Melinau Dyffryn Ogwen 1. Cefndir

Dyma’r math o felin fyddai yn Nyffryn Ogwen oes a fu

Roedd y felin yn hanfodol i gymdeithas amaethyddol hyd at yn weddol ddiweddar, oherwydd dyma’r dull o droi grawn yn flawd, sydd, yn ei dro, yn cynhyrchu deunydd bwytadwy i ddyn ac anifail, a hynny yw prif bwrpas tyfu cnydau gwynion. Heb falu, nid yw’r grawn yn dda i ddim ond fel had ar gyfer y cnwd nesaf. Gellir cyflwyno dadl gref iawn mai datblygu ydau gwylltion roddodd derfyn ar drefn hela-a-chasglu, a dulliau mudol byw y pobloedd cynnar, oherwydd roedd angen aros yn yr un lle am gyfnodau estynedig i dyfu a chynaeafu ydau. Arweiniodd aros yn yr un lle at ddatblygu aneddau parhaol, yna adeiladau cysylltiedig, gan arwain at bentrefi, ac yna drefi a dinasoedd poblog. Dair mil a mwy o flynyddoedd cyn y cyfnod modern roedd degau o filoedd yn byw yn ninasoedd Mesopotamia, dinasoedd megis Ur ac Uruk, tra’r oedd dros 50,000 yn byw yn Mohenjo-daro yn nyffryn yr Indws. Er fod cymdeithas wedi datblygu ymhell o’r ffermwyr cyntaf erbyn hynny, yr oeddynt yno oherwydd fod cnydau grawn gwylltion wedi eu dofi rai miloedd o flynyddoedd ynghynt. Ac, er bod y dinasoedd mawrion hyn yn yr hen fyd yn cael y rhan fwyaf o’u cyfoeth o fasnach a chrefftau, eu sail, o hyd, oedd ffermio ac amaeth, oherwydd mai hynny oedd yn rhoi sylfaenion bywyd iddynt, sef bwyd a diod, ac yd yn benodol.

Prif bwrpas yd, wrth reswm, oedd malu’r grawn i gael blawd, er mwyn gwneud bara, eilbeth oedd y gwellt a roid yn fwyd i’r anifeiliaid, ynghyd ag ambell ddefnydd domestig. Mewn cymdeithasau cynnar fe felid y grawn gan y gwragedd ar eu haelwydydd trwy osod grawn ar garreg wastad a’i guro gyda charreg arall. Mewn amser, datblygwyd hyn i gael llestr powlennog o garreg, a charreg gron i wasgu’r grawn a’i falu, ac fe geir hyd i offer o’r fath mewn beddau cynnar, wedi eu gosod yno fel hanfod i’r ymadawedig yn y byd nesaf. Yr enw ar y felin llaw hon, y bowlen a’r garreg forter, oedd y ‘breuan’.

Breuan: gosodid y grawn yn y bowlen, ac fe’i melid gyda’r garreg mewn llaw

Gan mai bychan oedd y breuan, y datblygiad nesaf oedd cael dwy garreg fwy, gyda braich yn yr uchaf fel y gellid ei throi, eto gyda llaw, gan falu’r grawn a roddid rhwng y ddwy garreg

Datblygiad y breuan – troid y garreg uchaf gyda’r goes bren

Fel gydag unrhyw broses oedd yn hanfodol i fywyd, rhaid oedd cael rhywbeth oedd yn cynhyrchu mwy o flawd, efallai digon i fwy nag un teulu, neu, os yn bosibl, i gymuned gyfan. Cafwyd  carreg bowlennog fwy, gyda charreg falu fawr yn cael ei throi yn y bowlen trwy gyfrwng coes o bren. Gelwid y melinau hyn yn ‘felin ceffyl/ asyn’, neu’n ‘felin caethwas’, gan mai’r anifeiliaid truan, neu gaethwas, oedd yn cerdded yn ddiddiwedd o gwmpas y felin, gyda’r fraich  bren. Mae tystiolaeth o’r math hwn o felin mor gynnar â’r ganrif gyntaf cyn Crist yn yr hen fyd.

Yn y darlun hwn gwelir asyn a chaethwas yn troi’r felin; gan amlaf, caethweision neu asynnod a ddefnyddid

Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o gymdeithasau cynnar a chanoloesol roedd teuluoedd unigol yn dal i falu eu grawn eu hunain ar eu haelwydydd. Roedd hyn yn wir am yng Nghymru. Mae corff enwog o gyfreithiau Cymru sy’n mynd dan enw Cyfraith Hywel Dda, yr honnir iddynt gael eu trefnu gan y brenin hwnnw o’r nawfed a’r ddegfed ganrif, ond sy’n fwy tebygol o fod yn gasgliad ychydig yn ddiweddarach o arferion cyfreithiol dros y canrifoedd gan gymryd ei enw ef er mwyn awdurdod. Beth bynnag am hynny, un o nodweddion unigolyddol y cyfreithiau Cymreig, o’u cymharu â chyfreithiau cenhedloedd eraill y cyfnod cynnar, yw’r statws a’r hawliau cyfartal a roid i ferched. Mewn achos o ysgariad, er enghraifft, roedd eiddo pâr priod yn cael ei rannu’n gyfartal, ac fe roddir cyfarwyddiadau manwl pwy oedd i gael beth. Un o’r rheiny oedd y felin law; rhennid honno rhwng y gwr a’r wraig, gydag ef i gael y garreg uchaf, a hithau i gael y garreg isaf. Efallai fod arwyddocad ym mhwy oedd yn cael pa garreg, ynghyd â’r ffaith nad oedd y felin, fel y briodas hithau, yn weithredol pan fyddai’r ddwy garreg yn mynd i gyfeiriadau gwahanol.

Gydag amser, yn sicr, cyn oes Crist, fe ddatblygwyd malu grawn yn weithgaredd cymunedol, yn cael ei wneud mewn un lle, a chan un dyn. Adeiladwyd melinau, ble’r oedd dau faen mawr, crwn yn troi yn erbyn ei gilydd, gan falu’r grawn yn flawd. Roedd y melinau hyn, am ganrifoedd, yn rhai oedd yn cael eu gyrru gan ddwr, ac, er bod cyfeiriadau lled-storïol amdanynt, ni chofnodwyd y felin wynt cyntaf tan 1191, a honno yn Bury St Edmunds yn Lloegr. Roedd y melinau gwynt hyn yn drwsgl, ac yn  anodd iawn eu trin, gan fod angen troi’r holl felin yn awr ac yn y man i ddal y gwynt pan newidiai gyfeiriad. Eto,y rhain fu’r unig fath o felin a yrrid gan wynt am bum canrif, gan na ddatblygwyd y felin wynt, fel y gwyddom ni amdani, tan tua 1595, a hynny yn yr Iseldiroedd.

Melin wynt y Canol Oesoedd: byddai raid troi’r rhan uchaf i dderbyn y gwynt pan chwythai o gyfeiriad arall.

Mewn ardaloedd mynyddig, ble’r oedd afonydd cyflym, doedd dim problem fawr cael ynni dwr, ar wahân, efallai, ar gyfnod o sychder eithriadol. Weithiau, fe geid olwyn ddwr yn yr afon ei hun, â’i hechel yn gyrru’r peirianwaith oedd yn troi’r meini malu, ond roedd hynny yn annoeth, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, roedd angen ffynhonnell cyson o ddwr i droi’r olwyn, ac mae afon, yn enwedig afon fynyddig, yn anwadal iawn ei llif, gyda gormod, neu rhy ychydig, o ddwr i droi’r olwyn ar wahanol adegau. Yn ail, ac yn beryclach i’r olwyn, mae afonydd mynyddig yn aml mewn lleif chwyrn a a nerthol, llif a fyddai’n ysgubo’r cadarnaf o olwynion o’r neilltu. Gan amlaf, fe fyddai cafn dwfn yn cael ei gloddio ger yr afon, gan ail-gyfeirio rhan o lif yr afon iddo, ac allan ohono, gan sicrhau llif cyson o ddwr, a byddai’r olwyn yn y cafn hwnnw, yn cael ei droi gan y llif trwy’r cafn. Weithiau, er fod y felin ger afon, weithiau ar ei glan, deuid â dwr i yrru’r olwyn o rywle arall yn yr afon, neu o ffynhonnell hollol wahanol. Er enghraifft, roedd y Felin Isaf, Melin Penylan, yn cymryd ei dwr o Ogwan gryn bellter o’r felin ei hun, ac yn ei ollwng yn ei ôl i’r afon, oedd gerllaw’r felin. Roedd melin Coetmor ar lan Ogwan, ond roedd yn derbyn dwr i yrru’r olwyn o Ffos Fawr Coetmor, oedd wedi ei hail-gyfeirio rai cannoedd o lathenni o’i llwybr gwreiddiol. tra gwelir hanes diddorol i’r dwr a yrrai’r Felin Hen yn yr adran ar y felin honno. Mewn ardal lle nad oedd ffynhonell ddwr addas, gellid creu ffynhonell, fel ar gyfer Felin Hen, neu gyrrid y felin gan ynni naturiol y gwynt; oherwydd prinder afonydd cyflym eu llif, melinau gwynt oedd yn gyffredinol ar Ynys Môn, gan fod llawer o wynt, a hwnnw’n eithaf cyson, yn chwythu ar draws yr ynys. Ar un adeg yn y 19eg ganrif, roedd 49 o felinau yn weithredol ar yr ynys, a gwelir rhai ohonynt o hyd, yn dyrrau amlwg ar y gorwel, ond dim ond un sy’n weithredol bellach, ac mae sawl un arall wedi ei throi’n annedd.

Roedd y melinydd yn rhan bwysig o’r gymdeithas am ganrifoedd, ac yn grefftwr hanfodol. Dyma ichi Hugh Evans yn ei gyfrol hunangofiannol bwysig Cwm Eithin ( Gwasg y Brython 1931 ) yn sôn am ei ardal ef yng ngogledd Meirionnydd a de Dinbych yn ail hanner y 19eg ganrif, ardal amaethyddol lwyr, a hollol hunan-gynhaliol.

Dynion pwysig yng Nghwm Eithin oedd y craswr a’r melinydd’ (ibid tud 118)

Mae’n disgrifio’r broses yn fanwl, gan nodi diwrnod mor bwysig oedd y diwrnod silio a’r malu i’r ffermwyr unigol. Ar ôl mynd â’r blawd adref

Cedwid y blawd ceirch mewn cist dderw hynafol. Stwffid ef yn galed a chadwai am hir amser, ac aml y cleddid ham neu ddau yn ei ganol, y lle gorau posibl i gadw ham wedi ei sychu. ( ibid tud 119)

Nid bob amser yr oedd y melinydd yn denant y felin, gan y gallai un person cymryd mwy nag un felin ar rent, ac yna cyflogi melinydd ym mhob melin. Yn wreiddiol roedd hyn â’i wreiddiau yn yr hen ddull canoloesol o ‘ffermio’, trefn ble byddai perchennog rhyw gyfleuster neu’i gilydd yn cymryd tâl blynyddol am y cyfleuster gan ‘ffermwr’ a hwnnw, yn ei dro, yn is-rentio’r gwaith i arall, neu’n cyflogi rhywun i wneud y gwaith neu, gydag ambell swydd, yn gwneud y gwaith ei hun. Mantais hyn i’r perchennog oedd cael swm cyson o arian, heb orfod gwneud dim amdano, mantais i’r ‘ffermwr’ fyddai’r elw ariannol rhwng yr hyn a gâi gan yr ‘is-rentiwr’, neu’r arian a enillai ef yn uniongyrchol, a’r swm yr oedd ef yn ei. I roi enghraifft, roedd pob fferi ar y Fenai, ar wahân i Fferi’r Esgob, yn nwylo’r brenin. Byddai ef, neu, yn hytrach, ei swyddogion, yn ‘ffermio’r’ fferi am dymor penodedig, a allai fod yn rhywbeth o chwe mis i nifer o flynyddoed, ac yn derbyn un swm penodol, neu nifer o symiau cyfnodol, ymlaen llaw. Yn aml, byddai un person yn ‘ffermio’ mwy nag un fferi, neu fwy nag un swydd, gan is-ffermio pob un. Roedd y dull hwn yn cael ei ddefnyddio gyda bron iawn pob swydd yn y Canol Oesoedd, a’r Canrifoedd Modern Cynnar, gan gynnwys casglu trethi. Mae’n debyg mai’r egwyddor y tu ôl i’r dull ‘ffermio’ oedd fod pawb yn y gadwyn yn gorfod sicrhau elw, a bod popeth yn gweithio’n well wedyn, na phe byddid ond yn cael gweision cyflog. Roedd y dull hwn yn gweithio gyda melinau’r Penrhyn yn y 19eg ganrif, hefyd, gan eu bod yn cael eu rhoi gyda’i gilydd ar rent. Yng nghanol y ganrif, er enghraifft, dyn o’r enw Griffith Thomas, Penylan, oedd yn rhentio’r Felin Hen, a’r Felin Isaf; mae’n debyg mai ef ei hun oedd yn gweithio’r Felin Isaf, neu Melin Penylan, fel y’i gwelid, tra’r oedd melinydd o’r enw John Rogers yn gweithio iddo yn Felin Hen. Yng Nghyfrifiad 1851 disgrifir Griffith Thomas fel ‘farmer of 60 acres and miller employing 6 labourers’. Un o’r labourers hyn oedd David Owens, 26 oed, sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘mill carrier’, sef rhywun oedd yn cario yd i’r felin a blawd oddi yno. Diddorol, hefyd, yn yr un cyfrifiad fod saer melinau o’r enw John Huxley, genedigol o Lerpwl, yn byw yn yr Iard Isaf, sef yn y tai o gwmpas y felin. Roedd saer melinau yn gwneud popeth gyda melinau, eu codi a’u cynnal a’u cadw, yn ogystal â datblygu i fod yn beiriannydd yn y 19eg ganrif. Mae’r ffaith ei fod yno yn dangos fod digon o waith ar ei gyfer yn yr ardal. Un o’r tasgau a wneid yn rheolaidd oedd newid y meini malu. Roedd dau faen mawr crwn, gyda’r uchaf yn troi ar yr isaf, gan falu’r grawn oedd rhyngddynt wrth droi. Gallai’r melinydd amrywio’r lled rhwng y ddwy garreg yn ôl beth oedd ei angen, a’r math o rawn oedd yn cael ei falu. Nid wyneb gwastad oedd i’r cerrig, gan y byddid yn gwneud rhychau, neu bantiau, gyda chŷn, ynddynt, fel eu bod yn fwy garw ar gyfer y malu. Er mor fawr y cerrig, ac mor fân y grawn, oes gweddol fer oedd i’r meini, a byddai angen eu newid bob rhyw dair blynedd. Y rheswm am hynny, mae’n debyg, oedd y ffrithiant cyson oedd rhwng y cerrig tra’n troi, ond pwysicach oedd mai carreg galch oedd deunydd meini melin, ac roedd honno yn un o’r cerrig meddalaf sydd ar gael, a hynny oherwydd mai gwaddodion cynoesol cregin creaduriaid y môr oedd ei deunydd, ac nid gwaddodion pridd a mwd, sy’n gwneud cerrig caletach. Yn achos melinau Dyffryn Ogwen, nid oedd rhaid mynd yn bell pan oedd angen meini newydd, gan fod chwareli pwysig yn cynhyrchu meini melin yn Llanbedrgoch a Phenmon, a hynny ers y Canol Oesoedd, pryd yr allforid meini melin o Fôni rannau o Loegr, a chyn belled â Ffrainc. Mae papurau’r Penrhyn o’r ddeunawfed ganrif yn dangos pryniant meini o Fôn.

Yn y dalennau sy’n dilyn byddwn yn edrych ar y gwahanol felinau oedd yn Nyffryn Ogwen, ond ni fyddwn yn crybwyll tair melin arall oedd yn agos iawn at y dyffryn, sef y tair oedd ar afon Cegin, sef Felin Uchaf, Pentir, Melin Coed Hywel, ger Glasinfryn, a Melin Esgob ar dir Maesgeirchen. Mae’r ffaith fod 7 melin o fewn milltir neu ddwy i’w gilydd yn dangos yw pa mor bwysig oedd y felin mewn oes a fu, a faint o waith oedd iddynt, ond mae ffactor arall i’w ystyried, sef y tirfeddiannwr. Roedd yn rhaid i denantiaid y Penrhyn ym mhlwyf Llanllechid, er enghraifft, ddefnyddio’r Felin Uchaf, sef Melin Cochwillan, ac mae’n amlwg pwy oedd yn defnyddio Melin Coetmor. Mae’r Felin Hen, hithau, yn dangos ei bod, ar un adeg, efallai, yn unig felin y drefgordd, a’r plwyf; yn wir, am dros 30 mlynedd cyntaf y 19eg ganrif, hi oedd unig felin flawd yr ardal, gan fod Melin Penylan, y Felin Isaf, yn malu cerrig ar gyfer porslan am y cyfnod hwnnw. Roedd Felin Uchaf, Pentir, wedyn, ar dir y Faenol, ac nid wiw i denantiaid y Penrhyn ei chefnogi, roedd melin Coed Hywel ar eu cyfer hwy. Esgob Bangor, wedyn, oedd biau y felin o’r un enw ar dir Maesgeirchen ar lannau isaf Cegin, ac roedd pob elw o honno yn dod iddo ef a’r eglwys. Mae’r llwybr presennol Lôn yr Esgob yn dilyn yr hen ffordd ganoloesol, ( ac wedi hynny ), o’r eglwys a Phalas yr Esgob dros y mynydd at y felin; nid yr Esgob fyddai’n ei cherdded, wrth reswm, ond, yn hytrach, ei swyddogion a’i weision wrth weinyddu, neu ddefnyddio’r felin.

Felly, fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar felinau Dyffryn Ogwen yn unig

%d bloggers like this: