd y ddau frawd, Owen a Humphrey Ellis, gynt o’r ddwy hen fferm, Cefnfaes a Chefnfaes Newydd. Er eu bod yn denantiaid i’r Penrhyn, hwy oedd perchnogion y tir yr adeiladwyd yn rhan fwyaf o Fethesda a’r Carneddi arno, ac roeddynt wedi dod yn hynod o gefnog o’r herwydd. Tybed ai gwenwyn oedd yn gyfrifol am beidio adnewyddu Tai’r Meibion hyd ddiwedd y cynllun?

Aed ati i wella’r tiroedd, hefyd. Erbyn 1857 yr oedd tiroedd gwlyb wedi eu sychu yn Lonisa, Aberogwen, Glan y Môr, Cefnfaes, Ty Gwyn, Tyddyn Newydd, Groeslon, Pant y Cyff, a Choed Hywel, ac roedd Cors Cefnfaes, y Wern Fawr, a Chors y Rhos wedi eu sychu.  Heddiw mae ffyrdd prysur yn croesi’r tair hen gors.

Wrth ysgrifennu yn 1865, mae Hugh Derfel yn gweld hyn yn destun llawenydd, nid o dristwch am golli’r hen drefn. Meddai

Sych dy lygaid, fy nghyfaill, — yn lle yr hen deiau gwaelion wele dai fel palasau, ac yn lle man erwi a chaeau, y rhai a derfynnid gan wrychoedd igam ogam fel nadroedd, dacw feysydd mawrion a theg, yn ysgwar hefyd. —– Y mae’r holl fro a’I gwedd mor baradwysol fel nad oes yng Nghymru le mwy swynol

Ond un peth ydy trawsnewid y diriaethol; mater hollol wahanol ydy newid agweddau. Ble gellid yn hawdd uno tiroedd, a chreu fferm newydd, nid mor hawdd oedd newid meddylfryd y ffermwr ceidwadol.

Yn 1844 anfonodd y cyhoeddwr prysur hwnnw, Thomas Gee o Ddinbych, lythyr I dirfeddiannwyr Cymru, yn hysbysebu gwaith newydd ar amaeth yr oedd am ei gyhoeddi

The Works will be published by subscription. From the experience I have had in publishing Welsh Works, I feel persuaded that prejudice is so strong in the minds of our Countrymen against all innovations, that any one who depends upon the Farmer alone for the sale of Works of this nature would sustain considerable loss. Besides, such Works will have but little influences on his mind unless placed in his hand by his Landlord or Agent.

A dyma Hugh Derfel yn 1866

‘ Hyd yn ddiweddar prin y gellir dywedyd i Amaethyddiaeth roddi ei throed i lawr yn Eryri

Yn genedlaethol, ac yn lleol, fe wnaed ymdrechion cyson ac aml i newid y meddylfryd

Sefydlwyd Cymdeithasau Amaethyddol yn y gwahanol siroedd ar droad y 19eg ganrif. Sefydlwyd y gyntaf yn Sir Frycheiniog yn 1793, gyda’r diwygiwr Methodistaidd, Hywel Harris, yn un o’r arweinwyr. Gyda llaw, mae’n ddiddorol gweld faint o wyr eglwysig oedd yn ymwneud â diwygio o bob math yn niwedd y 17eg a dechrau’r 19eg. Nid ar hap a damwain y dewiswyd Gwallter Mechain ( Y Parch Walter Davies ) i adrodd ar gyflwr amaeth yng Nghymru ar droad y ganrif. Rhaid cofio am ‘Yr Hen Offeiriaid Llengar’ yn yr un cyfnod, oedd yn cefnogi, adfywio, a moderneiddio llenyddiaeth Gymraeg. Beth bynnag, sefydlwyd Cymdeithas  Amaethyddol Sir Gaernarfon yn 1807, gyda Richard Pennant yn Gadeirydd arni. Roedd y cymdeithasau hyn yn rhoi nifer o wobrau blynyddol sylweddol i ffermwyr a thirfeddiannwyr am amrywiol welliannau – y ‘premium’ ( mae’r gair wedi ei gadw yn yr enw ‘Primin Môn’) . Yn y ardal hon fe roddid y premium am y ffermydd a’r cynnyrch yn ffair Bangor, neu yn Sioe Sir Gaernarfon. Yn yr 1840au, fe sefydlwyd sioe flynyddol ar gyfer tenantiaid y Penrhyn, ‘The Penrhyn Agricultural Show’, lle rhoddid gwobrau eithaf sylweddol am amrywiaeth helaeth o bethau, o rwdins a haidd, i anifeiliaid, i gloddiau a chaeau, ac i’r ffermydd taclusaf. Sefydlwyd y sioe

chiefly for the uses and improvement of the tenantry upon the tenantry of the Penrhyn estate

