Daliadau unigol
Fel y nodwyd eisoes, doedd ffermio yng Nghymru ddim wedi newid fawr ddim ers y Canol Oesoedd, ac roedd y ffermydd, yn ogystal a’r dulliau, yn dal yn debyg iawn. Amcangyfrifir fod un ffermwr, a’i deulu, yn y Canol Oesoedd yn gallu trin rhyw 30 acer, ac y byddai teulu estynedig o 4 penteulu – sef tad a thri mab a’u teuluoedd – yn gallu ffermio ryw 120 acer. Tir âr fyddai hwn, wrth reswm, tir y gellid codi gwahanol gnydau ohono; byddai hyn yn ychwanegol i’r tir comin helaeth oedd ar gael i bori anifeiliaid ar y cyd, neu i godi mawn, a hel poethwal. Ar y tir âr, fwy neu lai yr un cnydau a dyfid, yn yr un drefn, yn yr un graddfa, ac yn yr un dulliau. (Gweler yr adran ar Cnydau). Mewn un ffynhonnell nodir mai 18 acer oedd maint cyfartalog fferm llawr gwlad yng Nghymru yn y 18 ganrif, sy’n cydfynd yn hollol gyda maint tir âr daliad tair a phedair canrif ynghynt. Fodd bynnag, mae Gwallter Mechain, (Walter Davies) mewn adroddiad gynhwysfawr ar Amaethyddiaeth Cymru 1790 – 1815 yn nodi mai cyfartaledd cyffredinol maint fferm yng Nghymru – hynny yw, ar gyfer pob fferm, llawr gwlad a mynydd – yw 50 – 60 acer. Mae’r maint cyfartalog hwn yn codi’n sylweddol o’r 18 acer oherwydd nifer helaeth y ffermydd mynydd oedd yng Nghymru, ffermydd gyda channoedd o aceri mynyddig, ond ychydig iawn o dir y gellid tyfu cnydau arno oedd ar y rhan fwyaf o’r rheiny. O’r herwydd, nid yw maint cyfartalog ffermydd yn adlewyrchu anawdd y ffermydd rheiny. Gwelwn hyn yn glir wrth fanylu yn nes ymlaen.
Yn 1768, yr oedd 106 o ddaliadau gwahanol yn y plwyf, gyda’r mwyafrif, fel y nodwyd, yn perthyn i’r Penrhyn. Mae gennym fanylion manwl am y daliadau rheiny, gan i Richard Pennant, pan etifeddodd y stâd yn 1767 gomisiynu arolwg manwl o’i diroedd. Cwblhaodd y syrfewr ei gomisiwn, wedi gwneud gwaith manwl a chlir, yn dangos enw, maint, a lleoliad pob cae ym mhob daliad ar y stâd. Mae llawer iawn o’r casgliadau y down iddynt yn y drafodaeth hon wedi ei seilio ar y wybodaeth yng ngwaith Leagh. Mae gennym wybodaeth am 74 o ddaliadau, yn 3286 o aceri, sy’n rhoi cyfartaledd o 44.4 acer i bob daliad, sy’n gosod cyfartaledd y daliadau hynny rywle yn y canol rhwng y cyfartaledd a nodir ar gyfer ffermydd llawr gwlad Cymru, a chyfartaledd ffermydd Cymru yn gyffredinol. Fodd bynnag, pan ystyrir fod 308 o’r aceri yn y daliadau hyn yn dir gwlyb (cors, gwaun, neu ros ), 56 acer yn goed, neu’n eithin, a 484 yn ffridd, neu’n dir garw, mae hynny’n dod â maint cyfartalog ffermydd y plwyf i 33 acer. A doedd y rheiny i gyd ddim yn aceri cynhyrchiol! Wrth gwrs, roedd fferm a fferm – dydy bob un ddim yn gyfartalog; 7 acer oedd Tyddyn y Gaseg, 13 oedd Abercaseg, 6 oedd Tyddyn Cwta, a 10 oedd Tyddyn Feitos, ac mae sawl un arall tebyg iddynt. Ar y llaw arall, roedd dros 60 acer o un Cochwillan, a thua 60 o 70 acer y llall, yn diroedd cynhyrchiol. Er bod 54 acer o dir corsiog, neu dir anghynyrchiol ar dir Cefnfaes, roedd 88 acer o dir da yno, ac am 210 acer Tai’r Meibion, er fod mwy na’i hanner yn dri chae anferth ar y llethrau, a’r bronnydd, mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir y gellid gwneud defnydd amaethyddol effeithiol ohono. Mae hynny, hefyd, yn wir am ddaliadau mwyaf yr hendref, megis Aberogwen, Glan y Môr, Talybont, Dologwen, Maes y Penbwl, ac eraill.
Ffactor arall oedd yn effeithio ar y tirwedd yn yr ardal hon oedd y cerrig mawrion oedd ym mhobman, olion rhewlifoedd Oes yr Ia a fu’n gorchuddio’r tir am filoedd o flynyddoedd, Pan giliodd y rhewlifoedd, gadawsant ar eu holau gerrig a chreigiau yn britho, hyd yn oed, y tiroedd gorau. Roedd yn anodd, hyd yn oed ynamhosib, clirio’r cerrig hyn o’r tir, ac roedd ffermwyr yn gorfod ffermio o’u cwmpas. Dim ond gyda datblygiad Chwarel Braich y Cafn y daeth hi’n haws clrio’r cerrig hyn, oherwydd fod powdwr du ar gael yn lleol, yn ogystal â dynion oedd yn gwybod sut i’w ddefnyddio. Fe rydd Gwallter Mechain enghraifft o wella’r tir trwy glirio cerrig rywdro cyn 1815
On one farm, fifteen acres covered with stones of vast size had been cleared
Fodd bynnag, troi’r dwr i’w felin ei hun oedd y tirfeddiannwr, gan fod y tenant yn gorfod talu am y gwaith trwy godiad o 5% o’r gost ar ei rent am ugain mlynedd
paying £12.10 additional rent , which is 5% of the expenditure
Ymhen yr ugain mlynedd, byddai’r tenant druan wedi talu’n gyfangwbl am wella fferm y tirfeddiannwr! Mae’r ffaith fod Gwallter yn cymeradwyo’r arfer hwn fel un i’w efelychu yn dangos ar ba ochr i’r clawdd y safai ef!
Er gwaethaf yr enghraifft hwn, digon yw dweud, yn 1760, ac am flynyddoedd wedi hynny, fod cerrig, yn ogystal â natur y tir, yn milwrio yn erbyn ffyniant amaeth. Yn gyffredinol, ar wahân i eithriadau prin, crafu byw oedd hanes y rhan fwyaf o ffermwyr yr ardal hon yn y cyfnod, yn union fel eu gweithwyr. Dim ond ar diroedd llawr gwlad breision Cymru a’r gororau yr oedd gwahaniaeth sylweddol yn ariannol rhwng ffermwr a gweithiwr; o safbwynt statws cymdeithasol yn unig yr oedd y gwahaniaeth mewn ardaloedd o diroedd gwael. Oherwydd natur eu tiroedd, does dim rhyfedd fod ffermwyr Llanllechid, fel eu gweision, yn wael eu byd yn y cyfnod dan sylw, fel y gwelwn yn nes ymlaen.
Tir anghynhyrchiol mewn rhan o blwyf Llanllechid
O edrych ar rai o’r daliadau, mae’n amlwg fod rhyw fath o gytundeb beth ddylaimaint daliad fod, nid o ran bod yn rhy fychan, ond o fod yn rhy fawr i un tenant. Gallai hyn fod o safbwynt effeithiolrwydd y ffermio, neu o safbwynt cael mwy o rent, ond mae’n sicr ei fod yn waddol o syniadaeth canrifoedd cynt ynghylch maint daliadau, a gallu unigolion a theuluoedd i’w trin.Yn Llanllechid gwelir fod hen ddaliadau a fu, unwaith, yn amlwg, yn unedau mwy, yn cael eu ffermio ar y cyd, mae’n debyg, gan gymuned, neu deulu estynedig, erbyn 1768 wedi eu rhannu’r ddaliadau llai, mwy hylaw i un teulu ei ffermio. Er enghraifft, erbyn 1768, roedd Aberogwen yn ddau ddaliad, o 62 a 37 acer. Rhannwyd Corbri a fu unwaith yn ddaliad sylweddol iawn, yn dri, yn 64, 97, a 107 acer, ond yn y ddwy fwyaf roedd y ffriddoedd a’r tiroedd anghynhyrchiol yn 39 a 41 acer, sy’n gwneud y tair Corbri tua’r un faint o dir cynhyrchiol. Roedd Cochwillan, wedyn, yn cael ei gosod fel dau ddaliad o 70 a 79 acer. Roedd hen diroedd Cochwillan wedi rhannu cyn hynny, gan i Dalybont Uchaf ddod yn rhan annibynnol ar y demesne canoloesol cyn 1750, o leiaf, pan oedd treth tir yn cael ei dalu’n annibynnol ar y tir. Rhannwyd Gwaun Gwiail yn 3 daliad, o 83, 43, a 46 acer, tra rhannwyd Ciltwllan, ar draws yr afon Gaseg, yn ddau ddaliad o 64, a 69 acer, tra’r oedd y trydydd ond yn farclodiad o 9 acer. Roedd Bryn Hafod y Wern, erbyn 1768, yn ddau ddaliad eithaf bychan, un o 34 acer, a’r llall yn 27 acer. Mae’r rhannu hwn yn hollol amlwg fwriadol mewn sawl achos, lle gwelir hen gaeau, neu ffriddoedd, oedd gynt yn rhan o’r daliad mwy gwreiddiol, wedi eu rhannu rhwng y daliadau newydd. Cymrwch ddau o ddaliadau Gwaun y Gwiail, y ddau gyda rhannau, (hanner, fel arfer ), yn perthyn i’r ddwy – Ffridd Newydd Wair, Ffridd Arw, Buarth lloiau, Cae Aber Afon, Cae Rhos, a Than yr Ysgubor. Neu beth am y ddau ddaliad mwyaf yng Nghiltwllan, sy’n rhannu Ffridd Isaf, Ffridd Ucha, Ffridd Eithin, a Chae’r Pant. Nid oedd y broses hon wedi darfod, ychwaith, oherwydd, rywdro cyn 1840, fe rannwyd 142 acer Cefnfaes yn ddwy fferm, Cefnfaes ( weithiau Hen Gefnfaes ) a Chefnfaes Newydd, gydag Owen Ellis a’i deulu yn y cyntaf, ( roedd y teulu wedi bod yn denantiaid Cefnfaes ers hanner canrif, o leiaf ), a’i frawd, Humphrey, a’i deulu yntau, yn y daliad newydd. Mewn achosion eraill, roedd daliad wedi aros yn un, ond fod mwy nag un tenant yn rhentu’r tir. Er enghraifft, pan wnaed arolwg o gyflwr rhai o ffermdai Stâd Penrhyn yn 1815/16, nodwyd am y Fedw fod 4 ty yno, pob un mewn cyflwr enbydus. Gallai un neu ddau fod yn dai i weision, ond mae’r sylw pellach
‘As the buildings of this farm are in so bad a state, it would be more advantageous to have but one tenant, and enlarge one of the houses, and build new farm buildings’,
mae’n amlwg nad un tenant oedd i’r fferm. Mae cofnodion trethi tir, wedyn, er nad yw’r rheiny yn gyflawn, nag yn lluosog, yn dangos fod mwy nag un person, yn aml, yn talu treth ar yr un tir.
Rhywbeth arall arwyddocaol i’w nodi gyda’r daliadau mwyaf o dros 100 acer, yw fod cyfran fawr o’r tir yn dir wâst, yn anghynhyrchiol, neu’n ffridd i bori defaid, sy’n gadael y tir cynhyrchiol yn faintioli gweddol debyg bob tro. Gwelwyd eisoes ddaliadau Corbri, Cefnfaes, a Thai’r Meibion. Fedw wedyn yn 115 acer, ond mae 57 o’r rheiny yn ffriddoedd. Pen y Bryn yn 110, ond gyda 47 acer yn dir wast. Ac mae’r un patrwm trwy’r plwyf; daliadau o dir cynhyrchiol ddim mwy na rhyw 60 acer, digon i un teulu fedru ei ffermio. Ac mae llawer o’r daliadau yn llawer llai – nifer yn 20- 30 acer (Mignant, Powls, Pant y Gwair, Tyddyn Ceiliog, Tyddyn Fertos, Ysgubor Newydd, Pentre Isaf, ac yn y blaen, ac yn y blaen). Fel yr eir yn uwch i fyny’r dyffryn, mae’r patrwm, o reidrwydd, yn dwysau, gyda mwy o dir gwael, ymylol, anghynhyrchiol, a llai o dir cynhyrchiol. Ym mhen uchaf y dyffryn, gwelir y patrwm canlynol yn y daliadau pellaf
Daliad Maint Ffriddoedd/ tir gwael Tir âr
Gwaun Gwiail 46 33 13
Gwaun Gwiail 43 22 21
Gwaun Gwiail 80 33 47
Ciltwllan 64 49 15
Ciltwllan 62 49 13
Tanygarth 75 28 47
Cymysgmai 61 24 37
Fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd y daliadau, fel ag yr oeddynt, rhwng 1760 ac 1840, yn bodloni gofynion y tenantiaid a’r ffermwyr gorau, yn bennaf oherwydd natur y tiroedd, fel y nodwyd uchod, ynghyd â’r patrwm tir.
Pan aeth Gwallter Mechain i Aber a Hendre Llanllechid rywdro cyn 1815 fe welodd
Fields belonging to different farms are here very much intermingled, and are moreover too small and irregular in their shape.
Y gwir yw fod olion daliadaeth tiroedd y Canol Oesoedd yn dal i ddylanwadu’n drwm ar batrwm y tir ganrifoedd wedi hynny. Ac roedd hynny’n arbennig o wir yn hendref Llanllechid, gyda nifer o ddaliadau, nad oeddynt yn ffermydd annibynnol, yn cael eu dal un ai’n rhannol, neu’n unigol gan denantiaid o ddaliadau eraill, nad oeddynt, bob amser, yn agos at y tir hwnnw tir. Ceir enghreifftiau o denant un daliad yn dal daliad arall nad oedd ar y terfyn â’i fferm gartref, ac, yn amlach, roedd ambell ddaliad wedi cael ei rannu rhwng sawl tenant. Roedd dal tiroedd eraill wedyn, a’r rheiny yn aml heb fod yn agos at y daliad cartref, yn digwydd yn aml gan ffermwr blaengar, nad oedd digon o dir cynhyrchiol yn ei ddaliad cyntaf i gynnal ei waith, na’i uchelgais.
Dyna’r caeau, wedyn, yn enwedig ar lawr gwlad yr Hendre, yn rhai bychain. Roedd hyn, eto, yn barhad o’r Canol Oesoedd, lle’r oedd y tir wedi ei rannu’n lleiniau yn ol faint y gallai un dyn eu trin. A dyna oedd sail nifer o gaeau’r Hendre ddiwedd y ddeunafwed ganrif.
Roedd Talybont a Dologwen yn un daliad o 76 acer o dir cynhyrchiol, ac roedd wedi ei rhannu’n 36 cae, cyfartaledd o rhyw 2 acer y cae. 12 acer oedd Llwyn Celyn, wedi ei rhannu’n 9 cae, 19 cae yn 40 acer Tyddyn Isaf, 11 cae mewn 18 acer Tyddyn Maes y Groes, 13 mewn 13 ym Mignant, ac yn y blaen. Ble’r oedd angen trin y tir, roedd y caeau’n fychain a hawdd eu trin gan un neu ddau o bobl.