Mae nifer o droednodau wedi eu rhifo yn y gwaith, y mwyafrif yn nodi’r ffynhonnell, ond eraill yn rhoi gwybodaeth ychqwanegol. Gellir pwyso ar y rhifau a uwcholeuwyd er mwyn cyrraedd at y troednodyn perthnasol

Darlun o Neuadd Coetmor gan yr arlunydd lleol ab Idwal rywdro tua diwedd yr 1870au cyn ei chwalu yn yr 1880au cynnar i W J Parry godi ei gartref newydd Coetmor Hall. Roedd y Neuadd wedi bod yn adfeilion ers degawdau
Cyflwyniad
Mae’n sicr mai’r tri enw mwyaf poblogaidd ar berson a aned yn Nyffryn Ogwen, neu â chysylltiad teuluol agos gyda’r dyffryn, yw’r enwau ‘Ffrancon’, ‘Coetmor’ ac ‘Ogwen’, gyda’r ddau olaf, fel arfer, yn ail enw bedydd, a’r llall yn gallu bod yn enw cyntaf hefyd. Enwau ar ardaloedd daearyddol penodol yw’r tri, gydag Ogwen yn amlwg o enw’r afon a’i dyffryn, a Ffrancon o’r Nant yn hanner ucha’r dyffryn. 1Am ‘Coetmor’ wedyn, heddiw, dyna yw’r enw ar yr ardal gyffredinol yn Nyffryn Ogwen sydd ar y rhan honno o lethrau gogleddol plwyf Llanllechid sydd uwchben, ac i’r gogledd orllewin o bentref Bethesda2. Y tu mewn i’r sgwaryn bras hwnnw y mae nifer o lefydd sy’n cadw’r enw, megis Fferm Coetmor, Stâd Coetmor, Bryn Coetmor, Eglwys a Mynwent Coetmor, Melin Coetmor,a mwy. Fodd bynnag, mae’r enw yn llawer mwy nag ardal fechan, oherwydd mae’n cadw cof am stâd diriog fu’n bodoli am bedwar can mlynedd yn yr ardal, stâd oedd yn berchen ar diroedd amrywiol o fwy na 1200 acer, yn ymestyn o Ddwygyfylchi trwy Lanfairfechan a Llanllechid i Fôn, a stâd a ddiflannodd yng nghanol y 19eg ganrif ; honno yw stâd Coetmor.
Rywle yn niwloedd cythryblus yr Oesoedd Canol Diweddar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed, fe welwyd datblygiad stadau uchelwrol niferus yng Nghymru. Y prif achos cychwynnol, yn naturiol, oedd y Goresgyniad yn 1282, a arweiniodd i chwalfa’r hen drefn reolaethol yn nhiroedd y Dywysogaeth yn y Gogledd a’r Gorllewin, a sefydlu’r drefn newydd o dan frenin Lloegr yn y degawdau wedi hynny3. Yn y cyfnod cythryblus hwn, ble’r oedd newid teyrngarwch yn digwydd yn hawdd ac yn fynych, fe welwyd nifer o brif deuluoedd uchelwrol yr hen oruchwyliaeth Gymreig yn manteisio ar yr oruchwyliaeth Seisnig newydd i bluo eu nythod eu hunain. Mae’n arwyddocaol mai prif deulu’r Gogledd wedi’r Goncwest, ac yn y canrifoedd wedi hynny, oedd yr union deulu oedd yn brif deulu’r gogledd yn y ganrif a hanner cyn 1282, sef teulu lluosog ac aml-ganghennog distain, neu brif weinidog, Llywelyn Fawr, sef Ednyfed Fychan.4 Trosglwyddodd disgynyddion Ednyfed, fel sawl teulu arall, eu teyrngarwch o un teyrn i un arall, er fod hwnnw’n estron, yn hollol ddibryder a digydwybod ( hyd y gwyddom ), gan ( ac er mwyn ) cronni swyddi a thiroedd wrth fynd yn eu blaenau. Drigain mlynedd wedi’r Goncwest daeth catalydd mawr i gyflymu’r broses hon o dwf stadau, a’r catalydd hwnnw oedd y Pla Du ( 1348 – 53)5. Roedd y Pla Du yn ddychrynllyd ei effaith, yn hynod o heintus, yn farwol, bron yn ddieithriad, yn lladd o fewn dau neu dri diwrnod, ac yn hollol ddidrugaredd, gan ladd gwreng a bonedd yn ddiwahân. Amcangyfrifir fod y Pla wedi lladd traean poblogaeth Ewrop, a hynny o un pen i’r llall, gan gynnwys ucheldiroedd Gogledd Cymru a phellafoedd Ynys Môn. Wrth gwrs, oherwydd diffyg cofnodion yn y cyfnod, ni ellir cael data marwolaethau manwl, ond gellir gweld effaith catastroffig y Pla a’i farwolaethau niferus ar elfennau cymdeithas, megis llafur, trethi,a rhenti yn y blynyddoedd wedi’r Pla.6 Un canlyniad i’r Pla Du oedd effaith y marwolaethau ar y tir a’i berchnogion, nid oherwydd fod y perchnogion wedi marw, o reidrwydd6, ond, yn amlach, am fod diffyg gweithwyr yn golygu nad oedd nifer o berchnogion yn gallu sicrhau fod eu tiroedd yn ddigon cynhyrchiol i dalu eu trethi, gyda’r canlyniad fod gwerth y tiroedd rheiny yn gostwng, yn gorfod cael eu gwerthu, ac yn cael eu llyncu gan y pysgod mwy.
Dyma’r cyd-destun hanesyddol i gychwyn stâd Coetmor. Mewn cyfnod byr iawn fe ddatblygodd y stâd yn berchen ar diroedd ,yn Arllechwedd yn gyffredinol, ac ym Modfeio, ( plwyf Llanllechid wedi hynny ), yn benodol,7gyda’i chanolbwynt gweinyddol mewn plasty a safai yng nghefnau y tŷ fferm o’r un enw presennol, a chymrodd yr enw Coetmor, cymryd, sylwer, nid rhoi, gan mai’r gwir yw mai’r ardal roes ei henw i’r stâd, ac nid y ffordd arall. Yn ieithyddol daeth yr enw o ‘goed mawr’ oedd yn nodweddu’r ardal hon, fel y mae enwau ffermydd fel Coed, Coed Isaf, Tai’n Coed, yn tystio heddiw. Yn 1773 fe deithiodd y naturiaethwr enwog o Downing, Sir Fflint, Thomas Pennant, trwy Ogledd Gymru, gan gyhoeddi ei gyfrol ddisgrifiadol The Tour in North Wales ( cyhoeddwyd 1778-81). Bu yn yr ardal hon
I called at Coetmor, or more properly Coed Mawr, seated in the midst of lofty trees, every now and then opening so as to admit a view of the exalted mountains and rocks soaring above with misty tops’. 8
A dyna’r cwbl am y neuadd! Mae’n treulio’r ddwy ddalen nesaf yn disgrifio rhyw ddarlun penodol oedd yno, llun o briodas rhyw ddau gorrach. Mae Penrhyn yn cael chwe tudalen o sylw! Mae’n debyg mai’r ffaith fod Penrhyn yn llawer mwy, a chrandiach, na Choetmor, yn ogystal â bod Thomas a Richard yn rhannu’r un gwaed teuluol, oedd yn gyfrifol am hynny.
Beth bynnag, goroesodd stâd Coetmor am oddeutu pedair canrif, yn un o nifer helaeth o stadau gweddol fychan a fodolai yng nghefn gwlad Cymru, ac yn un o dair stâd yn Nyffryn Ogwen, ond,wedi cyfnod hir o ddirywio, a ddiflannodd yn llwyr yn yr 1850au, gan adael ond yr enw ar ôl mewn rhan weddol gyfyng o Ddyffryn Ogwen. Bwriad yr ysgrif hwn fydd rhoi hanes y stâd ddiflanedig hon dros y canrifoedd, gan fanylu ar ei dirywiad terfynol.
Datblygiad Stadau
Fel y nodwyd, fe ddatblygodd llawer iawn o stadau tiriog yng Nghymru yn y 14eg a’r 15eg ganrif, yn amrywiol iawn eu maint, o rai mawr iawn i rai bychain, gyda’r maint, bob amser, yn dibynnu ar wahanol ffactorau, megis achau, pwysigrwydd hanesyddol teulu, pwysigrwydd cyfoes teulu, swyddi llywodraethol, ffafriaeth gyda’r Brenin, lwc wrth gronni tiroedd yn dilyn y Goresgyniad, ac, wedyn, y Pla Du, ynghyd â ffactorau hap-a-damwain hollol, megis ar ba ochr yr oedd y teulu mewn sawl cythrwfl lleol a chenedlaethol, megis Rhyfel Glyndwr9, Rhyfel y Rhosynnau10, Bosworth11, a sawl diwygiad crefyddol a chymdeithasol, fel y Diwygiad Protestanaidd12, a’r Deddfau Uno a’u canlyniadau. Roedd gallu penteuluoedd unigol i adnabod chwythiad y gwynt ar adegau penodol yn hanfodol i lwyddiant y teulu a’r stâd, gyda’r rhai mwyaf craff yn pendilio fel cwpan mewn dŵr yn eu teyrngarwch i arweinwyr a brenhinoedd, yn ddibynnol ar eu dealltwriaeth o sefyllfa; nid gwendid, na bradychu egwyddor oedd hyn, ond sgil i ofalu am y teulu o flaen popeth13. Ar ben hyn i gyd roedd dylanwad priodasau ffodus, neu anffodus, ynghyd â’r etifeddion a ddeilliai, neu na ddeilliai, o hynny. Eto fyth, doedd y drefn Gymreig o rannu eiddo’r tad yn gyfartal rhwng y meibion ddim yn gymorth i gadw tiroedd yn unedau hyfyw, gyda sawl enghraifft amlwg, trwy hanes cynnar Cymru, o dad yn cronni tiroedd i greu undod cryf, dim ond i’r undod hwnnw chwalu’n llwyr ar ei farwolaeth trwy gael ei rhannu rhwng ei etifeddion14. Er fod y drefn hon yn cael ei disodli yng Nghymru hyd yn oed cyn y Goresgyniad, roedd tad o Gymro, yn wahanol i’r drefn Seisnig, yn gofalu am ei holl feibion, trwy roi ychydig o dir i bob un,( ond gan roi’r waddol fwyaf i’r etifedd hynaf) , ac roedd hyn, dros genedlaethau, yn lleihau’r stâd, ac yn ei gwanhau. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, fel gyda sawl trefn Gymreig arall, roedd y drefn hon wedi ei disodli i raddau helaeth gan y drefn Seisnig o primogeniture, sef yr etifeddiaeth gyfan yn mynd i’r cyntafanedig ( yn fab, bob amser, onibai nad oedd ond merch, neu ferched, i etifeddu). Fe’i disodlwyd yn llwyr gan y Deddfau Uno 1536 i 1543, lle’r aliniwyd y drefn Gymreig efo’r drefn Seisnig.
O ystyried yr holl ffactorau amrywiol oedd yn dylanwadu ar oroesiad, a datblygiad, stadau tiriog gros gyfnod o ganrifoedd, buan y sylweddolir fod datblygiad stâd, yn sicr yn y canrifoedd cyntaf, rhwng, yn fras iawn, 1300 a 1500, fel roulette, ac mai’r elfen bwysicaf, a’r un gryfaf o lawer, yn yr holl gymysgedd, oedd lwc. Buan y sylweddolir, hefyd, mai’r elfen bwysicaf yn y lwc hwnnw oedd cael y perchennog iawn ar yr adeg iawn. Dros y canrifoedd fe welwyd fod rhai stadau yn stadau lwcus, wedi goroesi, ac, yn wir, wedi tyfu, rhai’n syfrdanol felly, tra bod llawer iawn o rai eraill yn hynod o anlwcus, ac wedi diflannu, neu’n aml wedi goroesi fel fferm unigol yn unig, neu fel plasty bychan dinod yng nghefn gwlad15. Un o’r stadau lwcus hynny a oroesodd, ac a dyfodd, un o’r rhai mwyaf lwcus, a dweud y gwir, oedd stâd y Penrhyn, a dyfodd i fod y drydedd fwyaf yng Nghymru, tra mai un o’r stadau anlwcus oedd stâd yn yr un ardal â hi, stâd Coetmor, a ddiflannodd yn llwyr fel stâd, ond gyda’i demesne wedi parhau fel fferm. Mae’r ddwy stâd yn adlewyrchu ffawd pegynol yr hen deuluoedd tiriog yng Nghymru, llwyddiant rhai a chwymp y lleill, a’r ffawd, bron yn ddieithriad, yn dibynnu ar ffactorau oedd yn ddim ond elfennau o lwc. Yn dilyn llwyddiant perchnogion galluog y 15eg ganrif, ni fu pethau cystal, ond fe oroesodd y Penrhyn dros y canrifoedd, nid bob amser oherwydd gallu ei pherchnogion, ond, yn hytrach, oherwydd ei maint, a’i chysylltiadau gwleidyddol. Erbyn hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd y Penrhyn wedi dirywio o’i hoes aur yn y 15ed a’r 16eg ganrif, pan oedd yn berchen ar diroedd yn Arfon, Môn, a Lloegr, i fod yn berchen ar diroedd yn Nyffryn Ogwen a Bangor yn bennaf, gyda pherchnogion absennol, Goroesodd Coetmor hithau, heb drafferthion mawr, am ddwy ganrif a hanner, ond ar raddfa llawer llai na’r Penrhyn, ond gan aros tua’r un lle ag y bu ers dwy ganrif a hanner. Fodd bynnag, daeth tro ar fyd i’r ddwy stâd tua’r un pryd, sef o fewn chwarter canrif i’w gilydd yng nghanol y ddeunawfed ganrif, a hynny oherwydd newid dwylo, Coetmor yn 1742, a’r Penrhyn yn 1865, ac roedd canlyniad y ddau newid dwylo yn hollol wahanol i’w gilydd. Daeth lwc i’r Penrhyn, mewn perchennog abl a chraff, pell ei welediad, a phenderfynnol ddiwyro ei lwybr, prif swyddogion effeithiol, a chwarel lechi fwya’r byd, ond ni ddaeth ond anlwc i Goetmor, mewn perchnogion llawer mwy afradus a chwit-chwat, arwynebol eu gwelediad, ac isel eu gallu rheoli. Byddwn yn manylu ar yr anlwc a ddaeth i ran Coetmor dros ganrif a hanner olaf ei bodolaeth, anlwc a olygodd nad yw bellach ond yn goroesi fel enw ar fferm ac ardal benodol yn Nyffryn Ogwen, ac mewn enwau personol nifer helaeth o’r rhai â chysylltiad â’r dyffryn.
Tiriogaeth Stâd Coetmor
Yn 1767/8, yn dilyn trosglwyddo rhenti rhan Syr George Young o’r Penrhyn i’r Pennantiaid, a dwy flynedd wedi dod yn berchen ar hanner ei wraig, Anne Susannah, o’r stâd, fe gyflogodd Richard Pennant syrfewr enwog o Loegr, R A Leigh,(weithiau ‘Leagh’ ) i wneud arolwg manwl o holl diroedd y stâd ( gan gynnwys y rhannau hynny na ddaethant yn eiddo iddo nes 1785). Mae’r Arolwg hwnnw yn hynod o fanwl, yn rhestru pob daliad a phob cae o eiddo’r stâd, a chynhwysir map cyfatebol. Un peth sy’n taro rhywun yn amlwg yw fod plwyf Llandygai, bron yn ei gyfanrwydd, yn eiddo i’r Penrhyn14, ond nid felly blwyf Llanllechid. Er fod llawer o dir y plwyf, yn enwedig yn ei waelodion, sef hendref Llanllechid, yn nwylo’r Penrhyn, sefyllfa sy’n adlewyrchu, mae’n sicr, diroedd hen stâd Cochwillan, stâd a unwyd gyda’r Penrhyn, pan brynodd yr Esgob John Williams y ddwy yn 1620, nid felly’r holl blwyf. Ar fap Leigh o dir Llanllechid mae mannau gweigion, gyda’r geiriau arnynt megis Mr Hughes’s Land, neu W Williams’s Land; y rhannau helaethaf o’r mannau gweigion hyn o lawer yw’r rhannau hynny gyda’r geiriau Mr Pugh’s land wedi ei ysgrifennu arnynt. A dyna ni, Mr Pugh’s land yn 1768 oedd Stâd Coetmor, neu diroedd y stâd honno ym mhlwyf Llanllechid. Ond yr oedd y stâd yn berchen ar diroedd y tu hwnt i ardal ei neuadd, gyda dros 500 acer yn Nwygyfylchi, dros 100 acer yn Llanfairfechan, rhyw 5 tŷ ym Mangor, ac un tyddyn bychan yn Llanfairpwll, dros y Fenai. Yn Llanllechid cynhwysai’r stâd ddwy ardal sylweddol o dir, ac un neu ddwy ardal fechan. Un ardal sylweddol oedd honno ar lethrau Llanllechid, yn ymestyn o’r mynydd at Ogwan, ac o’r terfyn gyda Chae Ifan Gymro a Chilfodan draw at Afon Llan, a therfyn gyda Chorbri a Thalysarn. Calon y stâd oedd y demesne, sef y tir o gwmpas, ac yn cynnal, y plasdy, yn cyfateb i, ond yn fwy na, y fferm bresennol a elwir Coetmor. Yn yr ardal hon o gwmpas y plasdy a’r demesne roedd Hen Barc, Tyn Ffridd, Panthwfa, Tyn Llan, Llwyn Bleddyn, Cefn Bedw, Coed Uchaf ac Isaf ( yn ôl un fersiwn Coed Mawr Isaf), pedwar daliad Tŷ yn y Coed, a ddaethant yn ddiweddarach yn Tai yn y Coed, ac, ar hyd glan Ogwen, daliadau bychan Dôl Ddafydd, Dolgoch, a Pharc y Moch, y rhan fwyaf o’r olaf yn goedwig llethrog serth lle’r oedd, meddai Hugh Derfel, foch bychain Coetmor, gyda’u cig blasus, yn bwyta[1]. Daliadau diweddarach a ffurfiwyd o’r demesne oedd Tyddyn Canol, a Thyddyn Uchaf. Mae’n arwyddocaol fod tenantiaid ‘ a cottage at Achib’, a ‘cottage at Rhachub Uchaf’ yn talu rhent i Goetmor yn 1794, sy’n dangos mai eiddo Coetmor oedd y tir hwnnw, sy’n sail i’r Rachub presennol16 sy’n gwneud synnwyr o gofio lleoliad y tir ar derfyn Llwyn Bleddyn a Chefn Bedw17Roedd melin18 a phandy19 ar y demesne, ar gyfer y demesne a’r tenantiaid. Yr ail ardal o dir yn perthyn i Goetmor oedd ardal yng ngwaelod y plwyf, er, efallai nad oedd yn un ardal o diroedd cysylltiedig. Roedd tiroedd Coetmor yn yr ardal hon yn ymestyn o’r Wern Bach at derfyn fferm Aberogwen, ac o’r fan honno at Felin Cochwillan, ac roedd yn cynnwys Wern Bach, Tan y Marian, Tanymarian Bach, ( weithiau Tanymarian Uchaf ac Isaf), Tyddyn, Dolhelyg, Caerffos a rhan o Dalybont, Ysgubor Newydd,20 ( ble mae Llwyn Onn heddiw), Tan y Lôn, a Thyddyn Hendre ( nid yr un bresennol, gan mai creadigaeth llawer fwy o 1855 yw honno). Fe allai’r ddau ddaliad olaf fod y terfynu yn rhywle â’r tiroedd eraill, ond, yn sicr, roeddynt yn terfynu ar ei gilydd . Yn ôl Cytundeb Priodas o 176620aynghyd â dogfen o 1794, mae Tyddyn Maes y Groes, hefyd, yn eiddo i Goetmor. Er fod Arolwg 1768 yn rhoi dau dyddyn o’r enw hwnnw ym mherchnogaeth y Penrhyn, mae ei leoliad, rhwng Tanymarian a Tyddyn, yn gwneud synnwyr fel peth o dir Coetmor. Gan fod un ddogfen o 1794 yn nodi Tyddyn Maes y Groes, yn nhenantiaeth Henry Owen am £10 y flwyddyn, mae’n ymddangos fod y Tyddyn Maes y Groes gwreiddiol wedi ei rannu’n dri daliad, dau ym mherchnogaeth Penrhyn, ac un ym mherchnogaeth Coetmor. Roedd un o’r tri, ar un cyfnod, beth bynnag, yn gweithredu fel rheithordy Eglwys Llanllechid, ble roedd y ficer yn byw, cyn codi rheithordy newydd ger Pandy Coetmor. Roedd dwy weirglodd yn yr ardal hon yn eiddo i’r stâd, hefyd, sef Gweirglodd Wern ( 10 acer ), a Gweirglodd Hir ( 4 acer ). Roedd Coetmor hefyd yn berchen ar ddwy fferm i fyny’r Nant, sef Tal Llyn Ogwen, ( ‘Tyddyn Isaf alias Llyn Ogwen’ ) a Thal y Waun. Yn 1794 roedd rhent holl diroedd y stâd yn £580 y flwyddyn,21 sy’n swm eithaf parchus, ond, fel y gwelir yn nes ymlaen, roedd dyledion yn cwtogi llawer ar y swm hwnnw. Rhwng 1795 ac 1801 rhent cyfartalog clir tiroedd Coetmor yn Llanllechid oedd £240 y flwyddyn, er, meddai rhyw J Hughes, a gomisiynwyd i werthuso’r holl stâd yn 1795,
I very much doubt whether the estate can profitably be stretched to £750 a year.22
Byddai hynny, ar ôl clirio’r holl ddyledion a’r morgeisi, yn swm eithaf sylweddol yn y cyfnod, ac yn ddigon i fyw arno’n bur gyfforddus.23Ond, eto, gellir cymharu hynny gyda’r rhenti a ddeuai i’r Penrhyn yn y fwyddyn 1800
Plwyf Llanllechid – £1,348.8.6
Llandygai – £2,756.3.0
Bangor a Llanfairfechan – £631
Cyfanswm = £5,435.11.624
Tipyn o wahaniaeth!