NWC 23/10/1847

er bod nifer o’r catagoriau yn agored i gystadleuwyr o’r tu allan i’r Stâd.

Yn sioe 1847, er enghraifft, rhoddwyd 14 gwobr am wahanol fathau o gnydau, 12 am wahanol anifeiliaid, a 3 am aredig, yn ogystal â nifer o wobrau i fythynnwyr. Un gwobr arbennig yn 1847 oedd

To the tenant or occupier of lands who shall have made, since the 1st Januaru 1844, the greatest extent of improvement on his Far, of not less than thirty acres tending to promote the introduction of a better system of Agriculture

ibid

Rhoddwyd sylwadau cyffredinol gan y beirniaid ar y diwedd, ac mae’r rhain yn arwyddocaol, o safbwynt yr hyn a ystyrid yn wendidau, ac i ba gyfeiriad yr oeddid am fynd ag amaeth ar y stâd

OBSERVATIONS BY THE JUDGES. They cannot omit to notice the example of neatness and cleanliness shewn by the tenant of Bronydd in the management of his farm. There was scarcely a weed to be seen in his crops. There were a few other farms in which a good deal of improvement was observable, but there is generally too great a want of attention to cleanli- ness, particularly in the fallow crops, and more especially the turnips; for unless they are properly cleaned and hoed, it is impossible either to expect a good crop, or the land to be clean. Those who intend to offer themselves as candidates for this Premium another year, they strongly recommend their attention to this point. They wish also to observe that the farmers are generally late in sowing their crops, and that it they were put into the ground earlier, (particularly when the season favours it) they would have an earlier harvest and better crops. general want of cleanliness.

Ibid

Erbyn 1850, yr oedd yr holl adrannau wedi eu hagor i unrhyw gystadleuydd

It was not confined to the tenantry resident on the Penrhyn estates, but was thrown open for general competition, with the view of inciting the tenants to greater exertions in improving their stock; and there can be no doubt that this arrangement was a judicious one

NWC 12/10/50

Erbyn Sioe 1852, nodir

It is indeed pleasing to see the improvements which have taken place in Penrhyn, and in all parts of the surrounding farms, especially those of Rhos and Glan- y mor Issa ( sic). Any person who recollects what these lands were when the first agricultural meeting was held at Penrhvn, and knows what they are now, must feel thoroughly convinced that with skill and capital, agricultural produce may be increased to an incalculable extent.

NWC 2/10/52

Rhan bwysig o’r sioeau hyn oedd cystadlaethau ( ras) aredig, gyda nifer o gystadleuwyr lleol, er mwyn gwella aredig, ac arddangos y dulliau a’r offer diweddaraf er enghraifft, yn Sioe 1850

There was a very good show of farming implements in use on the Penrhyn estates, among which we noticed a simple but ingenious contrivance for spinning straw ropes. There was also a sheep shed, a most excellent contrivance of Col. Pennant’s for protecting the sheep in bad weather. For an outlay of about eighteenpence per head per year, by the use of this shed the condition of the sheep is improved, the wool rendered much superior, by being protected from the inclemency of the weather,

Ibid

Yn ôl HDH, fe barhaodd y sioe hon am saith neu wyth mlynedd, ac nid oes adroddiad am un yn y wasg weddill y ganrif ar ôl 1852. ( Eto fe ymddengys The Penrhyn Agricultural Show yn The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria yn 1907, fel petai’n bod erioed!)

