Diwydiant ar Stad Coetmor


Fe dreuliodd R Williams Parry, y bardd o Ddyffryn Nantlle, fwy na chwarter olaf ei oes yn troedio tir Coetmor, gan iddo fyw yn Ffordd Coetmor, rhyw ganllath o safle’r hen blasty. Er iddo alw bro’i febyd, yn hollol addas, yn ‘ddyffryn diwydiannol’, mae’n sicr iddo dreulio llawer o’i oes mewn dyffryn mwy diwydiannol fyth. Er mai craidd diwydiant y ddau ddyffryn oedd chwareli llechi, yr oedd natur y diwydiant hwnnw yn wahanol, gyda nifer o chwareli canolig a bychan yn Nantlle, ac, yn y dyffryn arall, un chwarel enfawr, Cae Braich y Cafn, un neu ddwy gweddol fechan, sef Bryn a Phantdreiniog, a sawl un fechan iawn, nad oedd fwy na thwll arbrofi. Eto, afallai mai’r gwahaniaeth mwyaf oedd fod nifer o ddiwydiannau eraill yn Nyffryn Ogwen, oedd yn ei gwneud yn ardal ddiwydiannol brysur. Er nad oedd yr un diwydiant i’w gymharu gyda’r llechen las, yn eu tro bu yn y dyffryn ddiwydiant cerrig hogi, diwydiant ocar a phaent, callestr, ( gyda melin gallestr ym Melin Penylan ( y Felin Isa ) Llandygai, ym mlynyddoedd cynnar y 19G), ynghyd â threialon am gopr, manganis, a mwy (Os am drosolwg manwl o ddiwydiannau Dyffryn Ogwen, ni ellir gwneud yn well na darllen ysgrif o’r un enw gan yr hanesydd T M Basset, yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 1974, Rhif 35, tud 73-84) Yn gyffredinol, ar diroedd Penrhyn yr oedd yr holl ddiwydiant, gyda nemor ddim ar dir Coetmor, sy’n ddealladwy i raddau helaeth, oherwydd y gwahaniaeth mewn maint rhwng y ddwy stad. Fodd bynnag, mae’n rhyfeddol mai prin iawn yw olion diwydiant o unrhyw fath ar dir Coetmor, fel petai’n ynys wledig yng nganol ardal o ddiwydiant. Os tynnir ohoni Chwarel Llety’r Adar ( neu Chwarel Coed ), chwarel fechan weddol gynnar, twll llai, byrhoedlog Chwarel Dolgoch, a thwll llai fyth Tyn Ffridd/ Moel Faban, ac olion anghofiedig chwilio am gopr, yr unig olion eraill o unrhyw ddiwydiant yw olion amaeth, megis Melin a Phandy Coetmor, dwy safle â’u gwreiddiau mewn oesoedd cyn-ddiwydiannol, pan mai amaeth oedd frenin. Roedd Coetmor fel petai bwrlwm diwydiannol gweddill y dyffryn wedi ei hanwybyddu. Yn wynebu Coetmor, ar draws Ogwan, roedd morgrugfa Cae Braich y Cafn, gyda’r llwythi llechi cyson yn llifo i Borth Penrhyn, ar y terfyn dwyreiniol daeth Chwarel Pantdreiniog, ar y tir comin i’r gogledd, Chwarel Hafod y Bryn, ac ar derfyn Tyn Ffridd daeth Chwarel Tan y Bwlch. Nid oedd, hyd yn oed, aneddau’r chwarelwyr, na’r gwasanaethau ar eu cyfer, ar dir Coetmor, ond, yn bennaf ar dir perchnogion annibynnol Cilfodan, Caellwyngrydd, ac, o 1864 ymlaen, bentref Gerlan ar dir o eiddo Tan y Bwlch. Dim ond o’r 1880au ymlaen, ymhell wedi diflaniad yr hen stad, y datblygwyd tai ar dir Coetmor. Hyd y gwelir, yr unig dai cynnar â chysylltiad diwydiannol ar dir Coetmor oedd chwe thŷ bychan Dologoch, a godwyd yn yr 1830au ar gyfer gweithwyr y twll newydd, yr hen Dŷ Mwyn, oedd wedi ei godi ar lannau Ogwen ym Mharc y Moch yn negawdau olaf y 18G, ambell fwthyn ar dir yr achub, a rhes fechan o fythynnod ym Mryn Bella, bythynnod a chwalwyd oll, eithr un, pan grewyd llwybr i’r rheilffordd yn yr 1880au cynnar. Roedd Coetmor fel petai’n rhyw swigen amaethyddol yng nghanol byd o ddiwydiant.

Ond, fel y nodwyd, roedd ambell ddiwydiant wedi cyffwrdd y stad, ac fe drafodir hyn yn awr fesul un.

Copr

Pan ddaeth Richard Pennant i etifeddiaeth ei wraig, sef hanner stâd Penrhyn, yn 1765, roedd ganddo dri bwriad; un o’r rheiny oedd manteisio i’r eithaf ar unrhyw, a phob, adnodd naturiol oedd ar dir ei stâd. Fe ŵyr pawb amdano yn datblygu’r diwydiant lechi ar ôl iddo brynu hanner arall y stâd yn 1785 trwy brynu lesau’r chwarelwyr annibynnol unigol, a datblygu’r gwaith ei hun, ond nid mor wybyddus yw’r ffaith ei fod wedi ymchwilio i bresenoldeb adnoddau naturiol eraill ar ei dir cyn datblygu’r chwarel lechi. Dyn ei oes oedd Pennant, a’i oes oedd ail hanner y 18G, pan garlamai ton gyntaf y Chwyldro Diwydiannol yn ei blaen. Roedd Pennant yn byw yn y cyfnod pan osodwyd y seiliau i Brydain arwain diwydiant y byd, ac yr oedd datblygiadau diwydiannol ym mhob cyfeiriad, o weithgynhyrchu i ddarganfod, a defnyddio, mwynau ac adnoddau naturiol o bob math. I ddeall Pennant, ac i ddeall datblygiad Dyffryn Ogwen yn y cyfnod, mae’n rhaid deall yr oes yr oedd ef yn byw ynddi.

Rhag inni ddyrchafu Richard Pennant i ryw bedestal meseianaidd yn llusgo Dyffryn Ogwen gyntefig wledig i ferw chwyldro diwydiannol ail hanner y ddeunawfed ganrif, rhaid inni frysio i nodi nad Pennant oedd y cyntaf yn y Penrhyn i fod â diddordeb mewn mwynau ar y tir. Noda Basset ( ibid 73-74 ) fod etifeddion dau hanner y Penrhyn, Syr Hugh Warburton, a Syr George Young, yngyhyd ag eraill, yn archwilio am fwyn copr yn Nyffryn Ogwen, gan gynnwys ar dir Dinas. Ymddengys fod un llwyth o gopr wedi gadael y dyffryn cyn i’r fentr honno ddod i ben. Dywed Basset fod ‘ ymdrech deg wedi cael ei gwneud yma yn y blynyddoedd 1760-70’. Daethpwyd â mwynwyr o Gernyw yma ac ‘ ni ddiffoddodd canhwyllau nos na dydd am saith mlynedd’  ( HllaLl t 132 ). Mae’n amlwg, os gwir hyn, fod y canhwyllau hyn ynghyn ar lannau Ogwan pan ddaeth Richard Pennant i’r ardal, a pharhau wedyn.

Roedd y gwythiennau copr ar dir Dinas yn parhau ar lan Coetmor o’r afon, ac, wrth sôn amdanynt, mae William Williams yn nodi

These veins cross the river to Coetmor Demesne, where a spirited trial was made between the years of 1760 and 1770, and a good deal of ore, both copper and lead, dug out of the place, but not so much as enabled the adventurers to pocket any profit…. However it is not impossible that a great deal of ore is lodged inside the bowels of it (sef y graig ar lan yr afon). 

( Observations on the Snowdon Mountains t PFA/114/330   Coytmor Sep 1796 tud 122-13)

Fe wnaed gwaith cychwynnol pur sylweddol ar dir Coetmor ar lan Ogwan, a gwelir y gwaith o hyd ar lan yr afon, ychydig yn is na thai Parc Moch. Mae’n bwysig nodi nad estyniad o’r treialon ar dir Dinas oedd y gwaith hwn, ond gwaith arall, annibynnol

‘I mentioned as to the Copper Mines that Dr Lloyd & Co had not made sufficient Tryal in the Places where they had got one, particularly on the tenement called Dinas, which i take to be the most promising place. The same vein appears on the other side of the river in Mr Pugh’s land, which Mr Richardson of Chester has a lease, & tho’ he opened the mine, and got a good deal of ore in it, he desisted from proceding, and yet he applied for a lease of the same vein in the Penrhyn estate, in the Tenement called Dinas’

(Samuel Wright, 1769 i John Pennant PFA/14/313)

Roedd Wright, oedd â’i swyddfa yn Knutsford, Swydd Caer, yn asiant i John Pennant, tad Richard, perchennog hanner y Penrhyn hyd ei farwolaeth yn 1781.

Mae’n amlwg mai Pugh, ( Edward, y tad, gan mai yn y 1760au yr oedd hyn ), oedd yn weithredol yn y cytundeb hwn, ac nid yw llythyr Wright yn awgrymu sail i honiad HDH am anghydfod gyda’r aerod, er nad yw’n nacáu posibilrwydd hynny ychwaith; yn wir, mae’r hanner syndod a fynega fod Richardson yn ceisio am les ar lan Dinas i’r afon yn awgrymog fod rhywbeth heblaw diffyg mwyn yn gyfrifol am roi’r gorau i’r gwaith. Rroedd ‘na dŷ wedi ei godi ger glan yr afon ar dir Coetmor ar gyfer y mwynwyr, sef tŷ yr oedd Pugh yn derbyn rhent o £1.4.6 amdano yn 1794, a thŷ y troes ei enw ( yn ysgrifenedig, beth bynnag ), yn hanner Cymraeg a hanner Saesneg cyn diwedd y ganrif, gan gael ei gofnodi fel Tŷ Moon. Erys y bwthyn yno, o dan yr enw hwnnw, tan ganol y ganrif, gan ymddangos mewn dau Gyfrifiad, ond, mae’n amlwg mai ymdrech gan Sais i wneud synnwyr o enw Cymraeg ydy’r Moon, gan mai’r ffurf Gymraeg oedd Tŷ Mwyn. Mae map bras cynnar yn dangos bwthyn yn yr ardal ble mae’r hen reilffordd rhwng Bryn Bella, Parc y Moch, ac Ogwan. Nid yw’r bwthyn yno ers dros ganrif a hanner, ond, yn ôl perchennog y Tŷ Mwyn presennol yn Rachub, fe symudwyd yr enw a’i roi ar dŷ yng Nghaellwyngrydd, ble’r erys, yn atgof, os gwir y stori, o gloddio am gopr ar dir Parc y Moch ddwy ganrif a hanner yn ôl. Mae’n amlwg nad oedd T M Basset yn ymwybodol o’r hanes am symud yr enw, oherwydd mae ef yn dweud fod 

enw Tŷ Mwyn heb fod ymhell [ o chwarel Tyn y Ffridd ] yn awgrymu fod rhywun rhywdro wedi bod yn cloddio yn y cyffiniau’  ( TCHS Cyf 35 tud 77 ). 

Beth bynnag, yn ôl at y copr. Rheswm gwahanol i un William Williams am orffen cloddio a rydd T M Bassett ( TCHS 35 tud 79), gan ddilyn HDH, sef mai anghydfod gyda Choetmor oedd achos diwedd ar y chwilio am gopr ( ‘anghydwelediad rhwng rhai o’r cymerwyr ag aerod Coetmor’ HllaLl tud 132). Beth bynnag, dod i ben a wnaeth, a hynny bron cyn cychwyn, ac nid erys ond craith ar lan Ogwan, craith sydd yn anodd ei gweld heddiw, ac sydd bron wedi mynd yn angof.

Llechi
 
Nid oes angen dweud mai’r diwydiant llechi roddodd fodolaeth i Fethesda a’r pentrefi eraill yn Nyffryn Ogwen, diwydiant o olygodd fod poblogaeth y ddau blwyf, Llandygai a Llanllechid, wedi chwyddo’n syfrdanol o ychydig gannoedd yn 1780 i 12,500 yn 1881. Roedd y mwyafrif llethol o’r diwydiant wedi ei ganoli ar un chwarel, sef Cae Braich y Cafn, ble gweithiai dros 3000 o bobl pan oedd ar ei hanterth, ond roedd chwareli eraill, hefyd, yn y dyffryn, un neu ddwy, megis Chwarel Bryn Hafod y Wern , a Phantdreiniog, o faint parchus, ond nid yn yr un wlad, heb sôn am yr cae, â’r chwarel fawr yr ochr arall i Ogwan. Roedd nifer o chwareli eraill nad oeddynt nemor dyllau i chwilio am y llechen las, a barhaodd am ychydig yn unig, gyda llawer mentrwr yn rhoi’r ffidil yn y to yn weddol fuan, un ai oherwydd diffyg arian, neu ddiffyg carreg, neu’n aml y ddau ddiffyg. Mae tyllau o’r fath i’w gweld yma ac acw ar lethrau Llanllechid ( ar dir nad oedd yn eiddo i’r Penrhyn, wrth gwrs ), neu ar y mynydd agored, pob un yn dyst i farwolaeth breuddwyd. 

Roedd tair chwarel ar dir Coetmor.

  1. Llety’r Adar 

Wrth i rywun ddod i mewn i Fethesda ar yr A5 o gyfeiriad Bangor, mae’n mynd trwy hen chwarel Llety’r Adar, gan fod yr A5, y tai o boptu’r ffordd, a’r ardal i’r de o’r ffordd ble mae’r Feddygfa, a’r hen orsaf, i gyd ar safle’r hen chwarel a’i thomennydd. Mae ei chlogwyni i’w gweld y tu ôl i dai Rhes Penrhyn, ac ar hyd ochr Lôn Newydd wrth fynd i fyny’r allt. Mae hanes cynhwysfawr a manwl yr hen chwarel gan Dr John Llywelyn Williams ar ei safwe Hanes Dyffryn Ogwen, a rhyfyg fyddai ceisio ychwanegu at y gwaith arbennig hwnnw, felly dylid cyfeirio unrhyw sylw i’r erthygl hwnnw.

  • Chwarel Dolgoch

Prin fod y twll hwn yn teilyngu’r enw ‘chwarel’ ond mae iddi chwiorydd llai yn mynnu’r un enw. Wrth ddod i mewn am Fethesda ar yr A5 o gyfeiriad Bangor, rhyw ganllath wedi mynd heibio Brynbella, ar y chwith cyn y tro yn y ffordd, gellir canfod twll sylweddol wedi ei lenwi â dŵr yn y coed ar fin yr A5, hon yw hen chwarel Dolgoch. Ychydig yn nes ymlaen gwelir rhes o hanner dwsin o fythynnod, y rhain yw Dolgoch, a bythynnod ydynt a godwyd yn yr 1830au fel cartrefi i weithwyr y chwarel gyfagos. Cymrodd y chwarel a’r bythynnod eu henw oddi wrth daliad bychan o dir, o eiddo Coetmor, oedd yn ymestyn ar hyd Ogwan o Barc y Moch hyd at  Dôl Ddafydd; hyd yn weddol ddiweddar cyfeirid at yr holl dai, sydd heddiw’n arddel yr enw Ffordd Bangor, fel Dolgoch.

Dywed HDH ( HllaLl tud 128 ) i’r chwarel gael ei chychwyn gan Robert Dafydd Parry o’r Pant, a John Jones, Wern Afr, tua 1836, gan ei gweithio am ddwy flynedd, cyn ildio’r les, a gymrwyd gan ryw Sais o’r enw North. Methodd yntau’n ariannol, a chymrwyd y chwarel gan Sais arall, Simon Cox, ac fe fu ef yn ei gweithio’n llwyddiannus am wyth mlynedd, cyn marw. Cymrwyd hi, wedyn, gan gwmni o Lerpwl, a fu’n ei gweithio’n fuddiol am ddwy flynedd, ond yna bu ymrafael rhyngddynt, a rhoddwyd y gorau i’r gwaith. Dyna ddiwedd y chwarel, ac, yn ôl HDH, fe lanwodd â dŵr. Byddai hyn yn gosod diwedd y chwarel heb fod yn hwyrach nag 1850. 

Fodd bynnag, nid yw’r ddogfennaeth sydd ar gael yn cytuno gyda chronoleg HDH. Byddai dilyn Hughes yn golygu i’r criw o Lerpwl gymryd les y chwarel yn 1846 gynharaf, ond, ym mhapurau Carter Vincent ( CV 2714 ) gwelir y cytundeb canlynol ar ran Iarll Egmont

1/1/1839 Lease of Slate Quarry, part of Coytmore Estate Commencing Lady Day 1838 for 33 years to John Hughes and others – John Williams, Lancaster,Draper, Peter Leicester ( Gent) Chester, John Fletcher, Toxteth, 

ac eraill o ardal Lerpwl

Rhaid derbyn mai’r rhain yw’r criw o Lerpwl y mae HDH yn cyfeirio atynt fel y rhai olaf i weithio Dolgoch, er mai gŵr o Lanrwst oedd y John Hughes sydd flaenaf yn y cytundeb. Canlyniad hynny, os cywir yw cronoleg cyffredinol HDH, fyddai symud holl oes Chwarel Dolgoch bron i ddegawd yn gynt. Beth bynnag, byr iawn fu oes y chwarel, llai na phymtheg mlynedd.

Chwarel Tyn y Ffridd

Ychydig iawn a wyddys am y gwaith bychan hwn, ar wahân i gyfreithwyr stâd Coetmor, yn 1818, pan oedd ym mherchnogaeth y Parch William Coytmor Wynn, hysbysebu prydles Chwarel Tyn y Ffridd, gan dynnu sylw at bosibilrwydd gweithio copr a phlwm yn y cylch, ond nid oes tystiolaeth i neb gymryd y brydles ( Basset THSG 35 tud 77). Mae’r olion presennol yn dangos mai un o’r treialon gweddol byrhoedlog aflwyddiannus fu’r chwarel hon, fel nifer o rai cyfagos iddi

Coed

Pan sonnir am ddiwydiant yn Nyffryn Ogwen, ni sonnir o gwbl am dorri ac allforio coed, fel na bai hynny wedi digwydd yn yr ardal. Yn wir, aethpwyd i gredu mai un o gyflawniadau mawr Richard Pennant, dros ei ddeugain mlynedd yn y Penrhyn, oedd plannu coed mewn ardal ddisgysgod, ac roedd hynny, i raddau,yn hollol wir

The late Lord Penrhyn was ….. a great planter  ….. His Lordship began planting on his Caernarvonshire estate about the year 1780, and from that time to the year 1797, he had planted upon an average  between 35,000 and 36,000 trees every year, amounting in the whole, to 600, 000, exclusive of old woodlands enclosed and preserved, where trees spring from old stock’

( General View of the Agriculture and Economy of North Wales Walter Davies [Gwallter Mechain ] 1815 tud 234-5)

Ond nid un i dorri cnau gweigion, na phlannu coed er mwyn rhoi cysgod i wartheg yr uchelderau, oedd Richard Pennant, ond rhywun a wnai bopeth i bwrpas. Mae tystiolaeth fod torri, gwerthu, ac allforio coed i drefi Lloegr yn rhan bwysig o economi’r Penrhyn, yn arbennig yn negawdau olaf y 18ed ganrif. Yn un o lythyrau Samuel Wright 28 Rhag 1768 ( Gweler Copr, uchod, am Wright ), nodir 

‘we have appointed to begin to set out the timber ……the timber for sale to the amount of £500…..they might in  a few days mark the rest of the timber standing near Penrhyn with white lead, and … put  a value on each tree (PFA/14/313}

Roedd y coed a fercid gyda’r plwm gwyn i’w cadw ar gyfer unrhyw angen a godai o gwmpas y plas. 

Mewn llythyr arall mae Wright yn nodi Mawrth 1, 1769 fel 

‘ the day appointed for the sale of the timber’   (PFA/14/313)

Ac mewn llythyr wedi’r gwerthu, dyddiwyd 15 Mawrth 1769, dywed Wright

I got thither before the sale of the timber ….I attended and assissted in the sale …. of it to one Mr Rich’d Jackson for the use of himself and Mr Armandy and Co Timbermerchant at or near Whitehaven   … bid the six hundred pounds…. The valuers will finish the marking with whitlead and valuing the timber at the house of Penrhyn the next week, and I expect it will amount to Two thousand Pounds, besides great quantities of timber in other places which will be a sufficient supply

Tra yn Ionawr 1776 mae Wright yn ysgrifennu i John Pennant

I have not succeeded in selling the timber I put up to auction on Tuesday last at one thousand guineas – the highest bid being £951

Fodd bynnag, roedd newyddion gwell ganol Chwefror

I have made a contract for sale of the timber marked for sale at Penrhyn for one thousand pounds , subject to a deduction of ten guineas returned to them [y prynwyr, John Lewis & Co]…. To be paid at Christmas 1778 and Christmas 1779 [ibid]

Rwan, mae gwerth mil o bunnau o goed yn y 1770au yn gryn dipyn o goed. Amcangyfrifwyd fod un acer o goed, wedi costau, yn cynhyrchu 14 swllt o bren yn y cyfnod ( The Price History of English Agriculture 1209-1914 tud 13 G Clark 2003 ), felly byddai ymhell dros fil o aceri o goed wedi eu torri i gynhyrchu’r coed yr oedd Wright yn ei werthu yn Lloegr yn 1778. Yr oedd galw cynyddol am goed adeiladu yn y trefi newydd oedd yn tyfu’n gyflym yn Lloegr y cyfnod, yn ogystal ag mewn gweithfeydd newydd. Yn ogystal âg allforio coed i Loegr, yr oedd angen am goed ar gyfer y stâd ei hun, ynghyd â’r chwarel newydd a fyddai’n datblygu ymhen ychydig flynyddoedd. Er fod cynllun plannu coed ifanc ar waith yn y Penrhyn

‘I wrote to William Williams to proceed in planting some of the largest ashes and sycamore out of the nurseries into Nant y Gynnau ……. The Pennants sending a much greater quantities of seedling plants to Penrhyn ….

(Wright 15/12/1773  ibid )

y diffyg mwyaf oedd fod coeden yn cymryd tua phum mlynedd ar hugain cyn y byddai’n barod i’w thorri, felly roedd angen cyflenwad newydd yn rheolaidd. 

Yn 1777 ac 1778 noda Wright fod y Penrhyn wedi gwerthu tri phentwr o goed am gyfanswm o £741. Roedd coed yn fusnes proffidiol i’r Penrhyn yn y blynyddoedd hyn, felly, ond roedd problem cyflenwad, fel y gwelwyd. Fodd bynnag, roedd un rhan o’r ardal oedd efo coedwig fawr, yn wir, wedi cael ei henwi oherwydd y coed. Fe gofiwn ddisgrifiad Thomas Pennant yn niwedd y 1770au o’r plas yng nghanol y coed; erbyn 1810, pan aeth Gwallter Mechain ar ei daith o gwmpas siroedd Gogledd Cymru er mwyn ysgrifennu adroddiad ar gyflwr amaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1815, dyma’i sylw yn yr adran ar goed Sir Gaernarfon

Few years ago there were silver fir trees at Coedmor, near Nant Ffrancon measuring eight feet circumference

General view of agriculture …. North Wales  Walter Davies cyh 1815 tud 234)

Roeddynt bellach wedi mynd. Roedd angen coed ar Richard Pennant, i’w gwerthu, ac i’w defnyddio, roedd angen arian ar Coytmore Pugh, ac roedd ganddo ddigonedd o goed mawr. Ym mis Tachwedd 1794 mae rhywun o Ddulyn, John Bunn, yn ysgrifennu i Wyatt yn nodi fod coed yn cael eu torri ar dir Coetmor heb hawl cyfreithiol, a bod yr ymatal  prevented a further depredation of the felling of timber being carried out

Fodd bynnag, mae’r torri’n parhau; ar Ionawr 25, 1796, nodir ym mhapurau’r Penrhyn fod  torri coed yn digwydd ar Ffridd, Bryn Crach, Coyd Mawr Isaf, Cae’n drws, Caen Ffynnon, front the hows,  a bod nifer helaeth o Scotch firymhlith y rhai a gwympwyd; mae’n sicr mai’r rhain yw rhai o’r rheiny yw’r rhai mae Gwallter Mechain yn sôn amdanynt ugain mlynedd yn ddiweddarach. Tua’r un pryd mae cofnod o daliad gan Arglwydd Penrhyn i Robert Pritchard a John Williams 

‘ for drawing 10 +half tons of timber from Coytmor to Rachub at 3s per ton = 1/11/6

Mae’n amlwg fod rhyw drefniant rhwng Pugh a’r Penrhyn ynglŷn â’r coed. Mewn llythyr, nodweddiadol ddiddyddiad, gan Pugh i Wyatt, mae’n nodi

I am very sorry that I was not at home on Monday when you called ….. as I should then have desired you not to suffer William Pritchard to have the fir trees you mention as I want them for my own use to mend the Barn Doors, the Lower Stable, the Gate as you come into the woods.

Beth bynnag am unrhyw gytundeb rhwng y Penrhyn a Pugh, y canlyniad fu dileu’r goedwig o goed mawr a roddodd ei henw i stâd Coetmor, fel mai’r unig goedwig sydd ar ôl heddiw ar dir yr hen Goetmor yw Parc y Moch.