Coetmor trwy’r oesoedd
Neuadd Coetmor
Ystrydeb yw dweud fod hanes yn cael ei ysgrifennu gan yr enillwyr, ac mae hynny’n hollol wir am Goetmor, gan mai’r enillydd yn Nyffryn Ogwen, yn sicr, oedd y Penrhyn, a lyncodd bopeth oedd o’i flaen, gan gynnwys, yn y pen draw, Coetmor. O’r herwydd, mae’r holl hanes sydd gennym am Goetmor yn gyffredinol yng nghyfnod diweddar y stâd yn wybodaeth ail-law, sy’n codi o ymwneud eraill â hi a’i pherchnogion, gyda’r wybodaeth honno, yn bennaf trwy ymwneud y Penrhyn â hwy. Roedd y wybodaeth honno, o reidrwydd, yn unweddog ac unllygeidiog, ac yn ymwneud gyda’r hyn oedd o ddiddordeb i’r Penrhyn yn unig. Mae hynny’n hollol wir am y neuadd ei hun, a fu’n brif adeilad rhan ganol Dyffryn Ogwen am dair canrif. Yr unig wybodaeth sicr sydd gennym o’r Neuadd gan lygad-dyst yw’r un hwnnw gan Thomas Pennant yn y 1770au, ac nid yw hwnnw, fel y nodwyd, ond yn dweud wrthym fod coed mawrion o’i gwmpas, a bod llun o gorachod enwog yn y plas. Mae gennym lun J T Parry ( ap Idwal ) o’r llys, ond, gan na aned Parry tan 1853, pan oedd y llys, yn ôl Hugh Derfel, yn adfail, prin fod y llun yn adlewyrchiad teg o’r neuadd cyn iddo ddechrau datgymalu yn niwedd y 18ed ganrif. Yr unig ffynhonnell arall o wybodaeth am blasdy Coetmor yw gwaith Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid ). Fodd bynnag, rhaid cofio, yn ôl Hugh Derfel ei hun, fod to’r plasdy wedi ei chwythu i ffwrdd mewn storm fawr ddechrau 1797, a’i fod wedi adael i adfeilio wedi hynny. Nid oedd HDH ond wedi gweld yr adfeilion, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar atgofion trigolion lleol am ei ddisgrifiadau ohono, a byddai’n rhaid i’r trigolion rheiny fod yn agos i’w pedwar ugain i gofio blynyddoedd olaf y llys. Y tebygrwydd yw mai ail-law, neu, hyd yn oed, drydedd llaw, oedd atgofion ffynonellau HDH. O ystyried hynny, rhaid inni gofio hefyd mai ‘Mieri lle bu mawredd’ yw hanfod atgofion am adfeilion yn aml. Fodd bynnag, nodwn yma beth o ddisgrifiadau HDH o’r plasdy fel y cofnododd hwy ef.
Noda i’r palas ‘ a adeiladwyd yn ol yr arddull a arferid yn amser y Frenhines Elisabeth’25, sy’n dweud yn syth wrthym mai adnewyddiad ar y llys gwreiddiol sydd yma, gan fod y gwreiddiol ar y safle yn sicr cyn y cyfnod Tuduraidd. Ymhellach, dywed am y cyfnod pan ddaeth Pennant heibio
Yr oedd yma ar y pryd fel y gwyddys nifer o ystafelloedd wedi eu dodrefnu yn wych odiaeth o’r derw goreu, ac wedi eu cŵyro mor ofalus, fel y gwelai dyn ei gysgod arnynt, fel mewn drych, ac yn enwedig ar y grisiau. Yr oedd mentyll y sifneiau o fynor, gwyn a du, a’r eilch tân yn dra disgeiriol 26
Dyna’r cyfan a wyddom am y neuadd, ac nid oes sicrwydd faint o hynny sy’n wir. Edrychwn yn awr ar y rhai a fu’n berchnogion ar y stâd o’i chychwyn i’w diwedd
Cyfnod 1 Y Coetmoriaid
Roedd teulu, ach, a hynafiaeth yn hynod o bwysig i’r Cymry mewn oes a fu, ac erys y pwnc ‘ I bwy ydych i’n perthyn’ felly hyd heddiw. Gwaed, ac ach oedd yn diffinio person yn y gymdeithas gynnar Gymraeg, ac roedd statws yn hollol ddibynnol ar hynafiaeth. Rhaid inni gofio geiriau Gerallt Gymro am y Cymry
Dyheant fwyaf, yn anad popeth arall, am linach rywiog, ac ardderchowgrwydd achau. Ac
felly mwy dymunol lawer ganddynt briodasau gyda theuluoedd bonheddig, na chyda rhai
cefnog neu gyfoethog. Y mae, hefyd, hyd yn oed y distatlaf o’r werin yn ofalus am ei daflen
achau; ac edrydd oddi ar gof, ac yn rhugl, ei achau, nid yn unig ei deidiau, eu hen hendeidiau, a’i orhendeidiau, ond hyd y chweched neu hyd yn oed y seithfed genhedlaeth, ac ymhellach y tu hwnt i hynny”.26.
Hyd yn oed yn nechrau’r ugeinfed ganrif, roedd sawl teulu cyffredin yn hawlio hynafiaeth aruchel. Er enghraifft, erbyn y ddeunawfed ganrif, roedd Gorsaf-feistr Llannerchymedd yn rhan o deulu uchelwrol hen blasty Tŷ Mawr, Llandyfrydog, roedd gwragedd gwneuthurwr watsus ac adeiladydd, y ddau o Fangor, yn hawlio hynafiaeth bonheddig Tyddyn Blawd, Llanddeusant, tra’r oedd gwragedd Thomas Hughes, Plumber and Glazier, a William Morris, Hatter, yn hawlio disgyn o deulu hynafol y Gromlech, Llanfechell; yn wir, yn 1805, ‘Thomas Hughes, Shoemaker, obtained a part of the Gromlech Estates’. Gwaed, a hynafiaeth gwaed, oedd popeth i’r Cymry. Roedd teulu Chwaen Ddu, Llantrisant, er yn ffermwyr eithaf cefnog, yn hawlio disgyn o Owain Gwynedd, tra’r oedd teulu Treban Meurig, Bryngwran, yn hawlio Hwfa ap Cynddelw fel hendaid.27
A dyma inni farn un hanesydd blaenllaw ar yr uchelwyr, yn fawr a mân
‘Beilchion i gyd, ac yn dyheu, yn anad popeth arall, am linach rywiog ac ardderchowgrwydd achau …… ymffrostient mwy yn eu tras na’u tir, yn eu gwaed hen nag yn eu golud newydd, mewn diwylliant nag mewn diwydiant’28
Ac yr oeddynt
‘yma, yn fawr eu bri, a’u rhifedi’ 29
Un o’r rhifedi hynny oedd teulu Coetmor.
Yn y Canol Oesoedd yr oedd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o deuluoedd bonheddig ( a lled-fonheddig ) Gogledd Orllewin Cymru yn olrhain eu hachau yn ôl i Heilig ap Glannog, oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r hen Wynedd, sef y cyfan i’r gorllewin o afon Clwyd, yn ail hanner y 10fed ganrif.30 Doedd teuluoedd bonheddig Dyffryn Ogwen ddim gwahanol, gan eu bod hwythau yn honni disgyn yn uniongyrchol o Heilig. Yn y 15ed ganrif roedd tri llys yn y dyffryn, sef Penrhyn, Cochwillan, a Choetmor, ac, er y gwyddys fod y Penrhyn yn bodoli yn 13 ganrif, fel tir oedd yn eiddo i ddisgynyddion Iarddur Penrhyn, gan ddod yn eiddo i Ednyfed Fychan tua 1240, ni wyddom yn union pryd y daeth y ddau arall i fodolaeth. Er ein bod yn gwybod i Robin ap Gruffydd, un o feibion y Penrhyn, fyw yng Nghochwillan yn nechrau’r 14eg, gan i’r bardd lleol o Landygai, Gwilym ab Sefnyn,31 ganu iddo, fe allai fod neuadd yno cyn hynny. Am y neuadd newydd, adeiladwyd honno rywle rhwng 1450 a 1465. Am Goetmor, fel y gwelwn yn nes ymlaen, ni allwn fynd ymhellach yn ôl nag ail hanner y 15ed ganrif.
Am y teuluoedd eu hunain, er fod tri phlasty yn y dyffryn, dau deulu oedd yma, sef Coetmor a Phenrhyn/Cochwillan. Mae’n hawdd gweld cysylltiad Cochwillan a’r Penrhyn, gan mai mab y Penrhyn, Robin ap Gruffydd 1365 – 1443, yw’r cyntaf y gallwn ni ei gysylltu sicr gyda Chochwillan, er mai amheus yw’r honiad cyffredinol iddo gael ei eni yno. Cafodd y plant eraill eu geni yn y Penrhyn, ac yno yr oedd ei frawd hŷn, Gwilym ap Gruffydd, yn byw. Am Goetmor, ni welir fod nemor ddim cysylltiad teuluol dirnadwy gyda theulu’r Penrhyn, gan fod y disgynyddion wedi pellháu llawer ers disgyn o Iarddur, ddwy ganrif a mwy ynghynt; mae teulu yn lledaenu’n rhyfeddol mewn mwy nag wyth cenhedlaeth. ( Griffiths 1914 ibid )
Fel y nodwyd, yr oedd y ddau deulu yn honni disgyn o hynafiad o’r enw Iarddur, oedd yn byw yn y 12fed ganrif.( Griffiths: Pedigrees 1914 ) Roedd tri Iarddur hanesyddol yn yr ardal ehangach rhwng Menai a’r Gogarth yn y 12fed ganrif, ond hendaid y ddau deulu yma oedd Iarddur ap Trahaearn, ganed tua 1150, uchelwr a oedd ar delerau da iawn gyda Llywelyn ab Iorwerth, ac wedi priodi cyfnither iddo. Roedd yn berchen ar diroedd yn Wig ac Abergwyngregyn, a, chan fod y Tywysog am godi llys yn Aber, dywedir i hwnnw ffeirio ei dir ef yn y Penrhyn am diroedd Iarddur; wedi hynny, daeth Iarddur i’w adnabod fel Iarddur Penrhyn, a daeth tir diweddarach yn yr ardal yn Wely Iarddur. Er ein bod yn weddol sicr o gychwyn y Penrhyn, ac, i raddau llai, Gochwillan, ni allwn fod yn sicr o gychwyn Coetmor; mae’n bur sicr y gallwn ddiystyru sylw HDH am y traddodiad lleol fod plasty yma a adeiladwyd gan Ednyfed Fychan32, gan nad oes cofnod arall o hynny, ac nid oedd teulu Coetmor yn hawlio unrhyw gysylltiad gwaed gyda distain Llywelyn Fawr33. Mwy cyffredin yw’r sôn am berson o’r enw Hywel Coetmor, gan gymryd fod ei enw yn ei gysylltu’n naturiol gyda Choetmor Dyffryn Ogwen. Rŵan, yr oedd gŵr o’r enw Hywel Coetmor, ( Hywel ap Gruffydd Fychan ap Gruffydd ) sy’n cael ei enwi yn y rhyfeloedd yn Ffrainc, ond mae’n rhaid bod yn ofalus, gan fod ‘na Goetmor yn Nyffryn Conwy, yn ogystal ag yn Rhuthun. Fe gladdwyd un o’r enw Hywel Coetmor yn eglwys St Crwst yn Llanrwst tua 1440. Uchelwr o dras tywysogaidd, disgynnydd uniongyrchol o Lywelyn Fawr, o ardal Penmachno yn Nant Conwy oedd hwnnw, fe blediodd achos Glyndwr yn nechrau’r gwrthryfel, bu’n brwydro yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc, ac ef a adeiladodd Gwydir, cyn i’r Wyniaid brynu’r plasty hwnnw gan ei fab, Dafydd. Roedd Hywel yn frawd i un o brif gadfridogion Glyndwr, Rhys Gethin.34 Fe honnwyd fod rhyw Hywel ap Gruffydd, a enwir Hywel Coetmor, yn aelod o reithgor i gasglu trethi yn Arllechwedd Uchaf yn 1352, ac fe fu farw yn Fflandrys yn 1388, 35 ond rhaid bod yn ofalus iawn, gan ei bod yn debygol mai cymysgu rhwng dau Hywel ap Gruffydd sydd yma, gan drosglwyddo’r epithet o’r un i’r llall. Eto, doedd pethau ddim yn union mor syml ag y mae’r cymhlethdod hwn yn rhybuddio rhagddo, fel y gwelwn yn nes ymlaen.
Y cyntaf y gallwn fod yn sicr ohono yn gysylltiedig yn sicr gyda llys o’r enw Coetmor, oedd Rhobert Fychan ab Ieuan/ Ifan, oedd yn byw yn ail hanner y 15ed ganrif. Roedd Coetmor, fel llys uchelwrol, yn bodoli, felly, yn sicr, yn ei oes ef, ond ni allwn, i sicrwydd, wneud honiad am unrhyw beth cyn hynny. Roedd Rhobert yn ddisgynydd uniongyrchol, ar ochr ei nain, mam ei dad, i dywysogion Gwynedd,36ac, felly, o waed ‘uwch’ na theulu’r Penrhyn a Chochwillan, oedd, fel y nodwyd,37 yn disgyn o Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Gyda llaw, mae hynny’n ymddangos yn eilbeth i ni heddiw, ond, fel y nodwyd uchod, yn oes Rhobert yr oedd yn bopeth – tras oedd yn rhoi hawl etifeddiaeth i berson, tras oedd yn rhoi’r nodweddion bonheddig disgwyliedig, megis cadernid, haelioni, ac amddiffyniad, i berson, ac roedd cydnabod fod person yn ‘uwch o waed achau’ ( Guto’r Glyn ) yn ddisgwyliedig. Ac roedd Rhobert Fychan o Goetmor yn ‘uwch o waed achau’ na theulu’r Penrhyn cyfagos, ond, mae’n debyg, y byddai hynny wedi ei gymylu braidd wedi i Gwilym ab Gruffydd wneud teulu’r Penrhyn y grymusaf yng Ngogledd Cymru. Ond yn ôl at Rhobert a’i deulu. Rwan, y mae cyd-ddigwyddiad rhyfedd, os cyd-ddigwyddiad, hefyd, gyda’r hyn a nodwyd uchod. Yr oedd cysylltiad teuluol agos rhwng teulu Hywel Coetmor, Nant Conwy, a theulu Coetmor, Llanllechid, oherwydd, yn ôl yr achau,38 yr oedd Hywel Coetmor yn frawd i Marged, nain Rhobert Fychan.
Fel y mwyafrif helaeth o uchelwyr y cyfnod, roedd Rhobert Fychan yn noddwr beirdd, yn wir, roedd yn berthynas i ddau fardd, Ieuan ab Gruffydd Leiaf, ( bl 1420-70), a ganodd i deulu’r Penrhyn, ac a oedd yn y Penrhyn yn 1420 yn dathlu’r neuadd newydd, a’i feibion, Syr Sion Leiaf ( bl c 1480) a Robert Leiaf ( bl c1480).39 Roedd Gruffydd Leiaf40, hefyd, yn frawd i nain Rhobert, felly, roedd y berthynas yn weddol agos, yn enwedig yng ngolwg yr oes. Roedd yn dilyn, felly, fod Gruffydd Leiaf, hefyd,yn frawd i’r Hywel Coetmor, yn ddau o naw o blant Gruffydd Fychan o’r Fedw Deg, Penmachno.
Roedd Rhobert Fychan yn noddwr i Guto’r Glyn41; fe ganodd hwnnw i deuluoedd llysoedd cyfagos y Penrhyn a Chochwillan, ac fe erys un cywydd o’i waith i Rhobert ab Ieuan, ( fel mae’n digwydd, yr unig gerdd a gadwyd i Rhobert), sef ‘Cywydd Gofyn Dau Filgi’ ganddo ar ran Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, cywydd a ganwyd, o bosibl, tua 1475.
Ar ôl ugain llinell fformiwlaïd yn clodfori ach deuluaidd Rhobert,
Robert, uwch rhiwiau Aber,
Ry bân1 ac aur glân i’r glêr2
……….
Gemau oedd dy deidiau di,
A chreiriau3 uwch Eryri
1 ffwr, ‘ermine’ 2 beirdd 3 trysorau, [pobl] werthfawr
mae Guto yn dymuno
Catwo Mair lew Coetmor lys
( Bydded i Fair gadw pennaeth llys Coetmor)
Gwaith Guto’r Glyn J Llywelyn Williams 1939 t 194
Ac yn nes ymlaen yn y gerdd sonnir am ‘Coetmor blas’.
Bu’r teulu yn noddwyr i’r beirdd am ganrif arall, gan y cadwyd cerddi i ddisgynyddion Rhobert gan Wiliam Cynwal,( m 1587), Huw Machno, (bl 1585 – 1637), Watcyn Clywedog ( bl 1630-50 ), a Siôn Morgan ( bl diwedd 17eg G),42
Mae hyn yn dangos fod y Coetmoriaid wedi bod yn driw i’r traddodiad barddol Cymraeg fwy neu lai hyd y diwedd.43 Hawdd iawn y gellir derbyn sylw HDH am y teulu
Cadwent feirdd, telynorion, a chrythwyr, yn eu tŷ am ddyddiau olynol44
Gyda Rhobert, hefyd, y gwelwn y cysylltiad uniongyrchol cadarn cyntaf ers Iarddur rhwng Coetmor a Chochwillan, gan i’w ferch, Gwerfyl, briodi William ap Gruffydd, Cochwillan. Nid yw’r teulu, hyd yn hyn, wedi mabwysiadu ‘Coetmor’ fel cyfenw, ond yn cadw’r Fychan – Mab Ifan/ Ieuan Fychan oedd Rhobert Fychan, a Rhys Fychan oedd ei fab, ac ‘of Coetmor’ a welir yn achlysurol yn yr achau gydag enwau’r ddau. Efallai mai mab Rhys oedd Piers Coetmor, oedd yn byw yng nghanol yr 16ed ganrif; yn sicr, ef yw’r cyntaf y gwyddom amdano i fabwysiadu’r cyfenw, er fod tystiolaeth mai pendilio rhwng Piers Coetmor a Piers Fychan of Coetmor oedd ei hanes ef, ond Coetmor, a dim arall, oedd cyfenw’r teulu am dros ddwy ganrif ar ei ôl ef.( ond wedi ei Seisnigeiddio i Coytmor, ac, yn aml, Coytmore). Yn wir, mae ewyllys un o’r rhai olaf yn 1781 yn nodi fod angen cadw’r cyfenw Coetmor ( mewn rhyw ffurf ) os am etifeddu’r stâd.45
Beth bynnag, yn ôl at Rhobert. Mae Williams 46 yn rhoi gwybodaeth inni am Rhys, etifedd Rhobert, Rhys Fychan. Dywed ei fod yn was ( ‘esquire’ ) yn llys y brenin Rhisiart III, gan dderbyn tiroedd gan y brenin ym Môn, Arfon, a Sir y Fflint. Ymddengys ei fod ym myddin Rhisiart ym mrwydr Bosworth, a, phan enillodd Harri’r VII, er i Rhys gael pardwn brenhinol, fe gollodd y rhan fwyaf o’i diroedd, a chollodd y teulu lawer o’u dylanwad o’r herwydd, gan fod yn deulu uchelwrol lleol wedi hynny, gyda’u pwysigrwydd lleol yn amrywio yn ôl y penteulu. Yn anffodus, ni nododd Williams ffynhonnell y wybodaeth hon am Rhys, ond mae’n fwy na thebyg iddo ddilyn ysgrif yn Archeologia Cambrensis am y flwyddyn 1861.
Rees Vauchan was owner of greate landes and poss’ions in Anglesey, Caernarvonshire, and Fflintshire. Hee was Esquier ffor the body onto Richard the Thyrd and did attend him in his Privy chamber…Hee had purchased ffrom the Kinge three goodly manors near Whitchurch, and hadd purchased Aber and Cemmaes and Wieg, and diverse other thinges, which weare all taken from hym when Henry the Seventh came in …. hereuppon rees Vauchan loste all his landes…. before he could obteyne his pardon, saving all that little which he left to his sons.47
Os gwir y wybodaeth hon, mae Rhobert wedi marw erbyn 1485, pryd yr ymladdwyd Bosworth, gan y nodir yn glir mai ei fab, Rhys, sydd berchen ar y tiroedd erbyn hyn. Mae HDH yn nodi mai rhyw Madog Coetmor oedd y gŵr ym Mosworth. Mae dau Fadog yn nheulu Rhobert a allai, gyda llawer iawn o lwc, fod yn fyw tua’r cyfnod hwnnw. Yn gyntaf, roedd ei ewythr, brawd ei fam, ond nid oedd ganddo ef unrhyw gysylltiad uniongyrchol gyda Choetmor, na chysylltiad a fyddai’n teilyngu’r epithet ‘Coetmor’, ac, fel y gwelwyd, nid oedd y teulu hwn yn Llanllechid wedi dechrau mabwysiadu ‘Coetmor’ fel cyfenw yng nghyfnod Bosworth. Fodd bynnag, mae’n ddigon posibl y gallai’r Madog hwn fod wedi mabwysiadu epithet ei ewythr, Hywel Coetmor, er nad oes tystiolaeth o hynny. Y broblem fawr yw y byddai’n rhy hen i fod yn was ym mrwydr Bosworth, os byddai ei nai yn berchen ar y tiroedd, ac yn ddigon hen i fod yn filwr. Y Madog arall yn nheulu Rhobert oedd ei daid, tad ei dad, Ieuan Fychan, ond mae’n annhebygol iawn y byddai’r taid yn fyw adeg Bosworth, pan oedd ei or-ŵyr yn ddigon hen i fod yn y frwydr. Rwan, does gennym ni ddim syniad ble’r oedd cyndadau Rhobert yn byw, ond mae geiriau Guto’r Glyn ( uchod ) mai
Gemau oedd dy deidiau di
A chreiriau uwch Eryri
yn eu lleoli’n fras yn yr ardal ddaearyddol eang honno, ond nid yng Nghoetmor yn benodol, er, wrth gwrs, y gallent fod yn byw yno. Mae’r achau yn awgrymu, hefyd, nad Rhobert oedd y mab hynaf, gan fod Hywel Fychan yn ymddangos o’i flaen; os felly, a Hywel yn fyw, ni fyddai wedi etifeddu. Rydym yn awr yn nhir dyfalu, a rhaid mynd yn ein holau i gadarnhau na ellir dilysu bodolaeth llys Coetmor o flaen oes Rhobert Fychan.
Mae’r hanes am dynged y teulu yn dilyn Bosworth, os yn wir, yn driw i weithredoedd Harri VII yn dilyn ei fuddugoliaeth, sef cwtogi sylweddol a chyffredinol ar bwerau’r bendefigaeth, gan gosbi ei wrthwynebwyr ym Maes Bosworth, trwy atafaelu eu tiroedd, a’u dirwyo, a gwobrwyo ei ddilynwyr. Mae’r hanes am bardwn i deulu Coetmor, hefyd, yn adlewyrchu ei weithredoedd yn sicrhau ffyddlondeb y pendefigion trwy bardwn, oedd yn amodol ar gefnogaeth a ffyddlondeb,a bondiau ariannol i warantu teyrngarwch. Mae’n sicr mai bywyd arferol mân uchelwyr cefn gwlad fu hanes y teulu yn gyffredinol wedi canlyniadau Bosworth, ac i bopeth dawelu. Dilynwyd Robert gan ei fab, Rhys, yna Pyrs, a hwnnw gan fab, ac ŵyr, o’r enw William Coytmore. Ni fu etifeddiaeth yn broblem o gwbl i’r olaf o’r rhain, gan iddo gael 13 o blant.48 Yr ail o’r rheiny oedd Rowland Coytmore c 1570 – cyn-162649. Aeth ef i’r môr, yn gapten gyda’r East India Company, oedd wedi ei sefydlu yn 1600 i sicrhau monopoli i fasnachwyr Prydain yn y dwyrain. Yn 1606 fe sefydlwyd The London Company, er mwyn hyrwyddo coloneiddio arfordir dwyreiniol Gogledd America, ac mae’n amlwg fod gan Rowland gysylltiad gyda’r cwmni hwn hefyd, gan ei fod yn cael ei enwi yn The Second Charter of Virginia 1607, fel un o’r masnachwyr oedd yn cael hawliau yn y tiroedd hyn.49
Er iddo farw yn Wapping, Lloegr, a’i gladdu yno, mae’n amlwg iddo dreulio amser yn y tir newydd, gan mai rhai o’i ddisgynyddion uniongyrchol oedd John Quincy Adams, 5ed Arlywydd yr UDA, Franklin D Roosevelt,arlywydd UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a TS Eliot, y bardd, a Benedict Cumberlacht, yr actor cyfoes.50
Ond yn ôl at y teulu; bu i’r Coetmoriaid fyw’n dawel, ddihelynt ( hyd y gwyddys ) yn y rhan hon o Arfon am ganrif a mwy wedyn. Priododd George Coetmor ( c 1659 – 1738 ) efo Mary, aeres Stâd Bodwrdda yn Aberdaron, ac fe adwaenwyd eu mab hwy, Robert, ( c 1691 – 1725 ). fel ‘of Coetmor and Bodwrdda’. Er i Robert farw oddeutu 34 oed, fe fu ef a’i wraig, Bridget, yn ddigon prysur i gael 12 o blant. Ymddengys i wyth o’r rheiny farw yn eu babandod, neu eu plentyndod. Bu dwy ferch arall, Dorothy, a Bridget, oroesi plentyndod, ond marw’n ddiblant, ( er fod Dorothy wedi priodi Humphrey Roberts, Bryn y Neuadd, Llanfairfechan ), a marw’n ddi-blant oedd hanes yr etifedd hefyd, sef James, a fu farw yn 1742.51 A dyma ble daeth yr elfen gyntaf o anlwc arwyddocaol i Goetmor, sef y llinach yn dod i ben gyda merch yn etifedd. Digwyddodd hyn i nifer helaeth o stadau yn ail hanner y 17eg ganrif a’r 18fed, sef diffyg mab i gario llinach y teulu yn ei flaen. Rwan, does dim sylfaenol o’i le yn y ffaith mai merch yw etifedd, ond roedd y drefn ar y pryd yn golygu fod sawl perygl i’r stâd oedd yn cael ei hetifeddu gan ferch. Yn gyntaf, roedd y tir, ar briodas, neu oherwydd priodas, yr etifeddes yn dod, os nad yn eiddo’r gŵr, yn sicr dan ei reolaeth ( tra’n fyw, beth bynnag ). Yn ail, roedd enw’r teulu yn aml , ond nid bob amser, yn diflannu, ac, yn olaf, fod y penteulu, yn amlach na heb, yn estron. Canlyniad hyn, yn aml, oedd y byddai’r stâd yn diflannu i diroedd eraill y penteulu, ac yn aml iawn ni fyddai’r teulu yn byw bellach yn yr hen blasty, ond yn berchnogion estron, a byddai cysylltiad gyda’r stâd yn lleol yn diflannu, gyda honno’n cael ei rheoli gan asiantwyr cyflogedig. Unig fwriad yr asiant oedd cadw’r landlord absennol yn hapus trwy gael cymaint o arian ag oedd yn bosibl o’r tir, ond heb wario arno, ac arweiniodd hynny i ddirywiad sawl stâd, ac i sawl sefyllfa enbydus. Fe ddigwyddodd i’r Penrhyn, yn niwedd y 17eg ganrif, gyda thri chwarter canrif o berchnogion absennol a dirywaid cyffredinol yng nghyflwr y stâd. Yn achos Coetmor, roedd marwolaeth James yn 1742 yn gadael ei fam weddw, Mary Coytmore, ac un ferch ar ôl o’i theulu niferus, sef Mary Coytmore arall, a oedd wedi priodi aer Penrhyn Creuddyn, Edward Philip Pugh,52 ac iddi hi a’i gŵr yr aeth Stâd Coetmor wedyn. Nid yw’n hollol sicr pryd yn union y digwyddodd hynny, ai yn 1742, ar farwolaeth ei brawd, James, neu ar farwolaeth y fam yn 1755. Bu i honno, Mary arall, oedd wedi ail-briodi efo dyn o’r enw Owen Bulkeley, farw, fel y nodwyd, yn 1755, a’i chladdu yn Llanllechid.52 Y tebygrwydd yw fod gan y fam a’r ferch a’i gŵr eu cyfran yn y stâd o 1742 ymlaen, gan fod y tiroedd yr oedd Mary’r fam wedi dod â hwy i Goetmor, efo Bodwrdda, yn nwylo Mary’r ferch a’i gŵr, Edward Philip Pugh, yn 1744, gan iddynt forgeisio’r tiroedd i rhyw Margaret Jones o Gaernarfon yn y flwyddyn honno, ac i’r holl diroedd yn Llŷn ( sef tiroedd Bodwrdda ) gael eu trosglwyddo ganddynt i Stâd Nanhoron yn 1748. 53 Eto, mae’n amlwg fod y fam yn dal â hawl dros ei hetifeddiaeth, gan fod y ddogfen uchod yn nodi ei bod hithau, Mary Bulkeley of Coetmor, yn rhan o’r cytundeb i drosglwyddo tiroedd Bodwrdda i Nanhoron.54 Beth bynnag am hynt Bodwrdda, am yr hanner canrif nesaf, yn nwylo’r Pughiaid, neu’n fanwl gywir, y Coytemore Pughiaid, y bu Stâd Coetmor.
Cyfnod 2: Y Puwiaid
Y mae i deulu Puw, Penrhyn Creuddyn55 le arbennig yn hanes Cymru, a hynny oherwydd eu cysylltiad gyda’r llyfr Cymraeg cyntaf a argraffwyd ar dir Cymru. Yr oedd y teulu yn reciwsantiaid, sef yn glynu wrth yr hen ffydd Gatholig, a hynny am gyfnod sylweddol wedi’r Diwygiad Protestannaidd. Roedd hynny, o 1529 ymlaen bron am ddwy ganrif, trwy gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwardiaid, weithiau’n cael ei oddef, ar gyfnodau byrion yn gyfreithiol, gan amlaf, yn anghyfreithlon, ond, trwy hyn i gyd, parhaodd y Puwiaid am fwy na chanrif a hanner i ddilyn yr hen ffydd Gatholig.

Tudalen gyntaf Y Drych Cristnogawl Y llyfr cyntaf y y Gymraeg, cyhoeddwyd 1587 yn Ogof Rhiwledyn
Roedd y teulu56 yn honni eu bod yn disgyn o Ednyfed Fychan,57 sy’n eithaf posibl, oherwydd i ddau o feibion niferus Ednyfed, Llywelyn a Chynwrig, etifeddu cwmwd Creuddyn 58rhyngddynt ar farwolaeth eu tad. Mae ffynhonellau eraill yn honni mai disgynyddion i frawd Ednyfed oedd y teulu. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd am fodolaeth y Puwiaid tan yr 16ed ganrif, ac mae diffyg etifeddion gwrywaidd yn gwneud dilyn yr achau yn anodd iawn. Cawn y cyfeiriadau cyntaf at y teulu pan ail-briododd gweddw’r penteulu, Rheinallt ab Ieuan, gwraig o’r enw Elizabeth, gyda Robert ap Huw o Lansanffraid Glan Conwy, gwr oedd yn disgyn o deulu Arglwyddi Rhos, a rhoddwyd iddo ofal cyfreithiol dros etifedd ifanc Rheinallt, sef Huw ap Rheinallt. Yn 1548 nodir mai Robert ap Huw ( Robert Puw ) yw perchennog treflan Penrhyn, ac arglwydd Trewarth ( ardal Cyffordd Llandudno heddiw ) yn ogystal â’r un oedd yn lesu fferïau Conwy a Thalycafn59(Calendar of Patent Rolls of Edward VI). Fodd bynnag, yn 1551, cyrhaeddodd Huw ap Rheinallt ei 21 oed, a chymrodd drosodd ei etifeddiaeth). Mae’n debyg iddo farw’n ifanc, gan adael gweddw a mab bychan, Robert Puw, a hwnnw yw’r un sydd o ddiddordeb i ni, oherwydd mai ef, a’i ddisgynyddion, am ganrif a hanner arall, fu’n cadw’r hen ffydd ynghýn. Cadwodd y teulu offeiriad Pabyddol yn eu capel am flynyddoedd. Roedd yr ardal anghysbell ble’r oeddynt yn byw yn gymorth i’w reciwsantiaeth, ac, mae’n amlwg, fod ganddynt hwy gryn ddylanwad yn lleol, rhwng 1581 ac 1624, cynhyrchodd ardal o boblogaeth denau Creuddyn 168 o reciwsantiaid, nifer sy’n gymharol fwy o gryn dipyn nag ardaloedd eraill Arfon a Gogledd Cymru. Er fod y teulu yn Gatholigion, fe lwyddasant, yn bennaf trwy ddiffyg gweithredu’r ddeddf ynghyd â chefnogaeth uchelwyr lleol araill, i gadw o ddwylo’r gyfraith, ac, yn wir i ennill swyddi pwysig, gan gynnwys Robert Puw yr hynaf yn Aelod Seneddol. Fodd bynnag, ym Mai 1586, ym mlynyddoedd y cythrwfl gyda Sbaen, pan oedd sïon am ysbiwyr Catholig yn dew yn y wlad, daeth i sylw’r Frenhines Elisabeth nad oedd y Deddfau Gwrth-reciwsantiaeth yn cael eu gweithredu’n effeithiol, a mynnodd eu gweithredu’n llym. Fe gafodd Robert Puw a’i deulu rybudd ‘cyfeillgar’, gan ynadon lleol oedd ar delerau da gyda hwy, mae’n siwr, a dihangodd ef, gyda’i gaplan a nifer o’i deulu a’i gyd-Reciwsantiaid, i ogof Rhiwledyn ar glogwyni Trwyn y Fuwch, ogof na ellid ei chyrraedd yn hawdd ond o’r môr, a buont yn byw yno am oddeutu naw mis. Roedd ganddynt bopeth ar gyfer byw yn yr ogof, yn fwyd, diod,a dodrefn. Yn wir, daethant a gwasg argraffu i’r ogof, y gyntaf yng Nghymru, ac arni, yn 1587, yr argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf i’w argraffu ar dir Cymru – Y Drych Cristnogawl – llyfr yn proffesu’r ffydd Gatholig.


Ogof Rhiwledyn ar Drwyn y Fuwch
Yn yr un flwyddyn canfuwyd yr ogof, a dywedwyd wrth yr Ynad lleol, Syr Thomas Mostyn, a ddaeth yno gyda thyrfa niferus. Fodd bynnag, nid aeth i’r ogof, ond aros hyd drannoeth, am y byddai hynny’n well, meddai ef. Rhoddodd hyn gyfle i’r rhai yn yr ogof ddianc, ac, erbyn trannoeth roedd pawb oedd yno wedi diflannu, ac ni chlywyd dim am Robert Puw am rai blynyddoedd. Pan ddaliwyd ef yn Lloegr, a’i garcharu, rywfodd neu’i gilydd, daeth yn gyfeillgar gyda’r Brenin Iago 1af, ac, yn 1603, rhoddodd hwnnw bardwn iddo, a chaniatâd iddo addoli fel y mynnai; er mai fel Protestant rhonc yr ymddangosai Iago, ac iddo gyhoeddi amddiffyniadau o’r ffydd newydd, efallai mai symudiad diplomataidd i ennill, a chadw, coron Lloegr oedd hynny, gan y gwyddys iddo gael magwraeth Babyddol, ac roedd ei fam, Mary, yn Babyddes gadarn. Fodd bynnag, wedi cael y pardwn brenhinol, daeth Robert adref i Benrhyn Creuddyn lle bu farw yn 1629.
Aelodau eraill amlwg o’r teulu oedd
- Phylip Puw, marw 1637, oedd efo’i dad, Robert yn ogof Rhiwledyn, a chredir iddo dreulio’i oes yn ei ardal enedigol.
- Gwilym Puw (c. 1618 – c. 1689), llenor Catholig, milwr, meddyg, ac aelod o Urdd y Benedictiaid. Bu’n gapten ym myddin y Brenin yn y Rhyfel Cartref, a chyfansoddodd gerddi caeth a rhydd, o safon digon gwachul, yn hyrwyddo’r hen ffydd
- Robert Puw (1609 – 1679), awdur, offeiriad, a merthyr Catholig . Ail fab Phylip Puw
- Fodd bynnag, erbyn y ddeunawfed ganrif, mae’n amlwg fod reciwsantiaeth yr hen deulu Puw wedi llwyr ddiflannu, ac nid oeddynt ond yn un arall o fân uchelwyr Anglicanaidd Sir Gaernarfon, er yn ddigon pwysig i Edward Philip Pugh fod yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1743, a’i fab, James Coytmore Pugh, ddal yr un swydd ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach yn 1776.
- Fel y nodwyd, ni wyddom yn union pryd y daeth Stâd Coetmor i ddwylo’r Puwiaid, ond mae’n ddiddorol fod y stâd, wedi marwolaeth ei gŵr, beth bynnag, yn parhau yn enw yr etifeddes, Mary Coytmor Pugh, ac nid yn enw ei etifedd ef. Yn wir, hyd yn oed flynyddoedd wedi ei marw, sonnir am diroedd Coetmor fel tiroedd yn perthyn i ‘the late Mary Coytmore Pugh’. Bu farw Edward Philip yn 1769, ac etifeddodd ei fab, James, diroedd Penrhyn Creuddyn ar ei ôl, tra’r arhosodd Coetmor ym meddiant ei weddw. Pan fu farw Mary Coytmore Pugh yn 1781, daeth Coetmor i ‘feddiant’ ei mab, James, ond roedd hynny, fel y gwelir yn nes ymlaen, yn feddiant anghyffredin, a dweud y lleiaf. Bu James farw yn 1797. Gan mai hen lanc ydoedd ef, ac mai dwy chwaer oedd ganddo, daeth cysylltiad yr enw Pugh gyda Choetmor i ben, er fod yr enw Coetmor wedi cael ei gadw a’i arddel, fel y gwelwn yn nes ymlaen.
- Nid oes tystiolaeth annibynnol i sylw Hugh Derfel Hughes fod
- Edward Philip Puw yn tori ffigur uchel yn ei oes, ac ystyrid ef, ar amryw gyfrifon ‘Y gŵr mwyaf yng Ngogledd Cymru’ 61
- Tipyn o osodiad o ystyried y teuluoedd grymus oedd yn y Gogledd ar y pryd. Ni chafwyd, ychwaith, dystiolaeth ei fod yn berchen ar bump etifeddiaeth, gan mai ond Coetmor a Dwygyfylchi, a chyfnod byr, trafferthus oherwydd dyledion, yn berchen ar stad Lowe yng Nghaerhirfryn, a ganfuwyd. Rhaid inni gofio fod Hugh Derfel yn ysgrifennu bron i ganrif yn dilyn marwolaeth Edward Philip Puw, a’i fod yn dibynnu ar wybodaeth ail, a thrydydd llaw, a gwyddom oll sut mae ffeithiau yn gallu ‘newid’ wrth deithio ar lafar. At ei gilydd, cyfnod digon cythryblus fu cyfnod cysylltiad y Pughiaid gyda Choetmor, yn enwedig cyfnod James Coytmore Pugh, a hynny, mae’n debyg, oherwydd cyfuniad o ffactorau allanol, a ffactorau personol yng nghymeriad James. Efallai fod HDH yn llygad ei le pan ddywed am y Puwiaid yr
- ymollyngent i bob ffurf o chwarae damwain ( = hapchwarae, gamblo)61
- ac, efallai, mai ond ei biwritaniaeth ef, neu ei ffynhonellau, a ddywedai hynny, ond erys y ffaith mai craidd y trafferthion parhaus oedd dyledion, dyledion hanesyddol, a dyledion oedd yn cynyddu’n gyson trwy’r ddeunawfed ganrif, beth bynnag oedd y rheswm amdanynt. Doedd boneddigion mewn dyledion a thrafferthion ariannol ddim yn beth anghyffredin yn y ddeunawfed ganrif, a’r ganrif ar ei hôl, yn enwedig felly y boneddigion rheiny oedd yn perthyn i ddosbarth y mân uchelwyr, y rheiny nad oeddynt yn berchen ar ddigon o diroedd i fedru cynnal yn ariannol y rhwysg ymddangosiadol, nid yn unig yr oeddynt yn dymuno ei gael, ond, hefyd, yr hyn yr oedd disgwyl iddynt ei arddangos. Dywedir am nifer helaeth o uchelwyr y cyfnod eu bod yn gyfoethog mewn tir ond yn dlawd mewn arian,( land rich, cash poor), ac, erbyn y ddeunawfed ganrif, roedd arian sychion wedi dod yn hynod o bwysig, gyda dosbarth newydd sylweddol o fasnachwyr a gwŷr busnes entrepreneuraidd ariannog wedi datblygu ers canol yr 16eg ganrif. Yr unig ffordd i sawl penteulu bonheddig gael dau ben llinyn ynghyd oedd benthyg arian yn erbyn y tiroedd yr oedd yn eiddo arno, benthyciad a elwid yn ‘forgais’, o’r Hen Ffrangeg ‘ mortgage’, sef ‘addewid hyd farwolaeth’. Roedd y benthyciadau hyn, ar lôg, wrth reswm, yn cael eu rhoi gan uchelwyr a thirfeddiannwyr cyfoethog iawn, neu’n aml, gan aelodau’r dosbarth canol newydd y soniwyd amdano uchod, pobl oedd wedi gwneud arian mewn cyfnod diweddar, a hwnnw’n arian parod. Yn aml iawn, roedd y morgeisi hyn yn faen melin affwysol o drwm o gwmpas gwddf sawl perchennog stâd fechan a chanolig, nifer yn eu cael gyda’u hetifeddiaeth, ac yn gorfod ychwanegu atynt wrth geisio cadw’r blaidd o’r drws. Stori felly yw stori James Coymore Pugh a’i dad, stori o grafu byw o’r llaw i’r genau, o ddyled i ddyled, o fenthyciad i fenthyciad, gan roi’r argraff allanol o fod yn fonheddwyr.
Mae’n bosibl fod morgais yn erbyn tiroedd Coetmor, hyd yn oed, cyn i’r stad ddod i feddiant Edward Philip a’i wraig, a hynny gan rywun ymhell i ffwrdd o Arllechwedd. Yn 1749, mae ewyllys y Fonesig Nelthorpe ( Swydd Lincoln ) yn gadael i’w merch, ymhlith pethau eraill, £1000 o forgais ar Goetmor, yn Arfon.62 Efallai mai Edward Philip Pugh a gymrodd y morgais, ond efallai i’r morgais fod wedi ei gymryd fel benthyciad cyn ei amser ef.
Nid oes sicrwydd ym mhle yr oedd y teulu yn byw wedi i Philip a Mary briodi, ai ym Mhenrhyn Creuddyn, ai yn y Coetmor. Mae awduron yr erthygl ar Benrhyn Creuddyn yn Darganfod Hen Dai Cymreig63 yn dweud mai ym Mhenrhyn Creuddyn yr oedd cartref y teulu, gyda Mary yn symud i Goetmor wedi marwolaeth ei gŵr. Fodd bynnag, mae cyfeiriadau at Edward Philip Pugh of Coetmor, 64ac, yn 1766, yng nghytundeb priodas eu merch hynaf, Bridget, gyda Syr Glyn Wynn o Lynllifon, nodir Edward Philip Pugh of Coytmor, co. Caernarfon, Esq. and Mary his wife……. Bridget Pugh of Coytmor, aforesaid spinster, eldest daughter of Edward Philip Pugh and Mary his wife65
Yn 1775 gwelir y canlynol
Deed whereby James Coytmor Pugh of Coytmor, co. Carnarvon, Esqre. and Mary Pugh of the same, widow and relict of Philip Pugh, late of the same, for 5sh. lease to John Wynne of Coed Coch, co. Denbigh, Esqre, a messuage in Bodlyman township, in the parish of Bettws Abergeley, co. Denb., called Porthddwyryd66
( Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2489 Coed Coch and Trofarth Records ).
Tra gwelir hyn yn Y Cymmrodor Cyf 44 Ion1935
James Coetmor Pugh, son of Edward Philip Pugh, of Penrhyn Creuddyn and Coetmor; honorary member of the Glynllivon Volunteers, 1765;
sy’n profi fod cysylltiad Pugh gyda’r ddwy stâd yn cael ei gydnabod
Mae Hugh Derfel yn cyfeirio at bennill ‘ gan un o’i chydoeswyr lleol’, nas enwir
Mae Nansi Puw Coetmor yn eneth lân, lân,
Ei gwallt yn blethedig, a’i dannedd yn fân,
A’i llygaid byw gleision fel distyll y don,
Onid blodau Llanllechid y gelwch chi hon67
gyda’r epithet yn awgrymu’n gryf ei bod yn byw yn y Coetmor, a’i bod yn gyfarwydd i fardd o’r dyffryn.
Ac, mewn erthygl ar stâd Lowe, isod, noda MJ Green, yn 2014
The Lowe was now in the hands of William Pugh until his death in 1754, being buried in Wigan on 29 December. Following his death it was taken on by his nephew Edward Philip Pugh, who is now referred to as ‘of Coytmor’. Coytmor was a property he inherited through his wife Mary Coytmor and was near Bethesda, near Bangor. About this time the Pughs left the old home of Penrhyn Hall for ever.68
Cyfyd hyn amheuaeth am gywirdeb yr erthygl ar Benrhyn Creuddyn ( Old Welsh Houses ), ble haerir i Edward Philip fyw yn y plasdy hwnnw hyd ei farwolaeth, gyda Mary yn symud i Goetmor yn 1769, gan adael James ym Mhenrhyn Creuddyn. Yn ei ewyllys, profwyd 1770, noda Edward Philip ei hun fel ‘of Coetmor, Llanllechid’. Bu hi farw yn 1780, a daeth James i Goetmor yn 1791, wedi iddo werthu Penrhyn Creuddyn. Er mor sicr yw gosodiadau’r ymchwilydd, mae’r mwyafrif o dystiolaeth gynradd yn gosod y teulu cyfan yn y Coetmor yn oes Edward Philip Pugh. Byddai rhesymau daearyddol amlwg am hynny, gan fod Coetmor yn nes o lawer at galon y sir, Caernarfon, na Phenrhyn Creuddyn, oedd yn eithafion neilltuedig y sir, ac, yn yr oes honno, ymhell o bob man. Efallai fod statws Coetmor yn uwch nag eiddo Penrhyn Creuddyn, hefyd. Eto, efallai fod y teulu yn defnyddio’r ddau lys yn eu tro. Wedi dweud hynny, nid yw epithet daearyddol uchelwr yn brawf o gwbl o ble mae’n byw; yn gynyddol o ail hanner yr 16ed ganrif, roedd tynfa Llundain yn rhy fawr i’r rhan fwyaf o foneddigion, a threuliai llawer ohonynt gyfran, os nad y cyfan, o’u hoes yno, ond gan gadw’r epithet daearyddol yn eu teitlau. Roedd o gwmpas traean landlordiaid, oedd yn berchen ar diroedd yn Iwerddon, na fuont erioed yno, ond yn dal i arddel enw’r tiroedd yn eu teitl.
The Rents of Land in Ireland, since they have been of late so enormously raised and screwed up, may be computed to about two Millions; whereof one third Part, at least, is directly transmitted to those, who are perpetual Absentees in England,
Jonathan Swift: An Humble Address to both Houses of Parliament 1735
Does dim rhaid inni edrych ymhellach na Richard Pennant; cyd-ddigwyddiad rhyfeddol yw mai yn y Penrhyn, Llandygai, yr oedd Pennant, Arglwydd Penrhyn, yn byw, gan mai Penrhyn yn Iwerddon sydd yn ei deitl, ac nid yr un yn Arfon, a pherthyn i bendefigaeth Iwerddon y mae’r teitl, teitl a gafodd gan Siôr III yn 1783, ddeunaw mlynedd wedi dod i’r Penrhyn, Llandygai, a theitl, gyda llaw, oherwydd mai un Gwyddelig ydoedd, a ganiatâi’r deilydd i fod yn Aelod Seneddol. Eto, efallai oherwydd y ffaith olaf hon, nad cyd-ddigwyddiad, wedi’r cwbl, oedd y teitl Gwyddelig, ac mai hollol fwriadol ydoedd i ganiatâu i berchennog y Penrhyn, Llandygai, eistedd yn y Senedd. A fu Pennant erioed yn Louth, Iwerddon, lleoliad daearyddol ei deitl? Pwy a ŵyr? Ar wahân i gael ei eni yn Jamaica, ni chredir iddo erioed fod yn y rhan honno o’r byd wedyn, er fod ei blanhigfeydd yno yn gyrru miloedd o bunnau’r flwyddyn iddo, ac yn sail i’w ffortiwn.
Er fod landlordiaid absennol yng Nghymru, doedd y sefyllfa yma ddim mor ddrwg ag oedd yn Iwerddon, efallai am fod Cymru yn nes at Lundain na Iwerddon, ond, yn fwy, am mai disgynyddion yr hen deuluoedd uchelwrol cynhenid Cymraeg, neu rai wedi priodi i’r teuluoedd hynny, oedd mwyafrif tirfeddiannwyr Cymru yn y cyfnod, tra bod llawer o dirfeddiannwyr Iwerddon yn Saeson oedd wedi cael y tiroedd gan y goron, naill ai fel gwobr, neu fel anrheg. Felly, doedd dim cysylltiad hanesyddol gydag Iwerddon gan nifer helaeth o dirfeddiannwyr y wlad honno, ond roedd cysylltiad hanesyddol uniongyrchol gyda’r wlad gan fwyafrif tirfeddiannwyr Cymru, gyda’r rhan fwyaf o’r teuluoedd yn olrhain eu hunain yn ôl i gymeriadau hanesyddol, neu ddychmygol, Cymru yn y canrifoedd cynnar. Roedd llawer o’r uchelwyr yn parhau mewn cysylltiad agos gyda’r wlad, trwy fyw yma’n rhannol neu’n barhaol. Yn sicr, doedd absenoldeb o Gymru ddim yn wir yn achos Pughiaid Coetmor, ac mae’n bur sicr eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r stâd tra’r oeddynt yn berchen arni; gwahanol oedd y sefyllfa wedi eu cyfnod hwy.
Yn 1754, rai blynyddoedd wedi priodi Mary, etifeddodd Pugh stâd arall gan berthynas iddo, sef Lowe Hall yn Swydd Caerhirfryn69, a daeth honno â nifer o broblemau, yn bennaf yn ddyledion ychwanegol, yn ei sgîl; mae papurau stâd Lowe yng ngyfnod Pugh yn llawn o geisiadau gan bobl iddo ef dalu biliau, a llythyrau ganddo ef i gredydwyr yn ymddiheuro am beidio talu, ac yn addo’r byd – rywdro yn y dyfodol pell. Fe werthodd Pugh y stâd honno i Ddug Bridgewater yn 1765, ond ni wyddys a gliriodd y dyledion ai peidio gyda’r arian a dderbyniodd . Yr unig beth a wyddys yw i Pugh farw yn 1769, gan adael yn ei ewyllys70 nifer o ddyledion, a nifer fawr o waddoliadau. Ac mae hyn, eto, yn nodwedd o ewyllysiau y mwyafrif o foneddigion oedd mewn dyled, sef nodi’r dyledion, ond, wedyn, eu anwybyddu’n hollol, gan roi cymynroddion i bawb a phopeth yn ribidires. Canlyniad anochel hyn yw gosod y stâd a adawent dan faich mwy o ddyledion. Yn aml, os na fyddai person yn derbyn ei gymynrodd, byddai’n gwneud yr hyn fyddai mwyafrif personau bonheddig y cyfnod yn ei wneud – mynd yn syth efo achos cyfreithiol i Lys y Siansri. Nid oes ryfedd i’r llys hwnnw fod yn achos difetha sawl unigolyn, a sawl teulu, gan lyncu sawl ffortiwn; does ond angen darllen Bleak House gan Dickens i weld effaith Llys y Siansri.
Sôn oeddem ni am ddyledion Edward Philip Pugh, a dyma ble mae ail anlwc mawr Coetmor yn dod i’r hanes, sef dyledion, a methiant i ddelio gyda’r dyledion rheiny. Fel y nodwyd, roedd llawer iawn o’r hen stadau mewn dyledion erbyn ail hanner y ddeunawfed ganrif, a hynny am nifer o resymau, y prif un oedd nad oedd y rhenti a geid o stadau bychain yn ddigonol i gynnal eu perchnogion yn y dull yr oeddynt hwy yn ei chwennych, nac yn y dull y disgwylid iddynt fyw ac ymddwyn. Dyma’r cyfnod y llyncwyd llawer o’r stadau llai gan stadau yr uchelwyr mawrion, neu, mewn sawl achos, y cawsant eu prynu gan yr ‘arian newydd’, sef yr entrepeuneriaid, a’r marsiandiwyr dosbarth canol, oedd wedi gwneud eu harian o fasnach. Enghraifft dda iawn yw Stâd y Penrhyn, a ddaeth i feddiant yr enrepreuner cefnog o Lerpwl, Richard Pennant, hanner trwy briodas, a hanner trwy bryniant. Eto, rhaid cofio fod Pennant, yn wahanol i nifer o entrepreuneriaid ei gyfnod, yn dod o stoc bonheddig yn Sir Fflint, a bod cyfuniad ynddo o werthoedd newydd y masnachwyr ariannog, mai arian oedd yn sylfaenol bwysig, a hen werthoedd y tirfeddiannwyr bonheddig, sef mai’r gwir gyfoeth oedd y tir. Mae’n debyg mai’r cyfuniad eithriadol hwn o ddau fyd, yr hen a’r newydd, oedd yn gyfrifol fod Pennant, o’r cychwyn, am wella’r stâd oedd wedi dod i’w feddiant. Yn ogystal a’r nodweddion hyn, daeth Pennant â thri pheth gydag ef i’r Penrhyn, sef arian sylweddol, wedi ei wneud trwy fasnachu a chaethwasanaeth, yr awydd i wneud y mwyaf o bob adnodd oedd ar ei dir, (ac nid llechi yn unig oedd yr adnoddau hynny), ac ynni rhyfeddol i yrru ei gynlluniau ymlaen. Ac yma mae trydydd anlwc Coetmor, oherwydd yn yr union gyfnod y cafodd Penrhyn Pennant, fe gafodd Coetmor James Coytmor[e] Pughe. Mae Hugh Derfel, oedd yn tynnu, mae’n sicr, oddi ar atgofion rhai yn yr ardal oedd, yn eu hieuenctid, drigain mlynedd ynghynt, yn cofio Pugh, yn ei ddisgrifio fel dyn ‘tal, esgyrniog, a throediog’, ac a ‘ddilynodd…. ym mywyd afradus y teulu…. ac aeth yn bellach i ddyled wrth ddilyn oferwyr. Roedd pethau mor ddrwg, meddai Hugh Derfel, ‘ fel nad âi allan o’i dŷ heb ddyn yn dwyn llafnes o gleiffon gydag ef, fel noddwr’, i’w warchod rhag y rhai yr oedd mewn mewn dyled iddynt, debyg. Ymhellach, dywed nad ‘oedd ganddo ef nemor o’r parch oedd gan ei fam at addoliad Duw …. A myned i mewn ar y Saboth i eglwys Llanllechid, pan y byddai y pregethwr yn cymeryd y testun, a hynny … i godi chwerthin a’i ddyrysu yn ei destun’.71 Er fod gan HDH eirda yn gyffredinol i Mary’r fam, mae’n nodi ei bod hi a’i merched yn gwisgo dillad drudfawr, efo gemwaith disglair, a hithau, ‘gwisgai glustdlysau, ac yr oedd gem yn un ohonynt yn costio £60 ei hunan’. Wn i ddim sut y byddai neb o Ddyffryn Ogwen y cyfnod yn adnabod gwerth gem, ond mae’n awgrym o’r gwychder a fu yng Nghoetmor. Ymhellach, mae ewyllys fanwl a chymhleth Mary, dyddiedig 21 Ebrill 178172, yn gadael ei gemau i’w merched, ond yn gadael ‘ my green stone ring, set round with brilliant diamonds’ i James Mae’n amlwg fod Mary, hithau, un ai yn ofer, neu mewn trafferthion, oherwydd mae tystiolaeth y bu iddi, yn 1779, ar ddiwedd ei hoes, fenthyg £70 gan rhyw John Roberts, Hendrewen, Caernarfon, ar log o £5 y flwyddyn. 73 Ymhellach, ddwy flynedd ar bymtheg wedi ei marwolaeth, fe yrrwyd llythyr i Mears Solicitors of Cliffords Inn, London, dyddiedig 14 Mai 1798, yn dweud
that several persons to whom Mrs Pugh was indebted heard that there was provision made by the Court of Chancery for payment of their debts, + finding that some of the estates are now to be sold, it is requested in what manner the debts are to be claimed 24 May 1798
gan nodi’r dyledion canlynol
Rev W Roberts Hendrewen Bond 1779 £140 ( sef y £70 a nodwyd uchod + llog o 5% am 20 mlynedd)
Llanllechid Parish Bond £120
Mr Jones, Shopkeeper, C’fon Funeral expenses!!! £40
2 rodd mewn ewyllys – £10 yr un ynghyd â chyflogau gweision a nifer o siopwyr oedd wedi disgwyl cyhyd.74
Mae dyledion y fam yn amlwg yma, ynghyd â chostau claddu, rhoddion ewyllys, ac ati, nad oedd ei hysgutoriaid wedi eu clirio. Ac nad anghofier y siopwyr a’r gweithwyr druan. Bydd yr un stori yn cael ei hail-adrodd yn hanes ei mab.
Ac yn ôl at y mab hwnnw, James. Yn wahanol i’w fam, does gan Hugh Derfel ddim gair da o gwbl iddo ef, oferddyn ‘a aeth yn bellach i ddyled wrth ddilyn oferwyr.’ Yr un yw barn William Williams, Llandygai, oedd yn gyfoeswr iddo, am etifedd Creuddyn a Choetmor, pan yw yn ei alw yn ‘prodigal son’75a a werthodd etifeddiaeth ei dad. Mae HDH yn nodi i’r Pughiaid fynd i drafferthion oherwydd afradlonedd cyn i James ddod i’w etifeddiaeth yn 1769, ond bid a fo am hynny, mae’n arwyddocaol mai’r peth cyntaf a wnaeth James wedi etifeddu tiroedd ei dad, oedd morgeisio Penrhyn Creuddyn am £6000 i Syr Williams Wynn, ac, ymhen dwy flynedd wedyn, yn 1773, fe gynyddwyd y morgais i £8000. Roedd amodau’r morgais yn golygu fod yn rhaid i’w fam, Mary, beidio hawlio’r blwydd-dal o £100 roed iddi yn ewyllys ei diweddar ŵr, ac fe glywn am hyn yn nes ymlaen. Y twrnai oedd ynglŷn â’r cytundeb hwn oedd Thomas Williams, Llanedwen, Sir Fôn, ac fe glywn am hwn eto ymhen 30 mlynedd.
Mae ewyllys Mary Coetmor Pugh yn 1781 yn rhoi awgrym cryf inni am gymeriad ei mab, ac nad cyfeiliornus hollol, nac unllygeidiog ragfarnllyd oedd Hugh Derfel yn ei farn ohono. Er mai James oedd ei hunig fab, a’r etifedd, nid yw ei fam yn gadael Coetmor, tiroedd ei theulu hi, iddo. Yn hytrach, roedd i gael ‘use and benefits of various rents and dues’, ond nid oedd i gael
‘any power over the rents…. And that he shall not have power to sell my estate or any part thereof for the term of his life ….. and that the same should not be subject to his control or liable to any debt or debts he hath already contracted or shall or hereafter contract.’
Roedd James i gael ‘during his life the use of the plate, china, linen, household goods and furniture’.76
Mewn gwirionedd, yr unig beth a gafodd James yn ewyllys ei fam oedd y fodrwy werdd, a rhenti’r stâd, ond heb yr hawl i gynyddu’r rhenti hynny. Roedd stâd Coetmor i gael ei rheoli gan dri ymddiriedolwr, Syr Hugh Williams, Barwn, Owen Holland, Conwy, a Paul Panton, Plas Gwyn, Pentraeth, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i hynny ddigwydd yn weithredol mewn unrhyw fodd. Wedi marwolaeth James, roedd y llestri ac ati i fynd i’r ferch ieuengaf, Anne, ac felly hefyd , yn rhyfedd ddigon, y stâd ei hun, neu i’w gŵr, neu ei disgynyddion, ac, os nad oedd y rheiny’n fyw, roedd y stâd i fynd i’r ferch hynaf, Bridget, neu ei disgynyddion. Yr unig amod oedd fod rhaid i unrhyw etifedd fabwysiadu’r enw Coetmor, a defnyddio arfbais y teulu. Rwan, yr hyn sy’n glir o ewyllys Mary Coetmor yw nad oedd yn ymddiried yn ei mab. Mae’n amlwg ei fod yn gwybod y byddai Coetmor mewn perygl enbyd pe gadawai’r stâd iddo ef, ac y byddai wedi ei gwerthu, neu ei morgeisio, er mwyn cynnal ei ddull afradlon o fyw. Mae sicrhau fod etifeddiaeth ei theulu yn mynd i’r genhedlaeth nesaf, sef plant ei merched, gan nad yw ei mab yn briod, yn sicrhau dyfodol yr etifeddiaeth honno. Os yw mam yn gwneud hyn i’w hunig fab, mae hynny’n gondemniad mawr iawn ohono. Ond, efallai fod ganddi reswm i boeni am ei hetifeddiaeth; wedi’r cwbl, o weld afradlonedd y teulu, llathen o’r un brethyn oedd James, yntau.
James Coytmore Pughe
Mewn nodyn i’w feistr, yr Arglwydd Penrhyn, yn 1797, dywed Benjamin Wyatt, wrth sôn am Coytmor Pugh a’i nai ( Mae’n debyg mai William Wynn, Tower House, Caernarfon, merch ei chwaer, Bridget, oedd hwn. Ef, ymhen rhai blynyddoedd, fyddai’n etifeddu Coetmor )
…the nephew is not much better than the uncle, either in principle or wisdom, but .. will be as troublesome as they can 77
Ac, mewn llythyr at Thomas Ellis, Bodfel, yn Ionawr 1797, dywed Wyatt
I wish you may meet with more satisfaction from him than I have for I never in my life was more tried of doing business with a person than I have been with him78
Mae hynny’n adrodd cyfrolau wrthym am gymeriad meistr Coetmor.
Nid oes gennym lawer o wybodaeth am James Coytmor Pugh, ar wahân i’r ffaith iddo fod yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1776, nes inni gyrraedd blynyddoedd olaf ei fywyd, pryd y daeth i gysylltiad uniongyrchol gyda stâd y Penrhyn, a Benjamin Wyatt yn benodol. Roedd trylwyredd a manylder yr asiant hwnnw yn golygu ei fod yn cadw pob un tameityn o bapur a chofnod, ac mae hynny yn rhoi darlun clir inni o bob agwedd ar waith y stâd, gan gynnwys, yn yr achos hwn, y stâd fechan gyffiniol, Coetmor, a’i ‘pherchennog’, mewn ffordd o siarad, James Coytmore Pugh. Fel y gwelwyd, doedd gan Hugh Derfel, fel Wyatt o’i flaen, ddim gair da o gwbl iddo, a gwelir ef fel rhyw fath o geiliog dandi mawr, lliwgar, gair yr oes amdano ef a’i fath, mae’n sicr, fyddai ‘fop’, sef person arwynebol, lliwgar ei wisg a’i fuchedd, a disylwedd ei gymeriad. ‘Coegyn’ fyddai Ellis Wynne o’r Lasynys yn ei alw yn nechrau’r ddeunawfed ganrif. O’r hyn a gasglwn amdano o’i gysylltiadau niferus gyda’r Penrhyn, a chyda Benjamin Wyatt, y Prif Asiant, yn benodol, fe welwn ddyn sy’n byw bywyd arwynebol uchelwrol, yn hynod fawreddog, ond yn byw ar y dibyn yn ariannol, yn berwi o ddyledion, yn chwarae un dyled yn erbyn y llall, yn berson piwis iawn, ac yn barod iawn i ymgyfreitha. Dyma un enghraifft o’r agwedd honno
Coytmor Sep 1796
Mr Earl
I understand you are employed by Lord Penrhyn to survey the mountain part of this Parish. This is to give you notice that you must not on any account or by any orders whatsoever go upon my liberty of Cwm Pen Llafar without my previous consent, otherwise you shall most certainly be prosecuted
James Coytmore Pugh79
Tir comin oedd y rhan helaethaf o’r Carneddau yn oes Pugh, fel heddiw, ac mae’n sicr mai cyfeirio y mae yn ei fygythiad ar gynefin defaid yr oedd â hawl iddo, boed hwnnw’n perthyn i’r demesne, neu rai o ffermydd y stâd. Fodd bynnag, syniad haniaethol yw ‘cynefin’, ac nid oes iddo leoliad cyfreithiol penodol, gan ymwneud gyda niferoedd defaid yn hytrach nag erwau diriaethol ar dir na map. Gan mai defaid yn unig sy’n ymwybodol o unrhyw derfynau i’r cynefin, byddai Mr Earl druan yn hollol anymwybodol ar gynefin pwy y troediai, sy’n dangos pa mor druenus o wirion oedd bygythiad y cynhennus James Coytmore Pugh.
Fel y nodwyd, ni wyddys ble’r oedd prif gartref James Coytmor Pugh rhwng marwolaeth ei dad a 1791, ond, yn sicr, ar ôl y flwyddyn honno, yng Nghoetmor y bu, oherwydd, yn 1791, fe werthodd stâd Penrhyn Creuddyn i’w dwrnai, Thomas Williams, Llanidan. Hwn oedd yr enwog Twm Chwarae Teg ( nad oedd mor ‘chwarae teg’ â hynny! ), y ‘Copper King’ a gysylltir gyda gwaith copr Mynydd Parys. Fe roddodd Williams £9405 i Pugh am y stâd, sef cyfanswm y morgeisiau a’r llog, ond nid yw’n ymddangos i Pugh dalu’i ddyledion gyda’r arian. 80
Bywyd y dyledwr fu bywyd Pugh, yn benthyg yn dragywydd, yn methu talu dyled, na thalu am waith, yn wynebu achosion llys yn gyson a rheolaidd, ac yn wynebu ymweliadau cyson gan y beili. Eto, a bod yn deg ag ef, nid ef, o bell ffordd, oedd yr unig uchelwr i fyw bywyd o’r fath yn ei gyfnod ef, nac wedyn, ychwaith.
Ar wahân i forgeisi a bondiau – sef benthyg swm o arian am gyfnod penodol, a hynny, fel arfer, ar log blynyddol o 5% – dyma rai enghreifftiau o ddyledion Pugh ym mlynyddoedd olaf ei oes, a doedd o ddim yn ddewisol, gan nad oedd yn talu neb heb fod rhaid – mater o chwarae un yn erbyn y llall oedd hi yn ei hanes, fel yn hanes sawl dyledwr.
I’w feddyg, rhyw Dr Jones
1793 To a bill delivered for medicine and attendance £10.5.5
1794 Had in first payment £3.3.0
1795 Nodyn yn gofyn am dalu’r gweddill
1794 Gwrit llys yng Nghaernarfon gan Robert Williams , saer olwynion, yn erbyn Pugh am £2.16.3 – efo’r costau wedi codi i £19
27 Mawrth 1795 Gwrit llys yn erbyn JCP
Bond ers 1780, llog, a thwrnai £92-0-1
Yates and Solomon, Liverpool ( Marsiandiwyr enwog o’r ddinas ) £27-7-0
Stâd Robert Banston Bond a llog £38 – 5- 5
William Hughes Rowlands, Caernarfon ‘due for goods’ £9 – 6- 7
+ dyledion niferus eraill am waith a chynnyrch Cyfanswm £229-9-4
1795 Gwrit llys
Achos llys yn erbyn JCP – dyledion o £77-3-4
Mary Owen, ar ran stâd ei gwr £3-12-0
James Simples £15-12-8
Cyflog Gwas J Jones £2
Wm Jones Gof £1-1-2
Dyledus i 5 arall £22-6-8
Costau llys £11-12-6 81
A dyma inni gŵyn o’r galon gan J Staples o Fiwmares, Hydref 22, 1796
Mr Pugh I little expected that I should have occation[sic] to write to you in the way that you now oblige me to by the treatment you give me. I told you how much I was pushed for money, and begged you would assist me with what you owe me. But it is evident you don’t mind what distress the man fills who administered to yours…… I will take the most summary and effectual method to recover my money that the law allows 82
Fel sy’n digwydd i ddyledwyr, mae’r bwm beili yn dod at y drws. Ar ddiwrnod Dolig 1794 mae’n ysgrifennu i Benjamin Wyatt, Asiant y Penrhyn
…… I think this time may be the last, as a bailiff I find was in the house this morning and carried off a porker (mochyn?).83
Ac, yn 1796, nodir gan J Hughes, Caernarfon
The bailiffs took in execution lst night 3 cows and two horses84
Fel llawer i un sydd dros ei ben a’i glustiau mewn dyledion, roedd Pugh yn ddyn stimddrwg a thywyllodrus iawn. ‘His wiles and cunning were up to anything’, oedd barn Benjamin Wyatt amdano.
Mewn llythyr i Richard Pennant ( 10/Ionawr/1795), mae Wyatt yn cyfaddef ‘ I must leave you to act ….. for he is well beyond my management’,85 tra bod J Hughes o Gaernarfon, ym Mawrth yr un flwyddyn, yn dweud wrth Wyatt ‘ I find that Mr Pugh is too much for you in manouvering … he was only using you to throw over the Assizes86, lle’r oedd achos yn ei erbyn, mae’n amlwg.
Ac roedd Benjamin Wyatt yn asiant profiadol, yn rhedeg holl stâd y Penrhyn!
Gydol yr amser roedd yn cwyno, ac yn erfyn am bres
‘I hope, my dear Sir, you will excuse me for being this troublesome, but indeed tis real necessity compels me to it. If you will be so good as to spare me a few guineas…87
….came here to show my face to some people I am indebted to. Shall be greatly obliged to you if you will send me twenty pounds
I shall be much obliged to you if you will favour one with twenty pounds, as I must be in Conway early in the week when I have promised to pay some money88
Nid oedd ganddo arian, hyd yn oed, i dalu i’w weithwyr
I had a servant to discharge ….and a poor widow who expects two guineas for washing….I shall thank you for it in my present dilemma 89
Erbyn dechrau 1794 yr oedd James Coytmor Pugh a Stâd Coetmor mewn twll dwfn iawn, gyda’r dyledion yn enfawr. Er fod rhenti’r stâd yn £580 y flwyddyn, sydd yn swm bychan iawn o’i gymharu â’i gymydog pwerus, y Penrhyn, yr oedd yn ddigon parchus ( yn cyfateb i dros £100,000 heddiw ), dim ond £200 oedd yn dod i Pugh, gan fod y gweddill, sef £380, yn mynd yn syth i’r credydwyr, yn yr achos hwn y rhai oedd wedi rhoi arian i Pugh, neu’r teulu o’i flaen, mewn morgais. Gan amlaf, y drefn oedd fod rhent eiddo oedd dan forgais yn mynd yn uniongyrchol i’r sawl oedd yn dal y morgais, fel tâl am y morgais. Erbyn 1794 roedd morgeisi o £10,000 yn erbyn stâd Coetmor, gyda £7600 o hynny yn cario llog, a’r gweddill yn forgais di-log. Roedd y morgeisi, yn gyffredinol, yn nwylo rhyw hanner dwsin o bobl. Roedd y demesne, yr ardal fwyaf, ac ambell ddaliad,yn nwylo dwy chwaer James, Bridget Wynn ac Anne Hughes, ac yn cael eu dal yn rhydd o forgais, felly roedd rhenti’r tiroedd hyn ( £212 ) yn mynd i ddwylo’u brawd. Fodd bynnag, roedd mwyafrif gweddill y tiroedd mewn morgais. Roedd morgais o £1100 i ryw Gapten Taylor ar Tai’n Coed, Tyn Hendre, Caerffos, Talybont, Pandy, a Tyddyn, tra’r oedd Sgubor Newydd a Pant Hwfa mewn morgais i’r Parchedig W Jones, ac roedd holl diroedd Coetmor yn Nwygyfylchi dan forgais o £3000 i rhyw Dr Gisborne, oedd yn byw yn Llundain.Thomas Williams, Llanidan, y twrnai brynodd Penrhyn Creuddyn, oedd yn dal morgais Tan Llyn Ogwen, ac roedd Tal y Waun, yn Nant y Benglog, dan forgais i rhyw Miss Vincent. Ni wyddys am diroedd Llanfairfechan, y tai ym Mangor, na’r tyddyn bychan ym Môn, ond roedd deilyddion morgeisi eraill.
Fel y nodwyd, roedd cyfanswm y rhenti yn yn £580, ac roedd amodau ewyllys ei fam yn golygu na allai Pugh eu cynyddu. Pe gellid cynyddu, fe godid ychydig yn fwy o arian; mewn arolwg a wnaed gan J Hughes o Gaernarfon yn 1794/ 95, nodir
I doubt whether the estate can be stretched to £750 a year, all that Mr Pugh has had any dominion over, are at their utmost long time……… the present encumberance on the estate amount to near 10,000p, to which are added a great number of legacies under Mrs Pugh’s will, her bond and simple contract deals, funeral expenses, besides great costs in a Chancery suit already incurred, and numberless other debts ..even his labourers have not been paid90
Erbyn y flwyddyn hon roedd y Penrhyn yn llygadu’r stâd fechan oedd yn yr un ardal â hi, ac wedi dechrau rhyw gylchdroi uwch ei phen fel aderyn ysglyfaethus, yn barod i daro. Doedd Pennant ddim yn hoffi tiroedd nad oedd ef yn eiddo arnynt yn ei ardal, yn enwedig os gallai’r tiroedd hynny ychwanegu at ei gynlluniau, neu brofi’n rhwystr iddo rywdro yn y dyfodol. Nodwyd eisoes fod y Penrhyn yn berchen ar blwyf Llandygai i gyd, ond, mewn gwirionedd, nid felly’n union yr oedd pethau pan ddaeth Pennant yn berchen ar yr holl stâd yn 1785. Roedd dau eiddo yn y plwyf nad oeddynt yn eiddo i’r Penrhyn, sef Dyffryn Mymbyr, a oedd yn eiddo i Ymddiriedolwyr Ysgol Ramadeg Biwmares, a Rallt, na wyddys pwy oedd ei pherchennog. Yn 1785 fe brynodd Pennant fferm ar Ynys Môn, gan ei ffeirio gyda’r Ymddiriedolwyr am Ddyffryn Mymbyr, ac, yn 1788, fe brynodd Rallt, y cyfan gyda bwriad penodol, sef
being the only property in the parish of Llandygai that did not belong to Lord Penrhyn, his Lordship purchased them to prevent any claim or dispute about the Commons.91
( Llyfr Rhent Penrhyn 1808 )
Nid un am dorri cnau gweigion oedd Richard Pennant, ac roedd ei ymwneud gyda Choetmor a Pugh yn cydweddu efo’i anian. Mae’n sicr mai fel rhan o’i gynllun i gael ei ddwylo ar Goetmor y cymrodd Pennant y cam cyntaf, sef prynu’r morgais yr oedd Capten Taylor yn ei ddal ar rai o ddaliadau Coetmor yn hendref Llanllechid, sef y £1100 ar Caerffos, rhan o Dalybont, Tai’n Coed, Ysgubor Newydd, Dolhelyg, ac eraill. Roedd hyn yn rhoi hawliau iddo dros renti’r tiroedd rheiny. Ni wyddom beth oedd hanes y tai ym Mangor, ond mae’r hyn a welwn yn nes ymlaen am Bryn Chwarel yn Llanfairwll yn awgrymu fod Penrhyn wedi cael gafael ar forgais y tir hwnnw hefyd.
Ni wyddom o ble y deilliodd y syniad am gynllun rhwng Penrhyn a Pugh a gymrodd dipyn o sylw Wyatt yn niwedd 1794 a dechrau 1795, sef cynllun i’r Penrhyn gymudo’r rhenti yr oedd Pugh yn ei gael am un swm a blwydd-dal. Ai Pugh a welodd gyfle i gael arian penodol heb y drafferth o redeg ei stâd? Neu a fu Pugh yn gofyn am fenthyg pres gan ei gymydog ariannog, a hwnnw’n gweld cyfle euraid i gael ei grafangau yn dynnach ar Goetmor? Ni wyddom, ac ni allwn wybod, ond mae’r gwaith cefndir manwl, a’r cytundeb gennym. Yr unig beth a wyddom yw fod yma ddau ddyn, Pennant a Pugh, oedd yr un mor ystrywgar â’i gilydd, gyda’r ddau yn ceisio gwneud y gorau o unrhyw gytundeb. Roedd Pugh yn mynnu cael swm o £600 ynghyd â blwydd-dâl o £200, ac roedd Wyatt yn gweld nad oedd hyn yn fanteisiol i’r Penrhyn, gan y byddai angen codi’r rhenti, a chael cyfraniad gan Penrhyn. Oherwydd nad oedd Benjamin Wyatt yn gallu delio efo holl ystrywiau a chelwyddau Pugh, fe ofynnodd i J. Hughes o Gaernarfon edrych i’r sefyllfa. Wedi ymchwil manwl, barn bendant hwnnw oedd nad oedd yn fanteisiol i’r Penrhyn barhau gydag unrhyw gytundeb, yn bennaf oherwydd y morgeisi, y dyledion lu, gyda rhai yn mynd yn ôl i ewyllys Mary Coytmor, ac
even the labourers have not this day been paid92
gan roi’r cyngor pendant
….. take the best security you can for what you have already advanced93
Hynny yw, ffordd o ddweud mewn ffordd neis i gadw’n glir.
Yn dilyn hynny, fe ysgrifennodd Wyatt i Pugh
The intricacy of the affairs and the uncertainty of the information which I attain from you and Mr Hughes makes me afraid of proceeding any further in the business, and therefore you must excuse me transferring any more. I will supply you with a piggot of barley, as you request …I cannot justify myself to Lord Penrhyn in advancing any more money94
Felly, mae’n amlwg fod Pugh yn manteisio ar y sefyllfa i gael arian cyn selio unrhyw gytundeb.
Bid a fo am amheuon Hughes a Wyatt, fe ddaethpwyd i gytundeb
By …. dated 18th and 15th of March, 1795, James Coytmore Pugh in return of the sum of £600 and an annuity of £200 secured to him for his life sold to his heirs all the premises of the rents and profits thereof to hold …. to the use of the plaintiff … during the life of James Coytmore Pugh. … 95
Os gwir y ffaith a nodwyd am werthiant Penrhyn Creuddyn, gyda’r arian yn mynd i Pugh ei hun, ac yntau yn peidio talu ei ddyledion, roedd Wyatt yn fwy hirben na Thomas Williams, oherwydd dim ond £50 o’r £600 a roddodd ef i Pugh, gan gadw’r gweddill i dalu ei ddyledion.
Mem’d’m the 19th March 1795 that James Coytmor Pugh Esq has this day left in my hands the sum of five hundred and fifty pounds for the purpose of discharging the demands of his several creditors, the promise of which I promise faithfully to make
+ £50 to Mr Pugh in cash BW 96
Yn unol â’r drefn mae’n sicr y cyhoeddwyd y dylai unrhyw berson oedd ag achos i hawlio tâl am ddyled gan James Coytmor Pugh gysylltu gyda Benjamin Wyatt, a dyma’r ceisiadau yn llifo i mewn.
Dyma un enghraifft yn unig, gan rhyw H L Jones
‘Mrs Thomas kindly inform’d me that Mr Pugh of Coytmor was now discharging some of his debts, and that by an immediate application to you, I might stand a chance of getting a small one due to me since the year 79’97
Un mlynedd ar bymtheg o ddyled! Talwyd £8.12.8
O fewn blwyddyn roedd Wyatt wedi clirio £502.13.7 o ddyledion Pugh.
Er gwaethaf yr hyn a nododd J Hughes, uchod, fe brofodd y cytundeb terfynol, fel y gellid tybio, yn fwy manteisiol i Pennant nag i Pugh; er mor ystrywgar oedd hwnnw, amatur oedd o’i gymharu â Richard Pennant. Bu Pugh farw o fewn dwy flynedd a hanner i’w arwyddo, ond fe barhaodd y Penrhyn i gasglu rhenti Coetmor, ac roeddynt yn cael cyfartaledd o £240 y flwyddyn o renti o’r diroedd y stâd, oedd yn 20% o elw ar flwydd-dâl Pugh.
Roedd Pugh wedi sefydlogi ei fywyd gyda’r cytundeb hwn, ond fe brofodd yn ddraenen yn ystlys Wyatt a stâd Coetmor. Er ei bod yn ymddangos mai taliad o £100 bob hanner blwyddyn i Pugh oedd yn y cytundeb, roedd Pugh fyth a hefyd yn plagio Wyatt am bres ymlaen llaw, er enghraifft
I shall be much obliged if you will favour me with twenty pounds……. for which I enclose my receipts ( diddyddiad)
Ond doedd swnian parhaus Pugh ar Wyatt yn ddim o’i gymharu â’r perygl a ddaeth o gyfeiriad arall yn dilyn cytundeb Pugh gyda’r Penrhyn, efallai oherwydd y cytundeb, ond efallai oherwydd anghydfod cyffredinol am y stâd. Deuai hwn o gyfeiriad ei deulu ei hun, ac roedd hwn yn berygl real a achosodd ddifrod mawr i Goetmor yn y blynyddoedd ar dro’r ganrif. Pan oedd perthnasau’n ffraeo yn y cyfnod hwn, roeddynt yn rhedeg i Lys y Siansri, a bu’r Siansri yn achos dinistr a chwalfa i sawl unigolyn a theulu. Roedd beirniadu mawr ar y llys oherwydd ei arafwch a’i gostau, y ddau yn aml yn gysylltiedig, oherwydd ei bod yn fanteisiol i swyddogion y llys ymestyn gweithgareddau gan eu bod hwy yn cael budd ariannol o’r arafwch hwnnw. Yn nechrau’r 18ed ganrif sefydlwyd pwyllgor i edrych ar weithrediadau’r llys, a daeth i gasgliad
“that the interest which a great number of officers and clerks have in the proceedings of the Court of Chancery, has been a principal cause of extending bills, answers, pleadings, examinations and other forms and copies of them, to an unnecessary length, to the great delay of justice and the oppression of the subject”. 98
Er ambell newid yn dilyn adroddiad y Pwyllgor, roedd Llys y Siansri yn anterth ei rym ym mlynyddoedd olaf y 18ed ganrif, a bu’n ymwneud â Choetmor ar droad y ganrif honno.
Mae sôn yn arolwg J Hughes yn 1795 am achos oedd yn erbyn Coytmor Pugh yn y llys hwnnw, ond ni lwyddwyd i gael manylion hwnnw. Fodd bynnag, yr ydym yn gwybod fod achos wedi ei gyflwyno yn y Siansri yn 1797 gan James Coytmor Pugh yn erbyn Thomas Williams, ni ellir ond dyfalu mai hwn yw’r un Thomas Williams ag y gwerthodd Pugh stâd Penrhyn Creuddyn iddo chwe blynedd ynghynt. Ni wyddys mwy am yr achos hwn, efallai oherwydd i Pugh farw cyn i’r achos ddod i’w derfyn. Beth bynnag am hynny, yr achosion nesaf fu fwyaf niweidiol i’r stâd, ac maen nhw, yn ogystal â bod yn niweidiol, yn hynod o gymhleth, ac yn dangos gwrth-daro cas rhwng y Penrhyn ag etifeddion James Pugh, yn ogystal â rhwng aelodau’r teulu â’i gilydd.
Fel cefndir i’r achosion hynny, fe dalai inni edrych ar lythyr a dderbyniodd gŵr o’r enw William Williams ar yr 11eg o Ebrill, 1797. Ni wyddom pwy yw’r William Williams hwn, gan mor gyffredin ei enw, ond mae rhôl rent 1795 yn nodi William Williams fel tenant Melin Coetmor, ac yn nodi ‘later Wm Williams’ fel tenant Dôl Ddafydd. Ys gwn i ai hwn oedd y Wiliam Williams oedd â bil anferth i Pugh am haidd, ffa, malt, glo, a chasgenni, ynghyd â benthyg arian rhwng 1790 a 1794, ac a gafodd roi ei rent yn erbyn y bil, fel tâl rhannol. ( PFA/14/332) Efallai mai William Williams oedd yn ffermio tir y demesne, ac mai ei rent wedi ei gymudo oedd yr haidd a’r pethau eraill, yn sicr, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl Arolwg y Degwm, tenantiaid Coetmor oedd William Williams and partners. Eto, mae’n enw mor gyffredin…..
Diddorol yw nodi fod y William William hwn yn llythrennog, a hynny yn y Saesneg, gan iddo ysgrifennu arno ‘ received at 5.00 on the afternoon of 18th April’. Beth bynnag, fe yrrodd William Williams y llythyr yn ei flaen i Wyatt, sy’n profi fod y rhenti, erbyn hyn, yn mynd ar eu hunion i asiant y Penrhyn.
In Chancery
24 April 1797
Between Hugh Hughes and Ann his wife Plaintiffs
James Coytmor Pugh Esq and others Defendants
By virtue of an order of court …..I do require you to pay me the rents in arrears and growing rents of the messuages Tenements and lands now in your possession being part of the estate late of Mary Pugh widow deceased, otherwise you will be proceded against for recovery thereof …..
Given under my hand this 11th day of April 1797
Glynne Wynne receiver appointed by the Court
To Williams William, tenant of part of Coytmor Demesne land and Dol Ddafydd99
Rwan, mae nifer o bwyntiau diddorol yn y fan hyn.
Yn gyntaf, mae’n debyg fod hwn yn llythyr cyffredin a yrrwyd i fwy nag un tenant ar stâd Coetmor, gan ei fod yn ymddangos fel rhyw fath o pro-fforma.
Yn ail, mae’n fwy na thebyg mai’r Anne yn yr achos yw chwaer ieuengaf James Coytmore Pugh, ac, er fod HDH yn nodi mai Cornelius Hughes oedd enw ei gŵr, mae’r cyd-ddigwyddiad yn yr enwau yn awgrymu’n gryf mai ei gŵr oedd Hugh Hughes.
Yn sicr, nid y ‘Glynne Wynne, receiver appointed by the court’ yw brawd yng nghyfraith Pugh, sef gŵr ei chwaer, Bridget, gan i hwnnw farw yn 1793. Ni welir, ychwaith, ei fod o unrhyw berthynas i’r teulu
Yn olaf, mae’r achos ei hun yn codi cwestiwn, sef pa hawl sydd gan Hugh Hughes a’i wraig ar renti Coetmor, o ystyried fod ewyllys y fam wedi rhoi’r rheiny i’w mab? Roedd ganddo’r hawl, yn ôl yr ewyllys honno i wneud a fynnai â’r rhenti, o fewn terfynau wrth reswm, ac nid oedd eu cymudo i arian parod gan Pennant, hyd y gwelir, yn groes i amodau’r ewyllys. Er na allwn brofi dim, tybed a oedd y stimddrwg Pugh wedi cymryd arian yn erbyn y rhenti gan ei frawd yng nghyfraith, hefyd? Gyrrodd William Williams y llythyr yn ei flaen i Wyatt, ac atebodd hwnnw y dylai ei anwybyddu. Yn ôl cofnodion yr Archifau Cenedlaethol fe gymrodd yr Arglwydd Penrhyn achos yn erbyn Hugh Hughes yn 1797, addaswyd 1798100, ac mae’n sicr mai’r cytundeb rhenti hyn oedd wrth wraidd hynny, hefyd, oherwydd mai achos o ‘foreclosure’ oedd hwn, sef trefn gyfreithiol ble mae’r rhoddwr yn ceisio adennill gweddill benthyciad gan fenthyciwr sydd wedi rhoi’r gorau i ad-dalu, trwy orfodi gwerthu’r asedau a ddefnyddiwyd fel sicrwydd ar gyfer y benthyciad.
Canlyniad y cawdel hwn, y flwyddyn wedyn, 1798, oedd rhybudd o werthiant
Of Part of Coytmor Estate in parishes of Dwgyflchi, Llanfairfechan, and Bangor, co. Carnarvon, and Llanfairpwllgwyngyll, co. Anglesey, pursuant to cause in Chancery, ‘Hughes Against Pugh’.101
Fe gynhaliwyd yr arwerthiant ar 31ain o Fai, 1798, yn y Bull’s Head Inn102, Aber, pryd y gwerthwyd 20 daliad o eiddo Coetmor yn y plwyfi a nodwyd ar y cyhoeddiad. Roedd y mwyafrif, gan gynnwys Ty Mawr, fferm sylweddol o bron i 400 acer, yn Nwygyfylchi, a Llanfairfechan, gydag un tyddyn bychan yn Llanfairpwll, Ynys Môn, a 3 thŷ, stabl, ac efail gof ym Mangor. Cyfanswm y gwerthiant oedd £6623, swm sylweddol iawn yn y cyfnod.
Mae’r rhaglen ar gyfer yr Arwerthiant yn nodi’n glir mai achos Hughes yn erbyn Pugh oedd y rheswm am eu gwerthu; yn sicr, yn ôl yr Arolwg Degwm ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, nid oes dim o diroedd gan Goetmor y tu allan i Lanllechid.
Fodd bynnag, ymddengys fod Pennant yn sicr o’r farn fod ganddo ef hawl ar y tiroedd hyn, neu rai ohonynt, beth bynnag, a’i fod yn gwrthod derbyn y gellid eu gwerthu. Bedair blynedd a mwy wedi’r arwerthiant yn Aber, ar Dachwedd 17, 1802,mae William Peaock, Llanfairpwll, yn ysgrifennu at Pennant, yn cwyno ei fod ef, Peacock, wedi prynu tyddyn yn Llanfairpwll, o’r enw Bryn y ‘Whari’ ( sef Bryn Chwarel, yn ôl Arolwg Degwm 1838-40), yn arwerthiant 1798, ond ei fod ers hynny yn methu cael rhent, na chael y tenant allan, am fod y tenant yn dweud
‘ he has your ( Wyatt a Penrhyn ) particular orders to keep possession of the tenement and to pay you the rent ‘ 103
felly roedd morgais gan Pennant ar y tir a werthwyd, ac mae’n dal i hawlio perchnogaeth, bedair blynedd wedi’r arwerthiant.

Rhaglen arwerthiant tiroedd Stad Coetmor Mai 1798
Dyma’r blynyddoedd, sef troad y ganrif, pan aeth pethau o ddrwg i waeth i hen stâd y Coetmor, ac y daeth y fwlturiaid ysglyfaethus i hedfan yn drachwantus o gwmpas corff lledfyw’r stâd oedd yn cael ei llethu fwyfwy gyda dyledion, morgeisi, ac achosion Llys y Siansri. Byddai ymwneud y teulu hwn gyda’r Siansri ynddo’i hun yn faes ymchwil ffrwythlon i unrhyw un. Yn y blynyddoedd hyn, roedd pump achos,fwy neu lai ar yr un pryd, yn y Llys, chwech, os cyfrifir yr un a nodwyd yn 1795,
- Yr un dienw hwnnw na chafwyd ond cyfeiriad ato gan J Hughes
- Un Pugh yn erbyn Thomas Williams 1797 { C1797 P1 Cyf Arch Sians C12/677/29}
- Hughes yn erbyn Pugh ac eraill ( Ni chanfuwyd y cyfeirnod)
- Penrhyn yn erbyn Hughes 1797/8 { C 12/2432/19}
- Bridget Wynn yn erbyn Anne Hughes 1799 { W1799 W1 Cyf Arch Sians C12/252/12)
- Bridget Wynne yn erbyn ei brawd, James, a Thomas Williams. (Ni chanfuwyd y cyfeirnod)
Gan nad ydys wedi crybwyll yr un a enwir olaf, efallai y dylem fanylu ychydig arno wrth fynd heibio, fel petai, gan ei fod yn rhan o’r gwead cymhleth sydd o gwmpas dadelfeniad Coetmor. Fel y nodwyd, yn 1760, fe drefnodd Thomas Williams, Llanidan, forgais o £6000, a godwyd ymhen dwy flynedd i £8000, ar gyfer James Coytmor Pugh, ond un o’r prif amodau oedd fod ei fam weddw, Mary, yn cytuno i beidio derbyn y blwydd-dal o £100 a adawyd iddi yn ewyllys ei gŵr, a hynny a wnaed. Bu Mary Coetmor Pugh fyw am dros un mlynedd ar ddeg ar ol ei gŵr. Nawr, yn ôl ewyllys gymhleth Mary yn 1781, er fod James i gael rhenti Coetmor, ac Anne i gael y stâd wedi ei farwolaeth, Bridget, y ferch hynaf, oedd i weinyddu stâd bersonol ei mam. Mae’n sicr mai ond cyfreithiwyr, a’r rheiny’n rhai hynod o alluog, allai nodi’n union ble’r oedd y ffiniau a’r terfynau rhwng hawliau etifeddol y tri phlentyn. Beth bynnag, yn rhinwedd ei dyletswyddau yn gofalu am stâd bersonol ei fam, rywle o gwmpas 1796, fe gychwynnodd Bridget Wynn achos yn Llys y Siansri yn erbyn ei brawd, ei chwaer, a Thomas Williams am yr arian na chafodd ei mam yn ystod ei hoes yn dilyn marwolaeth ei gŵr. Yn dilyn marwolaeth ei brawd yn niwedd y ganrif, ail-gyflwynodd Bridget yr achos, y tro hwn yn erbyn Thomas Williams yn unig, am gam-gynghori ei mam i ildio ei gwaddol, gyda’r canlyniad fod Thomas Williams wedi ei orfodi i dalu’r £1200, ynghyd â llog o 4% i stâd Mary Coetmor, ( nad oedd yn ddim i Williams, gyda llaw, a fu farw yn 1802, gan adael gwaddol o £500,000 ).
Ond i ddychwelyd at Goetmor. Yn ôl Cofnodion Plwyf Llanllechid, bu James Coytmore farw yn Nhachwedd 1797, ac, yn ôl HDH, roedd wedi gorfod gadael Coetmor yn nechrau’r flwyddyn honno, yn dilyn storm fawr a chwalodd ran o adeilad y plas, ac roedd wedi mynd i fyw gyda’i chwaer ym Mimwares, sy’n sefyllfa braidd yn od os oedd ei chwaer yn ei erlyn yn Llys y Siansri. Beth bynnag, mae llythyr ganddo i Benjamin Wyatt o Fiwmares yn Hydref 1797104, sy’n awgrymu y gallai HDH fod yn gywir. Ymddengys y bu diwedd James Coytmore Pugh yn union fel y bu ei fywyd, ar ras wyllt oddi wrth ei gredydwyr, wele ddisgrifiad HDH o’i gladdu
‘’…pan ddygwyd ei gorph mewn cwch tros Fenai i Lan yr ysgraff, ac oddi yno ar olwynion yn cael ei lusgo gan geffyl John Edwards, Tyn yr Hendre, ar frys gwyllt, a chyn 6 o’r gloch fore Sabboth, rhag y buasai rhywun o herwydd ei ddyled yn atal bedd iddo;- claddwyd ef, medd rhai hen bobl , ym mhen dwyreiniol hen eglwys Llanllechid, a rhoddwyd careg o galchfaen du arno, ond heb un lythyren i goffa ei enw, ac felly y mae hyd heddiw, ni wyr neb am fedd ei dad na’i fam, na dim ymhellach amdano yntau’105
Nid oes cofnod o leoliad ei fedd yn unman; efallai iddo gael ei gladdu y tu mewn i’r eglwys. Os felly, diflannodd, gan i’r eglwys gael ei hail-adeiladu mewn man mwy gorllewinol y tu mewn i furiau ei libart bron hanner canrif wedi marwolaeth Pugh, yn 1845. Byddai unrhyw feddau y tu mewn iddi yn mynd ar ddifancoll. Does dim cofnod o Pugh y tu mewn i’r eglwys bresennol. Beth bynnag, gyda marwolaeth James Coytmore, daeth cysylltiad yr enw Pugh gyda stâd Coetmor i ben.
Y Wynniaid ac Egmont
Pan fu farw Pugh, er fod ewyllys ei fam yn rhoi Coetmor i’w chwaer ieuengaf, Anne, mae’n amlwg mai Bridget sy’n cael y stâd, oherwydd mai hi a’i gŵr sydd yn y darlun bellach. Yr un yw ymateb Pennant gyda thiroedd Coetmor ag oedd gyda Bryn y Chwarel, oherwydd, pan glyw sôn fod Wynn yn rhyw ffroeni o gwmpas Coetmor
‘B W [is] letting tenants …[know] that they must not suffer Mr Wynne to build or do anything without Lord Penrhyn’s leave, or to give up any of the land to any person…..BW appointed Wm Williams of Coitmore to look after the woods at a salary of 2 guineas a year, had notices distributed, and a board printed and put up to notify .. that all trespassers would be prosecuted… Mr Wynne tries to get into possession of Coytmore by offering the tenant 30 yrs’106
Felly, mae Penrhyn, erbyn hyn, wedi hawlio Coetmor mewn popeth ond cyfraith, ac am nacáu mynediad i’r Wynniaid i berchnogaeth y stâd.
Mae’n amlwg nad dyn i adael i bethau fod oedd Richard Pennant, yn enwedig ble’r oedd arian ac eiddo yn y cwestiwn. Roedd Pennant wedi prynu rhai eraill o’r morgeisi niferus oedd yn erbyn Stâd Coetmor, ac mae’n sicr mai ei fwriad, yn y pen draw, oedd ceisio hawlio’r stâd iddo’i hun, neu, o leiaf, dynhau’r rhaff yn dynn o gwmpas ei gwddw. Yn 1794 derbyniodd Benjamin Wyatt lythyr gan rhyw R Williams o Fiwmares
13 Dec 1794
I beg to inform you that you are to receive the Cefnfaes rents for this year which I used to receive for Captain Taylor who has been paid off the whole of his demand by Lord Penrhyn.
( Yr eiddo dan sylw oedd Cae’r Ffos, Tyddyn Maes y Groes, Tai yn y coed, ( 4), Pandy, Tyn Hendre, a thŷ a Gardd ym Mangor)107
A’r un adeg bu un o swyddogion y Penrhyn yn Llundain i geisio cyfarfod efo Dr Gisburn, oedd yn dal morgais o £3000 ar diroedd Coetmor yn Nwygyfylchi, ond roedd hwnnw ar y cyfandir ar y pryd108. Mae’n amlwg, o werthiant y tiroedd hynny bedair blynedd yn ddiweddarach, nad aed ymlaen gyda’r cynllun hwn.
Mae hyn yn dangos beth oedd cynllun Pennant, ond, os mai meddiannu tiroedd Coetmor oedd ei fwriad, ni lwyddodd y tro hwn . Wedi marwolaeth James Coytmore Pugh, dywed Glynne Wynn, mewn llythyr i Wyatt,
May 13 1800
“ May I trouble you to inform me what rents now remain due from the Coytmore tenants, as we are upon the acts of paying off Lord Penrhyn’s mortgages’109
Yn y cyfamser roedd yr achos Siansri ‘Hughes against Pugh’ yn dal i fynd, er fod y ddau wedi marw erbyn 1801, ond roedd yr achos yn awr rhwng ei weddw, Ann Hughes, a Bridget Wynne. ( Yn wir, roedd yr achosion ‘Hughes against Pugh’, a ‘Penrhyn against Hughes’ yn dal i rygnu ymlaen yn 1811
Llythyr 5/4/1811 gan G Cocker o Bedford
‘ it was proper to demand from you ..the accounts and explanations which I have applied but not been able to obtain’)
Oherwydd achos ‘Hughes yn erbyn Pugh’ doedd pethau ddim wedi tawelu i Goetmor, oherwydd, yn 1801, wele rybudd arall o arwerthiant yn cael ei gyhoeddi
SALE NOTICE of part of the Coytmore estate in the parish of Llanllechid, co. Caernarfon (part of the estates of Mary Pugh, widow, deceased) to be sold on an order from the Court of Chancery made in a case Hugh Hughes Esq. (since deceased) and Anne his wife and other -v- James Coytmore Pugh (since deceased) Bridget Wynn and others, comprising houses and lands called Tanymarian bach, Dolhelig, Wern bach, Tanylon, Gwergloddy Wern and
Wergloddyhir, Tynllan, Caerffos and Esgybor newydd.110
Yn awr, dyma ddarnio pellach ar y stâd, sef y cyfan o eiddo Coetmor, ar wahân i Dyn Hendre, i lawr yn hendref Llanllechid, ynghyd â Thyn Llan, ger eglwys Llanllechid, gan grebachu’r stâd i lannau Ogwen ar lethrau canol Llanllechid yn bennaf. Fe gynhaliwyd yr ocsiwn ar yr 2il o Fedi, 1801, yn y Bangor Ferry, ( adeilad y George Hostel, wedyn ), ble prynwyd yr wyth daliad oedd ar werth am £2140. Dim ond dau ohonynt a brynwyd gan y Penrhyn yn yr arwerthiant, sef Tan y Marian Bach, a Thyn Llan, gyda’r Parchedig John Roberts ( Rheithor Llanllechid 1795-1821) yn prynu Ysgubor Newydd a’r ddwy weirglodd, y Wern, a’r Hir, rhyw Owen Hughes yn prynu Wern Bach a Dolhelyg, Griffith Jones yn prynu Caerffos, a Morris Griffith yn prynu Tan Lôn. Nid yn hir iawn y parhaodd y sefyllfa hon o feddiant y daliadau a werthwyd– erbyn yr Arolwg Degwm, lai na deugain mlynedd wedyn, roedd pob un o’r daliadau hyn, ar wahân i Ddolhelyg, yn nwylo’r Penrhyn.

Bridget Wynne oedd ar ei hennill y tro hwn, oherwydd nodir ym mhapurau’r Penrhyn
Purchase money of 4 tenements bought by public sale on 2nd Sept 1801 – £1150
1801 Balance … for Mrs Wynne’s settlement £1369,12.4111
Er nad yw union ystyr y nodyn yn glir, nac yn cydfynd efo’r pryniant o ddau ddaliad gan y Penrhyn, yr un peth sy’n amlwg yw mai Bridget Wynne sy’n derbyn yr arian o’r arwerthiant.
Mae’n ddiddorol sylwi beth oedd y rheswm dros brynu un eiddo; yn Llyfr Rhent y Penrhyn am y flwyddyn 1808, nodir
A public house and land in Talybont purchased from the Coytmore family 1801 – being the only property in that village which did not belong to Penrhyn, and being near Penrhyn and in sight, were the inducements to purchase112
sef am ei fod o fewn golwg i’r Penrhyn, a bod tafarn yno hefyd! Doedd y coed sy’n cuddio’r Penrhyn oddi wrth y cymdogion, ac, yn llawer pwysicach, yn cuddio’r cymdogion o olwg y Penrhyn ddim yno yr adeg hynny.
Fel y nodwyd,wedi marwolaeth James Coetmor Pugh, yn ôl ewyllys ei fam, roedd y stâd i fod i fynd i Anne, ac yna ei phlant. Ni wyddom ei hanes hi, ond mae’n amlwg nad oedd plant yn fyw, os bu rhai, gan mai gŵr ei chwaer,Bridget, oedd yn ceisio talu’r morgeisi i Penrhyn yn 1800, ac, yn sicr, erbyn 1807, yn ôl ei hewyllys, roedd Coetmor yn nwylo Bridget. Mae’n amlwg nad oedd y Penrhyn wedi cael y maen yn llwyr i’r wal. Flwyddyn ar ôl Bridget, bu farw Richard Pennant yntau, gan adael y Penrhyn i’w gyfyrder, George Sholto, ac nid oedd yr un sêl ehangu ganddo ef, a threuliodd y rhan fwyaf o’i gyfnod yn ymgrandeiddio’r hyn oedd ganddo, gan wario cyfran fawr o elw Chwarel Cae Braich y Cafn i greu’r parc a’r castell mawr, newydd. Roedd Bridget wedi priodi Glynn Wynn,( 1739-93), y cyfeiriwyd ato eisoes, o deulu Glynllifon ger Caernarfon, a fu’n filwr, ac yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon am 22 mlynedd. Ar farwolaeth Bridget yn 1807113, (Ewyllys PROB 11/1463/156 ) ac fe aeth Coetmor, yn ei dro, yn eiddo i’r mab, William Wynn DD, oedd mewn urddau eglwysig. Yn unol ag amod ewyllys ei nain, Mary, fe fabwysiadodd William Wynn y cyfenw ‘Coetmor’. Yn ôl ei ewyllys ef, dyddiedig 1818, profwyd 4/8/1823, nodir ‘This is the last will and testament of the Reverend William Wynn Coytmore, formerly William Wynn’.114 Fe adwaenid ei wraig fel Eliza Wynn Coytmor; mae tabled goffa iddi hi ( marw 1808 ) yn Eglwys Llanllechid, er iddi gael ei chladdu yn Llundain. O gofio disgrifiad HDH o ddifrod y storm yn 1797, mae’n ddiddorol nodi mai fel ‘of Coytmor in the County of Caernarvonshire’ y disgrifia William ei hun yn ei ewyllys, ac ni chrybwyllir unrhyw gyfeiriad arall, er ei fod yn berchen ar Tower House, Caernarfon. Mae hyn yn awgrymu’n gryf ei fod yn edrych ar Goetmor fel ei brif gartref, ac fe all y ffaith mai yn Eglwys Llanllechid y rhoddwyd tabled goffa i’w wraig ategu hynny hefyd. Wrth gwrs, fel y nodwyd, gellid mai confensiwn yn unig oedd hyn, gan nad yw cysylltiad teitl a phreswylfod yn golygu fawr ddim o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Beth bynnag, bu farw William yn 1823, yn 55 oed, ac yn ddiblant, ac fe aeth Coetmor yn eiddo i’w chwaer, Bridget arall, ( roedd yn enw teuluol ers dros ganrif) oedd yn briod gyda Iarll Egmont, priodas, gyda llaw, nad oedd wedi plesio’r trydydd Iarll Egmont, er fod Bridget yn enwog am ei harddwch. Os oedd Coetmor wedi bod mewn padell ffrio pan yn nwylo James Coytmore Pugh, roedd y stâd yn fflamau’r tân gydag Ieirll Egmont.
Teulu Eingl-Wyddelig oedd y teulu Perceval, wedi cael tiroedd helaeth yn Iwerddon gan Goron Lloegr, ac fe grewyd y teitl Iarll Egmont i Henry Perceval yn 1733. Roedd gan y teulu diroedd sylweddol yng Ngwlad yr Haf, hefyd. Fodd bynnag, erbyn y cyfnod y daeth Coetmor i feddiant y teulu, roedd yr Iarll Egmont mewn dyledion enfawr, gyda morgeisi ar ei holl diroedd yn Lloegr ac Iwerddon. Yn wir, yr unig reswm nad oedd y pedwerydd Iarll, sef gŵr Bridget, yn y carchar am fod yn ddrwg-ddyledwr oedd am ei fod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi. Doedd y pumed Iarll ddim yn aelod o’r cyfryw dŷ, hyd nes i’w dad farw yn 1835, ac fe dreuliodd ef y rhan fwyaf o’i oes fer ( bu farw o alcoholiaeth yn 1841 yn 45 oed ) ar ffo oddi wrth ei gredydwyr ar y Cyfandir. Fe werthwyd un o’i stadau yn Iwerddon yn 1835, ond methwyd cael unrhyw brynwr i diroedd eraill yn Cork am fod gormod o ddyled wedi eu llwytho yn eu herbyn. Ef yw’r Iarll Egmont a gofnodir fel perchennog tiroedd Stâd Coetmor yn Arolwg y Degwm yn 1838-1840. Er na fu Coetmor yn stâd sylweddol iawn, , erbyn 1840, fel y gwelsom, nid oedd ond cysgod gwan o’r hyn a fu gan fod afradlonedd, dyledion, morgeisi, ymgyfreitha, a Llys y Siansri wedi ei gwaedu. Erbyn 1840, roedd yr holl diroedd y tu allan i Lanllechid wedi mynd, roedd ffermydd Nant y Benglog wedi mynd, ynghyd â holl diroedd hendref Llanllechid – ar wahân i fferm 63 acer Tyddyn Hendre. Yr unig diroedd oedd ar ôl oedd Tyddyn Hendre, y demesne a’r ffermydd a’r manddaliadau cylchynnol – Pandy, Tai’n y Coed, Pant Hwfa, Tyn y Ffridd, Hen Barc, Llwyn Bleddyn, Cefn Bedw, Coed Uchaf ac Isaf, Dolgoch, Dôl Ddafydd, Parc y Moch, a Chlwt y Felin. Roedd hyn i gyd yn gyfanswm o 474 acer, sy’n swnio’n eithaf parchus, nes mae rhywun yn sylweddoli fod Parc y Penrhyn ei hun yn 570 acer, a’r demesne cyfan yn 724 acer. Erbyn dechrau’r 1840au roedd tiroedd Iarll Egmont yn nwylo Sir Edward Tierney, twrnai o Ddulyn, oherwydd fod y 5ed Iarll Egmont, a fu farw’n ddiblant yn 1841, wedi gadael ei holl diroedd i’w gyfaill a’i asiant, Tierney. Mae hanes Tierney ei hun, a’i frawd, Mathew, yn hynod o ddiddorol. Yn feibion i ffermwr bychan a gwehydd o Swydd Limerick yn Iwerddon, cawsant addysg weddol, a gweithiodd Mathew ei hun o fod yn brentis fferyllydd yn ei dref enedigol i fod yn feddyg yn Llundain. Trwy lwc bu iddo weini ar y brenin Sior 4ydd mewn salwch, a rhoddwyd clod iddo am arbed ei fywyd. Ei wobr oedd cael ei urddo’n arglwydd gan y brenin, ac elwodd ef yn fawr ar hynny, ac ymelwodd ei frawd, Edward, yn ei sgil, trwy gael ei benodi’n Brif Ustus Ulster. Yn sgil ei ddyrchafiad, daeth Edward yn gyfoethog, ac yn gyfaill i’r 4ydd Iarll Egmont a’i wraig, sef Bridget, wyres y Coetmor.
Roedd gan Tierney ei hun forgais o dros £100,000 yn erbyn stadau Egmont, ac, efallai, fod hyn yn rheswm arall iddo gael y tiroedd gan ei gyfaill a’i feistr, Egmont. Roedd gan Tierney forgais, hefyd, ar diroedd Coetmor
When the Earl came into possession of the Coytmore Estate it was re mortgaged to Tierney for securing some small advance then made…115
Fe fanteisiodd y Penrhyn ar y sefyllfa hon, ac fe dalwyd £50,000 ( neu £45000, yn ôl fersiwn arall) am y stâd i Kierney, swm oedd yn fwy na’r morgais, felly nid prynu’r stâd allan o forgais a wnaeth y Penrhyn, fel mae rhai wedi honni, ond prynu’r stâd ei hun, gan yr un oedd yn dal morgais arni, a’i adael ef i glirio urnhyw forgeisi eraill a allai fod ar y stâd. Yn ôl twrneiod mewn achos am hawl Tierney ar diroedd Gwyddelig Egmont yn nechrau’r 1860au, yr oedd perffaith hawl gan Tierney i werthu Coetmor, ond nid oedd hawl ganddo i unrhyw elw uwchben gwerth y morgeisi. Fel arfer, dim ond trwy fethdaliad ar y morgais, a mynd i gyfraith, y gellir gorfodi gwerthu eiddo, ond mae twrneiod yn nodi fod cymal yn y cytundeb morgais arbennig hwn yn caniatau i Tierney werthu’r stâd
The estate was comprised in Tierney’s mortgage and was sold to the Col’l [ Pennant] under the powers of sale contained in his mortgage deed. Under these powers of sale Tierney had an undoubted right to sell the Estate. The Colonel’s Title therefore is perfectly good against all the world’
W Woodgate Gray’s Inn Mess Hore and Sons Lincoln Inn Fields116
Nid oes sicrwydd yn union pryd y prynwyd Coetmor gan y Penrhyn
In 1847, we are not quite certain of the year, Tierney under the power of sale contained in his mortgage deed sold the Coytmore estate to Col. Pennant for, it is stated, £50,000117
Y gred gyffredinol yw mai 1855, neu 1857, oedd dyddiad y pryniant, a nodir uchod nad yw’r llythyrwr ( Woodgate and Co, Grays Inn), yn sicr o’r dyddiad. Efallai mai camgymeriad am 1857 yw’r 1847 yn y llythyr; fodd bynnag, gallai’r broses gyfreithiol o drawsgludo cymaint o ddaliadau fod yn broses gymhleth a gymrai gryn amser, ac, efallai mai diwedd y broses yw’r dyddiau a nodwyd, a bod y broses wedi cychwyn sawl blwyddyn ynghynt, er fod deng mlynedd yn ymddangos yn hynod o araf i gwblhau proses sy’n ymddangos yn weddol syml. Beth bynnag, erbyn 1857, llyncasid hen stâd Coetmor gan y behemoth oedd yn ei hamgylchgynnu, yng ngeiriau HDH yn 1864
‘gellir dweud ei bod rhywle tua chorn gwddw ystad y Penrhyn,os nad wedi ei llyncu’118
Erbyn hynny, roedd wedi ei llyncu’n llwyr, gyda Cefn Bedw wedi diflannu, a Thyn Hendre wedi mynd trwy ad-drefnu mawr, ac uno gyda daliadau eraill i greu fferm fawr, yn arbenigo ar fagu ceffylau i’r Penrhyn. Daeth bron i 400 mlynedd o stâd y Coetmor i ben, gan adael fferm, ac enw ar ran o’r ardal yn unig, a neuadd oedd yn adfeilion erbyn hyn, ond gydag un teulu cyffredin yn byw yn y rhan orllewinol, yn ôl HDH.
Y mae hen balas Coetmor yn awr yn adfeiliedig, heb do, na ffenestri, ac y mae peth ohono wedi syrthio; ond dylid coffau fod yno deulu bychan yn llechu dan ei asgell deheuol. Yn lle odlau beirdd, a llais telynorion, a chrythwyr; nid oes yno heddiw ond aderyn y to, a’r cawci, a’r ddallhuan,yn meddiannu y lle.119
Ac am yr hen deulu bonheddig, digon dihid a dilornus yw Hugh Derfel ohonynt, gan ddweud yn swta
Sonir fod ychydig ddisgynyddion o honynt yn Siopwyr, a chrefftwyr tua Chaerynarfon
Ac felly y diflannodd y cyfan, y coed mawr, trawiadol, y plas sylweddol, hynafol, yr holl stâd, a’r cyfan yn bennaf oherwydd anlwc eithriadol, sef yn ei lleoliad y drws nesaf i’r stâd lefiathanaidd a ddaeth yn un o’r rhai cryfaf yng Nghymru, ac yn ei pherchnogion disylwedd, ac absennol yn y diwedd, ar yr union adeg pan oedd angen arweiniad cadarn arni. Oherwydd y storm berffaith o anlwc, aeth stâd Coetmor i’w thranc, gan adael dim ond ambell enw ar lethrau Dyffryn Ogwen yn atgof o’r mawredd a fu gynt. Heddiw, mae’r enw Stad Coetmor yn fyw ar dafod lleferydd yn Nyffryn Ogwen, ond dim ond fel enw ar ardal o dai a godwyd ble safai yr hen blasty gynt, ac aeth y Coetmoriaid, y Puwiaid, a’r Coytmoriaid-Pughe ar ddifancoll i bydew hanes.
Troednodau
1 Er fod Dyffryn Ogwen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl dyffryn, hyd at Gapel Curig, a dweud y gwir, yn fanwl gywir yn ddaearyddol, mae tri rhan iddo. O’r môr rhwng Aberogwen ac Abercegin tuag at Bont y Tŵr ym Methesda mae Dyffryn Ogwen; o Bont y Tŵr hyd at Lyn Ogwen mae Nant Ffrancon, ac o Ben Llyn Ogwen hyd at Gapel Curig mae Nant y Benglog
2 I’r rhai sy’n gyfarwydd â’r ardal, Coetmor yw’r enw ar y tir amgylchynnir gan afon Ogwan a’r ffordd o Bont Coetmor i Rachub, am Hen Barc, ac i lawr llinell rhwng Chwarel Pandreiniog ac Ysgol Dyffryn Ogwen ac at yr afon eto yng ngwaelod y Stryd Fawr, yn fras rhyw sgwaryn o dir nad yw’n mesur mwy na rhyw 150 – 200 acer.
3 Mewn gwirionedd, nid goresgyn Cymru a wnaeth Edward 1, ond goresgyn tiroedd Llywelyn, ac roedd y tiroedd hynny yn llawer llai na Chymru, yn cynnwys yn fras y gorllewin o Fôn i Gaerfyrddin, a rhan o sir newydd Fflint; roedd y gweddill yn diroedd annibynnol – y Mers – yn cael eu rheoli gan arglwyddi Seisnig unigol. Ni fu’r Mers yn rhan o ‘Gymru’, yn cael eu gweinyddu fel gweddill y wlad, nes Deddfau Uno Cymru a Lloegr 1536 – 1543.
4 Ednyfed Fychan ap Cynwrig c. 1170-1246. Roedd yn filwr, ac yn arweinydd milwrol, amlwg ym myddin Llywelyn, a daeth yn ddistain, neu gynghellwr ( prif weinidog ) y Tywysog yn 1215. Er mai ei brif ardal ef ei hun oedd cylch Abergele a Llandrillo yn Rhos, fe ddaeth ei ddisgynyddion uniongyrchol – ac roedd ganddo, o leiaf, ddeuddeg o blant – yn dirfeddiannwyr mewn sawl arall, gyda stadau niferus ym Môn, Arfon ( gan gynnwys Creuwyrion – Llandygai, wedi hynny, ) Caerfyrddin a Cheredigion )
5 er fod ymweliadau eraill o’r pla marwol hwn yn ysbeidiol am ddegawdau wedi 1353. Yn wir, lladdwyd dros 100,000 o boblogaeth Llundain – chwarter y boblogaeth – gan y Pla yn 1665 – 1666. Mae’n debyg mai’r tân mawr yn 1666 a roddodd derfyn ar y pla y tro hwnnw, ond nid ydym yn cofio am y pla, erbyn heddiw, dom on Tân Mawr Llundain )
6 Am ddarlun o’r sefyllfa mewn un ardal o Ogledd Cymru gweler Medieval Anglesey A. D. Carr tud 237 – 246. Tebyg oedd y sefyllfa ym mhob rhan o’r wlad.)
6 Doedd y Pla ddim yn gwahaniaethu rhwng gwreng a bonedd; lwc, yn hytrach na safle cymdeithasol, oedd yn sicrhau goroesiad unigolyn
7 Atodiad 1 am restr o diroedd Coetmor
8 Tours in Wales Vol III 1810 tud 108
9 Un o’r rhai a elwodd fwyaf oherwydd gwrthryfel Owain Glyndwr oedd Gwilym ap Gruffydd ( m 1432 ). Er iddo, yn anfoddog, rhaid cyfaddef, ymuno efo’r gwrthryfel yn 1402, ond newidiodd ei deyrngarwch mewn llai na 5 mlynedd, gan gymodi efo’r brenin. Cafodd y tir a fforffedwyd ganddo yn ei ôl, yn ogystal â thiroedd 27 o gefnogwyr Glyndwr ym Môn, tiroedd ewythrod ei wraig, Rhys a Gwilym ap Tudur, oedd yn gefnogwyr i Glyndwr hyd y diwedd, ynghŷd â thiroedd eraill
10 Yn ystod degawdau Rhyfel y Rhosynnau roedd teulu’r Penrhyn yn hynod o hyblyg yn eu cefnogaeth i ba un bynnag o deulu Iorc neu deulu Lancaster oedd mewn goruchafiaeth ar wahanol adegau, gan elwa yn fawr ar eu gallu i newid eu cefnogaeth. Yn hyn o beth, unasant gyda theulu Seisnig pwerus hyblyg, teulu Stanley, trwy briodas Gwilym ap Gruffydd gyda Joan Stanley.
11 Profodd William Griffith, y Penrhyn, (1445 – 1505/6 ) yr un mor hyblyg â’i hynafiaid, trwy fod yn gefnogol i’r frenhiniaeth Iorcaidd hyd at Frwydr Bosworth, ac yna newid ei deyrngarwch i Harri VII; bu’n Arglwydd Siambyrlên Gogledd Cymru i Edward IV, Rhisiart III, a Harri VII.
12 Elwodd uchelwyr oedd yn ffafr y brenin yn fawr iawn ar Ddiddymu’r Mynachlogydd trwy gael ( neu brynu, yn amlach na heb ), diroedd helaeth y sefydliadau crefyddol. Fodd bynnag, y duedd yng Nghymru oedd mai uchelwyr o Loegr oedd yn elwa fwyaf ar y tiroedd yma
13 Gweler uchod troednodau 9 a 10 )
14 Mae hyn yn arbennig o wir am y gwendid yn y tywysogaethau Cymreig. Pan fyddai tywysog yn marw, byddai gan bob un o’i feibion hawl cyfreithlon ar ei diroedd; byddai hyn yn arwain at rannu’r etifeddiaeth yn unedau llai, gwannach, ac, yn amlach na heb, at frwydro am oruchafiaeth rhwng brodyr. Mae hanes Cymru cyn y Cwymp yn frith o sefyllfa fel hyn, er enghraifft, brwydro rhwng meibion Owain Gwynedd pan fu farw’r tywysog cryf hwnnw yn 1170. Yn y bôn, gellir rhoi cyfrifoldeb uniongyrchol am ddiffyg adeiladu brenhiniaeth unedig gref yng Nghymru ar y dull hwn o etifeddu
15 Does ond angen edrych ar gyfrol orchestol J E Griffith Pedigrees of Anglesey and Caernarfonshire Families ( Hunan gyhoeddwyd 1914 ), i weld sawl plasdy canoloesol diweddar sydd bellach yn fferm eithaf mawr, yn enwedig ym Môn; enghreifftiau yn unig yw Chwaen, Treban Feurig, Bodowyr, Bodlew, Penhesgyn, Tanygraig ( Llanffinan), Tŷ Hen, o’r un plwyf, Bwlch y Fen, Penhwnllys, a sawl un arall.
14 Pan ddaeth Richard Pennant i’r Penrhyn, dim ond dwy fferm, Rallt a Thyddyn Capel Curig, oedd ddim yn eiddo i’r Penrhyn ym mhlwyf Llandygai. Ni pharhaodd y sefyllfa hon yn hir, oherwydd yn 1787/8 fe brynwyd y ddwy gan Pennant, gan wneud pob acer o blwyf Llandygai yn eiddo iddo ef.
[1] Hynafiaethau Llandygai a Llanlechid Hugh Derfel Hughes cyh. 1867
16 Mae’r pentref presennol yn cynnwys holl dai yr ardal hyd at y mynydd. Fodd bynnag, sefyllfa weddol ddiweddar yw hynny, gan mai’r aneddiad gwreiddiol, oedd wedi ei adeiladu, yn sicr, cyn 1840, oedd Caellwyngrydd, oedd yn fwy na 100 tŷ ar dir o’r yn enw. Mae Caellwyngrydd yn cynnwys yr holl dai sydd rhwng y sgwâr a’r mynydd. Roedd y darn bychan o dir a elwid Yr Achub yn ardal ble mae sgwâr y pentref presennol, Pan adeiladwyd ychydig o dai arno yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif, fe’u galwyd, fel yr oedd yr arfer, ar ôl enw’r tir. Fodd bynnag, ni ddaeth Rachub yn enw ar y pentref cyfan am ganrif, efallai oherwydd fod lleoliad y Swyddfa Post yn yr ardal honno, a bod yr enw hwnnw yn lledu i’r holl ardal.
17 Roedd tir Cefn Bedw yn terfynu ar Dalysarn ar un ochr, Lôn Coed, lôn Brynbella i lôn Llanllechid, a pheth tir yr ochr arall, ger Llwyn Bleddyn, ble mae stâd Maes Bleddyn heddiw. Fe ddarniwyd y daliad tua 1863, gan rannu’r tir rhwng Coed Uchaf, Coetmor, a chreu daliad bychan newydd Bron Arfon, a chwalwyd y tŷ a’r adeiladau, sydd o dan dai’r Cae Rhosydd presennol
18 Melin Coetmor
19 ger Pont y Pandy ( Half Way )
20 ar y lôn i lawr i Aberogwen, ble mae Llwyn Onn heddiw, ond roedd y tŷ a’r adeiladau ychydig i mewn i’r tir
20a CaernarfonX/POOLE/3485
21 Archifdy Prifysgol Bangor Papurau’r Penrhyn PENRA2810
22 Allan o lythyr J Hughes i B Wyatt op cit PA/14/ 331
23 Pan fu farw perchennog y Coetmor yn 1769, gadawodd flwydd-dâl o £100 i’w weddw, ac, er na chafodd hi erioed geiniog, mae’n dangos yr ystyrid hynny’n waddoliad derbyniol, fyddai’n cyfateb i tua £30,000 heddiw
24 Llyfr Rhent y Penrhyn 1800 op cit PFA/4/84
25 Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid H D Hughes tud 148
26 ibid tud 149 – 150
26 ( Gerallt Gymro Hanes y daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru, cyf. T. Jones (Caerdydd, 1938), [Disgrifiad Llyfr 1 Pen. 17], t. 201.
27 Enghreifftiau eraill, a dewiswyd ar hap o Pedigrees, sy’n dangos pwysigrwydd gwaed i’r Cymry yw Plas Bach, Cerrig Ceinwen < Collwyn ap Tangno, Penhesgyn, Penmynydd, a Bodgynda, Llanfair Mathafarneithaf < Iarddur, a Bodowyr, Llangaffo < Llywarch ab Brân. Gwaed oedd yn bwysig, teulu, nid pres!
28 Machlud yr Oesoedd Canol Ambrose Bebb Abertawe 1951 tud 38
29 ibid tud 38
30 Nid yw’r cymeriad hwn i’w gymysgu gyda’r cymeriad chwedlonol, Helig ab Glannawg, sydd yn y chwedl am foddi tiroedd Traeth Lafan a’r bae estynedig at y Gogarth, er, efallai, fod y cymeriad chwedlonol wedi datblygu o’r cymeriad hanesyddol
31 Bardd o Landygai gwelir ei enw fel tyst mewn dogfennau o 1415 a 1417. Bu’n canu yn hanner cyntaf y 15ed ganrif, a chadwyd peth o’i farddoniaeth mewn llawysgrifau, barddoniaeth sy’n cynnwys cywyddau i deulu’r Penrhyn
32 op cit
33 Mewn cymdeithas oedd yn rhoi cymaint bri ar waedoliaeth, prin na fyddai unrhyw deulu o ach Ednyfed Fychan yn peidio clochdar hynny
34 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)J. Gwynfor Jones (gol.), The History of the Gwydir Family and Memoirs (The Welsh Classics, 1990
35 Williams, I.Ll. (1986), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon’ (M.A. Cymru [Aberystwyth]
37 Cymru Guto Guto’r Glyn Prosiect Prifysgol Abertawe http://www.Gutoswales.swansea.ac.wales
38 Pedigrees Griffith 1914, a’r safwe Guto’r Glyn.net
39 ( Traethawd PhD anghyhoeddiedig Gwaith barddonol Ieuan ap Gruffudd Leiaf, Robert Leiaf, Syr Siôn Leiaf a Rhys Goch Glyndyfrdwy Taylor, John Bangor 2014)
40 Gruffydd oedd enw’r taid, Gruffydd oedd enw’r tad, felly, Gruffydd Fychan ( yn cyfateb i’r Saesneg ‘junior’ ) fyddai hwnnw, a byddai mab Gruffydd Fychan yn Gruffydd Leiaf, sef yr ieuengaf o’r tri; ffordd oedd hon o wahaniaethu rhwng tri o’r enw mewn tair cenhedlaeth a fyddai’n fyw yr un pryd
41 c 1415 – c1493 Un o brif feirdd y 15ed ganrif, yn cael ei gydnabod gan ei gyfoeswyr fel y meistr ar ‘gywydd gŵr’, sef canu mawl i uchelwyr. Cysylltir gyda Glyn Ceiriog/ Glyn Dyfrdwy. Canodd i uchelwyr trwy Gymru, ond yn bennaf yn y Gogledd.
42 Williams, I.Ll. (1986), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon’ (M.A. Cymru [Aberystwyth] t 252–8).
43 Ystyrir mai Owen Gruffydd, Llanystumdwy, marw 1730, oedd yr olaf i ganu mawl i’r uchelwyr yn yr hen draddodiad
44 op cit t250
45 Ewyllys Mary Coytmor Pugh 21 Ebrill 1781 Llyfrgell Genedlaethol Cymru cyf.B/1781/86/W
46 uchod 1986:tud 249
47 AC 1861 tud 143-144 Caernarvonshire Antiquities – From a MS communicated by T Wright, Esq FSA
48 Safle My Heritage.com lle olrheinir teulu’r Coetmoriaid
49 Wikitree.com
49 The Ancestors of Rowland Coytmore by William Addams Reitwiesner http://www.wargs.com
50 Famous Kin.com
51 Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, with Their Collateral Branches in Denbighshire, Merionethshire, and Other Parts John Edward GriffithBridge Books, 1914 –
52 ibid
52 Cofrestr Plwyf Llanllechid Archifdy Gwynedd XPE/62
53 Archifdy Gwynedd Dogfen 540
54 ( www.Discoveringwelshhouses : Bodwrdda).
55 Y penrhyn hwnnw sy’n ymestyn i’r môr, ac yn cynnwys ardaloedd presennol Llandudno, Llanrhos, a Deganwy
56Ymdrinnir â gwahanol aelodau o’r teulu yn yr ysgrif PUW, PUE, PUGH, (TEULU), o’r Penrhyn Creuddyn, Sir Gaernarfon yn Y Bywgraffiadur Cymreig
57 Ednyfed Fychan Y Bywgraffiadur Cymreig
58 Un o dri chwmwd Cantref Rhos ( Is Dulas ac Uwch Dulas oedd y ddau arall)
59 Calendar of Patent Rolls Edward VI 1551
60 Trafodion Hanes Sir Gaernarfon
61 op cit tud 150
61 ibid t150
62 Archifau Swydd Lincoln Red 3/1/1/1/2/5
63 Discovering Old Welsh Houses.co.uk
64 Hindley’, A History of the County of Lancaster: Volume 4 (1911), pp. 106-111
65 op cit X/Poole/3485
66 Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2489 Coed Coch and Trofarth Records
67 op cit tud 149
68 http://www.lostlangtons.co.uk
69 Ibid 68
70 Bangor Probate Records, 1576-1858 9933042602419
71 op cit tud 151-2
72 Llyfrgell Genedlaethol Cymru B/1781/86/W
73 op cit PFA/14/329
74 ibid
75a Land Surveyor ( William Williams) A Survey of the Ancient and Present State of the County of Caernarvon 1806 t 40
76 op cit72
77 op cit PFA/14/330
78 op cit PFA/14/333
79 op cit PFA/114/330
80 Penrhyn Old Hall yn Discovering Welsh Houses
81 Rhestrir y rhain, ymhlith eraill, yn Bangor PFA/14/328
82 op cit PFA/14/331
83 op cit PFA/14/332
84 op cit PFA/ 14/329
85 op cit PFA/14/329
86 ibid
87 ibid Llythyr at B Wyatt 14/2/95
88 op cit PFA/14/331
89 ibid
90 Nodir y manylion hyn mewn arolwg a wnaed gan J Hughes i B Wyatt , gan adrodd yn ôl mewn llythyr, dyddiedig, Mawrth 2 1795 Bangor PA/14/329
91 op cit J Hughes i B Wyatt Mawrth 2 1795 PA/14/329
92 2 Mawrth 1795 op cit CFA/14/329
93 ibid
94 op cit PFA/14 /3290
95 op cit PFA/14/335
96 op cit PFA/14/332
97 Bil am ‘4 quarters of Malt and 8 bags’ op cit PFA/14/332
98 An Historical Sketch of the Equitable Jurisdiction of the Court of Chancery D M Kerly 1890
99 op cit PFA/14/331
100 Cofnodion Llys y Siansri Kew C12/2192/19
101 Cheshire Archives and Local Studies DDX 24/25
102 Tŷ o’r enw Llysonnen heddiw, ger eglwys Abergwyngregyn
103 op cit PFA/14/334
104 op cit PFA/14/331
105 op cit tud 151
106 op cit PFA/14/334 BW yw Benjamin Wyatt, prif asiant y Penrhyn
107 op cit PFA/14/332
108 ibid 332
109 op cit PFA/14/334
110 op cit Archifdy Arfon X/POOLE/4144
111 op cit PFA/14/334
112 op cit PFA/4/82
113 Ewyllys PROB 11/1463/156
114 Prerogative Court of Canterbury Wills 1384-1858 Quire Numbers 451- 500
115 op cit Penrhyn 849
116 ibid
117 op cit Penrhyn 845
118 op cit tud 152
119 ibid 151