O’r 1850au fe gynhwysodd Wyatt orchmynion, a chyngor, yn y gytundeb denantiaeth, pethau megis cylchdroi cnydau, dulliau trin y tir, gwrteithio, cadw cloddiau a ffosydd ac ati. Yn ogystal, gyda’r ad-drefnu fe chwynnwyd y tenantiaid, gan geisio sicrhau mai’r ffermwyr gorau oedd yn dal y tiroedd. Yn ôl nodyn yn 1842, nododd James Wyatt mai dim ond 5 tenant ym mhlwyf Llandygai, a 9 yn Llanllechid oedd yn ddigon da i’w rhoi mewn ffermydd newydd yn dilyn unrhyw ad-drefnu, tra bod 24 rhwng y ddau blwyf yn hollol anaddas i redeg ffarm.

Tros gyfnod gweddol fyr trawsnewidiwyd amaeth yn Nyffryn Ogwen. Mae llawer o glod wedi ei roi i’r Pennantiaid, ac i’r Hen Lord yn arbennig, ond rhaid inni gofio eu bod yn gweithredu y tu mewn i gefndir cyffredin. Nodwyd eisoes y digwyddodd gwelliannau mawr ar y rhan fwyaf o stadau Cymru yn y 19eg ganrif.

Roedd y landlordiaid mwyaf cydwybodol yn barod i foddsoddi’n drwm yn ffyniant newydd amaethyddiaeth a chofnodwyd i Iarll Powys wario bron chwarter ei rentol ar welliannau rhwng 1859 a 1879. Codwyd ffermdai a thai allan newydd ar raddfa helaeth  – gan Cawdor yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, a Talbot ym Morgannwg, a Grosvenor yn Sir Fflint.

Hanes Cymru   t 396   John Davies

Ble’r oedd amaeth Dyffryn Ogwen  yn ffodus oedd fod ffynnon arian Chwarel Cae yn  nwylo’r tirfeddiannwr, a bod llawer o’r arian hwnnw wedi ei yrru i drawsnewid tiroedd y stad. O’r herwydd, roedd y newidiadau yma yn fwy sylfaenol, yn fwy helaeth, ac yn digwydd yn llawer cyflymach na phe byddid yn gwneud hynny gydag arian rhenti a chyfalaf perchennog yn unig. Rhaid inni gofio hefyd, er fod i’r Penrhyn enw gan y ffermwyr o fod yn landlord da,  nad cymwynaswr mawr oedd, bwrw bara ar wyneb y dyfroedd oedd o; roedd y buddsoddiad yn dod yn ôl ar ei ganfed yng ngwerth y tir, ac yn arian y rhenti.

Hyd yn hyn rydw i wedi cadw’r ddau ddiwydiant mawr yn y dyffryn fwy neu lai ar wahân. Wrth gwrs, doedden nhw ddim ar wahân, un gymdeithas oedd hi, ac roedd y diwydiant llechi yn rhwym o gael effaith mawr ar ardal amaethyddol bur, fel mewn unrhyw ardal gyffelyb, ac nid trwy guddio’r caeau gyda thomennydd sbwriel a thai yn unig.

Mae’n sicr i nifer o’r ffermwyr fanteisio yn syth ar gychwyn y fentr yng Nghae Braich y Cafn yn 1785. Nodwyd eisoes mai creaduriaid prin oedd ceffylau yn yr ardal yn 1765; fodd bynnag, pan ddechreuwyd cynhyrchu llechi ar raddfa fasnachol, roedd angen eu cludo i Abercegin. Oherwydd natur y llwybrau, ar bynfeirch y gwneud hynny yn draddodiadol, gyda chawell o lechi bob ochr i’r ceffyl

tardily conveyed on the backs of horses’

Freeman, George John, Sketches in Wales 1826

… in the parish of Llandegai, was conveyed down on horse-hack. and chiefly through the adjoining parish of Llanllechid, as there were then no roads of any description, especially in the upper part of Llandegai parish.

NWC 4/4/1837

Ceffylau’r ffermwyr oedd y rhan fwyaf o’r rhain. Buan iawn y gwelwyd nad oedd pynfeirch yn ateb y galw, ar yr un o’r ddau ben i’r llwybr, gan na allai pynfeirch gludo’r holl lechi a gynhyrchid, na llenwi’r llongau a ddisgwyliai yn yr aber, ac, yn sicr, ni ellid cyflawni’r galw cynyddol yn y trefi oedd yn madarchu yn y byd mawr y tu allan. Amcangyfrifir mai 64 o lechi y gallai pynfarch, neu ful, ei gario ym mhob cawell. Troliau amdani, felly,  a manteisiodd y ffermwyr ar y sefyllfa yn gyflym.

The carriages have increased to the present time, to rather more than a hundred broad-wheel carts and waggons.

Pennant, Thomas, (1726-1798), The history of the parishes of Whiteford, and Holywell, ([London] 1796), pp. 271-272

Fodd bynnag, fel y crybwyllwyd eisoes, nid oedd ond llwybrau yn yr ardal, ac nid yw llwybrau, sydd ar gyfer pobl a phynfeirch, yn addas i droliau a wagenni.

The first cartload of slate was brought down by Mr. Williams’s own team, ( eiddo William Williams, Llandygai, asiant y Penrhyn ), which crossed the bridge called Pont-y-twr, with one wheel moving on the road-way and the other on the parapet wall, in consequence of the bridge being then too narrow for a common cart to pass through, and which was only calculated for a bridle road. but with the assistance of the few quarrymen then employed they were enabled to get through without upsetting the cart. John Williams, of Tafarnau, who is seventy-five years of age, and lives at Hirael, close to Bangor, was then the driver of that cart, being the first that ever attempted to cross that bridge, as also the first that ever entered the quarries of Llandegai

N Wales Chronicle 4/4/1837

Bron iawn yn syth wedi agor y chwarel fel mentr fasnachol, fe agorwyd ffordd newydd, ‘Yr Hen Ffordd’, i gysylltu’r chwarel gyda’r môr, a symudwyd y porthladd o draeth Aberogwen i Abercegin, gan greu doc bychan yno. Troliau fu hi wedyn am bymtheg mlynedd, ac roedd y ffermwyr yn gwneud yn dda o hynny, gan mai hwy oedd yn is-gontractio eu ceffylau i’r diwydiant. Fodd bynnag, erbyn troad y ganrif, am y rheswm pennaf nad oedd troliau yn gallu diwallu’r angen yn ddigon cyflym ( er enghraifft, roedd rhai llongau yn gorfod aros am wythnosau i ddisgwyl llwyth, gan arafed y cyflenwad o’r chwarel). Yn 1797/8 yr oedd tramffordd wedi ei hagor o Landygai i Borth Penrhyn, er mwyn mynd â chynnyrch callestr melin Penylan i Abercegin i’w allforio i weithfeydd porselan glannau Mersi. Yn 1801, estynnwyd y dramffordd hon i’r chwarel, a dechreuwyd cludo llechi i lawr ar hyd-ddi. Roedd y dramffordd yn cyflawni ei phwrpas yn berffaith i’r Penrhyn, sef cyflymu cludiant y llechi i’r porthladd, gwneud hynny’n rhatach, a mynd â mwy yno ar lwyth

The slates are brought up from the quarry to a hill by horses, from whence they descend to the Menai by the weight of the wagons themselves; twenty or thirty of which, fastened to each other, ascend and descend on an inclined plane on iron waggon ways. For this purpose, houses are built, where the cylinders are kept, round which the chains which fasten the waggons together, are rolled and unrolled. We are told by the workmen, that no fewer than 300 waggons of this kind are kept in constant employment, which does not seem improbable as in proceeding further we found several houses of the same description standing by the side of the road.

Spiker, Samuel Heinrich, Dr (1786-1858.) Travels through England, Wales, & Scotland, in the year 1816. : Cyfieithiad o’r Almaeneg   (Llundain 1820) cyf. 2, p. 37

Fodd bynnag, er y cyfleustra mawr i’r chwarel a’i pherchnogion, roedd bygythiad mawr iawn yn y dramffordd i’r ffermwyr hynny oedd yn cyflenwi ceffylau i’r diwydiant,

The slate is all formed into its proper shape at the quarry and it is then placed in little carriages which are almost like the lower part of a box on 4 low iron wheels. I saw fifteen of these fastned together and drawn by two horses on a rail way from the quarry to the wharf and though certainly a great weight is appeared to move with the greatest ease.

Dyddiadur [? Mrs Ann Lewis] ar daith o Tiberton i Ddulyn 1809, NLW Harpton Court, 2364, pp. 5-6

The scene on all sides was enlivened by the course of the Rail Road carriages laden with slates, a load that would be more perhaps than 20 Horses could draw, drawn by two

Richard Fenton  Tours in Wales 1804-13 

Gostyngodd y galw am geffylau yn syfrdanol, cymaint fel y gallai brofi’n ergyd farwol i sawl ffermwr, oedd yn dibynnu ar yr arian a ddeuai iddynt o gyflenwi ceffylau a llafur i gludo llechi i’r porthladd; bellach roedd yr angen wedi, o leiaf, ei ddegymu, yn wir, i sefyllfa ble nad oedd angen ceffylau o’r tu allan i’r diwydiant bellach.

By this means his tenants’ carts were dismissed from the carriage of slates, and employed in agricultural improvement.

Freeman, George John, Sketches in Wales; or, A diary of three walking excursions in that principality, in the years 1823, 1824, 1825. By the Rev. G.J. Freeman, (London, 1826), tud 161-163

‘ … ond yr oedd un dosbarth wedi eu taflu i derfynau anobaith, sef y ffermwyr. Ofnent a chredent y darfyddai amdanynt , gan fod y gwaith cario wedi ei ddwyn oddi arnynt, a bod y boa constrictor wedi dwyn eu helw’

HDH tud 124

Fodd cyfle, yn ôl Hugh Derfel, cyfle oedd hwn i’r ffermwr, a chyfle y manteisiodd arno

cyn pen dwy flynedd yr oeddynt yn cael eu hunain yn well nag erioed ; o herwydd hefyd yr oedd gwaith y Gloddfa yn myned rhagddo, a galw am fwy o weithwyr, a boliau y rhai hyny, eu gwragedd a’u plant, yn galw am ymborth, yn yd, ymenyn, caws,llaeth, a chig, am yr hyn y cai’r ffermwyr bris rhagorol

HLlaLl t 124/5

Parhaodd y sefyllfa hon am ganrif a mwy, gyda’r ffermwyr yn manteisio i’r eithaf ar y farchnad fawr ar eu carreg ddrws, llawer ohonynt yn gwerthu llefrith o dy i dy, yn cyflenwi cig, llysiau, blawd, a phob cynnyrch arall. Ac roedd yr angen am gyflenwi yn gyrru’r angen i gynhyrchu mwy, a chynhyrchu gwell, a hynny, yn anorfod, yn arwain i welliannau mewn dulliau cynhyrchu, boed hynny’n ddulliau cynhyrchu cnwd neu anifail.

Er mwyn cynhyrchu, roedd ffermio, bron hyd at ganol yr 20fed ganrif yn ddiwydiant oedd yn dibynnu’n llwyr ar lafur corfforol, ac roedd angen cymorth gwas, ar hyd yn oed, y fferm leiaf. O’i gymharu gyda’r fferm, roedd y chwarel yn talu cyflogau da, ac roedd effaith hyn ar y ffermwr. Mae ymchwil wedi dangos fod cyflogau amaethyddol yn gorfod codi’n raddol wrth nesau at ganolfan ddiwydiannol, gyda chyflogau gweision fferm oedd yn agos i unrhyw ddiwydiant mawr 30% yn uwch.

Such works also drain the country of useful hands so that in the labouring seasons … the farmer is put to the stress? for servants and labourers.

William Williams  1806

Mae’n amlwg y gellid disgwyl prinder gweithwyr fferm yn Nyffryn Ogwen, ond, eto, mae’r Cyfrifiadau yn dangos gweision ffermydd trwy’r ardal. Byddid yn disgwyl gweled mwy o weithwyr amaethyddol yn yr hendref, yn bennaf oherwydd mai yno yr oedd y ffermydd mwyaf cynhyrchiol. Yn 1841 roedd na 62 o weision yn byw yno, ond roedd na weision fferm yn nes i’r chwarel hefyd, 29 yn ardal Tregarth, a 16 ar garreg ddrws y chwarel, hyd yn oed, yn ardal Coed y Parc,. Yr un yw’r darlun cyffredinol trwy’r ganrif, gyda gweision ffermydd trwy’r dyffryn. Yr hyn nad yw Cyfrifiad yn ei ddangos, wrth gwrs, yw a oedd y nifer o weision a ddangosir yn ddigonol i anghenion y ffermwyr, ond roedd nifer yn dewis  y fferm yn hytrach na’r chwarel.

Fel yr ehangai gweithlu’r chwarel roedd ffermwyr yn manteisio, er enghraifft, trwy osod llety i weithwyr oedd yn tyrru i’r ardal. Dim ond trwy edrych ar hap trwy un rhan fechan o Gyfrifiad 1841, fe welir 4 chwarelwr sengl yn sgubor Abercaseg, 3 chwarelwr ifanc yn ‘outhouse’ Tyddyn y Gaseg, un yn lojio yn Pant, tra’r roedd sefyllfa ddiddorol iawn ar fferm Gerlan, ble’r oedd 5 teulu gwahanol yn byw mewn gwahanol adeiladau, sy’n cael eu nodi fel Outhouse No1,  Outhouse No2, ac ati. Erbyn 1851, mae’r rhain wedi troi’n dai, sef  y Rhes Gerlan presennol, oedd yn cael eu galw yn Hen Gerlan wedi codi’r pentref diweddarach.

Erbyn Cyfrifiad 1861, pan oedd Chwarel Cae bron â chyrraedd ei hanterth, roedd rhai, yn enwedig tenantiaid y daliadau llai, yn cyfuno ffermio a chwarelydda, er enghraifft, tenantiaid Cwlyn, Tyddyn y Gaseg, Nant Graen, Tyddyn Slates. Eto roedd ambell un yn parhau efo crefft gyntaf dynolryw yn unig, ac yn ymfalchio yn hynny, er lleied ei libart. ‘Farmer of 10 acres’ ( Pant y Gwair), Farmer of 6 acres, ( Powls). Ac mae sawl enghraifft, trwy’r blynyddoedd o’r tir a’r chwarel yn cynnal gwahanol aelodau o deulu, megis tad yn ffermio a mab yn chwarelwr, neu ddau frawd mewn sefyllfa debyg.

Yn aml iawn, yn achos ardal yn diwydiannu, mae amaeth yn edwino, ond ffynnu wnaeth amaeth yn Nyffryn Ogwen. Fe roddodd y chwarel fodolaeth i ardal boblog Bethesda a’r pentrefi cylchynnol, ond fe roddodd, hefyd, fodd i greu diwydiant amaeth cryf a llewyrchus o’u cwmpas. Ac er mai ardal boblog oedd canol y dyffryn, yn y bôn, pentrefi mawr cefn gwlad oedd yma, gyda mwyafrif helaeth y trigolion gyda’u gwreiddiau  yn ddwfn yn y tir. Wnaeth Bethesda, erioed dyfu’n ddigon mawr i golli blas y pridd. Does ond rhaid darllen un Nos Ola Leuad i weld mai un cymdeithas gymysg drefol-gefn gwlad amaethyddol oedd yma, gyda’r ddau fyd, amaeth a diwydiant, fferm a chwarel,  yn asio’n hapus. Mae’r hogyn yr un mor gartrefol ar strydoedd pentra, ac yn mynd i Siop Tsips drws nesa i Blw Bel ag ydy o

yn nol gwarthag Tal Cafn o Ben Foel, a hel llond cap o fasharwms ar y Ffridd Wen ar ol codi mymryn bach o datws Now Gorlan ar ffordd adra

Prif Ffynonellau

  • Arolwg o diroedd y Penrhyn R A Leagh 1768
  • A Description of Caernarvonshire Edmund Hyde Hall  1809
  • A Report on the State of Agriculture in Wales Vol 3                Walter Davies ( Gwallter Mechain) 1815
  • Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid Hugh Derfel Hughes 1866
  • Hanes Cymru John Davies
  • Y Wasg Gymreig yn y 19eg ganrif
  • Y Drych Papur Wythnosol Cymraeg Gogledd America
  • A History of Penylan Mill  Barrie Gill  Traethawd PhD Anghyhoeddiedig 2019  Prifysgol Bangor
  • Papurau’r Penrhyn   Archifdy Prifysgol Bangor
  • Cyfrifiadau 1841 – 1881
  • Arolwg Degwm 1838-40
  • Hanes Môn yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
  • Y Ffordd yng Nghymru  R T Jenkins
  • Un Nos Ola Leuad   Caradog Pritchard

%d bloggers like this: