Cwt Mochyn Maes Caradog

Dafydd Fôn Medi 2020

Pan ydym yn meddwl am adeilad rhestredig, rydym yn dueddol o feddwl am gestyll,a  phalasau, ynghyd ag eglwysi cadeiriol crand o oes a fu. Ond nid dyna’r achos o bell ffordd: erbyn hyn mae bron popeth sydd o ddiddordeb hanesyddol yn rhestredig, ac yn cael eu hamddiffyn. Gall hyn gynnwys unrhyw beth, o gastell i gwt, ac o deml i ffens grawiau.  Yn gyffredinol, mae dau fath o wrthrych yn rhestredig. Yn gyntaf, ceir y pethau rheiny sy’n unigryw, megis Castell Penrhyn, Pont Menai,neu Dŷ John Iorc, ac yn ail, ac yn llawer mwy niferus, ceir y gwrthrychau hynny sy’n cynrychioli eu math, megis ffens grawiau ym Mynydd Llandygai, neu rhestai Bryn Eglwys. Perthyn i’r ail ddosbarth hwn y mae testun y nodyn hwn.

Er fod sawl mochyn wedi byw mewn castell, a phlas, cartref yr anifail ei hun yw’r adeilad rhestredig dan sylw, a hwnnw’n gartref i fochyn, neu’n foch, Maes Caradog yn Nant Ffrancon. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o adeiladau Maes Caradog yn rhestredig, ond am y twlc y soniwn ni. Does dim yn arbennig ynddo, mwy nag oedd yn y moch a breswyliai ynddo; fe’i rhestrwyd yn syml am ei fod yn gynrychioladol o ran o adeiladau pob fferm o ganol y 19 ganrif ymlaen, ac wedi eu hadeiladu i batrwm cyffredin. Pan aeth stâd y Penrhyn ati i foderneiddio’r stad, yn ddaliadau, ffermydd, ac adeiladau, o 1845 ymlaen, fe luniasant gynlluniau manwl ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd ac adeiladau, er enghraifft, yr oedd ganddynt gynllun penodol sut fath o adeiladau y dylai fferm o dan 100 acer eu cael, a chynllun i fferm dros 100 acer. Dyna pam y mae cymaint o ffermydd y stad, yn dai ac adeiladau, yn edrych yn debyg. Bu’r cynllun hwn o foderneiddio ar waith o 1845, gyda Glan y Môr Isaf, hyd cwblhau’r olaf, Tai’r Meibion, yn 1895. Yr oedd gan y stâd, hefyd, gynlluniau generig ar gyfer pob adeilad, ac nid yw cwt mochyn yn eithriad.

Mae hanes hir i gadw moch yn Ewrop, er mai yn Tseina y’u dofwyd ac y’u magwyd gyntaf, rai miloedd o flynyddoedd yn ol. Yma yng Nghymru, yr oedd moch yn anifeiliaid cyffredin, yn cael eu cadw mewn haid, gyda’r meichiad ( bugail moch ) yn eu gwarchod. Yn ôl y chwedl, meichiaid Matholwch oedd y rhai cyntaf i weld Bendigeidfran yn ei brasgamu hi ar draws y môr i ddial camwri ei chwaer, Branwen, a hwch  a ddarganfu Lleu Llaw Gyffes yn Nyffryn Nantlle, pan drowyd hwnnw yn eryr wrth geisio ei ladd. Yma, yn Nyffryn Ogwen, roedd moch fil o flynyddoedd yn ôl, canys roedd corlan iddynt yng Nghororion, gan fod yr enw, o bosibl,* yn deillio o Greu ( = corlan foch ) wyrion rhywun neu’i gilydd. ( Ond, eto rhaid nodi fod ‘creu’ yn gallu golygu ‘caer’ neu ‘amddiffynfa’, ac mai dyna oedd yn perthyn i’r wyrion, ac nid twlc mochyn ). Roedd y mochyn yn anifail hawdd iawn ei gadw, a hynny i bobl gyffredin, gan nad oedd angen tir arno, fel gwartheg ac ati. Os am fynd allan, gellid ei droi allan i dir comin i rychu a thyrchu, dim ond ei gadw i mewn yn y nos, rhag anifeilaid rheibus – a dyna fyddai pwrpas y ‘creu’ . Roedd moch yn arbennig, hefyd, am eu gallu i fwyta mes, sy’n wenwyn pur i’r rhan fwyaf o greaduriaid. I’r hen Gymry, Gwyl Ieuan y Moch, a ddethlid ar 29 Awst, oedd y dyddiad cyntaf pan fyddai’n gyfreithlon rhedeg moch yn y coed i’w pesgi ar fes. Dyna darddiad enw Parc Moch yn Llanllechid, sef coedlan i yrru moch iddi ar y cyfnod penodol. Mae Hugh Derfel Hughes yn ei lyfr arbennig ‘ Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid’ yn nodi fod moch arbennig iawn, yn fychain gyda chig melys, yn cael eu cadw gan Stâd Coetmor ddiwedd y 18ed ganrif, ac mai’r moch hyn oedd yn cael eu cadw ym Mharc Moch. Roedd na ddarn o dir o’r un enw ar dir hen blasty Penrhyn.

oErbyn heddiw, peth prin iawn yw gweld mochyn (pedeircoes ) ar unrhyw fferm, onibai ei bod yn arbenigo mewn magu’r creadur arbennig hwn, ond am ganrif a mwy rhwng canol y 19eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif, roedd moch yn rhan hanfodol o economi cefn gwlad, a threfi,hefyd, o ran hynny. Roedd twlc mochyn ar bob fferm a thyddyn, ac mae enghreifftiau o sawl tŷ moel ( = ty heb ddim ond gardd ynghlwm wrth ) yn cadw mochyn,  a hynny yng nghanol trefi a phentrefi. Roedd twlc mochyn mewn sawl gardd tai cynnar yn Nyffryn Ogwen. Mae sawl enghraifft wedi ei gofnodi , cyn dyfodiad Byrddau Iechyd Cyhoeddus a Chynghorau Trefol a Sirol, o unigolion yn cadw mochyn yng nghanol y tai. Yn wir, un o broblemau mwyaf Bwrdd Iechyd dinas gyfagos Bangor oedd trigolion yn cadw moch mewn amgylchiadau anaddas. yn negawdau cyntaf y 19 ganrif roedd moch niferus yn crwydro’r strydoedd yn ddirwystr, gan fwyta sbwriel, gorwedd ar draws llwybrau, a bod yn rhwystr i gerddwyr, yn ogystal ac yn fygythiad cyffredinol. Gorchmynnodd yr Ynadon y dylid cadw pob mochyn y tu mewn i libart y perchennog. Mewn cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd yn 1870 trafodwyd adroddiad Arolygwr y Bwrdd ar foch yn y dref. Nodwyd fod sawl mochyn yn cael ei gadw mewn iardau cyfyng yng nghefnau’r tai, gydag un dyn yn cadw mochyn yn ei dŷ bach ym Mangor Uchaf. Cwynodd Mesach Roberts, y fferyllydd, fod cenfaint o foch yn agos i’w gartref ef. Erbyn y cyfarfod nesaf, roedd yr Arolygwr wedi bod yn Summerhill Terrace ym Mangor Uchaf, ac yn y lle gyda’r enw hafaidd a sawrus hwnnw, fe welodd fochyn yn byw o dan ffenestr cegin, un arall mewn alé rhwng dau dŷ. Cafwyd achos arall o fochyn yn Stryd y Mynydd yn byw yn yr ardd y ystod y dydd, ac y cysgu’r nos yn y gegin. Er gwaethaf ymdrechion y Bwrdd Iechyd i reoli cadw moch er budd glanweithdra a iechyd, roeddynt yn ei chael yn frwydr anodd iawn i’w hennill, a’r un oedd yr hanes yn y rhan fwyaf o drefi. Yn 1890, fe safodd y nofelydd Daniel Owen etholiad ar gyfer Cyngor Tref yr Wyddgrug, ac un o’i brif bolisiau oedd gwrthwynebu cynlluniau’r Cyngor i atal trigolion y dref rhag cadw mochyn mewn twlc yn yr ardd. Ac yn Nyffryn Ogwen, un o brif broblemau Comisiynwyr y Bethesda Improvement Act ( pasiwyd 1854 ) oedd moch, tylciau moch budron mewn llefydd anaddas, a thomennydd o faw moch yn ymyl tai. Yn 1878 fe roddodd y Comisiynwyr rybudd i Ellen Hughes, Stryd Fawr

Also to remove pigs in an offensive pigstye close beneath the windows of Ebenezer Williams and Mr John Jones Yard Penygraig, and remove the the offensive pigstye manure placed opposite the house of no 20 Caerysalem where it forms an abominable nuisance

Arfer cefn gwlad oedd cadw mochyn ( ac ieir ), a phan dyrrodd y gweithwyr i’r trefi diwydiannol daethant â’u harferion gyda hwy. Yng nghanol y 19ganrif, doedd y rhan fwyaf o drigolion y trefi ond un, neu, ar y mwyaf, ddwy genhedlaeth o’u gwreiddiau yng nghefn gwlad, a rhan hanfodol o fyw cefn gwlad oedd cadw mochyn, oedd yn hanfodol ar gyfer bwyd, ac, yn amlach, ar gyfer talu’r rhent. Gwir oedd yr hen air ‘ Cadwa fochyn, ac mi wnaiff y mochyn dy gadw di.

Er fod cadw moch wedi bod yn arfer dros y canrifoedd, daeth y mochyn yn greadur hynod o gyffredin o chwarter cyntaf y 19eg ganrif ymlaen, yn bennaf, oherwydd gwelliannau mewn bridio moch, a ddatblygodd o fod yn greaduriaid main, heb lawer o gig arnynt, i fod yn anifeiliaid tew, cigog, brasterog. Roeddynt yn anifeilaid hawdd iawn eu cadw, yn bwyta popeth, yn gig a llysiau, yn wir, unrhyw beth oedd  dros ben – crwyn tatws, sgim llefrith, popeth dros ben ar ffarm a thyddyn. Oherwydd y natur hon o fwyta popeth y mae rhai crefyddau yn eu gweld yn anifeiliaid budron, ac yn gwrthod bwyta ei gig.

Roedd marchnad fawr i gig y mochyn, yn enwedig yn ninasoedd Cymru a Lloegr, a datblygwyd economi, gyda phorthmyn moch lluosog yn rhan o’r rhwydwaith leol. Amrywiai’r rhain o borthmyn oedd yn prynu yn lleol a gyrru i’r dinasoedd, i rai oedd yn prynu moch bach i ail-lenwi twlc oedd wedi ei wagio i’r farchnad. Bu i ddatblygiad y rhwydwaith drenau yn ail chwarter y 19eg ganrif, hefyd, yn gymorth i’r fasnach foch, gan y gellid, yn awr, yrru llwythi ohonynt yn gyflym o’r wlad i ddinasoedd mawr Prydain.

Roedd, o leiaf, un mochyn, yn cael ei ladd yn flynyddol ar bob fferm ar gyfer ei gig, gan ei fod, wedi ei halltu, yn gallu parhau dros y gaeaf, mewn oes di-rewgell. Roedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur pwysig yng nghalendr y byd amaethyddol. Roedd y mochyn yn arbennig iawn, hefyd, oherwydd fod defnydd i bob rhan o’i gorff; yn wir, dywedid y defnyddid “pob rhan o’r mochyn heblaw’r wïch.”

I dyddynnwr, ac ambell berchen tŷ moel, roedd defnydd arall pwysig i’r mochyn, sef i dalu’r rhent. Fe’i pesgid, ac fe’i gwerthid, a hynny tua chyfnod talu’r rhent blynyddol. Weithiau, byddai’n mynd yn fain ar ambell dyddynnwr ar ganol blwyddyn , a byddai’r rhaid gwerthu’r mochyn er mwyn clirio rhyw gost arall. Adeg talu’r rhent, wedyn, ni fyddai mochyn, ac ni fyddai modd, a dyna darddiad y dywediad fod yr hwch wedi mynd trwy’r siop, sef wedi ei gwerthu cyn pryd, gan adael dim ar ôl i dalu’r rhent.

A dyma ddychwelyd at gwt mochyn Maes Caradog, un o ddwsinau ar ddwsinau o rai cyffelyb yn Nyffryn Ogwen. Cafodd ei adeiladu, gan Stâd Penrhyn, y landlord, yn niwedd y 19eg ganrif, yn  gwt dwbl ar gyfer dwy hwch a dau dorllwyth, neu rhyw ddeg o foch tewion. Mae’n dilyn patrwm generig oedd gan y stâd, ac mae cynlluniau ar gyfer adeiladu cwt mochyn ym mhapurau’r Penrhyn yn Archifdy’r Brifysgol. Yn nechrau’r 1960au, fodd bynnag, fe addaswyd un rhan o gwt Maes Caradog ar gyfer creu pwll trochi defaid; roedd hyn yn adlewyrchu’r diwedd fu i fagu moch wedi canol y ganrif honno. Mae’n adeilad cadarn, o gerrig rwbel, gyda tho llechi iddo, a llechi awyru yn ei grib. Mae iddo gwt ar gyfer cysgod, rhywbeth hanfodol i fochyn, gan fod ei groen yn gallu llosgi’n hawdd mewn haul cryf ( dyna sy’n egluro natur mochyn i rowlio mewn mwd a baw – amddiffyn ei groen y mae, nid bod yn fudr, fel y gred naturiol! ). Mae’r cowt bach y tu allan wedi ei wneud o gerrig graean, ac mae llefydd bwydo yn y wal flaen.

A dyna ni, cartref i frenin – o fochyn beth bynnag